Yr Ogof/Pennod V
← Pennod IV | Yr Ogof gan T Rowland Hughes |
Pennod VI → |
V
Bore'r trydydd dydd yr wythnos. Ar y Rhodfa uchel lydan is Gyntedd y Gwragedd, buan y casglodd tyrfa i wrando ar y Nasaread. Wrth ei ymyl yr oedd wynebau gelyniaethus amryw o Ysgrifenyddion a Phariseaid a henuriaid; tu ôl iddynt, torf o bererinion astud, yn gwenu ac yn pwnio'i gilydd bob tro y dywedai rywbeth a wnâi i wŷr y Deml wingo; tu ôl iddynt hwythau, Ysgrifenyddion a Phariseaid eto, yn ceisio edrych yn ysgornllyd o ddifater ond, er hynny, yn pwyso ymlaen i glywed pob gair ac yn ddig wrth sŵn y bobl pan gollent rai geiriau.
Ymwthiodd Beniwda ymlaen. Gwelai fod Dan yn sefyll gyda nifer o Phariseaid ar y dde i'r siaradwr, a chyn bo hir canfu fod Amos a Saffan ymhlith y dorf. Ni nodiodd ar un ohonynt prin yr adwaenent ei gilydd tu allan i siop y gwehydd yn Heol y Farchnad.
Yr oedd y Nasaread hwn yn ifanc iawn, meddai wrtho'i hun. Ac yn gryf o gorff. Saer, onid e? Hoffai Beniwda'i weld wrth ei waith, a'r breichiau cryfion yn llunio trawstiau rhyw dŷ neu ysgubor neu'n naddu aradr i ryw ffermwr. O'i amgylch yr oedd rhyw ddwsin o'i ddisgyblion, pob un yn ifanc fel ef ac ar eu hwynebau ôl haul a gwynt. Gwŷr syml, didwyll, a'u holl sylw ar eu harweinydd. Sylwodd Beniwda hefyd ar eiddgarwch y bobl; yr oeddynt, yn amlwg, yn hanner-addoli'r dyn. Efallai fod Dan yn ei le, wedi'r cwbl. A hwn yn arwain y pererinion a Thera ar flaen ei filwyr, beth fyddai tri neu bedwar cant o Rufeinwyr?
Ond ai rhyddhau'r genedl oedd ei nod? Gwrandawodd yntau'n eiddgar, gan daflu ambell olwg ar wyneb Dan a cheisio darllen meddyliau'r gwehydd.
"Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab," meddai'r Nasaread. "Ac efe a ddaeth at y cyntaf ac a ddywedodd, Fy mab, dos, gweithia heddiw yn fy ngwinllan.' Ac yntau a atebodd, Nid af.' Ond wedi hynny efe a edifarhaodd ac a aeth.
"Yna aeth y gŵr at yr ail fab a rhoi'r un gorchymyn iddo. Mi a af, Arglwydd,' meddai hwnnw. Ond nid aeth.'
Wedi aros ennyd, edrychodd y Nasaread ar yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a'r henuriaid a eisteddai o'i flaen.
"Pa un o'r ddau," gofynnodd iddynt, "a wnaeth ewyllys y tad?"
Gwenai a winciai'r bobl ar ei gilydd.
"Y cyntaf," meddai un o'r Phariseaid yn sur.
"Yn wir meddaf i chwi,"—yr oedd brath yn y llais a fflach yn y llygaid yn awr—"â'r publicanod a'r puteiniaid i mewn i deyrnas Dduw o'ch blaen chwi."
Taniodd llygaid Beniwda yntau. Y publicanod, gweision taeog y Rhufeinwyr, a'r puteiniaid, y merched a oedd yn loetran yng nghyffiniau gwersylloedd y gormeswyr! Y cymeriadau hyn a ddirmygai pob Selot hefyd yn fwy na neb. Oedd, yr oedd y Rabbi ifanc o Nasareth, yn amlwg, yn Genedlaetholwr fe wyddai Dan y Gwehydd am beth y siaradai pan awgrymodd iddynt ddod i wrando ar hwn.
Gwelai Beniwda wynebau'r Phariseaid. Hoffent allu neidio ar eu traed a melltithio'r Proffwyd, ond tu ôl iddynt yr oedd twr o bererinion o Galilea. Mewn pwyll yr oedd doethineb.
"Daeth Ioan atoch yn ffordd cyfiawnder," aeth y llais ymlaen, "ac ni chredasoch ef. Ond y publicanod a'r puteiniaid a'i credasant ef. Chwithau, yn gweled, nid edifarhasoch wedi hynny fel y credech ef."
Nid oedd Beniwda mor sicr yn awr. Ioan? Y proffwyd a fu'n bedyddio lluoedd yn Iorddonen? Petai wedi sôn am y Selotiaid Jwdas o Gamala a Sadoc y Pharisead byddai mwy o synnwyr yn ei eiriau. Mentrodd y ddau hynny bopeth i geisio taflu ymaith iau'r gormeswyr, ond ni wnaeth y Bedyddiwr ond dwrdio'r bobl oherwydd eu pechodau a phregethu edifeirwch. Bu hwnnw hefyd, os cofiai Beniwda'n iawn, yn chwyrn wrth y Phariseaid a'r Sadwceaid, gan eu galw'n "wiberod." Ond pa siawns a oedd gan y bobl na'u harweinwyr, a'r Rhufeinwyr yn y tir? Unwaith y gellid clirio'r rheini ymaith, deuai popeth arall i'w le.
