Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala/Y Parch John Ellis, Abermaw
← Y Parch John Davies, Tahiti a John Hughes, Pontrobert | Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala gan Robert Owen, Pennal |
Gosod y Pregethwyr a'r Addoldai o Dan Amddiffyniad y Gyfraith → |
PENOD III.
YR YSGOLFEISTRIAID YN DYFOD YN BREGETHWYR.
Y PARCH. JOHN ELLIS, ABERMAW.
Rheolau Mr. Charles i'r Ysgolfeistriaid—Llythyr at Mr. Charles oddiwrth Gymdeithas Genhadol Llundain yn 1799—Cymru yn Baganaidd—Ysgolfeistriaid Griffith Jones, Llanddowror, yn amser Howell Harries—Y Parch. Robert Roberts, Clynog, yn rhestr yr Ysgolfeistriaid—Crwydriadau boreuol John Ellis, Abermaw—Yn cael ei gyflogi gan Mr. Charles —Yn byw yn Abermaw, ac yn dechreu pregethu—Yn cael ei rwystro i bregethu yn Llwyngwril gan Lewis Morris yn 1788—Yn cadw ysgol yn Brynygath, Trawsfynydd—Lewis Morris yn ysgol Brynygath—Mr. Charles yno yn pregethu—Trwydded gyfreithiol John Ellis.
OR lliaws ysgolfeistriaid cyflogedig a fu yn ngwasanaeth ac o dan arolygiaeth Mr. Charles, cyfododd amryw, fe allai y nifer lliosocaf, yn bregethwyr. Daeth nifer o honynt i safleoedd pwysig yn y Corff, a rhai yn enwog fel pregethwyr. Mae yn wir i eraill aros yn y swydd o ysgolfeistriaid ar hyd eu hoes, fel y cawn sylwi eto, a bu y cyfryw yn wasanaethgar i achos crefydd mewn cylchoedd llai cyhoeddus. Am na chadwyd rhestr gyflawn, aeth enwau llawer o'r dynion llai cyhoeddus hyn ar goll. Nid ydyw ond peth naturiol i'r rhai a ddaethant yn bregethwyr ac efengylwyr fod yn fwy adnabyddus yn yr oes hon. Peth naturiol ddigon hefyd ydoedd i nifer da o'r ysgolfeistriaid gyfodi yn bregethwyr. Y mae llawer o debygolrwydd a chydnawsedd rhwng y ddwy swydd a'u gilydd, ac yr oedd y gwahaniaeth rhyngddynt, gan' mlynedd yn ol, yn llawer llai nag ydyw yn bresenol.
Un o'r cymhwysderau cyntaf oll, fel y crybwyllwyd o'r blaen, yr edrychai Mr. Charles am dano mewn dynion i fod yn ysgolfeistriaid ydoedd eu bod yn ddynion crefyddol. Yr oedd yr addysg a gyfrenid yn yr ysgolion bron yn gwbl yn addysg grefyddol. Un o'r rheolau perthynol i'r swydd ydoedd, y disgwylid i'r athrawon, pan yn ymweled â theuluoedd yn yr ardaloedd lle y cedwid yr ysgolion, nid yn unig ymddiddan am bethau crefyddol, ond darllen a gweddio gyda'r teuluoedd, fel y byddai iddynt adael argraff er daioni yn yr holl gylchoedd lle yr elent. Yr oeddynt hefyd i gynorthwyo mewn sefydlu a chario ymlaen yr Ysgol Sabbothol ymhob ardal lle y byddai ysgol ddyddiol ynddi. Yn ychwanegol at hyn oll byddent yn cael mantais ragorol i siarad yn gyhoeddus, ac i roddi ymarferiad i'r dawn oedd ynddynt. Nid oedd yn rhyfedd, gan hyny, i lawer o'r ysgolfeistriaid gyfodi yn bregethwyr.
