Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Lle Mae Pethau
← Llawer o Honynt | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Hen Lanc → |
CXXX. LLE MAE PETHAU.
MAE yn y Bala flawd ar werth,
Mae'n Mawddwy berth i lechu,
Mae yn Llyn Tegid ddwr a gro,
Mae'n Llundain o i bedoli;
Ac yng Nghastell Dinas Brân
Mae ffynnon lân i ymolchi.