"Clywch ddameg arall," meddai'r Nasaread, a phwysodd y bobl ymlaen i wrando arno.
"Rhyw ŵr a blannodd winllan ac a osododd berth o ddrain yn ei chylch hi ac a gloddiodd ynddi winwryf ac a adeiladodd dŵr-gwylio rhag lladron. Gosododd hi i lafurwyr ac yna aeth oddi cartref dros dalm o amser.
"A phan nesaodd amser ffrwythau, efe a ddanfonodd was at y llafurwyr i dderbyn ei ffrwythau hi. A hwy a'i daliasant ef ac a'i baeddasant ac a'i gyrasant ymaith yn waglaw.
"A thrachefn yr anfonodd ef atynt was arall. Taflasant gerrig ato ef ac archolli'i ben a'i yrru ymaith wedi'i amharchu. "A thrachefn yr anfonodd efe un arall. A hwnnw a laddasant.
"Yna y dywedodd arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Mi a anfonaf fy annwyl fab: efallai pan welant ef y parchant ef.'
"Ond y llafurwyr hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw yr etifedd: deuwch, lladdwn ef, a'r etifeddiaeth a fydd eiddom ni.'
"Ac wedi iddynt ei ddal, hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan ac a'i lladdasant.
"Beth gan hynny a wna arglwydd y winllan? Efe a ddaw ac a ddifetha'r llafurwyr hyn ac a rydd y winllan i eraill." Yr oedd ystyr y ddameg yn amlwg i bawb, a gwyliai'r bobl y Phariseaid a'r Ysgrifenyddion a'r henuriaid â gwên fingam. Hwy oedd y llafurwyr twyllodrus, a'r gweision a ddanfonwyd atynt ac a laddwyd ganddynt oedd y proffwydi. Onid oedd bedd Eseia i lawr yn nyffryn Cidron gerllaw, ac onid gwŷr y Deml a'i llabyddiodd ef?
"Na ato Duw!" meddai rhai ohonynt mewn ofn. Edrychodd y Nasaread yn llym arnynt.
"Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr Ysgrythurau?" gofynnodd iddynt.
Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,
hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl.'
Am hynny, meddaf i chwi, y dygir Teyrnas Dduw oddi arnoch a'i rhoddi i genedl a ddygo'i ffrwythau."
Llafurwyr? Teyrnas Dduw? Ffrwythau? Testunau tebyg a oedd gan Ioan Fedyddiwr, cofiodd Beniwda, gan edrych yn siomedig at Dan. Disgwylai weld siom yn wyneb y gwehydd yntau, ond syllai ef ag edmygedd mawr ar y dyn. Fe welai Dan ryw obaith ynddo, wedi'r cwbl.
Camodd Pharisead a safai wrth ochr y gwehydd ymlaen. "Athro," meddai, a throes y Nasaread i wrando arno.
"Ni a wyddom dy fod yn eirwir ac nad oes arnat ofal rhag neb: canys nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion ond yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd . . ."
Rhyw ragymadrodd i ddenu holl sylw'r rabbi a'r bobl, meddyliodd Beniwda.
"Ai cyfreithlawn rhoi teyrnged i Gesar, ai nid yw? A roddwn, ai ni roddwn hi?"
Hwn oedd cwestiwn Dan y Gwehydd, a hoeliodd Beniwda'i sylw ar wyneb y Nasaread. Gwelai fod ei wefusai'n dynn a'i lygaid yn culhau. Nid atebodd am ennyd, dim ond edrych yn ddig ar y Pharisead a'i gyfeillion. Sylweddolodd Beniwda fod mwy yn y cwestiwn na chais Dan am ei gymorth yn erbyn y Rhufeinwyr. Clywsai fod y Phariseaid a gwŷr y Deml yn cynllwynio i'w ladd, ac os "Na" fyddai'i ateb, rhedent at y Rhaglaw i ddilorni'r terfysgwr peryglus ac i ofyn iddo'i daflu i un o gelloedd y Praetoriwm. Os "Ydyw" a ddywedai, yna fe gollai llawer o'r pererinion eu ffydd ynddo. Yr oedd cwestiwn Dan yn un onest a syml; ond ar fin y Pharisead, magl ydoedd. Ai Dan a ddymunodd ar y Pharisead ei ofyn trosto, tybed, er mwyn ei gadw'i hun o'r golwg? Yn fwy na thebyg, tybiodd Beniwda, ond efallai mai cyd-ddigwyddiad oedd i'r rhai hyn ofyn yr un cwestiwn.
"Pam y temtiwch fi, chwi ragrithwyr?" oedd yr ateb. Yna ymhen ennyd, ag awgrym o wên ar ei wefusau, daliodd y Nasaread ei law allan. "Dygwch imi geiniog fel y gwelwyf hi."
Estynnodd un ohonynt geiniog iddo a syllodd yntau arni. Edrychodd ar lun yr Ymerawdwr ar un ochr iddi ac ar yr argraff, ei deitlau Rhufeinig, ar y llall.
"Delw ac argraff pwy sydd arni?" gofynnodd.
"Eiddo Cesar," meddai'r Pharisead ac "wrth gwrs" yn ganiataol yn nhôn ei lais.
"Telwch chwithau eiddo Cesar i Gesar." Yna, a'r cysgod gwên yn diflannu o'i wefusau, "A'r eiddo Duw i Dduw."