Pan oedd Cymdeithas Genhadol Llundain yn chwilio am genhadon i fyned allan i Ynysoedd Mor y De, yn ystod blynyddoedd olaf y ganrif ddiweddaf, at Mr. Charles yr anfonai y Cyfarwyddwyr am genhadon o Gymru, a chydag ef yr ymohebent. Mewn llythyr ato yn 1799, fel y nodwyd eisoes, dywed Mr. Hardcastle, trysorydd y Gymdeithas, "Eich ymdrechiadau gael cenhadon addas fydd y gwasanaeth mwyaf gwerthfawr a ellir wneyd i'r achos. Ac yn ol fy marn i, y mae ysgolfeistriaid yn debygol o fod ymysg y rhai mwyaf defnyddiol fel cenhadon at bobl anfoesedig." Rhan arbenig o waith cenhadon mewn gwledydd anwaraidd, fel yr ydym yn darllen, ydyw sefydlu ysgolion i ddysgu y bobl i ddarllen a deall. Yr oedd Cymru, yn nyddiau Mr. Charles, i fesur mawr, yn wlad baganaidd. A rhan fawr o'r gwaith i efengyleiddio y wlad oedd dysgu y bobl i ddarllen a deall yr Ysgrythyrau, ac wedi hyny eu rhybuddio a'u perswadio i dderbyn yr efengyl, trwy gredu yn yr Hwn a anfonodd Duw i'r byd i achub y byd. A'r rhai a gafodd y fraint o wneuthur y cyntaf oedd y rhai cymhwysaf i wneuthur yr olaf. Cafodd ysgolfeistriaid yr Ysgolion Cylchynol training da, can belled ag yr oedd yn myned, i ddyfod yn bregethwyr teithiol ymysg y Methodistiaid.
Y mae yn hysbys fod nifer mawr o bregethwyr wedi cyfodi bron yn ddisymwth, i gynorthwyo Harries a Rowlands ar gychwyniad cyntaf y Diwygiad Methodistaidd. Ymhen saith mlynedd ar ol i Howell Harries dori allan fel seren danbaid unigol yn Nhrefecca y cynhaliwyd y Gymdeithasfa gyntaf, yn Watford, a'r pryd hwnw yr oedd tua deugain o gynghorwyr wedi cyfodi o honynt eu hunain i'w gynorthwyo, o blith y cymdeithasau a ffurfiasid trwy ei lafur ef ac ychydig weinidogion urddedig eraill. Ac erbyn y flwyddyn 1746, deng mlynedd ar ol y cychwyn cyntaf, yr oedd y cymdeithasau wedi cyraedd saith ugain, a'r cynghorwyr tua haner cant. Yr oeddynt i fod, fel y trefnwyd yn y Gymdeithasfa gyntaf, yn gynghorwyr cyhoeddus a chynghorwyr anghyhoedd, yn ol mesur eu dawn a'u cymhwysderau. Mae yn achos o syndod fod nifer mor fawr wedi cyfodi o blith y werin, mewn amser mor fyr, i fod yn gymwys i addysgu eu cyd-ddynion yn gyhoeddus, wrth ystyried sefyllfa dywyll ac anwybodus y wlad ar y pryd. Prin oedd moddion addysg, a phrinion oedd y Beiblau ymysg y bobl gyffredin; trwy ba foddion, gan hyny, yr oedd y cynghorwyr hyn wedi cael eu haddysgu i ddarllen a deall eu Beiblau? Y mae y Parch. John Hughes, yn Methodistiaeth Cymru, yn priodoli eu haddysgiaeth a'u cymwysderau i Ysgolion Cylchynol y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, ac y mae ef o'r farn mai rhai wedi bod yn ysgolfeistriaid yr ysgolion hyny oedd y cynghorwyr Methodistaidd. Yr oedd yr ysgolion hyny wedi eu sefydlu yn 1730, tua chwe' blynedd cyn i'r diwygwyr, Harries a Rowlands, ddechreu ar eu gwaith. Trwy eu lledaeniad hwy yr oedd y ffordd wedi dechreu cael ei digaregu ar gyfer y gwaith mwy oedd yn dilyn. Fel hyn y dywed Mr. Hughes:—"Mae yn agos yn anghredadwy pa fodd y cododd cynifer o gynghorwyr mewn amser mor fyr, a than anfanteision mor fawrion. Nid oedd ond tua chwe' blynedd er pan ddechreuasai Harries a Rowlands ddyfod i sylw cyhoeddus; ac eto, wele ddeugain o gynghorwyr wedi codi at eu gwaith! Mae hyn yn fwy syn pan ystyriom leied o foddion gwybodaeth oedd yn y wlad; leied o Feiblau oeddynt yn y tir; a lleied y nifer fedrent ddarllen. Ymddengys i mi yn beth tebygol fod Ysgolion Cylchynol Griffith Jones wedi gwasanaethu i ddwyn hyn oddiamgylch, megys yn ddifwriad a diarwybod. Ymofynid am wyr i gadw yr ysgolion hyny a fyddent o air da, ac yn meddu gradd o wybodaeth eu hunain, a gradd o gymhwysder i gyfranu gwybodaeth i eraill. Arferent holi yr ysgolheigion bob dydd yn egwyddorion ac ymarferiadau crefydd; a thrwy hyn cyrhaeddent fesur mwy neu lai o rwyddineb a medrusrwydd i gyfarch cynulleidfa ar bynciau crefyddol" (Cyf. I., tu dal. 235).
