Yr Ogof/Pennod III
← Pennod II | Yr Ogof gan T Rowland Hughes |
Pennod IV → |
III
YR oedd hi'n hwyr brynhawn, a theimlai'r cwmni braidd yn flinedig. Gan gymryd arno fod ei gamel yn anniddig ac yn dyheu am gyflymu, aethai Beniwda yn ei flaen a'u gadael ers rhai oriau. Tawedog oedd hyd yn oed Esther erbyn hyn, er y daliai hi a Rwth i sylwi'n fanwl ar bob gwisg anghyffredin a welent ar y daith.
Tro yn y ffordd, ac wele, llithrodd gwynder caerog Jerwsalem i'w golwg. Y ddinas sanctaidd, Trigfan Heddwch, calon y genedl. Ymledodd cyffro drwy'r lluoedd a deithiai tuag ati, a syllodd pob llygad yn ddwys ar Fynydd y Deml a'r wyrth o faen a oedd arno. O blith y teithwyr gerllaw cododd llais rhyw Lefiad, un o fân offeiriaid y Deml, ac ymunodd llawer yn ei gân:
"Mor hawddgar yw dy bebyll di
O Arglwydd y lluoedd!
Fy enaid a hiraetha, ie, a flysia
am gynteddau yr Arglwydd:
Fy nghalon a'm cnawd a waeddant
am y Duw byw."
Ac wedi i'r salm derfynu, buan y cydiodd lleisiau mewn eraill:
"Llawenychais pan ddywedent wrthyf, |
pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf ger bron Duw? |
Cofiai Joseff mai hi oedd y drydedd Deml ar y sylfaen hon. Yma y codasai Solomon dŷ gorwych i Dduw, ond wedi pedair canrif o ogoniant, aeth ei holl harddwch yn sarn. Ysbeiliwyd a diffeithiwyd hi gan fyddin Nebuchadresar, brenin Caldea. Dim ond am hanner canrif, er hynny, y gorweddodd ei meini'n garnedd ar y graig anferth. Adeiladodd Sorobabel hi drachefn, a pharhaodd ei Deml ef hyd nes dyfod y llengoedd Rhufeinig i'r wlad yn agos i bum canrif wedyn. Cyn hir teyrnasai Herod Fawr fel esgus o frenin oddi tanynt yn Jerwsalem, ac aeth ati—i ddangos ei fawredd ac i dawelu'i gydwybod i godi, ymhlith llu o adeiladau eraill drwy'r wlad, Deml harddach na hyd yn oed un Solomon. Tair blynedd y buwyd yn casglu'r defnyddiau drudfawr o lawer gwlad, ac yna dechreuodd byddin o weithwyr—mil o offeiriaid a deng mil o grefftwyr a llafurwyr—gloddio a chodi ac addurno. Ymhen blwyddyn a hanner yr oedd y Deml ei hun —yr adeiladau sanctaidd a'r neuaddau a'r cynteddau wedi'i chysegru, ond aeth y gwaith ar y pyrth a'r muriau allanol ymlaen am wyth mlynedd arall. Nid oedd yng Ngroeg na'r Eidal na'r Aifft, nid oedd ac ni bu, adeilad hafal i hwn, a phan orffennwyd ef, syllodd pob Iddew mewn parchedig ofn a oedd bron yn arswyd ar ei holl wychder ef. Ond troes eu rhyfeddu'n ddychryn pan welsant grefftwyr Herod yn addurno'r prif borth ag eryr Rhufeinig wedi'i foldio mewn aur pur. Aeth y braw yn ferw drwy'r wlad, a bu'n rhaid i Herod ildio o flaen yr ystorm.
Syllodd Joseff ar ogoniant y Deml enfawr. Bob tro y deuai yn agos i Jerwsalem, edrychai arni fel pe am y waith gyntaf erioed, a'i enaid yn gynnwrf i gyd. Yr oedd golau'r hwyrddydd trosti yn awr a disgleiriai'i holl ryfeddod hi—y muriau o farmor gwyn, y crefftwaith o arian ac aur a oedd arnynt, y toeau a'r cromennau euraid, a'r pyrth llachar. Miragl o wynder a gloywder yn hedd yr hwyr.
"Y Deml sanctaidd," meddai Elihu wrth Alys mewn islais dwys.
"Nodiodd y Roeges a'i llygaid yn fawr gan syndod. Daethai hi o Athen, dinas y temlau, ond yr oedd hyd yn oed y Parthenon, y deml enfawr a gysegrwyd i'r dduwies Athene, yn llai o lawer na'r adeilad gorwych hwn. Safai cestyll a chaerau a phlasau heb fod yn nepell oddi wrtho, ond er eu gwyched, ni holodd Alys ddim amdanynt hwy.
Aeth y cwmni drwy borth y ddinas a dringo'r ystrydoedd culion, poblog. Daeth i'w clyw bob iaith ac acen dan haul, a melys i Esther a Rwth oedd syllu ar y gwisgoedd amryliw. Parthiaid a Mediaid o'r Dwyrain; pererinion o Syria ac o dywod Arabia; lluoedd o bob rhan o Asia Leiaf; tyrfaoedd croendywyll o'r Aifft a Libya a Chyrene; gwŷr llwyddiannus o Roeg a Rhufain a hyd yn oed o bellterau Gâl ac Ysbaen—cyfarfyddai myrddiwn yn y ddinas sanctaidd cyn yr Ŵyl.
Yn araf iawn y dringodd Joseff a'i deulu drwy'r berw o deithwyr a phedleriaid a stondinwyr a chardotwyr. Llusgai carafan hir a llwythog o'u blaenau, a dywedai'r llwch a'r chwys ar y camelod a'r asynnod iddynt ddyfod o bell. O'u blaen hwythau rhuai dau fugail blinedig gynghorion i yrr o ŵyn a geifr ar eu ffordd tua'r deml. Ond troes y cwmni o'r diwedd i mewn i Heol y Pobydd a chyrraedd Llety Abinoam. Yno yr arhosai Joseff bob amser pan ddeuai i Jerwsalem.
Yr oedd Abinoam yn y drws i'w croesawu a brysiodd rhai o'i weision i ofalu am yr anifeiliaid.
"Henffych, Abinoam!" meddai Joseff.
"Henffych, Syr! Y mae popeth yn barod i chwi. Cyrhaeddodd eich mab Beniwda ryw ddwyawr yn ôl."
Curodd ei ddwylo ynghyd a rhuthrodd caethwas a chaethferch i gynorthwyo Elihu ac Alys.
Abinoam oedd y gŵr tewaf y gwyddai Joseff amdano, rhyw un cryndod o gnawd enfawr. Chwysai ef pan rynnai pawb arall. Anadlai'n drwm wrth symud a siarad, ond er hynny, yr oedd yn ŵr huawdl iawn.
"Rhyw newydd, Abinoam?" gofynnodd Joseff ar ei ffordd i mewn i'r tŷ.
"Newydd, Syr! Newydd! Gresyn na fuasech chwi yma ryw hanner awr ynghynt. Marchogodd Brenin i mewn i Jerwsalem gynnau!"
"Brenin?"
"Ie, Syr, ar ebol asen yn yr hen ddull brenhinol," atebodd Abinoam ymhen ennyd, wedi iddo gael ei anadl. "Cannoedd o bererinion Galilea yn ei ddilyn tros ysgwydd Olewydd a channoedd yn rhuthro i'w gyfarfod. Pobl yn taenu'u dillad a changau palmwydd ar y ffordd o'i flaen. Pawb yn gweiddi, 'Hosanna i fab Dafydd!' a 'Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd!' a Hosanna yn y goruchaf!
Ceisiodd Abinoam yntau godi'i lais, ond cafodd yr ymdrech yn ormod iddo. Yr oeddynt i mewn yn y tŷ erbyn hyn ac fe'i gollyngodd ei hun yn ddiolchgar ar fainc esmwyth wrth y mur. Rhoes y fainc wich o brotest, ond llwyddodd i beidio ag ymddatod dan ei baich.
"A phwy oedd y Brenin' hwn?"
"Ni welais i orymdaith debyg iddi erioed yn y ddinas, Syr," meddai Abinoam yn lle ateb y cwestiwn. "Sôn am dyrfa! Y Phariseaid a'r Ysgrifenyddion yn gwneud eu gorau glas i'w thawelu, ond taflu'u lleisiau yn erbyn y gwynt yr oeddynt. Y sŵn i'w glywed oddi yma pan oedd y dorf i lawr yn Nyffryn Cidron! Mi ruthrais i i fyny at fur y Deml—hynny yw, mi geisiais frysio, Syr—a dyna olygfa! Am a wn i nad oedd miloedd yn yr orymdaith, ac erbyn hyn yr oedd y rhai blaenaf yn llafar—ganu proffwydoliaeth Sechareia."
