Yr Hynod William Ellis, Maentwrog/Ei Hynawsedd

Ei Athrylith Yr Hynod William Ellis, Maentwrog

gan Griffith Williams, Talsarnau


III. El Hynawsedd.

Yr oedd WILLIAM ELLIS mor llawn o natur dan ag ydoedd ei feddwl o athrylith. Ni fynai roddi tramgwydd i neb, a byddai mor ofalus rhag archolli teimladau ei gymmydogion ag a fyddai rhag gwneyd niwed corphorol iddynt. Heblaw ei fod yn un na roddai dramgwydd, nid yn fynych y cymerai efe dramgwydd ychwaith. Ac efallai fod yn ddigon anhawdd penderfynu pa un ydyw y rhinwedd mwyaf mewn dyn, peidio rhoddi ai yntau peidio cymeryd tramgwydd. Mae rhai dynion yn hawdd iawn eu tramgwyddo, cymerant dramgwydd oddi wrth bob peth. Rhaid gofalu sut i siarad â hwy, a sut i edrych araynt, rhag ofn i chwi eu briwio. Nid oes dim byd mwy difyrus na nursio plant bach—baby bach deunaw neu ugain modfedd o hyd, ac o saith pwys i ddeg o bwysau; mae o yn beth difyr! Ond, yn wir, y mae yn beth blinderus nursio plant mawr—baby mawr dwy lath o daldra, ne o wyth i ddeg ugain o bwysau—mae yn beth gwirioneddol flin, ne eto y mae yn rhaid gwneyd hyn gyda rhai dynion; ond nid oedd WILLIAM ELLIS yn un o honynt; a phe digwyddai, ar ryw dro siawns, iddo gael ei dramgwyddo, fe wnai yr edifeirwch sala' erioed y tro ganddo. Nid fel rhai nas gellir byth eu boddio yn edifarhau. Pe yr elech atynt wedi rhwygo eich dillad, a phridd ar eich pen, a chostroleidiau o ddagrau edifeirwch yn eich dwylaw; gan ddiystyru hwy a ddiystyrent yr oll. Clywsom am un yr oedd ei gymmydog wedi ei ddigio, a chymerwyd ef yn glaf. Ofnai y cymmydog iddo farw cyn iddynt gymodi, a phenderfynodd fyned i edrych am dano. Wedi myned, dywedai: "Mae yn ddrwg iawn genyf ddeall eich bod mor wael, ac yr wyf wedi dyfod yma i ofyn beth raid i mi ei wneyd er cael genych ysgwyd llaw â mi?"

"Wel," ebe y claf, "ewch i lawr wrth y gwely yma." Syrthiodd y cymmydog ar ei liniau yn y fan; yna taflodd y claf ei lygaid arno, a dywedai,— "Yn is na hyna.". Ymollyngodd yntau ar ei benclinoedd; edrychodd y claf arno drachofn, a dywedai eilwaith,—

"Yn is na hyna."

Ymollyngodd yntau ar ei hyd wrth ochr y gwely a gofynai,—"A ydwyf yn ddigon isel yn awr?"

Cododd yntau ar ei benelin, ac edrychodd dros yr erchwyn a dywedai yn lled anfoddog,—"Mae yna oleuni o danat eto."

Nid oedd yn bosibl i'r truan fyned yn ddigon isel i ddangos ei fod yn edifarhau; ac y mae i'r un yna bump o frodyr. Ond fol y dywedwyd eisioes, nid oedd WILLIAM ELLIS yn un o honynt.