Fel hyn yr oedd yr Arglwydd yn creu y naill beth ar gyfer y llall, a digaregid y ffordd trwy yr amrywiol amgylchiadau hyny i ddwyn y wlad o dan ddylanwad yr efengyl. Olwynion Rhagluniaeth fawr y Nef yn distaw droi, yr Hollwybodol yn ordeinio ei was o Landdowror i anfon dynion trwy y wlad i ddysgu yr anwybodus; a phan y daeth y diwygwyr i gyhoeddi yr efengyl, ac i blanu eglwysi, y dynion hyny, wedi eu cymhwyso yn ddiarwybod iddynt eu hunain, i gynorthwyo i gario y gwaith yn ei flaen.
Cyffelyb ydoedd yr amgylchiadau yn Ngogledd Cymru yn amser Mr. Charles. Cam digon naturiol a gymerid gan ysgolfeistriaid yr ysgolion dyddiol, trwy symud o fod yn ddysgawdwyr syml yr ieuainc a'r anwybodus, i'r sefyllfa uwch, i rybuddio a pherswadio pechaduriaid yn fwy cyhoeddus. Ac adnabyddid hwy bellach yn fwy cyffredinol, nid wrth yr enwau cynghorwyr, ond llefarwyr a phregethwyr. Heblaw eu bod wedi cael ymarferiad rhagorol trwy holwyddori a siarad yn gyhoeddus, yn yr ysgolion dyddiol a Sabbothol, yr oeddynt bellach wedi cael blas ar hyfforddi eu cyd-ddynion, ac yr oedd tan y diwygiad yn llosgi yn eu heneidiau mewn awyddfryd i enill pechaduriaid at Grist. Yr oedd hefyd elfenau eraill, y pryd hwn, yn cydweithio er chwyddo mintai y rhai a bregethent. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf ar ol sefydlu yr Ysgol Sabbothol, torodd diwygiadau allan trwy amrywiol ranau o'r wlad, ac fe ychwanegwyd llawer at nifer y dychweledigion ymhob man. Nid rhyfedd, o dan y cyfryw amgylchiadau, i nifer da o ysgolfeistriaid Mr. Charles gyfodi i fod yn bregethwyr. Yn y cyfnod hwn cyfododd llu mawr o bregethwyr, y rhai a ddaethant yn weinidogion enwog yn eu gwlad yn ser disglaer yn ffurfafen yr Eglwys-y nifer lliosocaf o bregethwyr enwog a gyfododd mewn unrhyw gyfnod yn hanes y Cyfundeb. A chyfrifir rhai a fuont yn cadw ysgol ddyddiol yn rhestr y pregethwyr enwocaf.