"A phwy oedd y Brenin' hwn, Abinoam?"
Cymerodd Abonoam orig i gael ei wynt ato—ac i fwynhau'r chwilfrydedd yn llygaid Joseff. Er y dibynnai am ei fywoliaeth ar gyfoethogion fel y Sadwcead hwn, gwelsai ddigon ar wŷr y Deml i'w dirmygu ar y slei. Onid oedd ei frawd yn llwgu mewn tipyn o dyddyn yn y bryniau i geisio crafu trethi a degymau iddynt?
"Ie, yr hen broffwydoliaeth yn codi'n salm o'r llethr, Syr.
'Bydd lawen iawn, ti ferch Seion:
gwaedda, O ferch Jerwsalem:
wele dy frenin yn dyfod atat:
cyfiawn yw a chanddo iachawdwriaeth.
Yn addfwyn y daw, yn marchogaeth ar asyn;
ie, ar ebol, ar lwdn asen.'"
Llafar-ganodd Abinoam y geiriau, ac nid oedd ond teg iddo gael ysbaid o orffwys wedyn.
"A phwy oedd y Brenin' hwn?" gofynnodd Joseff drachefn.
"Dyna oedd pawb i fyny o gwmpas y Deml yn ofyn, Syr. 'Pwy yw hwn, pwy yw hwn?' oedd ar wefusau pobl Jerwsalem bob un. A'r pererinion o Galilea wrth eu bodd yn ateb. Wrth eu bodd, Syr,. Mi ofynnais i i'r dyn ifanc wrth ben yr asyn, wedi i'r 'Brenin' fynd i mewn i Gyntedd y Deml, ac yr oedd yn werth i chwi weld ei lygaid, Syr. Fel darnau o dân yn ei ben. Dyn ifanc â'i wallt yn hir a rhyw olwg go wyllt arno.
"Ni chefais wybod eto gennych, Abinoam."
"Dyma'r dyn ifanc yn edrych yn syn arnaf, fel petai'n rhyfeddu na wyddwn i. Pwy yw hwn?' meddai. Pwy yw hwn? Cystal â dweud fy mod i mor anwybodus ag yr ydwyf o dew. Fe chwarddodd yn fy wyneb i, ac yna fe waeddodd Hosanna i'r Brenin!' eto ar uchaf ei lais. Jwdas oedd ei enw. Dyna oedd ei gyfeillion yn ei alw, beth bynnag
"Y Brenin'?"
"O, nage, Syr. Yr oedd y Brenin wedi mynd i mewn i Gyntedd y Deml. O, na, un o'i ddisgyblion oedd y dyn ifanc. Golwg wyllt arno, fel yr oeddwn i'n dweud, a'i wallt yn hir a'i lygaid yn serennu yn ei ben. Wedi colli arno'i hun yn lân ac yn dawnsio o gwmpas wrth ben yr asyn ac yn gweiddi'n ddigon uchel i'w glywed yng Ngalilea, am a wni . . . "
"Am y trydydd neu'r pedwerydd tro, Abinoam, pwy oedd y Brenin' hwn?"
"Ddywedais i ddim wrthych chwi, Syr? Wel, wir, y mae'n bryd imi roi cwlwm ar fy nhafod, chwedl fy ngwraig yn aml. 'Abinoam,' ebe hi, bron bob dydd, 'petai'ch dwylo mor brysur â'ch tafod, chwi fyddai gŵr cyfoethocaf Jerwsalem.."
Bu bron i Joseff â dweud wrtho fod ei ddwylo mor brysur â'i dafod, oherwydd defnyddiai hwy i egluro a phwysleisio pob gair. Yn lle hynny, cymerodd arno iddo golli diddordeb yn y stori am y Brenin': gwyddai mai honno oedd y ffordd i gael cnewyllyn yr hanes.
"Yr un ystafell ag arfer, Abinoam?"
"Ie, syr. Fe'i cedwais hi i chwi. Y tŷ yma'n orlawn dros yr Ŵyl. Dim lle i droi. Rhoddais eich mab Beniwda gyda chwi, a'ch gwraig a'ch merch yn yr ystafell nesaf."
"Campus. Diolch yn fawr."
"Ie, wir, un mentrus yw'r proffwyd o Nasareth. Petai gwŷr y Deml—a begio'ch pardwn, Syr—wedi cael gafael ynddo . . . "
"Y dyn o Nasareth oedd y Brenin,' felly?"
"Ie, Syr, Iesu fab Joseff o Nasareth. Rhai garw yw'r Galileaid 'ma, y mae'n rhaid imi ddweud, er i mi gael fy nysgu i'w casáu. Am a wn i nad oedd yn well gan fy nhad Samariad na Galilead byth er pan gafodd ei dwyllo gan y gwerthwyr lledr hynny o Fagdala. . .
Gwelai Joseff fod Abinoam ar fin cychwyn ar stori arall a throes ymaith i frysio tua'i ystafell.
"Wel, gobeithio bod gennych ddigon o bysgod o Galilea, Abinoam, dyna i gyd!"
"Oes, Syr, faint a fynnoch. Mi gefais i ddwy farilaid o Fethsaida echdoe. Pysgod mawr hefyd ac wedi'u halltu'n dda. Mi wnes i i'r dynion a ddaeth â hwy yma agor y ddwy yn y cwrt imi gael . . ." Ond yr oedd Joseff ar ei ffordd i'w ystafell erbyn hyn, ac er mor hoff oedd Abinoam o breblan, ni châi bleser mewn siarad ag ef ei hun.
Chwibanai Joseff wrth ymolchi a newid ei wisg, ond sylwai'r hen Elihu, a weinyddai arno, fod rhyw galedwch yn ei lygaid. A ddywedasai Abinoam rywbeth annoeth, tybed? Yr oedd y gwestywr yn un croesawgar a charedig dros ben—hyd yn oed i hen gaethwas—ond nid oedd ganddo ddim rheolaeth ar ei dafod.
"Rhywbeth o'i le, Syr?"
"O'i le? Pam, Elihu?"
"Meddwl fy mod i'n gweld cysgod yn eich llygaid chwi, Syr."
Chwarddodd Joseff ac yna chwibanodd alaw hen ddawns werin. Peth annifyr, meddai wrtho'i hun, oedd cael wyneb y gallai eraill ei ddarllen fel rhòl.
"Gellwch fynd yn awr, Elihu."
"Ond nid ydych wedi gorffen gwisgo, Syr."
"Bron iawn. Ac y mae arnoch chwithau eisiau bwyd."
"O, o'r gorau, Syr." Ac aeth Elihu ymaith â golwg braidd yn syn arno.
Beth oedd bwriad y Nasaread ynfyd hwn, tybed? gofynnodd Joseff iddo'i hun. Brenin,' wir! Pam na roesai gwylwyr y Deml eu dwylo arno? Ofni'r dyrfa, wrth gwrs. Ie, rhai garw, chwedl Abinoam, oedd y Galileaid. Codai rhyw ffŵl o broffwyd yn eu plith o hyd o hyd a dilynent ef fel defaid. Ond yr oedd digon o wyneb gan hwn i farchogaeth fel Brenin i Jerwsalem! Pam gynllwyn yr oedd y Phariseaid yn dal i fagu'r gobaith am Feseia yn y bobl? Hwy a'i gwnâi hi'n bosibl i ryw weilch fel hyn afael yn eu dychymyg. Byddai'n herio awdurdod y Deml ei hun cyn hir. Ac awdurdod y Sanhedrin.
Yr oedd y werin yn fwy anniddig nag y cofiai Joseff hi, gan mai trymhau yr oedd trethi Rhufain a threthi'r Deml bob gafael, a gallai rhyw derfysgwr fel hwn yn hawdd yrru'r grwgnach yn wrthryfel. Druan o'r wlad os digwyddai hynny! Fe ruthiai'r llengoedd Rhufeinig i lawr o Syria ac i fyny o'r Aifft, a llym fyddai'r dial. Gwgodd Joseff ar ei lun yn y drych o bres gloyw a safai wrth y mur. Hosanna i'r Brenin!' meddai'r dyn ifanc wrth ben yr asyn—ond nid oedd ef na'i 'Frenin' yn ddigon hen i gofio'r erchyllterau a fu pan gododd y bobl wedi marw Herod Fawr. Oni chroeshoeliwyd dwy fil o Iddewon yn Jerwsalem yn unig?