Fel dyn mwynaidd, llariaidd, a hynaws, yr oedd WILLIAM ELLIS yn adnabyddus gan bawb, ac os digwyddai "lefaru yn arw," byddai yn rhaid iddo ymddieithro i'w frodyr cyn y gallai wneyd hyny. Gallwn adrodd hanesyn. neu ddau am dano i ddangos y byddai yn myned allan o'i ffordd gyffredin. O gylch y flwyddyn 1838, anogodd. Cymanfa y Gogledd ar fod diwrnod o ymprydio a gweddïo am yr Yspryd Glân i gael ei gadw trwy yr holl wlad. Cydymffurfiodd Maentwrog, fel lleoedd eraill, a'r cais, a hysbyswyd y Sabbath y byddai cyfarfod eglwysig am wyth yn y boreu, a chyfarfodydd i weddïo am ddeg, dau, a chwech yn yr hwyr, ynghyd ag anogaeth ar i bawb ym gadw rhag ymborthi. Yr oedd WILLIAM ELLIS, a hen frawd hynod o'r duwiolfrydig, yr hwn oodd gyfaill mynwesol iddo, o'r enw John Edward, ynghyd â brawd arall (gan yr hwn y cawsom yr hanesyn), yn dychwelyd gyda'u gilydd o'r cyfarfod ddeg o'r gloch. Ymddangosai y tri yn lled bruddaidd a digalon, a hyny yn bennf, mae yn debyg, am nad oedd dim cinio yn aros am danynt. Pan oeddynt yn ymadael oddiwrth eu gilydd, torodd John Edward ar y distawrwydd trwy ddyweyd yn lled sydyn,— "WILLIAM ELLIS, rhaid i mi gael bwyta dipyn ganol dydd yma, gan fod yn rhaid i mi fyn'd i ladd mawn tân y cyfarfod gweddi nesaf."

"Na, ni wiw i ti fwyta yr un tamaid, na lladd yr un fawnen heddyw, Jack."

"Wel, nis gwn yn y byd beth a wnaf," ebe yntau yn ol, "os na laddaf fi fawn, mi ladd Neli fi, a phwy fedr ladd mawn heb ddim bwyd?" ac ychwanegai, "ni waeth ini beth a ymprydiom nae a weddïom os na chawn ni 'anian dduwiol,' yn ol y byddwn yn y diwedd er pob peth."

"Trimmings yr anian dduwiol ydyw ympryd a gweddi," meddai WILLIAM ELLIS, "a lle gwael i ti feddwl fod genyt anian dduwiol os medri di fwyta a lladd mawn heddyw, ar ddydd y mae y Gymanfa wodi ei neillduo i ymprydio a gweddïo am yr Yspryd Glan."

Yr oedd y sylw yna yn ddigon oddiwrth WILLIAM ELLIS i wneyd yr hon frawd John Edward yn llyn dwfr. Syrthiodd ei wynebpryd, ac aeth ymaith yn athrist: ond nid aeth i'w dŷ ei hun; ymneillduodd i geunant oedd ger llaw, a dyna lle y bu yn gweddïo hyd ddau o'r gloch. Wedi ymneillduad John Edward, aeth WILLIAM ELLIS i mewn i dŷ y brawd arall, a dywedai wedi eistedd i lawr:

"Billa bach, mi fyddai yn well i ni gymeryd rhyw bigiad bach bob un, rhag i'n natur losgau gormod i addoli yn y prydnawn."

Ar hyn ymosododd ei gyfaill arno, a dywedodd,— "Wel, WILLIAM ELLIS, chwi yw y dyn rhyfoddaf welais i erioed, dyna chwi wedi tori calon yr hen frawd, a'i anfon i'r ceunant, lle na cha damaid i'w fwyta; ond dyma chwi yn bwyta eich hunan, ac yn fy anog innau i fwyta hefyd."

"Taw, taw, Billa bach," ebe yntau, "yr oedd eisiau argyhoeddi John Edward am bwysigrwydd ympryd a gweddi: dyna pam y darfu i mi ymddwyn mor llym ato fo. Mi wnaiff bod yn y ceunant am ddwy awr les mawr iddo; mi weddïa yn dda, gei di wel'd, yn y cyfarfod dau o'r gloch." Ac felly fu, fe weddiodd y tro hwn yn fwy hynod nag y byddai yn arfer o lawer iawn. Aeth WILLLAM ELLIS at y cyfaill arall ar ol i'r cyfarfod gweddi derfynu, a dywod— ai tan rwbio ei ddwylaw,—

"Wel, mi dalodd goruchwyliaeth y ceunant yn dda i'r hen frawd. Glywaist ti fel yr oodd o yn gweddïo?"

