Ysgoldy Rhad Llanrwst

Mae Ysgoldy Rhad Llanrwst yn gerdd gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) (1795 - 1855)

Hoff rodfa fy mabolaeth,
Chwaraele bore ’myd,
A wnaed i mi yn annwyl,
Drwy lawer cwlwm clyd;
Pa le mae’r si a’r dwndwr,
Gaed rhwng dy furiau gynt,
A’r plant o’th gylch yn chwarae
A’u hatsain yn y gwynt ?


Mae anian o dy ddeutu
Mor bruddaidd ac mor drom,
Fel un fai’n cadw gwylnos
Uwch d’adail unig lom;
Mae’r olwg arnat heddiw,
Gaed gynt mor deg â'r sant,
Fel gweddw dlawd amddifad,
Yn Wylo ar ôl ei phlant.


Mae sŵn y gloch yn ddistaw,
Heb dorf yn dod o’r dre,
A bolltau’th ddorau cedyrn
Yn rhydu yn eu lle;
Ystlum â’u mud ehediad
Sy’n gwau eu hwyrdrwm hynt,
Lle Pyncid cerddi Homer
A Virgil geinber gynt.


Mae hirwellt bras anfaethlon
Yn brith orchuddio gro
Y llawnt bu’r cylch a'r belen
Yn treiglo yn eu tro ;
Boed wyw y llaw a’th drawodd
A haint mor drwm â hyn,
Boed ddiblant a’th ddiblantodd,
A diffrwyth fel dy chwyn.


Pa le, pa fodd mae heddiw
Y lliaws yma fu
’N cyd chwarae a chyd-ddysgu,
A chyd ymgomio’n gu?
Mae rhai mewn bedd yn huno,
A’r lleill ar led y byd,
Nad oes un gloch a ddichon
Eu galw heddiw ’nghyd.


Wyliedydd doeth a diwyd,
Os cwrddi at dy hynt
A rhai o'm cyd-sgolheigion
A'm chwaraeyddion gynt,
Dod fy ngwasanaeth atynt,
A dwed, er amled ton
Aeth drosof, na ddilëwyd
Eu cof oddi ar fy mron.