Yr oedd ei weithwyr a'i weision ef yn Arimathea yn weddol fodlon ar eu byd, diolch am hynny, meddai Joseff wrth y drych. Ond pe deuai terfysg—wel, yr oeddynt yn ddigon agos i Jopa, un o ganolfannau'r Selotiaid, i golli arnynt eu hunain. Un go gas oedd Reuben, goruchwyliwr yr ystad, ac efallai y byddent yn falch o'r cyfle i'w daflu ef dros Graig y Pwll. Cofiodd Joseff fod ei fab Beniwda yn un o wŷr Plaid Ryddid, a daeth i'w feddwl ddarlun sydyn o Feniwda yn arwain y gweision i ysbeilio pob ystafell yn y tŷ.
Ond, hyd y gwyddai, nid oedd cysylltiad rhwng y Nasaread a'r Selotiaid neu Blaid Ryddid. Na, fel Proffwyd y soniai'r hen Elihu amdano, ac fel un a gyflawnai wyrthiau ac a bregethai ryw efengyl newydd yr edrychai Othniel arno. A phan grybwyllid ei enw yn y Sanhedrin, ei boblogrwydd fel rhyw fath o arweinydd crefyddol a ofnai'r Cyngor. Nid oedd ef yn ŵr ariangar, meddai Joseff wrtho'i hun, ond os oedd y creadur hwn yn mynd i ymyrryd â threthi a degymau'r Deml, yna gwae iddo! A, wel, ei anwybyddu oedd y peth gorau, peidio â chymryd dim sylw ohono ef na'i ystrywiau i ennill poblogrwydd, anghofio'n llwyr amdano.
Galwodd yn ystafell ei wraig ac aethant i lawr gyda'i gilydd am bryd o fwyd. Yr oedd Rwth ar fin gorffen bwyta. "Ar frys, Rwth!" meddai'i thad wrthi, gan geisio swnio'n chwareus.
Gwridodd hithau, ond ni ddywedodd ddim.
"Y mae Rwth am fynd i weld un o'i ffrindiau, Joseff," meddai Esther. "Merch yr Archoffeiriad Caiaffas."
"O? Wel, os arhosi nes imi fwyta, dof gyda thi, Rwth. Y mae arnaf finnau eisiau galw yn nhŷ'r Archoffeiriad."
"Nid yno yr wyf yn mynd."
"Nage, mi wn. I gyfarfod y Canwriad Longinus, efallai?" "Efallai." Edrychodd y ferch yn herfeiddiol ar ei thad. "Ceisiais roi cyngor iti ddoe. Nid yw cyngor, y mae'n amlwg, o un gwerth, ac felly
"Felly?" Gododd Rwth i'w wynebu, ac anadlai'n gyflym. "Felly y mae'n rhaid imi d'atgoffa am yr hen orchymyn i anrhydeddu dy dad a'th fam. Rhag ofn na wyddost, golyga anrhydeddu ufudd-dod yn gyntaf oll."
"Os ydych yn fy ngorchymyn i beidio â gweld Longinus . . . " Ond ymyrrodd Esther cyn i'r helynt ddatblygu. "Dewch, Joseff, eisteddwch i fwyta. Gedwch iddi fynd am heno, gan iddi addo'i gyfarfod, ac yna cawn siarad am y peth tra bydd hi allan. Dewch, yr ydych bron â llwgu bellach. Ac wedi blino. Dewch."
Eisteddodd Joseff, a manteisiodd Rwth ar y cyfle i frysio allan, heb drafferthu i orffen ei bwyd.
Tawedog oedd y gŵr a'r wraig uwch eu pryd. Teimlai Joseff yn ddig wrth Esther am ddweud celwydd wrtho ac am ei reoli fel hyn byth a hefyd; ond gwyddai yn ei galon mai hi a oedd ben.
"Y mae'n hen bryd i'r ferch sylweddoli mai Iddewes ydyw hi," meddai o'r diwedd.
"Nid oes raid i chwi boeni amdani hi a'r Canwriad Longinus, Joseff. Mor ddall yw dynion!"
Chwarddodd Esther yn dawel, ac edrychodd Joseff arni heb ddeall.
"Ni welaf fi ddim i chwerthin am ei ben."
"Na wnewch, am na welwch ymhellach na'ch trwyn, Joseff bach. Y mae canwriad Rhufeinig yn dod i'ch tŷ, wedi cyfarfod eich merch Rwth yn Jopa. Dyn ifanc golygus, dysgedig, boneddigaidd, un y buasai unrhyw ferch yn syrthio mewn cariad ag ef. Yr oedd yn unig iawn yn Jopa, ac yn falch o gael rhedeg i lawr i Arimathea i gael ymgomio ag Othniel. Wedi iddo gyfarfod Othniel, prin yr edrychai ar Rwth druan.'
"Ond . . .
"Bob tro y dôi i'r tŷ, i ystafell Othniel yr âi yn syth, a dyna drafferth a gâi Rwth i'w dynnu oddi yno!"
"Ond . . . "
"A phan aent am dro, deuent yn ôl cyn pen hanner awr—i ystafell Othniel eto."
"Ond pam y mae'r canwriad yn cyfarfod Rwth yn Jerwsalem heno, ynteu?"
"Rwth sy'n cyfarfod y canwriad, gellwch fentro, Joseff. Ac yntau am beidio â siomi chwaer Othniel."
Tawelwyd meddwl Joseff, ac wedi iddo ystyried ennyd, gwyddai mai'r gwir a ddywedai Esther. Ddoe ddiwethaf, cofiodd, aethai'r canwriad yn ei flaen i Jerwsalem heb aros i Rwth ddychwelyd o'r synagog.
"Efallai eich bod chwi'n iawn, wir, Esther." Yna, fel petai'i feddwl yn mynnu chwilio am bryder, "Ond mi hoffwn i wybod ymh'le y mae Beniwda."
"O, wedi mynd i edrych am rai o'i gyfeillion. Ac efallai iddo fynd gyda hwy i'r theatr. Clywais rywun yn dweud bod cwmni o actorion o Roeg yma yr wythnos hon."
"Nid oedd yn ddigon buan i hynny. Y mae'r perfformiad drosodd ymhell cyn iddi dywyllu."
"Ond gwyddoch am Feniwda. Y mae ganddo gymaint o gyfeillion yma yn Jerwsalem."
"Oes, a chyfeillion peryglus hefyd. Gwŷr Plaid Ryddid, y rhan fwyaf ohonynt."
Aethant ymlaen â'u bwyd yn dawel am dipyn, ac yna troes Esther at ei gŵr.
"Hwn yw'ch cyfle, Joseff."
"Cyfle?"
"Ie. Dywedais neithiwr fod yn hen bryd i chwi fod yn rhywun ar y Sanhedrin. Yr ydych yn aelod o'r Cyngor ers . . . ers deng mlynedd bellach, ond ni chodwch eich llais ynddo. Dim ond i fynd yn groes i bawb arall."
Cyfeirio yr oedd Esther at yr unig araith o bwys a wnaethai Joseff yn y Sanhedrin. Y flwyddyn y methodd y cynhaeaf drwy rannau helaeth o'r wlad oedd honno, a chwynai'r Cynghorwyr am fod y bobl yn araf yn talu trethi'r Deml. Dadleuai rhai y dylid bygwth melltith ar bob un a fethai dalu, ond cododd Joseff yn sydyn i amddiffyn y bobl. Rhaid oedd llacio'r trefniadau mewn ardaloedd gwledig, meddai: gwyddai ef am deuluoedd a oedd ar fin llwgu. Edrychodd ei gyd-Gynghorwyr yn syn arno. Y Sadwcead moethus o Arimathea yn teimlo'n dosturiol! Wel, wir, nid aethai oes y rhyfeddodau heibio! Chwarddodd amryw, a mingamodd eraill. A phan ddychwelodd adref, dywedodd Esther wrtho am beidio â bod mor feddal. Bodlonodd wedyn ar fynd yn anaml i'r Sanhedrin—a chau'i geg pan âi yno.
"Ni wn faint o weithiau yr ydych wedi edliw hynny imi, Esther. Ond yr oedd y cynhaeaf yn ofnadwy o ddrwg y flwyddyn honno, a sut yn y byd y gallai teuluoedd tlawd fel un yr hen Seth yn Arimathea acw gael arian i . . .?"
"Mater i Seth, nid i chwi, oedd hwnnw. Ond fel y dywedais, dyma gyfle i chwi, Joseff. Y Nasaread."
"Nid wyf yn eich deall, Esther."
"Clywais beth o'r stori a adroddai Abinoam wrthych. A chefais y gweddill gan un o'r morwynion. Y mae'n sicr fod yr Archoffeiriad Caiaffas yn wyllt."
"Ydyw, y mae'n siŵr. A'r hen Annas yn wylltach fyth. Pan oedd Annas yn Archoffeiriad, nid oedd wiw i un proffwyd ac yr oedd degau ohonynt i'w cael, wrth gwrs—godi bys na bawd. Ond . . . ond sut y mae a wnelo hyn â mi, Esther?"
