Yr Hynod William Ellis, Maentwrog/At y Darllenydd

Yr Hynod William Ellis, Maentwrog Yr Hynod William Ellis, Maentwrog

gan Griffith Williams, Talsarnau

Cynnwysiad


AT Y DARLLENYDD.

Nid wyf yn gwybod fod dim wedi ymddangos am yr hynod William Ellis ond a roddwyd gan y diweddar Barch. E. Morgan, Dyffryn, yn y Methodist, a hyny yn fuan ar ol ei farwolaeth. Bu genym law mewn cynnorthwyo i gasglu yr adgofion hyny: ond daethom i ddeall yn fuan i ni fod yn rhy frysiog, a thrwy hyny adael llawer o dwysenau llawnion ar ol. Er fod blynyddoedd lawer wedi myned heibio er pan y bu farw William Ellis, yr ydym yn parhau i glywed rhyw hanesion newyddion am dano ; a pharodd hyn i ni ystyried, ai nid gwell oedd cymeryd hamdden i ail loffa yn y meusydd lle y bu ef yn bwrw ei gryman ynddynt ? ac wedi i ni fyned a lloffa, a dyrnu yr hyn a loffasom, yr ydym yn tybied y gallwn ddyweyd fod genym ephah, nid o haidd, ond o wenith cartref pur, ac y mae yn dda genym gael ei gyflwyno, yn y llyfryn bychan hwn, yn ddefnydd bara iach i ti ddarllenydd.

Yr oedd amryw o ddiaconiad eraill yn gymdogion i William Ellis, yr ydym yn teimlo parch dwfn i’w coffadwriaeth ; a hyny ar gyfrif eu gwasanaeth i achos yr Arglwydd. Owen Thomas, Bethesda, oedd un o'r rhai hyny. Cynysgaeddwyd ef a doniau naturiol helaeth, a byddai rhyw eneiniad ar ei bethau, yn enwedig ei weddïau, bob amser. Byddai ganddo gynghorion priodol ar bob achos, a rhoddai y rhai hyny gada'r fath addfwynder ag oedd yn sicrhau lle iddynt yn mynwes yr un y cyfeirid hwy ato. Dywedai wrth bregethwr ieuanc unwaith am beidio a rhoddi llawer o benau yn ei bregethau, am y rheswm nad oedd ond ychydig o gig ar ben. Robert Williams, Pen-y-bryn, hefyd, oedd yn gyd flaenor ag ef, am yr hwn y dywedai Mr. Humphreys ei bod yn lwc fawr ei fod yn digwydd bod yn lled agos i'w le, am y rheswm ei fod yn anodd ei symud. Diweddodd ei oes yn America. John Price, Tan-y-grisiau, hefyd, oedd yn ŵr o ddylanwad yn ei gymdogaeth, nid ar gyfrif helaethrwydd ei ddoniau, ond ar gyfrif yr argyhoeddiad dwfn oedd wedi ei gario i fynwesau pawb a'i hadwaenai, ei fod yn ŵr cywir, gonest, ac yn gwir ofalu am achos yr Arglwydd. Aeth un o aelodau yr eglwys ato unwaith, pan wedi ei dramgwyddo, i ofyn am docyn ymadawol i fyned i eglwys arall. Ond yn lle rhoddi ei gais iddo, dywedodd John Price wrtho, dan wylo, "Mae yn rhaid i ti adael llonydd i mi, a pheidio ä'm poeni fel hyn, mae achos yr Arglwydd yn agos at fy nghalon i, sut bynag yr wyt ti yn teimlo." Bu geiriau a dagrau yr ben sant yn drech na phenderfyniad yr aelod hwnw, a dywedai, dan sychu ei lygaid wrtho, na byddai iddo son am yr helynt mwy, ac y byddai o'r dydd hwnw allan yn bob help a allai efe iddo i gario yr achos yn mlaen. Nobl o beth ydyw gweled helyntion fel yna yn cael eu culdo ymaith gan lifogydd o ddagrau! Owen Price, Tan-y-grisiau, hefyd, oedd yn hen gymeriad gwreiddiol. Wedi bod yn gwrando. ar ryw frawd lled sychlyd yn areithio ar ddirwest, dywedai wrth gyfaill dranoeth, y gallai efe areithio yn ei flaen yn ddiorphwys, a hyny am byth fel Hugh, ond i rywun ei dendio â bwyd. Yr oedd y brawd hwn yn hynod o gofus: pan y byddai yn myned i'r Cyfarfod Mísol i chwilio am gyhoeddiadau, byddai yn cofio. pa Sabbothau oedd yn weigion, a phwy a gai efe i bob un o honynt, ac arferai ddywedyd mai ar ol i'r blaenoriaid fyned i gadw Dyddiaduron y dechreuwyd gwneyd camgymeriadau gyda chyhoeddiadau pregethwyr. Morris Llwyd, o Drawsfynydd, hefyd, oedd ŵr o ddylanwad mawr, ac wedi cysegru y dylanwad hwnw o blaid crefydd. Bu yn ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgolion yn ei ddosparth am lawer o flynyddoedd, ac os bu neb erioed yn gallu addoli uwch ben tŵr o ffigiwr, yr ydym yn credu i Morris Llwyd allu gwneyd, uwch ben cyfrifon yr Ysgolion Sabbothol lawer gwaith. Wel, rhaid i ni ffarwelio a William Ellis a hwythau. Heddwch i'w llwch. Hyderwn y bydd dygiad allan yr adgofion hyn am yr hynod William Ellis, yn symbyliad i frodyr eraill i ymgymeryd â rhoddi adgyfodiad i hen gymeriadau cyffelyb iddo. Nid oes dim yn gadael dylanwad mwy iachusol ar y meddwl na chyfeillachu à chymeriadau gwir grefyddol. Wrth ollwng y llyfryn bychan hwn o'n llaw, nid oes genym ond dymuno i'r darllenydd gael cymaint o fwynhâd ac adeiladaeth wrth ei ddarllen ag a gawsom ni ein hunain wrth ei gyfansoddi, ac os ca efe hyny, ni bydd yn edifar genym am y llafur a dynasom arnom ein hunain.

GRIFFITH WILLIAMS.

Talsarnau, Awst 18fed, 1875.