Yn ei restr o hen ysgolfeistriaid Mr. Charles, y mae y Parch. Dr. Owen Thomas yn enwi y pregethwr seraphaidd, Robert Roberts, Clynog. Dywed hefyd mai am tua dwy flynedd wedi iddo ddechreu pregethu y bu yn athraw ysgol Gymraeg mewn amryw gymydogaethau yn Eifionydd, tra y cartrefai gyda'i deulu yn Ynys Galed, heb fod ymhell o Frynengan. Yn ei hanes ef dadblygodd yr ysgolfeistr allan o'r pregethwr, ac nid y pregethwr o'r ysgolfeistr. Ond amgylchiadau, mewn rhan, o leiaf, a'i gyrodd ef i gadw ysgol. Daeth ei iechyd mor fregus, fel nas gallai mwy ddilyn y gorchwylion y buasai arferol â hwy yn flaenorol, fel gwas cyflogedig yn llafurio gyda'r amaethwyr. Nid ydyw mor eglur ychwaith iddo ef fod yn athraw cyflogedig o dan Mr. Charles. Fel y canlyn yr ysgrifena y Parch. Richard Jones, y Wern, am dano yn ei Gofiant: "Treuliodd rai blynyddau ar y dechreu yn cadw ysgol Gymraeg, yn ardaloedd Eifionydd, yr hon oedd yn cael ei chynal trwy ewyllys da yr amrywiol ardaloedd yn y rhan hono o'r wlad; ac yn y cylchoedd y bu yn cael ei chadw atebodd ddiben daionus, gyda'r ysgol a'i weinidogaeth ymhob ardal. Ond nid hir y parhaodd yn y dull hwn, canys yr oedd ei iechyd yn rhy fregus i ymgynal yn y modd yma i gadw ysgol, ac i ufuddhau i alwad y brodyr yn ei weinidogaeth. Eithr fel yr oedd galwad yr eglwysi am ei weinidogaeth trwy holl Gymru yn ychwanegu, hyn, gyda chydsyniad y brodyr yn ei alwad, a'i tueddodd i ymroddi yn hollol i waith y weinidog- aeth, yn yr hon y llafuriodd yn ffyddlawn a diysgog hyd ddiwedd ei oes."
Ond er y dywedir mai trwy ewyllys da yr ardaloedd y cedwid yr ysgol, digon posibl mai Mr. Charles a roddai yr ardaloedd ar waith i'w chario ymlaen. Os felly, nid oes dim yn anghyson iddo gael ei restru yn y rhestr o ysgolfeistriaid Mr. Charles, ac fe roddodd ef anrhydedd ar y swydd o athraw ysgol, yn gystal ag ar y swydd o bregethu yr efengyl. Mae yr amser y bu yn cadw yr ysgol yn cyfateb yn hollol i'r adeg yr oedd mwyaf o alwad am yr ysgolion. Dechreuodd bregethu yn 1787; oddeutu yr un adeg hefyd y dechreuodd gadw ysgol, a bu farw yn 1802, yn 40 mlwydd oed. Un o'r pethau mwyaf godidog yn hanes enwogion y Cyfundeb o'r dechreuad ydyw y darluniad a rydd y Parch. Dr. O. Thomas am y seraphbregethwr, Robert Roberts o Glynog, yn Nghofiant y Parch. John Jones, Talysarn.
Un o'r rhai y mae sicrwydd iddo fod ymysg Ysgolfeistriaid cyflogedig yr Ysgolion Cylchynol, a'r hwn, er iddo ddyfod yn ddylanwadol ac yn amlwg fel pregethwr, sydd yn llai adnabyddus yn yr oes hon nag amryw o'i gydoeswyr, ydoedd
Y PARCH. JOHN ELLIS, ABERMAW.