"Nid wrth eistedd fel mudan yn y Sanhedrin y mae dod yn rhywun ynddo. Rhaid i chwi godi i ddadlau dros neu yn erbyn pethau."
"Yn erbyn beth, Esther?"
"Y Nasaread hwn, er enghraifft. Gwyddoch fod Annas a Chaiaffas a'r Cyngor i gyd yn ei gasáu. Rhaid i chwithau ei gasáu. Ac yn ffyrnig. Codwch yn y Cyngor, areithiwch, ysgydwch eich dyrnau, ymwylltiwch.
"Ond ni welais i erioed mo'r dyn."
"Pa wahaniaeth am hynny?"
"A pheth arall, nid ysgydwais i fy nyrnau erioed yn y synagog yn wyneb yr hen Joctan, heb sôn am yn y Sanhedrin.
"Y mae'n bryd i chwi ddechrau, ynteu. Ni ddaw neb yn ei flaen heb ysgwyd ei ddyrnau. Fe gymer Annas a Chaiaffas sylw ohonoch chwi wedyn a'ch rhoi ar bob pwyllgor a dirprwyaeth o bwys. Ac wedi i chwi adeiladu'r tŷ yn Jerwsalem, bydd gennych ddigon o amser a chyfle i fod yn rhywun. Pwy a ŵyr, efallai mai chwi fydd yr Archoffeiriad nesaf!"
Nid oedd ar Joseff eisiau bod yn rhywun: yr oedd yn bur hapus, diolch. Ond ni fentrai ddweud hynny wrth Esther. Gwyddai fod llawer o wir yn ei geiriau hi: buasai'n Gynghorwr ers deng mlynedd, ond pur anaml y dodid ef ar unrhyw bwyllgor o bwys.
"O, o'r gorau, Esther. Os gwelaf Gaiaffas yn y Deml yfory, soniaf am y Nasaread hwn wrtho. Ac ysgydwaf fy nyrnau!"
"A rhaid i chwi wneud un peth arall, Joseff."
"O? A beth yw hwnnw?"
"Bod yn llai beirniadol o'r Archoffeiriad. Bob tro y clywaf chwi'n sôn amdano, y mae rhywbeth tebyg iawn i wawd yn eich llais."
"Wel, nid wyf yn hoff o Gaiaffas, y mae'n rhaid imi ddweud."
"Rhaid i chwi gymryd arnoch eich bod, ynteu."
"Os ydych chwi'n meddwl fy mod i'n mynd i lyfu llaw Caiaffas, Esther . . .
"Nid oes angen i chwi wneud hynny, Joseff. Ond ef yw'r Archoffeiriad a dylech ei barchu."
"Pwy a'i gwnaeth yn Archoffeiriad? Yr hen Annas yn gwthio'i fab yng nghyfraith i'r swydd, dyna pwy. A sut? Trwy dywallt arian y Deml i'r coffrau Rhufeinig a gwenieithio i Valerius Gratus, y Rhaglaw, a. . ."
"Joseff?"
"Ie, Esther?"
"Hoffwn i chwi wneud dau addewid imi."
"Gwn beth yw'r cyntaf. Mynd i weld Jafan, yr adeiladydd, ynglŷn â'r tŷ.
"Ie."
"O'r gorau, af i fyny ato cyn diwedd yr wythnos." "Yn bendant?"
"Yn bendant, Esther. A galwaf yn nhŷ'r saer hwnnw yr un pryd. 'Faint o'r llestri pren hynny hoffech chwi?"
"Hanner dwsin. A ydych chwi'n cofio enw'r dyn?"
"Heman, Heman y Saer. A beth yw'r ail addewid, Esther?"
"Peidio â bod mor feirniadol o'r Archoffeiriad Caiaffas. Y mae ef yn ŵr craff ac yn sicr o wybod sut y teimlwch tuag ato. Rhaid i chwi guddio'ch teimladau ac ennill ei ffafr."
"Cynffonna?"
"Na, y mae digon yn gwneud hynny. Dim ond bod yn gyfeillgar a. . . a pharchus, heb fod yn wasaidd. . . Wel?" Nodiodd Joseff yn araf: hi a oedd yn ei lle, efallai. Er nad oedd ganddo barch at Gaiaffas, ef oedd yr Archoffeiriad a Llywydd y Sanhedrin, ac nid oedd modd i neb ddyfod i'r amlwg heb ei fendith ef. Ie, Esther a oedd yn iawn: nid oedd dim i'w ennill trwy wylio Caiaffas yn feirniadol a drwgdybus fel y gwnaethai ef ers tro byd.
"Yr wyf yn addo, Esther. Af at Gaiaffas yfory ynglŷn â'r Nasaread hwn. Dywedaf wrtho . . ." Ond ni wyddai Joseff beth a ddywedai wrtho.
"Dywedwch wrtho fod ei ddylanwad yn dechrau cyrraedd hyd yn oed i Arimathea. Fod eich hen gaethwas Elihu a'ch mab Othniel yn sôn amdano fel petai'n rhyw broffwyd mawr. Fod yn bryd ei ddal a'i gaethiwo, ef a'i ddisgyblion. Pwy yw rhyw Alilead fel hwn, rhyw dipyn o bysgodwr ..?"
"Saer."
"Saer, ynteu. Pwy yw rhyw dipyn o saer i farchogaeth fel Brenin i Jerwsalem? Ac i gymryd arno wneud gwyrthiau ac iacháu pobl? A hawlio bod yn Feseia? Ond ni fydd llawer o wahaniaeth beth a ddywedwch: bod o ddifrif, dod allan o'ch cornel, sy'n bwysig."
"Ysgwyd fy nyrnau!"
"Ie, ysgwyd eich dyrnau, os mynnwch, Joseff. Dangos eich bod yn fyw i bethau, ac nid yn cysgu yn y Sanhedrin."
"O'r gorau, Esther. Ysgydwaf fy nyrnau yr yfory nesaf. Ac o hyn allan byddaf yn wên i gyd yng ngwydd Caiaffas!" Gorffennodd Joseff ei gwpanaid gwin a chododd oddi wrth y bwrdd, gan deimlo'n llawer hapusach yn awr.
"Af am dro bach i fyny at y Deml," meddai. "Y mae hi'n noson braf."
"Ydyw. Ond gwell i chwi fynd ag un neu ddau o weision. Abinoam gyda chwi. Gwyddoch mor beryglus yw'r heolydd gyda'r nos."
"Dim yr wythnos hon, Esther. Y mae 'na gannoedd o filwyr Rhufeinig yma dros yr Ŵyl."
Dringodd yn hamddenol drwy sŵn y ddinas. Ie, Esther a oedd yn iawn yr oedd yn bryd iddo ymysgwyd a dyfod i sylw o'r diwedd. A rhoddai'r Nasaread haerllug hwn gyfle iddo. Gwnâi, a gallai ef ysgwyd ei ddyrnau cystal â neb. Lluniodd Joseff frawddegau ffyrnig i'w traddodi wrth Gaiaffas, a dychmygai'r Archoffeiriad yn gwrando'n edmygol arno. Ond rywfodd, o dan ddifrawder hen y sêr, ni theimlai'n llawn mor sicr ohono'i hun.
Fel y gadawai Longinus Gaer Antonia, y gwersyll Rhufeinig, i gyfarfod Rwth, clywai fanllefau tyrfa fawr yn codi o ddyffryn Cidron islaw mur dwyreiniol y Deml. "Hosanna!" yn fanllefau un ennyd, ac yna llafar—ganai'r dorf eiriau na ddeallai ef mohonynt. A oedd y gorymdeithio hwn yn rhan o Ŵyl y Pasg, tybed? Oedd, yn fwy na thebyg, rhywbeth fel hwyl y Groegiaid yn y gwanwyn pan orymdeithient i foli'r duw Dionysos.
Brysiodd i lawr heibio i'r Deml. Gwelai lu cyffrous yn chwifio cangau palmwydd ac yna'n eu taenu ar y ffordd, gan sefyll o'r neilltu wedyn i aros am rywun. Eu Harchoffeiriad, efallai, ac wedi iddo gyrraedd, byddai'n cynnal rhyw ddefod yn y Deml. Daliai pawb i weiddi "Hosanna!" a nesâi yn awr y dyrfa a lafar—ganai, rhai yn canu un llinell ac eraill yn ateb â'r nesaf. Safodd Longinus yntau ar fin y ffordd, gan deimlo'n dawedog iawn yng nghanol yr holl orfoledd hwn.
