Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Prun?
← Sen i'r Gwas | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Damwain |
CXXI. PRUN?
Dic Golt a gysgodd yn y cart,
Fe'i speiliwyd o'i geffyle;
A phan ddihunodd, holi wnai,–
"Ai Dic wyf fi, ai nage?
Os Dic wyf fi, ces golled flin,–
Mi gollais fy ngheffyle;
Ac os nad Dic, 'rwy'n fachgen smart,
Enillais gart yn rhywle."