Y tro arall yr ydym yn ei gael yn llefaru yn arw, ac yn wir wedi myned i chwythu bygythion, ydoedd wrth y gŵr a'r wraig oodd yn byw yn y Tŷ Capel, Maentwrog. Clywodd eu bod yn son am fyned i Flaenau Ffestiniog i fyw, ac nis gallai feddwl am eu colli. Yr oodd y wraig yn un mor gymhwys i gadw tŷ capel, a'r gŵr mor ddefnyddiol gyda phob peth yr achos. Wedi clywed an hyn gofynodd iddynt, a oodd rhywbeth yn hyny? Dywedasent hwythau eu bod wedi gwneyd eu meddwl i fyny i symud. Ar hyn dechreuodd arnynt, a dywedai y byddai yr Arglwydd yn sicr o dori i gyfarfod â hwynt, am iddynt adael lle bach gwan, yr oeddynt mor ddefnyddiol ynddo, a meddwl am fyn'd i Ffestiniog lle yr oedd digon o bobl at bob peth. Yn mhen ychydig ddyddiau ar ol yr ymddiddan hwn, fe gyfarfyddodd y gŵr â damwain fechan yn y gwaith; cariwyd ef adref. Clywodd WILLIAM ELLIS am y ddamwain, ac aeth i fynu i dŷ y capel, er gweled sut yr oedd pethau yn bod. Wedi myned i mewn, gofynodd pa le yr oedd y gŵr; a hysbyswyd ef ei fod yn gorwedd ar y sofa yn y parlwr. Aeth yntau yn mlaen, ac estynodd ei ben trwy y drws, a gofynodd,—"Ai hyna a ge'st ti P———? Mae y Gŵr wedi bod yn llawer gwell wrthyt nag yr oedd wedi dangos i mi y byddai." Ar hyn trodd i fyned allan,— "Aroswch," ebe y gŵr, "beth sydd i gyfarfod â'r wraig eto, WILLIAM ELLIS?"

"'Dwn i ddim," ebe yntau, dan gerdded tua'r drws, "mae gan y Gŵr yr ydych chwi yn ei ddigio lawer of wiail yn ei fwndel."

Parodd ei fygythion a'i ymddygiad lawer o bryder i feddwl y ddau. Ond dywedasom yn barod, y byddai yn rhaid iddo ymddieithrio i allu llefaru yn arw; tynerwch oedd y mwyaf cydnaws ag ansawdd ei yspryd ef.

Byddai rhai yn meddwl fod tynerwch WILLIAM ELLIS yn rhwystr iddo wneyd cyfiawnder mewn achos o ddisgyblaeth eglwysig. Ond y mae llawer nad ystyrient ddim yn ddisgyblaeth gwerth son am dano, ond tori allan, a rhaid i hyny gael ei wneyd yn y modd mwyaf dideimlad. Y peth olaf a wnai efe fyddai diarddel, a phan yn gweinyddu y radd uchaf o gerydd eglwysig, byddai yn disgwyl i'r diarddeliad fod yn foddion o ras i'r trosoddwr; a byddai bob amser yn cadw golwg arno er gweled beth fyddai offeithiau y cerydd. Un peth fyddai yn achos i rai ameu ei fod yn rhy dyner ei galon i weinyddu disgyblaeth ydoedd,—y byddai bob amser yn arbed teimladau y troseddwr. Mae nwydau drwg lawer gwaith wedi trawsfeddiannu enw zel grefyddol; a thaiogrwydd natur afrywiog wedi ei alw yn blaender cristionogol. Peth arall fyddai yn gwneyd i rai ei ammheu yn hyn, ydoedd, y byddai bob amser yn rhoddi bob peth ammheus o blaid y troseddwr. Edrychai, nid ar y pechod a gyflawnwyd yn unig, ond ar yr amgylchiadau a'r demtasiwn o dan ba rai y cyflawnwyd y trosedd, a byddai yn cymeryd i ystyriaeth —cyn gweinyddu barn—pa fath ddygiad i fynu fyddai y troseddwr wedi ei gael. Ac y mae yn anhawdd i gyfiawnder gael ei weinyddu hob roddi lle i'r ystyriaethau hyn. Efallai mai y trosedd y byddai yn dangos mwyaf o dynerwch tuag ato, fyddai, "ieuo annghydmarus:" ond er hyny, credai yn ddiysgog ei fod yn drosedd, ac nad oedd dim i'w wneyd â'r troseddwr ond ei ddiarddel. Clywsom ef yn dyweyd, a hyny yn lled agos i ddiwedd ei oes, ei fod wedi cadw golwg ar briodasau o'r fath, a bod ganddo liaws o ffeithiau yn dangos fod Duw yn ei ragluniaeth yn gwgu arnynt. Tybiai ef, os byddai un o'r byd am gael cydmar bywyd yn proffesu, mai mwy diogel ydoedd i'r un oedd allan ddyfod i mewn nag i'r un oedd i mewn fyned allan. Dywedir iddo fyned i gymhell un dyn unwaith i fyned i'r seiat yn hytrach nac iddo achosi i'r ferch gael ei thori allan o'r eglwys. Ond gallwn fod yn sicr fod y dyn hwn yn "Gristion o fewn ychydig," onide ni buasai WILLIAM ELLIS yn ei gymhell i fyned i mewn.