Aeth ugeiniau heibio ac uchel oedd eu "Hosanna!" a'u mawl. Ond sylwodd Longinus ar dwr o wŷr mingam wrth ei ymyl, rhai gelyniaethus, yn amlwg, i'r rhialtwch hwn. Gwŷr gor-grefyddol, efallai, yn anghymeradwyo rhyw hen ddefod fel hon. Ymhen ennyd, gŵyrai pawb ymlaen ac aeth y gweiddi a'r chwifio'n wylltach fyth. Yr oedd yr Archoffeiriad gerllaw.
Llwyddodd Longinus i gadw'i le yn y rhes flaenaf ar ochr y ffordd a phlygodd yntau ymlaen, gan ddisgwyl canfod pasiant o liwiau hardd, o wisgoedd gorwych offeiriaid a morwynion ac o flodau a llysiau'r gwanwyn. Hynny a welsai ganwaith wrth demlau Rhufain. Ond y cwbl a welai yn awr oedd rhyw ddyn ar asyn ac o'i gwmpas fagad o wŷr cyffredin iawn yr olwg.
"Pwy ydyw?" gofynnodd i ddyn wrth ei ymyl.
"Iesu o Nasareth yng Ngalilea," atebodd hwnnw, ac yna aeth ati i weiddi "Hosanna!" nerth ei ben.
Iesu o Nasareth? Hwn oedd y Proffwyd y soniai Othniel gymaint amdano ac y danfonasai Alys i Jerwsalem i ymbil ag ef. Syllodd Longinus yn eiddgar arno fel y nesâi, gan ryfeddu ei fod mor ifanc. Rhywfodd, er iddo fod yn sicr i Othniel sôn am ddyn ifanc, tynasai Longinus ddarlun o ŵr llawer hŷn â'i farf hirllaes yn dechrau gwynnu a rhychau oed yn ei wyneb. Ond rhyw ddeg ar hugain neu ychydig yn fwy oedd hwn ac nid edrychai fel proffwyd o gwbl. Disgwyliech i broffwyd fod yn—wel, yn wahanol i bawb arall, beth bynnag, heb ddim ond darn o groen am ei lwynau efallai, neu â'i wallt yn hir fel un merch, neu â darluniau rhai o'r duwiau ar ei gorff. Cofiodd Longinus mai ymhlith yr Iddewon yr oedd ac nad oedd ond un Duw, Iafe, ganddynt hwy.
O amgylch y Proffwyd cerddai rhyw ddwsin o wŷr pur wladaidd yr olwg, rhai wrth eu bodd ac yn gyffro i gyd, eraill yn syn ac ansicr eu trem. Sylwodd Longinus ar y gwylltaf ohonynt, dyn ifanc tenau a hirwallt a'i lygaid yn dân.
Ef a dywysai'r asyn, a chamai'n herfeiddiol fel concwerwr wedi brwydr hir. Nid felly yr ymddangosai'r Proffwyd: edrychai ef braidd yn drist a thosturiol, gan syllu'n ddwys ond gofidus tua'r Deml fawr o'i flaen. Nid oedd fel petai'n clywed y llefau a'r llafar-ganu nac yn sylwi ar y rhuthro a'r chwifio gwyllt o'i amgylch. Yn wir, yr oedd fel breuddwydiwr yn nhawelwch ei fyfyrion a'r holl ddwndwr hwn yn ddim ond tonnau rhyw ffolineb pell. Pam, ynteu, y marchogai fel hyn i'r ddinas, gan roddi cyfle i'r holl rialtwch? Ni wyddai Longinus, ond dywedai wynebau syn rhai o'i ddisgyblion mai rhywbeth sydyn ac annisgwyl oedd yr orymdaith hon. Y pererinion, efallai, a aethai i'w gyfarfod ac a fynnodd roddi llais i'w heiddgarwch. Ac unwaith y cydiodd y tân, ymledodd fel fflamau ar lethr grin.
Disgynasai'r Proffwyd oddi ar yr asyn yn awr, a cherddodd ef a rhai o'i ddisgyblion trwy'r porth i mewn i Gyntedd y Deml. Daliai'r bobl i weiddi ac i chwifio'u cangau, ond swnient yn llawer tawelach, ac edrychai amryw ohonynt yn siomedig. Cyn hir dychwelodd y Nasaread a'i wŷr o'r Cyntedd a throi ymaith yn dawel ar hyd heol arall a redai i lawr tua Dyffryn Cidron a ffordd Bethania. Cafodd Longinus gip ar ei wyneb fel y deuai trwy'r porth, ac ymddangosai'n llym a phenderfynol, fel petai rhywun neu rywbeth tu fewn i'r Cyntedd wedi'i gythruddo. Y cyfnewidwyr arian a'r gwerthwyr anifeiliaid efallai, meddai'r canwriad wrtho'i hun, gan gofio'r farchnad o le a welsai ef pan aethai am dro at y Deml yn y prynhawn.
Crwydrodd Longinus yn arafi lawr tua Phorth Effraim, lle'r oedd i gyfarfod Rwth. Nid edrychai ymlaen at ei gweld, a chwiliai'n wyllt am eiriau i dorri'r newydd iddi. Ond ni allai yrru'r Proffwyd ifanc o'i feddwl. Yr oedd yn ddyn hardd a chryf o gorff, a rhyw urddas tawel, cyfrin, yn perthyn iddo, ond yr olwg ddwys a hanner—dosturiol yn ei lygaid a wnaethai argraff ar y canwriad. Ceisiai'r bobl ei groesawu fel rhyw fath o frenin, ond ni wnâi'r holl orfoledd ond ei dristáu petai ganddo weledigaeth dawel, bur, a chain, a'r sŵn yn tarfu ei gogoniant hi. Fel petai'r rhuthro a'r bloeddio a'r chwifio yn bethau ennyd, ac yntau uwchlaw rhyw grychiadau dibwys ar lif amser. Fel petai . . .
Ond rhaid iddo egluro pethau i Rwth. Yr oedd y ferch yn syrthio mewn cariad ag ef er ei waethaf, ac nid oedd ganddo ef fawr ddim diddordeb ynddi hi. Yn ei brawd, Othniel, ond nid yn Rwth.
Cofiodd ei chyfarfod y tro cyntaf oll. Ychydig ddyddiau wedi iddo gyrraedd Jopa oedd hynny, a hen flinasai ar glebran ac yfed y gwersyll. Credasai y gallai trwy ymuno â'r fyddin anghofio'i gartref a'i rieni a'i gyfeillion, a dileu pob atgof am ei frawd Galio ac am Phidias, y caethwas a'i lladdodd ac a groeshoeliwyd. Yfodd yntau fel y milwyr eraill, ond ni châi flas ar y gwin; ceisiodd yntau glebran a rhegi a chwerthin yn uchel, ond gwyddai ei fod fel dyn sobr yn cymryd arno fod yn feddw; chwaraeodd yntau disiau am oriau meithion, ond yn beiriannol a difater y gwnâi hynny, heb falio ai ennill ai colli yr oedd. A gwyddai yn ei galon na ddeuai anghofrwydd ar hyd llwybrau mor rwydd.
Hiraethai am Rufain; am ei dad, y Seneddwr Albinus; am ddwyster tawel ei fam; am ei chwaer Tertia a'i chwerthin a'i direidi; am blas ei gartref a'i gysur a'i gyfoeth a'r gerddi cain o'i amgylch ef; am gyfeillion y Coleg a'r llysoedd barn ac am ddadleuon ffyrnig â'i gyd—fyfyrwyr ynghylch manion astrus y gyfraith. Ond yn lle bod yn gyfreithiwr ifanc yn Rhufain ac yn fab i'r Seneddwr blaenllaw, wele ef mewn gwersyll yn Jopa, yn ceisio ac yn methu camu ac ymsythu fel milwr.
Un hwyr o hydref, wedi syrffedu ar chwarae disiau yn y gwersyll, aeth allan i gerdded wrth lan y môr. Cyn hir eisteddodd ar ddarn o graig, gan deimlo'n unig iawn. Yr oedd y môr yn borffor gloyw o'i flaen a nef y gorllewin yn oraens ac aur a thân. Syllodd yn drist dros y tonnau. Ar gefndir gogoniant machlud fel hwn y gwelsai'r caethwas Phidias yn hongian ar groes. Ac wrth gofio hynny aeth meddwl Longinus yn derfysg i gyd.
Nid caethwas yn unig a fuasai Phidias yn y plas yn Rhufain; yn wir, edrychai'r llanc Longinus arno fel cyfaill, bron fel aelod o'r teulu. Rhoesai ei dad arian mawr amdano yn y farchnad, fel anrheg i'w fab pan ddaeth Longinus i oed a chael gwisgo'r toga fel dinesydd Rhufeinig, ac yr oedd Phidias yn werth pob drachma o'r arian hynny. Yr oedd yn ddyn ifanc hardd a chryf, o deulu hynod yng Ngroeg, yn ddeallus a dysgedig a dwys; ond yn anffodus, daliwyd ef a llu o wŷr ifainc tebyg iddo mewn cynllwyn yn erbyn y Rhufeinwyr. Llusgwyd hwy ymaith i'w gwerthu ym marchnad y caethion yn Rhufain.
