Ysbryd byw y deffroadau
← Disgyn, Iôr, a rhwyga'r nefoedd | Ysbryd byw y deffroadau gan Richard Roberts Morris, Betws Garmon |
R hwn sy'n gyrru'r mellt i hedeg → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
270[1] Gweddi am yr Ysbryd.
87. 87. D.
1 YSBRYD byw y deffroadau,
Disgyn yn dy nerth i lawr,
Rhwyga'r awyr â'th daranau,
Crea'r cyffroadau mawr,
Chwŷth drachefn y gwyntoedd cryfion
Ddeffry'r meirw yn y glyn,
Dyro anadliadau bywyd
Yn y lladdedigion hyn.
2 Ysbryd yr eneiniad dwyfol,
Dyro'r tywalltiadau glân,
Moes y fflam oddi ar yr allor,
Ennyn ynom sanctaidd dân;
Difa lygredd ein calonnau,
Tyn ein chwantau dan ein traed,
Dyro inni wisg ddisgleirwen
Wedi'i channu yn y gwaed.
Richard Roberts Morris, Betws Garmon
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 270, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930