Byddai am osgoi, hyd ag y byddai yn bosibl, dwyn pob trosedd i'r eglwys i'w gospi. Gweinyddodd lawer o geryddon mewn dirgel-fanau, lle na byddai neb ond y troseddwr ac yntau. Clywodd unwaith fod tair merch ieuange a berthynai i eglwys Maentwrog wedi bod gyda rhyw grwydriaid a gymerant arnynt ddywedyd eu tesni. Aeth yntau atynt a gofynodd a wnant hwy alw yn ei dŷ, fod ganddo rywbeth o bwys i'w ddyweyd wrthynt. Addawsent hwythau fyned, os caent genad gan eu meistr. (Y pethau gwirion! nid oeddynt fawr feddwl beth oedd yn eu haros.) Dywedodd yntau y gofynai efe ei hunan am ganiatad iddynt, a chafodd hyny. Ac ar ryw brydnawn hwy a aethant yn ol eu haddewid. Anfonodd yntau bawb o'r teulu allan at ryw oruchwylion, ac wedi cau y drws ymaflodd yn y Beibl, a darllenodd bennod yn nghylch dewiniaid, a brudwyr; yna aeth i weddi daer dros y tair chwaer ieuangc oedd wedi troseddu, wedi hyny rhoddodd bennill i ganu. Ond nid oedd yn cael ei foddloni yn yr olwg arnynt, gan eu bod yn ymylu ar fod yn wamal. Cymerodd y Beibl a darllenodd bennod eilwaith, a gweddïodd drostynt drachefn, a pharhaodd i weddïo nes iddo ddeall ei fod wedi eu llwyr orchfygu, ac erbyn iddo godi oddiar ei liniau yr oedd golwg gyffrous arnynt. Wedi iddynt ganu hymn, gollyngodd hwynt ymaith heb son yr un gair wrthynt am eu trosedd. Beth a ddywedi di, ddarllenydd, am y dull hwn o weinyddu cerydd, cymeryd y trosoddwyr at y "gyfraith ac at y dystiolaeth," a'u cario mewn gweddi i bresenoldeb y Duw mawr; a'r cwbl mewn yspryd mor hynaws, fel yr oedd yn gallu canu yn addolgar yr un pryd? Hawild genym gredu y buasai yn llawer gwell gan y chwiorydd hyn, a gymerwyd yn y fath fodd i bresenoldeb yr Anfeidrol, ymfoddloni i ddigwyddiadau a helyntion y dyfodol tywyll ddyfod i'w golwg o un i un, fel y byddai i amser eu cario, na cheisio ymwthio i'w cyfarfod trwy gynnorthwy y rhai a gymerent arnynt ddywedyd tesni.

Yr oedd ei dynerwch y fath fel na allai oddef i ddim gael ei benderfynu yn ei eglwys gartref, y Cyfarfod Misol, nac mewn unrhyw le, a thuedd ynddo i archolli teimlad neb. Cofus genym i gyhoeddiad y diweddar Barchedig John Jones, Talysarn, a brawd arall nad oedd mor gymeradwy, gael eu darllen mewn Cyfarfod Misol unwaith, nid i ddyfod gyda'u gilydd, ond ar wahan; ac wodi ei darllen, gofynodd rhyw un a oedd cyhoeddiad y brawd arall wedi dyfod yn rheolaidd. Wrth ei gweled yn tywyllu ar ei achos, cododd WILLIAM ELLIS i fynu a gofynodd, "A ydyw cyhoeddiad John Jones yn rheolaidd? mi fyddai yn burion peth i ni wybod hyny?" Gwyddai WILLIAM ELLIS fod cyhoeddiad y ddau wedi dyfod yn yr un modd, ac er mwyn cael John Jones, gollyngwyd y llall heibio hefyd.