Yn anffodus i'r Groegwr, ond yn ffodus i'r bachgen Longinus. Oherwydd yr oedd Phidias yn fyfyriwr ac yn athronydd, a buan y dechreuodd agor meddwl ei feistr ifanc i ryfeddodau llenyddiaeth Roeg. A chyn hir gadodd y Seneddwr Albinus i Phidias fod yn fwy o athro a chynghorwr nag o gaethwas i'w fab, ac fel y llithrai'r blynyddoedd heibio daeth y llanc i edrych ar y Groegwr fel ei gyfaill pennaf. Ato ef y rhedai ym mhob dryswch ac ar ei farn ef y gwrandawai bob amser. A phan benderfynodd Longinus fynd yn gyfreithiwr, treuliai'r caethwas ei oriau hamdden i gyd yn astudio'r gyfraith; yn wir, dysgai'r Rhufeinwr ifanc fwy yng nghwmni Phidias nag a wnâi wrth draed ei athrawon.
Cododd Longinus oddi ar y darn o graig yr hwyr hwnnw yn Jopa a cherddodd yn anniddig ar hyd y llwybr creigiog tua'r porthladd a'r dref. "Phidias, Phidias," a sisialai'r tonnau ar y traeth islaw, ac erbyn hyn diferai dafnau o waed tros aur ac oraens y machlud.
Byddai diwedd enbyd Phidias yn gysgod tros ei fywyd oll. Ni fedrai fyth ddileu o'i feddwl a'i freuddwydion y darlun ofnadwy o'r caethwas hoff yn hongian ar groes.
Safodd ar y llwybr, gan wrando ar sŵn chwerthin merch islaw ar rimyn o dywod. Oni bai mai yn Jopa ac nid yn Rhufain yr oedd, taerai mai llais ei chwaer Tertia a ddeuai o'r gwyll. Cofiodd ei bod hi gydag ef yn yr ardd y bore hwnnw pan lithiwyd ymaith holl lawenydd ei fywyd. A chwerthin yr oedd hi y pryd hwnnw, yn llon ac uchel fel yr eneth hon ar y traeth oddi tano, a'i llais yn ugeiniau o glychau arian. Oedd, yr oedd Tertia gydag ef, ond rhedodd i'r tŷ pan ddaeth Galio i mewn i'r ardd.
Ei frawd oedd Galio, gartref am ysbaid o'r Fyddin.
Aethai i wledd y noson gynt a bu ef a'i gyd-swyddogion yn gloddesta drwy gydol y nos. Yr oedd yn feddw pan ddaeth i mewn i'r ardd, a'i lygaid yn gochion a'i lafar yn floesg.
"Beth yw hwn 'na?" gofynnodd i Longinus, gan nodio'n ysgornllyd tua rhòl a oedd yn ei ddwylo.
"Traethawd enwog ar Wleidyddiaeth. Gan Aristoteles."
"Aris—pwy?"
"Aristoteles."
"O. A phwy yw hwnnw pan fo gartref?"
"Pwy oedd hwnnw, Galio. Groegwr, a fu farw dros dri chant o flynyddoedd yn ôl. Sefydlodd Goleg yn Athen."
"Hm."
Daliodd ei law allan am y rhòl, ac estynnodd Longinus hi iddo. Agorodd hi a darllen:
'Dylai dynion gael ymroddi i fusnes yn ogystal â mynd i ryfel. Ond hamdden a heddwch sydd orau . . . Felly! Felly! Y mae bod yn hen wlanen gartref mewn hamdden a heddwch yn well na bod yn filwr?"
Gwyliai'r caethwas Phidias, a safai gerllaw, y ddau frawd annhebyg hyn, un yn fwli swnllyd a'r llall yn freuddwydiwr tawel.
"Ho'n wir! Hamdden a heddwch, ai e? Y mae'n debyg na wyddai'r hen fenyw o athronydd sut i afael mewn cleddyf heb sôn am ei ddefnyddio!"
Tynnodd Galio'i gleddyf o'r wain a'i chwifio'n beryglus o flaen Longinus, gan chwerthin yn feddw.
"Galio! Rho'r cleddyf yn ei ôl."
"Ho'n wir! Hamdden a heddwch sydd orau? Bod gartref wrth glun fy mam yn lle mynd i weld y byd! Ho, ho, ho!"
Gwthiodd ei gleddyf yn ôl i'r wain ac yna cydiodd yn y rhòl â'i ddwy law, gan geisio'i rhwygo'n ddau. Ond yr oedd y memrwn yn rhy gryf o lawer i hynny. Gwylltiodd Galio a thynnodd ei gleddyf allan eto. Daliodd y rhòl yn ei law chwith a chododd ei gleddyf yn ffyrnig, gan feddwl slasio'r memrwn yn ddarnau.
Neidiodd y caethwas ymlaen a chipio'r rhòl o'i law.
Safodd Galio yn syn, ennyd, heb wybod yn iawn beth a ddigwyddasai. Edrychodd yn ffôl ar ei law chwith, a'i geg yn agored, ac'yna rhythodd yn hir ar Phidias fel petai'n methu credu i gaethwas feiddio ymyrryd ag ef. Rhegodd, a chamodd ymlaen i'w drywanu â'i gleddyf.
Ond cyn iddo daro, cydiodd Phidias yn y llaw a ddaliai'r cleddyf, ac aeth yn ymdrech ffyrnig rhwng y ddau. Gwthiwyd y caethwas yn ôl o laswellt yr ardd i'r llwybr caregog gerllaw, ond yno safodd, a chyda thro sydyn, hyrddiodd y cleddyf o law ei wrthwynebydd meddw. Baglodd Galio, a gwelai Longinus ef yn honcian yn ei ôl ar hyd y llwybr mewn ymdrech wyllt i gadw ar ei draed. Yna syrthiodd, a chlywodd Longinus a'r caethwas mewn dychryn sŵn ei ben yn taro ar un o'r meini callestr hyd ymyl y llwybr. Ochenaid, ac yna llonyddwch.
"Phidias! Phidias! Ymaith â thi ar unwaith!"
Tynnodd Longinus hynny o arian a oedd ganddo o'r pwrs yn ei wregys a gwthiodd hwy i law'r caethwas.
"Na, Syr, na.
Ond pa un bynnag, yr oedd hi'n rhy hwyr. Rhuthrai Darius, pennaeth y gweision, o gyfeiriad y tŷ. Aeth Phidias ymaith yn ufudd gydag ef.
Brysiodd Longinus i'r ddinas i ymbil â'i dad tros y caethwas. Ond ofer fu ei ymchwil amdano. Nid oedd yn y Senedd-dŷ, nid oedd yn y Fforwm, nid oedd yn un o'r Praetoria, nid oedd ym mhlas y Tywysog Gaius. Wedi hir chwilio, deallodd i'r Seneddwr Albinus gael ei alw ymaith yn sydyn i weld yr hen Ymerawdwr Tiberius yn Ynys Capri. Dychwelodd Longinus adref a chael bod y caethwas wedi'i drosglwyddo i ddwylo'r milwyr.
Fel y safai ar y llwybr wrth draeth Jopa y noson honno o hydref, gwelai Longinus groes yn erbyn aur a gwin a gwaed y machlud. Cofiodd fel y rhuthrodd o le i le drwy'r dydd hwnnw pan ddaliwyd Phidias a'i garcharu—i grefu ar rai o gyfeillion ei dad, ar bob Seneddwr a adwaenai, ar rai o swyddogion y Fyddin, ar weinidogion y Tywysog Gaius, ar rywun â dylanwad ganddo. Cafodd addewidion a hanner addewidion, a charlamodd yn ffyddiog i'r gwersyll lle'r oedd y caethwas. Y caethwas a laddodd filwr? gofynnodd rhyw ganwriad anfoesgar iddo. O, yr oedd hwnnw'n derbyn ei haeddiant. Os hoffai Longinus fynd am dro i lawr at Domen y Grog wrth yr afon—a chrechwenodd y dyn.