Ni allai doctoriaid y Gyfraith, meddyliodd Beniwda, osgoi'r fagl yn fwy deheuig. Ni chytunai ag ef—ni ddylid talu dimai goch i Gesar—ond er hynny edmygai'i feddwl chwim a dwyster ei frawddeg olaf. Troes rhai o'r Phariseaid ymaith yn sarrug eu gwedd, a llefodd rhywun "Bw!" ar eu holau.
Beth a wnâi Dan yn awr, tybed? Gwelai Beniwda ef yn camu o'r neilltu, i rai o wŷr y Deml, Sadwceaid fel ei dad, gael ymwthio ymlaen i ofyn cwestiynau i'r Nasaread.
"Athro," meddai'r blaenaf ohonynt, "dywedodd Moses, 'Os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef . . . '
Ond gwelai Beniwda fod y gwehydd yn cerdded ymaith, gan gymryd arno nad oedd ganddo ef ddiddordeb yn y pwnc newydd. Dilynodd Saffan ef ymhen ennyd, yna cofiodd Amos yn sydyn ei fod i gyfarfod rhywun yn y ddinas, ac wedi iddo ef fynd o'r golwg brysiodd Beniwda yntau i lawr y grisiau o'r Rhodfa a thrwy Gyntedd y Cenhedloedd ac o’r Deml.
Pan gyrhaeddodd y siop yn Heol y Farchnad, yr oedd y lleill yno o'i flaen, ond ni throesai'r sgwrs eto at y Nasaread. Yr oedd rhyw ddieithryn yn y siop, a dyheai pawb am iddo ymadael. Pan aeth o'r diwedd, croesodd Ben-Ami at fainc ei dad â chwrlid hardd yn ei ddwylo.
"Hoffwn drio'r un patrwm mewn oraens a gwyrdd," meddai. ". . . Wel, 'Nhad?"
"Y mae arnaf eisiau iti fynd i'r bryniau at Tera," atebodd Dan.
"I ddweud wrtho ef a'i filwyr am gychwyn?"
Cymerodd Dan y cwrlid oddi arno ac ysgydwodd ei ben. "Nage, i'w atal
Nodiodd Amos a Saffan Apeliodd llygaid gwyllt Ben-Ami at Feniwda, ond edrychodd ef ymaith. Os gwir a ddywedai Dan y Gwehydd am amharodrwydd Tera a'i filwyr, yna aros ysbaid eto a oedd raid.
"O, y mae'n fodlon talu'r deyrnged i Rufain, felly?" meddai Ben-Ami'n ddirmygus. Cyfaill publicanod a phechaduriaid,' yn wir! Ond nid oes angen y Nasaread arnom, 'Nhad. Pe deuai Tera a'i wŷr i'r ddinas, fe godai'r pererinion fel un dyn. Y mae Tera yn werth dwsin o'r Nasaread hwn."
"O? Sut y gwyddost ti?" gofynnodd Dan yn dawel. Nid atebodd Ben-Ami: gan na chlywsai ef erioed mo'r Nasaread, nid oedd ganddo ateb.
"Y mae'n well iti baratoi i gychwyn," meddai'i dad wrtho. "A dywed wrth Tera.
Cododd Dan oddi ar ei fainc a chamu'n arafi ganol y siop. Daliodd y cwrlid i fyny i'r golau. Yr oedd pob llygad arno.
"Dywed wrth Tera am yrru unrhyw neges sy ganddo i Saffan o hyn ymlaen."
Rhoes y cwrlid yn ôl i Ben-Amiac yna troes tua'r drws.
"Byddaf yn y Deml os bydd ar rywun eisiau fy ngweld," meddai. "Ar y Rhodfa, yn gwrando ar y Proffwyd o Nasareth."
Aeth Dan ymaith, a syllodd pawb yn syn ar ei gilydd. 'Y Proffwyd o Nasareth '? Nid y Nasaread.' Rhaid bod y dyn wedi gwneud argraff ddofn ar Dan y Gwehydd. Mor ddofn nes iddo ddymuno i Saffan gymryd ei le fel llywydd answyddogol y Blaid. Safai Ben-Ami'n ffwndrus â'r cwrlid yn ei ddwylo: anghofiodd yr hen Lamech gribo gwlân: cododd Saffan oddi ar y fainc yn y gornel gan feddwl rhuthro ar ôl Dan.
Allan wrth y drws, chwibanai rhywun alaw hen ddawns werin yr oedd Rhufeinwyr gerllaw.
"Hi, hi, hi!" chwarddodd yr hen Lamech. "Yr oedd Tamar wedi meddwi cymaint nes gorfod ymbalfalu ar hyd y waliau a'r drysau bob cam adref. Ac wrth fynd drwy Heol y Pysgod, daeth yn sydyn at ddrws agored. 'Hei! 'gwaeddodd, Wnewch chwi gau'r drws 'ma, os gwelwch chwi'n dda, er mwyn imi gael pasio?' Hi, hi, hi!"
Ymunodd pawb yn y chwerthin fel yr edrychai dau Rufeiniwr i mewn i'r siop. Ond chwerthin dienaid, annaturiol, ydoedd.
Dechreuai Alys fynd yn bryderus. Clywsai fod y Proffwyd yng nghyffiniau'r ddinas, ond a gâi hi gyfle i ymbil arno tros Othniel? Yr oeddynt yn rhy hwyr i'w weld y diwrnod y daethant i Jerwsalem, a ddoe aethai ef ymaith wedi iddo ddychrynu'r gwerthwyr a'r cyfnewidwyr arian yng Nghyntedd y Cenhedloedd. A fentrai ef yn agos i'r Deml heddiw, tybed?