Dro arall yr oedd brawd ieuangc o bregethwr, ac y bu ganddo ef law yn ei godi, wedi troseddu y deddfau trwy fyned ar daith i sir arall, cyn iddo fyned trwy ei sefyllfa prawf fel pregethwr gartref. Pan y daeth yn ol, galwyd ef i gyfrif yn y Cyfarfod Misol, ond nid oedd ganddo un gair i'w ddyweyd dros ei ymddygiad; ac wrth weled rhai o'r hen frodyr yn bwrw arno, cododd WILLIAM ELLIS i fynu. ac agorodd ei enau dros y mud, a dywedai yn bur ddiniwed, "Fe ddaeth y brawd ataf fi un diwrnod, a dywedai ei fod yn myned i'r fan a'r fan, yn y sir hono, i edrych am ryw berthynasau iddo, a beth ddarfu i mi ond ei anog i ddyweyd tipyn am Iesu Grist ar hyd y ffordd," ac ychwanegai, "ni feddyliais i erioed fod drwg," a thrwy ei fedrusrwydd ef i roddi gwedd mor grefyddol ar yr afreoleidd-dra, fe ollyngwyd y troseddwr yn rhydd heb na charchariad na hard labour.

Byddai rhai yn cymeryd mantais annheg weithiau, ar ei hynawsedd a'i ddiniweidrwydd, trwy geisio ganddo wneyd yr hyn nas mynai. Anfonodd ei feistr tir ato unwaith i ofyn a wnai efo beidio myn'd o'i dŷ ar brydnawn Sabbath, am fod arno eisiau iddo fyned gyda dieithriaid o Loogr i ddangos iddynt y rhaiadr oedd heb fod yn mhell oddiyno. Achosodd y cais annuwiol hwn bryder nid bychan iddo; ni fynai ar un llaw ddigio y boneddwr oedd mor garedig iddo bob amser, ac ar y llaw arall arswydai rhag y fath waith ar ddydd yr Arglwydd. Ymneillduodd i ofyn cyfarwyddyd ei Dad nefol; ac yn fuan wedi iddo ddechreu gweddïo, clywai un o'r ddwy chwaer yn gwaeddi,—

"Wil, p'le 'r wyt ti, tyr'd yma yn y munud, mae yma rhyw rai dy eisiau."

Cododd WILLIAM ELLIS oddiar ei liniau, ac aeth at y tŷ, a phwy oedd yno ond y boneddwyr yn aros am dano. Aeth gyda hwy, ac arweiniodd un o honynt at y llyngelyn. Sylwai y boneddwr fod yr olygfa yn frawychus, a bod y llyn yn ddwfn, a golwg ferwedig arno.

"Ydyw, Syr," obe yntau, "ond llyn o ddwfr lled ddiniwed ydyw hwn; llyn o dân fel hyn fydd yn ofnadwy i fod ynddo."

"Ië," atebai y boneddwr yn lled sarug.

"Wal, Syr," meddai WILLIAM ELLIS, a'i lygaid yn tanio gan eiddigodd dros sancteiddrwydd y Sabbath, "i lyn o dan a brwmstan berwedig y mae holl halogwyr Sabbathau Duw i gael eu bwrw i ferwi am dragwyddoldeb."

Brawychodd y bonoddwr yn ddirfawr, a dywedai wrth WILLIAM ELLIS y gallai fynod yn ol ei hunan. Felly gollyngwyd WILLIAM ELLIS yn rhydd, a chyfeiriodd ei gamrau at gapel uchaf Maentwrog, gan werthfawrogi y cyfleusdra oedd wedi ei gael i ddyweyd gair wrth y boneddwr annystyriol, ar gadwraeth y Sabbath; ac ar yr un pryd gadw ar dir heddychol a'i feistr tir, ac a'i gydwybod ei hunan hefyd.