Ar ei ffordd i lawr tua'r afon Tiber, yr oedd meddwl y cyfreithiwr ifanc yn drobwll chwyrn a'r addewidion a'r hanneraddewidion fel crinddail yn troelli ynddo. Pan ddaeth i olwg Tomen y Grog, gwelai fod amryw o groesau wedi'u codi arni. Rhuthrodd ymlaen ag ofnau yn dân a niwl yn ei ymennydd; yn wayw llachar, ennyd, ac yna'n gaddug a'i dallai'n llwyr. Caethwas o'r enw Phidias? meddai'r canwriad a ofalai am y milwyr yno. Y drydedd groes. A throes ymaith i siarad â rhai o'i wŷr. Cydiodd Longinus yn wyllt yn ei fraich. Gwelsai'r Seneddwr Paulus, meddai, a'r Seneddwr Antonius a'r Seneddwr Tristus a buasai yn swyddfa'r Cadfridog Lucianus ac yn . . . A oedd ganddo warant i atal y cosbi? gofynnodd y canwriad. Nac oedd, ond yr oedd yn fab i'r Seneddwr Albinus a gwyddai y byddai'i dad, cyn gynted ag y dychwelai o Ynys Capri, yn ymyrryd i geisio achub y caethwas. Cododd y canwriad ei ysgwyddau: cawsai ef ei orchmynion, a rhaid oedd iddo wneud ei ddyletswydd, onid oedd?
Yn araf, fel pe mewn llesmair, cerddodd Longinus i gyfeiriad y groes. Chwarddodd milwr yn rhywle gerllaw, a swniai'r llais fel un o fyd ac o oes arall. Trawodd ei droed yn giaidd yn erbyn carreg finiog, ond prin y teimlai'r boen. Draw ymhell bell, gyfandiroedd a chanrifoedd i ffwrdd, yr oedd y machlud yn fflam. Ac o'i flaen, yn ofnadwy o agos, yn rhy agos i fod yn gelwydd, yr oedd y ffyddlonaf a'r harddaf o wŷr ar groes a'i wyneb yn ing cyfrodedd.
"Phidias!"
Ciliodd rhychau'r arteithiau, dro, a llithrodd gwên gysurlawn i'r llygaid. Dihangodd Longinus a'i galon yn floedd o'i fewn. Curodd eto wrth ddrysau'r Seneddwr Paulus a'r Seneddwr Antonius a'r Seneddwr Tristus a'r Cadfridog Lucianus, ond oeraidd fu ei dderbyniad. Rhaid bod y caethwas yn un peryglus iddo gael ei gosbi mor ddiymdroi, ac wedi'r cwbl, nid oedd ond caethwas a mawr oedd ei drosedd. Yr oeddynt hwy'n sicr y cytunai'r Seneddwr Albinus, pan ddychwelai o Gapri, â'r ddedfryd; ni allai Rhufain, yn arbennig yn y dyddiau direol hyn, fforddio bod yn dirion. Dyn a wyddai beth fyddai'r canlyniad pe dechreuent roi lle i feddalwch . . . Mentrodd Longinus i blas y Tywysog Gaius. Yr oedd ef mewn gwledd ac yn hanner—meddw cyn iddi ddechrau, a hyd yn oed pe gallai Longinus ei weld, byddai Gaius yn falch o gyfle i chwerthin am ben mab i'r Seneddwr Albinus casâi unrhyw un a oedd yn ffafr yr Ymerawdwr. Yn ei ôl ag ef at y Seneddwyr, ond collent hwy amynedd erbyn hyn nid oedd caethwas yn werth yr holl helynt hon: yr oeddynt yn ddigon rhad yn y farchnad: pe prynai'r Seneddwr cyfoethog ddwsin yn ei le, ni fyddai'i bwrs yn llawer ysgafnach.
Oddi tano, o'r rhimyn tywod ar draeth Jopa, daeth eto chwerthin y ferch â'i llais mor debyg i un ei chwaer Tertia. Gwelai Longinus bedair o enethod yn dringo'r creigiau i'r llwybr lle safai ef, ac ymhen ennyd camodd o'r neilltu iddynt fynd heibio iddo. Dim ond marwydos oedd y tân yn y gorllewin erbyn hyn, ond ymhell o'i ôl, tros ysgwydd un o fryniau Effraim, dringai'r lloer fel olwyn arian i blith y sêr. Llithrodd troed un o'r merched ar ddarn o wymon ar y llwybr, a chydiodd Longinus yn ei braich.
"Maddeuwch imi."
"Maddau i chwi! Oni bai i chwi gydio ynof buaswn wedi syrthio."
Llais Tertia i'r dim. Wyneb a gwallt Tertia hefyd.
"Y mae'n beryglus i ferched ifainc grwydro mor hwyr i le mor unig."
"O, yr ydym yn bedair. A gallai Maria lorio dwsin of ddynion!"
Nodiodd, gan chwerthin, tua'r gawres wrth ei hochr: gwenodd Maria.
"Ond yr ydym yn ddiogel yn awr," chwanegodd y ferch, "â chanwriad Rhufeinig i'n gwarchod."
Cerddodd Longinus yn ôl gyda hwy, ac yr oedd siarad a chwerthin y ferch fel awel iach i un ar fygu yng nghell ei atgofion. Deallodd mai ei henw oedd Rwth, fod ei chartref yn Arimathea rai milltiroedd i ffwrdd, fod ei thad yn aelod o Brif Gyngor yr Iddewon, fod ei brawd Othniel yn glaf o'r parlys, fod—ond yn wir, cafodd hanes y teulu oll gan yr eneth lon a didwyll. Mor ddiniwed ac ymddiriedus â Thertia! meddai wrtho'i hun, gan ddychmygu mai ei chwaer a barablai ac a chwarddai wrth ei ochr. Yr oedd yn falch pan addawodd hi ei gyfarfod eto y noson wedyn.
Dim ond y ddwywaith hynny y gwelodd Longinus Rwth yn Jopa. Dychwelodd hi i Arimathea ac anghofiodd ef am y ferch a oedd mor debyg i'w chwaer Tertia. Ond ymhen rhai misoedd, cafodd gyfle i fynd adref i Rufain am dro, ac ar y fordaith yn ôl i Ganaan achubodd y Roeges fach o'r môr. Pan gyrhaeddodd Jopa a dyfalu beth a wnâi ag Alys, cofiodd am yr eneth o Arimathea a'i sôn am y plas o dŷ lle trigai ac am ei thad, Cynghorwr pendefigaidd. Mentrodd ddwyn Alys yno gan erfyn ar y teulu ei chymryd fel caethferch. Galwai yn Arimathea yn weddol aml wedyn—i holi am Alys, i fwynhau parabl a chwerthin Rwth, ond yn bennaf oll i ymgomio â'i brawd Othniel, y meddyliwr a'r breuddwydiwr tawel. Yn anffodus, credai Rwth mai i'w gweld hi y deuai, a mynnai ei dynnu ymaith o'r seiadau melys â'i brawd.
Dug y gyfathrach ag Othniel oleuni a hyder newydd i Longinus. Ailgydiodd mewn darllen ac astudio; magodd ddiddordeb mewn llenyddiaeth, mewn crefydd, mewn athroniaeth; cafodd ail afael mewn bywyd. Mawr fu ei siom pan glywodd ei fod i'w symud o Jopa i Jerwsalem, ond rhaid oedd ufuddhau i'r gorchymyn. Ni welai fawr ddim o Othniel o hyn ymlaen. Oni . . . oni châi ei gyfaill claf ei iacháu gan y Proffwyd. A oedd rhywbeth yn y storïau rhyfedd am y gŵr hwn o Nasareth, tybed?
Llithrai'r atgofion a'r meddyliau hyn drwy ymennydd Longinus ar ei ffordd i lawr tua Phorth Effraim, lle'r oedd i gyfarfod Rwth. Pan gyrhaeddodd y fan, nid oedd hi yno, a safodd yn gwylio'r pererinion llwythog yn llifo i mewn a heibio i'r Porth. Oedai tyrrau tu fewn i'r Porth ei hun hefyd, yn bargeinio a dadlau, yn cyfnewid profiadau blwyddyn, yn sisial yn ddwys, yn clebran a chwerthin. Siaradai amryw ohonynt mewn Groeg, yr iaith ryngwladol, a deallai Longinus eu hymddiddan hwy. Daethai hwn o Ynys Creta a chawsai fordaith anghysurus—y caethion a oedd wrth y rhwyfau yn ceisio ymryddhau a dianc mewn ystorm; hwn, y bargeiniwr ystyfnig a fygythiai ddwyn ei borffor bob cam yn ôl i'r Gogledd oni châi ei bris amdano, o Dyrus; hwn o Alecsandria, ac uchel ei frolio am yr athrawon a'r myfyrwyr Iddewig yn y ddinas ddysgedig honno; hwn—ond gwelai Longinus Rwth yn brysio tua'r Porth.
Aethant y tu allan i furiau'r ddinas a dewis y llwybr a droellai drwy Ddyffryn Hinnom gerllaw. Yr oedd hi'n dechrau nosi, ond codasai lloer y Pasg yn barod, a chyn hir byddai'r hwyr yn olau fel dydd.
"Bu bron imi â methu dod," meddai Rwth.
"O! Pam?"
"Tada.