Ar ei ffordd tuag ystafell ei meistres, camodd o'r neilltu i'r gwestywr tew gael bustachu heibio iddi. Safodd ac edrych arni.
"Nid Iddewes ydych chwi?" gofynnodd.
"Nage, Syr. Groeges. O Athen."
"Sut y daethoch chwi i'r wlad yma?"
"Cael fy achub o'r môr, Syr. Y llong yn suddo mewn ystorm. Boddwyd fy nhad a'm mam."
"Hm. Felly! Felly'n wir!" Yr oedd llais Abinoam yn dosturiol. "Ac y mae'r Cynghorwr a'i deulu'n garedig wrthych?"
"Yn hynod felly, Syr."
"Ydynt, y mae'n amlwg, yn gadael i chwi ddod am dro i Jerwsalem fel hyn. A fuoch chwi'n gweld y Deml?"
"Naddo, ddim eto, Syr. Yr oeddwn i wedi meddwl cael mynd bore ddoe, ond clywais fod rhyw helynt yno."
"Helynt? O, y Nasaread? Fe wnaeth yn iawn â hwy. A gobeithio y bydd yn troi byrddau meibion yr hen Falachi heddiw eto.'
"Y Proffwyd o Nasareth, Syr?"
"Ie. Clywais ei fod i fyny yno y bore 'ma eto. Hy, hy, hy, fe wnaeth yn iawn â'r gweilch. Twyllwyr digydwybod, bob un ohonynt. . . Wel, bendith arnoch chwi, 'merch i."
"Diolch, Syr."
Wedi i Abinoam honcian heibio iddi, gan duchan fel petai'n llusgo darn o'r tŷ o'i ôl, cerddodd Alys yn gyflym tuag ystafell Esther. Y bore 'ma, y bore 'ma amdani, meddai wrthi ei hun. Curodd ar y drws yn frysiog, gan anghofio am ennyd mai caethferch ydoedd.
"Ie?" Llais ei meistres.
"Alys sydd yma, Ma'm. A gaf fi eich gweld am ennyd?"
"Dewch i mewn, Alys."
Agorodd y Roeges y drws a gwelai Esther yn eistedd ar bentwr o glustogau, a Rwth yn trin gwallt ei mam, gan ei lunio i'r ffasiwn diweddaraf a welsai yn Jerwsalem y diwrnod cynt.
"Sut y mae'n edrych yn awr, Rwth?"
"O, y mae'n eich siwtio chwi'n wych, 'Mam. Yr ydych ddeng mlynedd yn ieuangach. Ydych, wir."
"Meistres?" mentrodd Alys.
"Tyrd â'r drych 'na imi, Rwth."
"Meistres?" meddai Alys eilwaith.
"Diolch, Rwth." Cymerodd Esther y drych a chwarddodd yn hapus wrth edrych ar ei llun ynddo. "Wel, wir, ni fydd dy dad yn f'adnabod i pan ddaw i mewn! A fydd yn ei hoffi, tybed? Efallai mai'n ddig y bydd."
"Meistres?"
"Ie, Alys?"
"Yr oedd un o'r morwynion yn dweud bod amryw o Athen i fyny yn y Deml bore 'ma. Hoffwn gael mynd yno i'w gweld, rhag ofn fy mod yn adnabod rhai ohonynt."
"Sut yr ydych chwi'n licio fy ngwallt i, Alys?"
"Y mae'n hardd iawn, Meistres. Dywedai'r forwyn fod..
"Ond ydyw'n lovely? Y ffasiwn ddiweddaraf, wyddoch chwi. Rwth a'i gwelodd ddoe yn nhŷ un o'i ffrindiau. Ym mhlas yr Archoffeiriad. Fel hyn y mae gwraig yr Archoffeiriad Caiaffas yn gwisgo'i gwallt yn awr.
Nid yw'n fy ngwneud yn rhy ifanc, gobeithio, Rwth?"
"O, nac ydyw, 'Mam. Y mae'n eich siwtio i'r dim. Y mae'n lovely."
"Ni wna'r tro imi edrych yn rhy ifanc, gan fod dy dad wedi gwynnu cymaint yn ddiweddar. Neu fe gredai pobl iddo briodi eto!
"Neu mai ei ferch . . ."
"Dywedai'r forwyn, Meistres . . ."
"Morwyn? Pa forwyn?"
"Un o forwynion y gwesty, Ma'm. Dywedai fod y Groegiaid sydd yn y Deml yn edrych yn wŷr ysgolheigaidd iawn. Efallai fod rhai o gyfeillion fy nhad yn eu plith."
"Efallai, wir. Rhedwch i fyny yno, rhag ofn, Alys beidiwch â bod yn hir. Rhyw awr . . . Wel, wir, a beth ddywed Beniwda, tybed, Rwth?"
"Diolch yn fawr, Meistres."
Ond ni wrandawai Esther: ei llun yn y drych oedd ei hunig ddiddordeb.
