Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Llong Fy Nghariad
← Morio | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Cwch Bach → |
LXXXI. LLONG FY NGHARIAD.
DACW long yn hwylio'n hwylus,
Heibio'r trwyn, ac at yr ynys;
Os fy nghariad i sydd ynddi,
Hwyliau sidan glas sydd arni.