Cefais dafod ganddo ddoe am fy mod i'n rhedeg ar ôl Rhufeinwr, chwedl yntau, a heno, pan welodd fy mod i ar frys i fynd allan.." Chwarddodd yn ysgafn wrth chwanegu, "Ond yr oedd 'Mam yn sbort."
"Rwth?"
"Ie?"
"Y mae arnaf eisiau siarad â chwi."
"O'r annwyl, yr ydych yn swnio mor ddifrifol â Thada." Chwarddodd yn ysgafn eilwaith, a chredodd Longinus eto am ennyd, fel y gwnâi bob amser yng nghwmni Rwth, mai ei chwaer Tertia a gerddai wrth ei ochr.
"Yr wyf am ddweud stori wrthych, Rwth, stori a fydd yn ateb cwestiwn y buoch yn ei ofyn imi droeon yn ddiweddar." "Pam yr aethoch i'r Fyddin yn lle mynd ymlaen fel cyfreithiwr?"
"Ie. Digwyddodd rhywbeth yn Rhufain i'm dychrynu'n ofnadwy. Ni ddywedaf yr hanes hwnnw wrthych, Rwth, ond collais yn yr helynt fy nghyfaill gorau, y cywiraf o ddynion. Ni allwn aros yn Rhufain, heb fynd yn lloerig; yr oedd popeth a welwn, popeth a wnawn, yn f'atgoffa am fy ffrind. Penderfynais ymuno â'r Fyddin, a thrwy ddylanwad fy nhad, gwnaed fi'n ganwriad yn fuan iawn. Gyrrwyd fi i Jopa, ond haws oedd gadael cartref nag anghofio. Y dyddiau cyntaf hynny yn Jopa ceisiais fod yn filwr diofal, gan dybio y gallwn sgwario f'ysgwyddau ac yfed a sôn am ferched a chwarae disiau cystal â neb yn y gwersyll."
"Chwi! Nid un felly a welais i ar y llwybr hwnnw wrth y môr y noson gyntaf imi'ch cyfarfod, Longinus."
"Na, buan y dysgais na allwn wneud milwr torsyth ohonof fy hun.
A'r noson honno, wedi hen alaru ar y gwersyll, crwydrais i lawr at y traeth am dro. Ond wrth syllu ar y machlud, yr oedd f'atgofion am fy nghyfaill mor fyw ac mor boenus ag erioed. Yna clywais chwerthin merch yn dod o'r tywod islaw imi."
"Fi, yr wyf yn siwr!"
"Ie, chwi, Rwth. Ond credais am ennyd mai llais fy chwaer Tertia a glywn. A dyna felys oedd y sŵn!"
"O!" Swniai Rwth yn siomedig. "Yr ydych yn onest, beth bynnag, Longinus.
"Ydwyf. Ac o fwriad, Rwth. Cerddais yn ôl i'r dref gyda chwi a'ch cyfeillion yr hwyr hwnnw, a'r noson wedyn, os cofiwch, aethom ein dau am dro hyd lan y môr. Ni welais mohonoch am rai misoedd ar ôl hynny.
"Naddo. Hyd oni ddaethoch ag Alys i Arimathea atom. O, dyna swil ac ofnus oeddych y tro cyntaf hwnnw, Longinus! Fel petaech yn disgwyl i'm Mam eich tafodi ymaith!" "Rwth, yn ystod y tri mis yr oeddwn i yn Jopa heb eich gweld . . .
"Ie?"
"Yr wyf am fod yn greulon o onest."
"Wel? Ond peidiwch â swnio fel petaech chwi ar fin fy nghondemnio i farwolaeth!"
"Yn ystod y tri mis na welais mohonoch, prin . . . prin y daethoch i'm meddwl. Cofiwn eich chwerthin weithiau, chwerthin fy chwaer Tertia—a dyna'r cwbl."
"O . . . Yr oedd . . . yr oedd gennych rywun arall yn Jopa?" "Neb."
Cerddodd y ddau am ysbaid heb ddywedyd gair. Teimlai Longinus yn gas tuag ato'i hun, ond gwyddai yn ei galon fod yn rhaid i'r ymgom hon ddigwydd yn hwyr neu'n hwyrach. Gwell yr onestrwydd hwn nag oeri tuag at yr eneth a'i hosgoi bob cyfle.
"Nid. . . nid i'm gweld i yr oeddych yn dod i Arimathea, felly?"
"Yr oeddwn yn unig iawn yn Jopa, yn unig a hiraethus, ac yr oedd cael rhedeg i lawr i Arimathea yn rhywbeth i edrych ymlaen ato—i holi hynt Alys, i gael y croeso rhyfeddol a roddai'ch mam imi, i sgwrsio ag Othniel, ac i . . . i chwerthin gyda Thertia."
"Tertia?"
"Fel fy chwaer Tertia y meddyliwn amdanoch, Rwth. Yr ydych yr un ffunud â hi. Yr un wyneb, yr un gwallt gloywddu, yr un llais, yr un chwerthin."
"Ac i weld eich chwaer y deuech i Arimathea!"
Chwarddodd Rwth, ond ni swniai'r chwerthin mor llon yn awr.
"Ac i sgwrsio ag Othniel, wrth gwrs," chwanegodd yn fingam ymhen ennyd. "Longinus?"
"Ie, Rwth?"
"Pam yr ydych yn dweud hyn oll wrthyf heno?"
"Bûm yn meddwl siarad â chwi ers tro. Ond nid oeddwn am ddifetha'r amser hapus a gawn pan ddeuwn i Arimathea. Hunanol oedd hynny, efallai. Yna, y tro diwethaf imi'ch gweld, soniais wrthych fy mod yn cael fy symud i Jerwsalem
"Do . . . Wel?"
"Yr oeddych yn siomedig iawn. Deuech chwithau, meddech, i Jerwsalem. Onid âi'ch tad ymlaen â'r tŷ a fwriadai'i godi yma, yna caech aros gyda chyfeillion. Yr ydych yn ifanc iawn, Rwth—fel fy chwaer Tertia. Ac yn eneth dlos iawn."
"Diolch."
"Gyn hir, efallai, dychwelaf fi i Rufain. Credwn pan ymunais â'r Fyddin nad awn byth yn ôl yno ac ailgydio yn fy ngwaith fel cyfreithiwr. Ond bûm gartref unwaith, ac nid oedd fy hiraeth am fy nghyfaill mor llethol ag yr ofnwn y buasai. Efallai . . . 'Wn i ddim . . . Arhosaf yn y Fyddin am flwyddyn neu ddwy, y mae'n debyg. Ond tra bo'r ferch dlos o Iddewes yn talu sylw i'r milwr Rhufeinig.
"Yn rhedeg ar ei ôl, medd 'Nhad!"
"Y mae ambell lanc hardd o Iddew yn troi llygad siomedig ymaith i chwilio am gariad arall. Ni wna hynny mo'r tro o gwbl. Hoffai'r milwr Rhufeinig gael bod yn ffrind calon i'r ferch dlos o Iddewes—ac i'w chariad hefyd . . . Wel, dyna'r bregeth, Rwth!"
"Nid oedd yn rhaid i chwi wastraffu cymaint o anadl, Longinus."
"O?"
"Nac oedd. Yr oeddwn innau am roi pregeth debyg i chwithau!" A chwarddodd Rwth yn llon unwaith eto.
Ai actio yr oedd? Ceisiai Longinus weld ei hwyneb yng ngolau'r lloer, ond cerddent dan gysgod brigau blodeuog yr hen olewydd a safai hyd fin y llwybr.
"Y mae'n dda gennyf glywed hynny, Rwth. Ofnwn y buaswn yn eich brifo. Ond yn awr gallwn fod yn ffrindiau mawr ac yn deall ein gilydd i'r dim."
"Gallwn, wrth gwrs. A gallaf finnau fynd allan gyda Gibeon yn Jerwsalem heb ofni i'r canwriad Rhufeinig ein gweld a thynnu'i gleddyf!"
"A phwy yw Gibeon?"
"A! Eiddigus, Longinus?"
"Ydwyf, os nad yw'n deilwng o'm chwaer fach Tertia! Os oes ganddo lygaid croes a thafod tew a choesau bandi, chwipiaf fy nghleddyf allan a thorri'i ben i ffwrdd."
Troesant yn ôl tua'r ddinas, gan breblan a chwerthin eu rhyddhad. Aeth Longinus gyda hi at ddrws Llety Abinoam yn Heol y Pobydd.
"Nos da, Rwth, fy chwaer fach."
"Nos da, fy mrawd mawr."
Oedd, yr oedd ei chwerthin mor debyg i un Tertia ag y gallai chwerthin fod. Ugeiniau o glychau arian.
Ni wyddai fod dagrau yn ei llygaid hi.