Yr oedd ganddo y teimladau gorau at y gwahanol enwadau oedd yn yr un gymydogaeth ag ef, ac yr oedd yn anhawdd iddo beidio bod felly, pan y cofiom fod tri enwad yn cyd-gyfarfod yn ei dy ef ei hunan, yn mhersonau ei chwiorydd ac yntau. Dyna y rheswm penaf na buasai gan y Methodistiaid Calfinaidd gapel yn mbentref Maentwrog, ddeng mlynedd ar hugain yn gynt. Buasai yn hawdd i WILLIAM ELLIS gael tir i adeiladu un arno, ond nid oedd yn gofalu llawer am hyn, gan fod digon o le yn y capelau oodd yno yn barod. Ni byddai byth yn caru gweled rhai yn rhedeg oddiwrth y naill enwad at y llall, a hyny am y gwyddai fod naw o bob deg o'r cyfryw symudiadau yn digwydd, nid oherwydd fod cyfnewidiad yn eu barn am athrawiaethau yr efengyl, ond yn hytrach i osgoi ceryddon eglwysig am ryw droseddau fyddai wedi eu cyflawni. Cofus genym glywed am ryw ddau blentyn oedd yn cydchwareu unwaith, ac fe ddigwyddodd i un o'r ddau syrthio i'r llaid, ac yna dechreuodd grio, a chrio yr oedd o. Yna gofynodd ei gydymaith ieuangc iddo, "Beth yr wyt ti yn crio, dywed?" "Ond ofn fy mam sydd. arnaf," ebe y llall. "Oes gen ti ddim nain dywed?" gofynai ei gydchwareuwr. Mae yn ymddangos fod hwn wedi cael ty nain yn lloches da rhag dialodd y fam. Felly yr oedd WILLIAM ELLIS wedi sylwi y byddai llawer fyddai yn troseddu yn erbyn eu mam eglwys yn chwilio am dŷ nain yn rhywle i ochelyd y cerydd. Ac yn wir fe fu un yn ddigon gonest i ddyweyd, pan yn chwilio am aelodaeth gyd ag enwad arall, mai y gair hwnw oedd ar ei feddwl, "Pan y'ch erlidiant mewn un ddinas, ffowch i un arall." Ond ni fynai WILLIAM ELLIS roddi wyneb i beth fel hyn un amser. Dywedai wrth wraig oedd yn gofyn am aelodaeth eglwysig gyda hwy yn y capel uchaf, Maentwrog, yr hon oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr yn y capel isaf—"Ond i ti ddyfod a phapyr bach oddiwrth y brodyr o'r capel isaf, mi wnawn ein goreu glas i ti wed'yn, hon a hon bach," ac ychwanegai,—"yr un pethau ydym ni." Da fyddai i'r gwahanol enwadau sydd yn y wlad, gymeryd dalen o'i lyfr ar hyn. Ni byddwn byth yn gweled y gwahanol enwadau crefyddol yn taflu mwy o ddirmyg ar eu gilydd, nac yn eu gwaith yn peidio cydnabod disgyblaeth eglwysig eu gilydd.

Wrth derfynu ein hadgofion am WILLIAM ELLIS, mae yn rhaid i ni roddi un linell eto yn y darlun, cyn y gall y rhai sydd yn ei gofio ei adnabod ynddo. Mao yn ddrwg genym fod yn rhaid i ni ddyweyd dim a duedda i anurddo dim arno. Ond gan mai darlun dyn ydym yn ei geisio ei dynu, nis gellir ei ddisgwyl heb ei golliadau; yr ydym yn cyfeirio at y duedd ymarhous oedd ynddo gyda phob peth, Diffyg prydlondeb oedd ei ddiffyg mawr ef. Byddai ar ol gyda phethau y byd a chrefydd, yr oedd tuedd i ymdroi fel greddf gref ynddo gyda phob peth. Pan yn cario llechau o Ffestiniog, efe fyddai yr olaf i fyned i'r gwaith bob dydd. Byddai yr olaf yn cneifio ei ddefaid, ac yn casglu ei gynhauaf i ddiddosrwydd. Yr oedd yr un fath gyda phethau crefydd; byddai ar ol yn myned i'r Gymanfa, y Cyfarfod Misol, ac i'r moddion wythnosol yn ei gartref. Byddai tua chanol y seint bron yn ddieithriad pan yr elai efe i mewn, a gwelwyd ef rai gweithiau yn myned yno pan y byddont ar ymadael. Yr oedd cymydog iddo o'r enw Richard Llwyd yn myned i'r saiat un noson yn adeg y cynhauaf gwair, ac fe welai WILLIAM ELLIS yn gweithio yn bur brysur; aeth ato, a dywedodd wrtho,—

"Os ewch chwi i'r capel, mi arosaf fi i weithio yn eich lle; mi 'newch chwi ryw les yno." Derbyniodd yntau y cynyg hwn, ac ymaflodd yn ei coat, a chylymodd ei llewis o dan ei ên, ac i'r capel ag ef. Ond erbyn iddo gyrhaedd yno yr oedd y seiat ar derfynu. Gan iddo ddyfod i mewn, gofynai ei gyd—swyddog, mewn tôn oedd yn ymylu ar fod yn sarug, "A oes genych chwi air i'w ddyweyd WILLIAM ELLIS, ne' mae hi yn bryd terfynu?" "Nac oes dim byd heno frodyr bach," ebe yntau; ac ychwanegai, "dyfod yma yn lle Richard Llwyd ddarfu mi heno, mae yntau yn y gwair yn fy lle inau. Mae yn dda iawn gen i eich gwel'd ch'i, fe allai na chaf fi glywed neb byth eto yn son am Iesu Grist." Ond torodd y blaenor arall ar ei draws, a dywedodd, "Ewch dipyn i weddi WILLIAM ELLIS heb ganu, yr ydym ni yma er's hir amser bellach."

