Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Dafad Wen

Cysur Llundain Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Iâr Fach Dlos

XV Dafad Wen[1]

CHWE dafad gorniog,
A chwe nod arni,[2]
Ac ar y bryniau garw,
'Roedd rheiny i gyd yn pori;
Dafad wen, wen, wen,
Ie benwen, benwen, benwen;
Ystlys hir a chynffon wen,
Wen, wen.


Nodiadau

golygu
  1. Ychwaneger dafad ddu, lwyd, goch, felen, frech, fraith, &c., hyd nes y bydd y bychan wedi huno.
  2. Weithiau cenid "A chwe nichog ynddi."