Brysiodd Alys o'r gwesty a thrwy'r tyrfaoedd a lanwai'r ystrydoedd sythion. Croesodd y bont enfawr tros Ddyffryn Tyropoeon, ond nid arhosodd i syllu i lawr ar y bobl a ymddangosai fel morgrug hyd yr heolydd ymhell islaw. I mewn â hi drwy'r porth ysblennydd i Gyntedd y Cenhedloedd, y cwrt eang, swnllyd, a redai o amgylch y Deml Er gwaethaf ei brys a'i heiddgarwch am weld y Nasaread, arafwyd camau Alys gan ei syndod pan gyrhaeddodd y clawstyr rhyfeddol a ymestynnai ar hyd holl ochr ddeau'r Cyntedd. Ni wyddai y gallai dwylo dynion adeiladu'r fath firagl o le na chodi'r fath gewri o golofnau marmor. Gellid rhoi dwsin o demlau mwyaf Athen i mewn yn hwn, meddyliodd, fel y syllai ar y toeau uchel o goed cedr. O uchelder aruthr un o'i dyrau y gwyliai offeiriaid bob bore am lewych cyntaf y wawr cyn seinio'u hutgyrn arian. Teimlai Alys yn fychan ac yn unig iawn.
Tynnai pob sandal a phob llais eco o furiau a cholofnau'r clawstyr, gan bwysleisio pob ennyd o dawelwch llwyr, ond tu allan iddo yn y Cyntedd ei hun, yr oedd fel petai dadwrdd holl ffeiriau'r byd wedi'i grynhoi i un man. Brefau anifeiliaid, cŵyn colomennod, crochlefain gwerthwyr, lleisiau chwyrn cyfnewidwyr arian, dadlau a chlebran mewn llawer iaith yr oedd marchnad fwyaf Athen yn dawel wrth y lle hwn. Tybiai Alys fod nid cannoedd ond miloedd o bererinion ynddo, a chofiai iddi glywed bod y Deml oll yn dal ymhell dros ddau can mil o bobl.
Aeth ymlaen tua'r grisiau marmor a ddringai i'r Deml, ond rhyngddi a hwy yr oedd mur isel. Wrth bob adwy ynddo yr oedd y rhybudd llym:
NA FYDDED I UN ESTRON FYNED I MEWN
I'R CAEADLE O AMGYLCH Y LLE SANGTAIDD.
PWY BYNNAG A DDELIR YN GWNEUTHUR HYNNY,
EF EI HUN FYDD YR ACHOS I ANGAU EI ODDIWES.
Ni châi Alys fynd gam ymhellach, felly. Safodd yn drist, a'i llaw ar farmor oer y mur, gan wylio'r lluoedd a frysiai drwy'r adwyau. Clywodd y gair "Nasareth" a dilynodd â'i llygaid y gŵr a'i dywedodd. Gwelai ef a'i gydymaith yn cyrraedd y Rhodfa lydan islaw rhes arall o risiau ac yna'n troi i'r chwith i ymuno â thyrfa a wrandawai ar rywun yn llefaru wrthynt. Y Proffwyd. Ie, meddai'i chalon yn wyllt wrthi, ie, y Proffwyd o Nasareth a ddysgai'r bobl hyn. Yr oedd mor agos—ac eto mor bell.
Yn sydyn gwelodd Beniwda'n dyfod i lawr y grisiau tuag ati. Symudodd i ffwrdd rhag iddo'i chanfod, gan lechu tu ôl i dwr o bererinion cyffrous a oedd newydd weld ei gilydd am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd. Wedi iddo fynd o'r golwg, dychwelodd at yr adwy yn y mur. ANGAU? meddai wrth lythrennau aur yr hysbysiad.
Pa wahaniaeth? Yr oedd yn werth marw i gyrraedd y Proffwyd.
Tynnodd ei phenwisg yn is tros ei thalcen, a phan aeth bagad o bobl drwy'r adwy dilynodd hwy, gan gadw'i phen i lawr. Troes hithau i'r chwith pan gyrhaeddodd y Rhodfa, a brysiodd i ymuno â'r dyrfa a wrandawai ar y Proffwyd. Yn ffodus iddi, yr oedd nifer mawr o wragedd yn eu plith ac felly ni thynnai sylw.
Na, nid y gŵr o Nasareth oedd hwn yr oedd hwn yn rhy ifanc i fod yn Broffwyd ac i wneud rhyfeddodau fel y rhai y soniai Elihu ac Othniel amdanynt. Ac eto, er ei fod yn ifanc—tua'r un oed ag Othniel, efallai—llefarai fel un ag awdurdod ganddo. Ni ddeallai Alys ei eiriau, gan mai yn iaith yr Iddewon y siaradai, ond gwyliai'n awchus bob mynegiant ar ei wyneb a phob ystum a wnâi â'i ddwylo. Ac ymhlith y dyrfa yr oedd amryw o ddeillion a chloffion a rhai cleifion a gludwyd yno gan gyfeillion. Ie, y Proffwyd o Nasareth a oedd o'i blaen wedi'r cwbl, a mynnai gael gair ag ef.
Ond, a hithau heb hawl i fod ar y Rhodfa, ni fentrai ymwthio ymlaen drwy'r dorf i ymbil arno. Pe gwyddai rhai o'r Iddewon hyn mai Groeges ydoedd hi, galwent blismyn y Deml i'w dal a'i lladd. "Ymhen awr," oedd gorchymyn ei meistres, ac aethai hanner yr awr honno heibio'n barod. Pe byddai ganddi ddigon o amser i aros fel rhai o'r cleifion hyn ar fin y dorf, gallai ddilyn y Proffwyd pan adawai'r Deml, ac erfyn ar ei ddisgyblion ei dwyn hi ato. Ond os digwyddai ei meistres chwilio amdani a chael ei bod hi heb ddychwelyd, fe wylltiai a . . . a phenderfynu ei chynnig i'r hen Joctan efallai.
Clywodd law yn cydio yn ei braich.