"Gawn ni ddim canu!!" ebe yntau, dan godi ar ei draed, a rhoddi allan yr hon bennill hwnw yn dra offeithiol—

"Mi gana am waed yr Oen
Er maint i'w 'mhoen a 'mla"."

A dywedai y rhai oedd yn bresenol na bu yno ddim byd tebyg i waith WILLIAM ELLIS yn ledio y pennill yn y seiat y noson hono.

Os byddai iddo daro ar bregethwr wrth ei fodd i ymddiddan âg ef, ni byddai iddo byth bron fyned o dŷ y capel, ac yn wir fe fyddai y pregethwyr yn anfoddlawn iawn i'w ollwng ymaith. Arosodd yn nhŷ capel Maentwrog un noswaith hyd yn agos i unarddeg o'r gloch; ac ar yr awr hwyrol hono dyma fe yn dyweyd wrth wraig y tŷ, "Wel, mae yn bryd i minau fyn'd bellach, mae arnaf eisiau myned i edrych am ryw frawd claf i Ffestiniog." "Hono, WILLIAM ELLIS," ebe y wraig, "mae wedi myned yn hwyr iawn."

"O na," ebe yntau, "mae'n rhaid i mi fyn'd, yr wyf wedi addaw fowl iddo at ei ginio yfory."

Ar hyny aeth ymaith tua Brontyrnor, ac erbyn cyrhaedd yno yr oedd pawb yn eu gwelyau; galwai yntau ar ei chwaer,

"Begi, p'le mae y ceiliog bach?"

"Both wnai di a fo heno, Wil, dos i dy wely bellach," ebe hithau.

"Na," abe yntau, "mae yn rhaid i mi ei gael, yr wyf wedi addaw iyn'd ag ef i Mr. W—— Ffestiniog," pellder o gylch tair milldir. Daliodd y ceiliog bach, ac aeth ag ef ymaith; erbyn cyrhaedd y tŷ hwnw, yr oedd pawb yn dawel yn mreichiau cwsg, ond galwodd hwy i fynu, a chyflwynodd yr anrheg i'r claf, ac yna dychwelodd yn ol tua thre'. Y rheswm dros ei fod wedi gwneuthur y fath ymdrech ydoedd ei fod wedi addaw myned ag ef y diwrnod hwnw, ac yr oedd WILLIAM ELLIS yn meddwl ond iddo fyned cyn cysgu ei hunan, y byddai yn cadw ei addewid beth bynag fyddai hi o'r gloch.

Byddai ganddo resymau hynod iawn dros fod gymaint ar ol yn myned i'r capel: weithiau dywedai fod y ffordd yn mhell, heb gofio fod yr un pellder bob amser rhwng y tŷ a'r capel; pryd arall dywedai fod y clock yn slow iawn; a phan y gofynid iddo paham na wnai ei yru, dywedai, "Natur colli sydd ynddo, pe bawn yn ei yru, byddai yn yr un man yn union deg." Fe feddyliodd Mr. Humphreys am roddi cerydd caredig iddo am ei fod gymaint ar ol yn myned i'r moddion. Gofynai iddo wrth holi am hanes yr achos yn y lle, ar adeg eu Cyfarfod Misol,— "A ydyw y frawdoliaeth yn dyfod at eu gilydd yn dda, WILLIAM, i'r moddion wythnosol?"

"Ydynt, yn dda iawn, Humphreys bach," ebe yntau.

"A ydynt yn dyfod yn lled brydlon?" gofynai y gweinidog drachefn.

"Wel, Mr. Humphreys bach," ebe yntau, yr ydym yn myned o bob cyfarfod gyda'n gilydd yn daclus." Fe welodd Mr. Humphreys nad oedd dim yn well iddo wneyd na gadael llonydd iddo.

