Ysgawen Mewn Mynwent

Nadolig Rhai Ysgawen Mewn Mynwent

gan Robin Llwyd ab Owain

Y Bedol
Cyhoeddwyd gyntaf yn Yr Adferwr, Hydref, 1986. Ffynhonnell: [1] gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr.

Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020.


Gwelais dorllwyth ei ffrwythau'n glystyrau glas,
yr aeron duon yn dew,
yn ddudew eu haddewidion,
a draig o hydref gwaedrudd
yn distaw feichiogi'r ysgawen.

Berwai i'r mêr o'r byw a'r marw;
gogoniant y geni a lliw'r mwrning
yn batrwm arni,
bod a darfod law yn llaw mewn llan-
yn briodas ysbrydol o'r byw a'r gwyw.
Mae bôn ysgawen amryliw
yn sugno marwolaeth
gwerin Duw i'r grawn duon
a gwerinos i'r grawnwin.

Dagrau ar frigau digrin yn crynhoi,
y crino a'r creu yn cordeddu
fel cwyr diaddurn.
Ac yn y dagrau roedd oesoedd,
bydoedd o wybodaeth,
yr had a geir mewn brawdgarwch
a chyfrinach yr anadl -
yr anadl sy'n troi'r esgyrn sychion
yn aeron iraidd,
a'r wylo'n orfoledd.

Yn y demi-jon
mae'r torllwyth o ffrwythau'n
barod am y burum.

Daw! Fe ddaw anadliad i drwyth yr ysgawen,
a'r un anadl hono'n aileni calonau;
un anadl - yna canoedd
o grombil chwil y pedwar chwart.

Er y claddu,
draciwleiddiwyd her y coluddion -
mae'r marw difarw ymhob diferyn
a'r huno'n dihuno heno yn y swigod nwy
wrth i hanes eplesu
a'r ffrwtian yn gyffro eto -
yn ddiwygiad yfadwy!

Hir oes, chwi oroeswyr!

Yfaf eich gwin gwerinol a byddaf byw!
Dygwch i mi fy nhroedigaeth
a'r ailenedigaeth hono
fydd ailenedigaeth ein cenedlaethau,
a thrwy hyn cyflun yw'r cylch.
Proffwydwch, dawnsiwch, myn Duw,
yn fy ngholuddion angladdol a bydol!
Chwi ysgerbydau diangau,
dihangwch o glydwch y gwaelodion,
digonwch fy nghalon
a dygwch i mi fy ailenedigaeth
yn y wyllt filltir sgwar.

I'r dianadl, di-wraidd, mewn dinas wâr:
Vouvray, Beaujolais a phlonc Loire!