"Elihu!"
Ni ddywedodd yr hen gaethwas air, dim ond ei harwain ymaith i fin y Rhodfa. Yr oedd dychryn yn ei lygaid.
"Nid oes gennych hawl i fod yma, Alys. A wyddoch chwi'r penyd am ddod ymhellach na Chyntedd y Cenhedloedd?"
"Gwn. Cael fy lladd."
"Ie. Rhaid i chwi fynd oddi yma ar unwaith. Dewch. "Dof i lawr gyda chwi."
"Nid cyn imi gael gweld y Proffwyd, Elihu."
"Dewch. Dacw ddau o blismyn y Deml yn dod i lawr o Gyntedd y Gwragedd. Dewch, brysiwch."
Gafaelodd eto yn ei braich a'i thynnu ymaith. Ond safodd Alys ac ymryddhau.
"Yr wyf am weld y Proffwyd, Elihu, penyd neu beidio. Efallai mai hwn yw'r unig gyfle a gaf."
Er gwaethaf ei fraw, gwenodd yr hen gaethwas arni. Yr oedd hi'n ddewr iawn.
"Nid oes obaith i chwi ei weld yn awr, Alys. Y mae tyrfa o'i amgylch a llawer o Phariseaid a Sadwceaid yn gofyn cwestiynau iddo. Yn ceisio'i faglu ef. He, ac yn methu bob cynnig!"
Cadwai Elihu ei lygaid ar y ddau blisman fel y siaradai. Croesent y Rhodfa yn awr a chychwyn i lawr y grisiau i Gyntedd y Cenhedloedd. Pwyntiodd yntau i fyny tua'r Deml er mwyn i Alys droi'i chefn arnynt. Dringai'r grisiau llydain uwchlaw iddynt at fur Cyntedd y Gwragedd, ac yn y mur yr oedd pedwar porth a phres pob clwyd yn loyw yn yr haul. O Gyntedd y Gwragedd wedyn dringai grisiau i Gyntedd Israel a Chyntedd yr Offeiriaid, ac oddi yno eto risiau ysblennydd at furiau claerwyn y Deml ei hun. Ac yn goron ar y cwbl disgleiriai aur y gromen enfawr uwchben.
Ond am ei neges y meddyliai Alys.
"Beth a wnaf fi, Elihu? Y mae'n rhaid imi gael ei weld." "Dim gobaith y bore 'ma, y mae arnaf ofn, Alys. Ond efallai . . .
"Ie, Elihu?"
"Efallai y medraf gael gafael ar rai o'i ddisgyblion. Ond 'chewch chwi ddim aros i fyny yma. Os ewch chwi i lawr i'r clawstyr acw ac eistedd ar un o'r meinciau yno, gwnaf fy ngorau glas i ddod ag un neu ddau o'i ddisgyblion atoch. Y munud yma amdani, cyn i'r plismyn 'ma ddychwelyd.'
"O'r gorau, Elihu."
Aeth Alys i lawr y grisiau a thrwy dryblith y Cyntedd i eistedd ar fainc yn y clawstyr. Gerllaw iddi, wrth y Porth, dolefai degau o gardotwyr, pob un yn swnio fel petai ar drengi. Ac wrth wrando arnynt, rhyfeddodd mor ddewr oedd Othniel, mor dawel a di-gwyn y dioddefai, gan geisio anghofio drwy ddarllen a myfyrio a gweu breuddwydion. O na lwyddai hi yn ei chais!
Cyn hir, gwelai'r hen Elihu ar y grisiau a chydag ef ddau ŵr ifanc tebyg iawn i'w gilydd, ond bod un dipyn yn hŷn na'r llall. Dau frawd efallai, meddyliodd hi. Yr oedd tafod a dwylo'r hen gaethwas wrthi'n egluro pethau'n huawdl iddynt.
"Dyma hi Alys," meddai, wedi iddynt ddod ati ddisgyblion y Proffwyd," chwanegodd wrth y Roeges. "A dau frawd, a barnu oddi wrth eu golwg!"
"Ie," meddai'r ieuangaf â gwên. "Ioan wyf fi a dyma Iago y mrawd."
Pur gloff oedd Groeg y gŵr ifanc, ond rhoes wynebau onest a chywir y ddau hyn obaith newydd yn Alys.
"Dywedais y stori wrthynt, Alys," meddai Elihu. Ac y maent yn tosturio'n fawr wrth fab ein meistr."
"Yn fawr iawn," sylwodd yr ieuangaf yn garedig.
"Ond ofnant na fedr y Proffwyd fynd mor bell ag Arimathea," chwanegodd yr hen gaethwas yn siomedig. "Ni wyddant pa ffordd y dychwelant i Galilea, ond. . . .
"Na wyddom," meddai'r hynaf o'r ddau ddisgybl. "Nid ydyw'r Meistr wedi sôn am hynny wrthym." A chredai Alys y taflai olwg bryderus ar ei frawd. "Ond pa ffordd bynnag a ddewis i droi'n ôl i'r Gogledd, ni fyddwn o fewn milltiroedd i Arimathea. Ni fuom erioed yn y rhan honno o'r wlad."
"Clywais fod llawer o gleifion yn cael eu dwyn ato," meddai Alys.
"Oes, llu p'le bynnag yr awn.' "Gwelais rai ohonynt gynnau.
"Yn cael eu dwyn drwy'r Cyntedd 'ma," sylwodd Elihu'n frysiog, rhag i'r ddau ddieithryn wybod i Alys fentro i fyny i'r Rhodfa.