Collasom ef pryd nad oedd neb yn meddwl ei golli. Mae yn wir fod ei iechyd wedi gwaelu er's blynyddoedd; dioddefai ar brydiau boenau arteithiol yn ei gyllau. Yr oedd trwy hyn yn ymgynefino âg angau, a byddai yn hawdd ganddo ers talm droi cyfeiriad ei ymddyddanion at awr ei ymddatodiad. Ni chyfyngwyd ef i'w wely ond am ychydig amser; cael gwaed i fyny fu yn angau iddo. Yr oedd yn hynod ymostyngar i ewyllys Duw yn ei gystudd diweddaf. Yr unig beth y cwynai o'i herwydd ydoedd na buasai yn cael ei ollwng. Dywedai wrth holi gŵr ieuange yn nghylch amser marwolaeth ei fam, yr hon oedd at ei oed ef.

"Y mae hi wedi cael braint fawr rhagor fi, cael myn'd i'r nefoedd y pryd yr aeth hi, a minau yn cael fy nghadw yma rhwng dannedd cythreuliaid."

Nid oedd yn ofni dim gyda golwg ar ddiogelwch ei gyflwr. Pan y dadebrodd o un o'r llewygfeydd oedd yn ei gael—pan y byddai gwaed yn d'od i fynu iddo—gofynai i'r rhai oodd yn yr ystafell ar y pryd ganu y pennill hwnw—

"Ymado wnaf a'r babell
'R wy 'n trigo ynddi 'n awr."

Aeth ei hen gyfaill mynwesol W. Williams, Tan-y-grisiau, i edrych am dano ychydig oriau cyn ei farwolaeth, a gofynodd iddo pa fodd yr oedd hi rhyngddo â'i Arglwydd:

"Nid oes yna ddim ymrafael, ai oes, WILLIAM ELLIS?"

"O, nag oes," ebe yntau, "y mae hi yn bur dda rhyngon ni. Cofia am danaf pan ai ar dy liniau."

"Y mae arnaf awydd gofyn i'r Arglwydd am iddo beidio eich cymeryd i ffwrdd yn awr," meddai ei gyfaill.

"Ni waeth gen i amcan pa bryd," ebe yntau, "y mae hi yu burion rhyngom ni yrwan. Ei a ewyllys Ef wneler am hyny. Cofia ofyn am iddo beidio tywyllu arnaf, mae ymn ambell gwpanaid o uffern yn dyfod, ond ydyw hi ddim llawer o beth—dim ond tipyn i folysu cwpaneidiau eraill. Y gair hwnw chwalodd y niwl neithiwr,— Mewn ing y byddaf fi gydag ef.' "

"Gair wedi ei roddi i'r Salmydd ydyw yr addewid yna; a ydych chwi yn meddwl fod rhyddid i chwi i ymuaflyd ynddi?" gofynai ei gyfaill.

"Beth wnawn i, William bach," gofynai yntau, "ond ymaflyd mewn rhywbeth, a minau yn myn'd i foddi. Os cai dithau ryw scrip o'r gair, cydia ynddo am dy fywyd, y mae yn siwr o dy ddal di. Ni welais i mo hono erioed yn llai na'i air, ond bob amser yn llawn cystal, os nad gwell."

Yn fuan ar ol yr ymddiddan, bu i WILLIAM ELLIS farw, a'i ddwyn gan yr angylion i fynwes Abraham.

Ddarllenydd, a elli di feddwl am olygfa brydferthach na phechadur a'r efengyl wedi gorphen ei gwaith arno; ei ewyllys ef wedi ymgolli yn ewyllys Duw? Wel, yr ydym ni yn ei golli, a'r olwg olaf ydym yn ei gael arno ydyw. yn ymlithro yn dawel i dywyllwch y glyn, a'r addewid,- "Mewn ing y byddaf fi gydag ef," yn llon'd ei freichiau. Hoffus ddarllenydd, a gawn ni wrth derfynu ein hadgofion am un "o heddychol ffyddloniaid Israel," gyfammodi â'n gilydd i dori i gyfarfod â WILLIAM ELLIS wrth orsedd Duw?

"A boed i Ben yr eglwys roi
Blaenoriaid cymhwys lu,
A deuparth o'r un Yspryd oedd
Yn llenwi y rhai a fu."



DIWEDD.







WREXHAM: ARGRAFFWYD GAN HUGHES AND SON.