Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Pry Bach

Gwraig Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Y Bysedd (2)

CLXIX. , CLXX. PRY BACH, [1]

PRY bach yn mynd i'r coed,
Dan droi 'i ferrau, dan droi 'i droed;
Dwad adre yn y bore,
Wedi colli un o'i sgidie.

Pry bach yn edrych am dwll,
Yn edrych am dwll, yn edrych am dwll,
Pry bach yn edrych am dwll,
A dyma dwll, dwll, dwll, dwll, dwll.


  1. Dywedir y rhain wrth gerdded un neu ddau fys ("Dau bry bach") fyny corff y plentyn. Gorffennir dan ei oglais dan ei ên.