"Ond y mae Othniel, mab ein meistr, yn wahanol iddynt hwy," meddai Alys yn daer. "Gŵyr y gall y Proffwyd ei iacháu, ond nid chwilio am iachâd yn unig y mae. Nid ceisio ffordd rwydd i ddianc rhag poen a gwendid ei gorff. Y mae'n feddyliwr ac yn fardd, yn gwybod hanes eich cenedl, yn astudio geiriau'ch Proffwydi chwi a doethion Groeg, fy ngwlad innau, yn myfyrio yn eich Cyfraith, yn disgwyl am eich Meseia. Ac wedi iddo glywed yr hanesion am eich Meistr, Syr,"—cydiodd Alys yn erfyniol ym mraich yr ieuangaf o'r ddau yr oedd rhyw olau rhyfeddol yn ei lygaid. Pe deuai'r Proffwyd i Arimathea, Syr, gwn y byddai'n falch o rannu'i weledigaeth ag Othniel. Ac fe enillai ddisgybl a'i dilynai drwy dân, Syr, yr wyf yn sicr o hynny. Drwy unrhyw beryglon, Syr. O, Syr, gedwch i mi gael ymbil ar y Proffwyd.'
Edrychodd Ioan ar ei frawd heb wybod beth i'w ddweud wrth y ferch: anodd oedd peidio ag ildio i'r taerineb hwn.
"Fe fydd y Meistr yma dros yr Ŵyl," meddai ymhen ennyd. "Byddwn yn bwyta'r Pasg gyda'n gilydd yn rhywle yn y ddinas. Ymh'le, ni wn. Ond cyn inni gychwyn yn ôl i Galilea . . . '
"Ie, Syr?" Daliai Alys i afael yn ei fraich ac edrychai'n eiddgar i fyny i'w wyneb.
"Daw un ohonom i'r gwesty lle'r arhoswch . . . "
"Gwesty Abinoam yn Heol y Pobydd, Syr."
"Daw un ohonom yno a chewch wybod ymh'le y bydd y Meistr.'
"O, diolch, Syr." Cronnai dagrau llawenydd yn llygaid Alys.
"Ond nid wyf yn meddwl y daw i Arimathea. Y mae'r ffordd yn bell a'r wlad honno'n ddieithr iddo. 'Wn i ddim." Gwenodd Ioan ar ei frawd wrth chwanegu, "Gwna'r Meistr ei feddwl i fyny yn o sydyn weithiau . . . Bendith arnoch chwi, Alys."
"Ac arnoch chwithau, Syr."
"Byddwn yn sicr o siarad amdanoch wrth y Meistr. Ac os bydd modd yn y byd, trefnwn i chwi ei weld."
"O diolch, Syr, diolch o galon i chwi."
Yr oedd Alys yn hapus iawn fel y brysiai o'r Deml a thros Bont y Tyropoeon ac i lawr i'r ddinas.
Draw yn Arimathea, ar ei sedd wrth y ffenestr, ceisiai Othniel weu cerdd am y Meseia, Achubydd y genedl, Eneiniedig Duw, y Crist. Ni hoffai'i dad, fe wyddai, iddo ganu ar destun felly, ond byth er pan soniodd Elihu am y saer o Nasareth, gan siarad amdano fel Meseia, deuai i'w feddwl lawer proffwydoliaeth am Waredwr Israel. Gwenodd wrth gofio am y syniadau cyffredin amdano fel rhyw Dywysog o linach Dafydd a ddifethai holl elynion a gormeswyr ei genedl ac a deyrnasai'n Frenin nerthol yn Jerwsalem. "Efe a ymwregysa," meddai un broffwydoliaeth a glywid yn aml, "ac a ddisgyn ac a orchymyn frwydr yn erbyn ei elynion ac a ladd eu brenhinoedd a'u capteniaid: ni fydd un yn ddigon nerthol i'w wrthsefyll ef. Gwna ef y mynyddoedd yn goch gan waed ei elynion: ei wisg, wedi'i lliwio â'u gwaed hwy, a fydd fel croen y grawnwin porffor. Am ddeuddeng mis y portha anifeiliaid y maes ar gig y lladdedigion, ac am saith mlynedd y gwledda adar y nefoedd arnynt hwy
Yna y rhanna pobl Israel drysorau'r cenhedloedd yn eu plith ystôr fawr o ysbail a chyfoeth, nes bod hyd yn oed y cloffion a'r deillion, os bydd rhai, yn cael eu rhan."
A soniai llu o'r proffwydoliaethau hyn am y baradwys ffrwythlon a chyfoethog a fyddai yn Israel pan fendithid y wlad gan y Meseia. Yr ŷd yn tyfu'n uchel fel palmwydd, y coed ffrwythau yn llwythog beunydd, y grawnwin mor enfawr nes bod un ohonynt yn rhoi llond casgen o win! Ac ymledai ynddi dai a ymgodai i entrych nef, a phyrth o berlau drud, a tharddai o'i Theml hi ffrwd a ddyfrhâi'r holl wlad! Diflannai pob afiechyd a phoen, ac ni welid na dall na chloff na gwahanglwyfus yn y tir. Llefarai'r mud a chlywai'r byddar, a theyrnasai'r Meseia ar genedl heb un nam ar eu cyrff a heb ofid yn eu calonnau.
Nid breuddwydion fel hyn a weai Othniel yn eiriau a llinellau ar y dabled wêr a oedd ar ei lin. Ond gwelai yntau un a deyrnasai'n Frenin yn Jerwsalem. Proffwyd a bardd fel Eseia a fyddai, Person ysbrydol a yrrai Duw ei hun i arwain y genedl. Ni chydiai mewn cleddyf i ladd ei elynion, ond syllai pob gormeswr yn syn arno, gan blygu'n wylaidd yng ngŵydd ei sancteiddrwydd ef. Ac ymhlith ei bobl ei hun diflannai rhagrith a hunan a bas uchelgais . . . Ond ni ddôi'r gân a luniai Othniel. Scribliai linellau ar y dabled wêr, gan fwynhau sain llawer gair a brawddeg, ond gwyddai mai rhyddiaith noeth yn ceisio ymddangos yn farddoniaeth ydoedd: nid oedd gweledigaeth nac ysbrydiaeth yn agos iddi. Rhoes y dabled wêr o'r neilltu a chymryd rhòl o gerddi Eseia oddi ar y silff gerllaw iddo. Agorodd hi a darllen:
"Dirmygedig yw a diystyraf o'r gwŷr, |
Ond efe a archollwyd am ein camweddau ni; |
Darllenodd Othniel y darn drosodd a throsodd, gan adael i bob gair suddo'n araf i dawelwch ei feddwl. Ie, hwn, y dirmygedig, y gŵr gofidus a chynefin â dolur, hwn fyddai'r Meseia, ac nid ar amnaid, mewn munud awr, yr enillai fuddugoliaeth ac yr achubai Israel. Nid rhyw bwll neu lyn llonydd oedd bywyd cenedl ac uwchlaw iddo ddüwch siom a gormes, ac yna, pan ddôi'r Eneiniog, nef ddigwmwl a glendid heulwen. Na, patrwm ar wŷdd ydoedd, patrwm digon llwydaidd a salw efallai, ond ag edau aur y caredig a'r cain a'r pur yn ymdroelli i'r golwg weithiau. Yn raddol y tyfai'r patrwm, a'r edau aur fel pe'n diflannu'n llwyr yn llymdra rhagrith ac eiddigedd a gwneud pres. Ond deuai'r Meseia i'w ddirmygu a'i ddolurio—a syllai'r genedl yn euog ar batrwm llwyd y gwŷdd. Ai'r lliwiau dienaid hyn a weodd? gofynnai hi. I b'le yr aethai'r aur? A phlygai'i phen, gan wylo, wrth feddwl am aberth a dioddef y gŵr gofidus er ei mwyn. Yna, drwy ddagrau'i heuogrwydd, gwelai mewn syndod a llawenydd yr edau aur yn ymwau ac ymloywi a'r patrwm lleddf yn tyfu'n geinder heb ei ail.
Ond nid y Proffwyd o Nasareth oedd y Meseia. Na, yn ôl Elihu yr oedd hwnnw'n boblogaidd, yn denu'r tyrfaoedd swnllyd a chwilfrydig ar ei ôl ac yn eu boddio drwy ddangos arwyddion iddynt. Nid oedd ef yn ŵr dirmygedig a gofidus. Efallai, yr ennyd hwn yn Jerwsalem, fod y pererinion yn ymgasglu'n filoedd o'i amgylch i wylio'r gwyrthiau a wnâi, gan weiddi "Hosanna!" a "Bendigedig!" nerth eu pen. yntau wrth ei fodd yng nghanol y banllefau a'r miri . . .
. . . "Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melltithiant, gwnewch dda i'r sawl a'ch casânt . . . " Fel y llithrai'r geiriau eofn hyn i'w feddwl, syrthiodd llygaid Othniel eto ar rai o'r llinellau ar y rhòl:
"Nyni oll a grwydrasom fel defaid: |
Gododd ei olwg a syllu'n hir drwy'r tipyn ffenestr draw i gyfeiriad Jerwsalem. Ymhell ar y gorwel yr oedd cwmwl tywyll fel petai'n ymagor, gan ymddangos fel safn ogof. Gerllaw iddo syrthiai pelydrau haul ar eira disglair y mân gymylau eraill, ond nid âi un llewych yn agos i'w ddüwch ef. Ac fel yr edrychai, gwelai Othniel wynebau milain, creulon, yn ymffurfio ac yn crechwenu yn safn y cwmwl, ac adnabu hwy fel y rhai a welsai yn ei freuddwyd. Yn y llafn o heulwen, a'i wenwisg, er yn doredig ac ystaenllyd, yn loywder arian, safai gŵr gofidus a chynefin â dolur. Yr un wyneb ifanc, dwys, a gwrol a oedd iddo ag yn y breuddwyd, a safai eto'n rhwym a gwelw ond yn ddarlun o lendid a rhyddid a dewrder. Nid agorai ei enau i gyhuddo neb nac i edliw dim. Yr oedd fel petai'n edrych tu draw i'r ogof a'i chynllwynwyr i eithafion byd ac i bellterau amser, yn ffyddiog, yn gadarn, yn sicr.
Y Nasaread. Ac ef . . . ef oedd y Meseia: yr oedd yr hen Elihu yn iawn. Ond ni ddeuai i Arimathea. Fe lwyddai'r cynllwynwyr yn eu dichell—dros dro, cyn tyfu o'r aur yn harddwch yn y gwŷdd.
Darllenodd Othniel gerdd Eseia eto, ac yna edrychodd ar ei gân ei hun. Ysgydwodd ei ben yn araf cyn tynnu ei fysedd tros y llinellau ar y dabled wêr a dileu pob gair.