Ganwyd ef yn Ysbytty, Sir Feirionydd, a chafodd ei ddwyn i fyny yn mhentref bychan Capel Garmon, mewn tlodi ac oferedd, heb neb i ofalu am dano o ran mater ei enaid, mwy na phe buasai heb fod ganddo yr un enaid. Dechreuodd ddysgu crefft cylchwr (cooper), a gorphenodd ei dysgu yn Llanrwst. Wrth wrando yn y dref hono ar un o'r enw Robert Evans yn pregethu, effeithiodd y bregeth yn fawr arno, nes ei dueddu i fyned i wrando yr efengyl drachefn. Symudodd oddiyno i Ffestiniog i weithio, a bu yn y lle hwnw am dymor yn dilyn pob oferedd, gan roddi rhaff i'w nwydau pechadurus. Yr oedd hyn cyn bod yn Ffestiniog Ysgol Sul, na chapel, na phregethu, ond yn unig yn achlysurol. Aeth i wrando y pregethu achlysurol gydag un o'i gydweithwyr, ac ymwelodd yr Arglwydd ag ef drachefn, trwy ei sobri a'i ddifrifoli yn fawr. Mewn canlyniad iddo amlygu tuedd i wrando y pregethu, ymddygodd ei dad yn ddigllawn tuag ato, a rhybuddiodd ef nad elai mwy i wrando ar y cyfryw bobl a'r Methodistiaid; ac oherwydd creulondeb ac ymddygiad chwerw ei dad, gadawodd Ffestiniog yn llanc ieuanc, heb wybod i ba le yr elai. Arweiniwyd ef gan Ragluniaeth i Lanbrynmair, lle yr arosodd dros ysbaid saith mlynedd, gan weithio ei grefft fel cylchwr. Yr oedd crefydd wedi hen wreiddio yn Llanbrynmair, Hwyrach fod llygaid y llanc ieuanc oedd o dan argyhoeddiad, ar y lle oblegid hyny. Yr oedd eto mewn trallod mawr ynghylch mater ei enaid, ac wrth wrando ar y Parch. Richard Tibbot y llewyrchodd goleuni i'w feddwl, a chyda'r goleuni y daeth tangnefedd. Ymunodd â chrefydd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ymhen y mis wedi cyrhaedd Llanbrynmair.
Bu cymdeithas y brodyr crefyddol yn y lle hwn o fendith annhraethol iddo, yn ystod y saith mlynedd hyn. Cafodd yr ymgeledd angenrheidiol i'w enaid, gwreiddiodd crefydd ynddo, a deallodd ffordd Duw yn fanylach. Tra yn aros yma priododd ferch ieuanc grefyddol oedd yn aelod o'r un eglwys ag ef Symudodd o Lanbrynmair drachefn i'w hen gymydogaethau, Llanrwst a Ffestiniog. Ac wedi cyfarfod, medd yr hanes, & Rhagluniaethau cyfyng, anogwyd ef i fyned i gadw Ysgol Rad Deithiol, o dan arolygiaeth Mr. Charles, o'r Bala. "Bu peth petrusder [tebygol mai geiriau Mr. Charles ei hun yw y rhai hyn] ynghylch ei gyflogi i hyny, oherwydd ei ddieithrwch i'r gwaith, a'i anfedrusrwydd oherwydd hyny i'r fath orchwyl. Ond ar daer ddymuniad y brodyr yn eglwysi Ffestiniog a Thrawsfynydd, anturiwyd ei gyflogi, gan obeithio y cai gymorth yn y gwaith, a'i addysgu ei hun tra byddai yn llafurio i addysgu eraill. Felly y bu. Yr oedd yn ŵr o dymer dirion, serchog, ac enillgar; yn trin y plant yn dirion, ac yn eu henill trwy gariad."
Yr oedd yn Ffestiniog, erbyn hyn, un eglwys, ac un capel wedi ei adeiladu er's blwyddyn neu ddwy, yr hwn a elwir hyd heddyw yn hen gapel, er ei fod er's pedwar ugain ac un o flynyddau (1813) wed ei droi, yn dŷ anedd. Yr oedd y brodyr yno ac yn Nhrawsfynydd yn graff eu golwg, pan yn argymell y gwr hwn i sylw Mr. Charles. Troes John Ellis allan yn ysgolfeistr llwyddianus. Yr oedd ynddo y tri pheth yr amcenid eu cael yn yr ysgolfeistriaid—duwioldeb personol, gallu i addysgu, a chymeriad disglaer, i adael argraff dda ar yr ardaloedd lle cynhelid yr ysgolion. Nid oes wybodaeth sicr am yr amser yr ymsefydlodd yn Abermaw, na pha beth a'i harweiniodd yno, nac ychwaith am yr amser y dechreuodd bregethu. Yn y Drysorfa Ysbrydol, ddwy flynedd cyn marw Mr. Charles, ceir y sylwadau canlynol am dano: "Nid hir y bu wedi dechreu cadw yr ysgol heb gael ei gymell gan y brodyr crefyddol i arfer ei ddawn i gynghori ychydig yn gyhoeddus; ac fel yr oedd ei ddawn yn cynyddu, a'r Arglwydd yn gwneyd arddeliad o hono, rhoddwyd galwad mwy iddo, nes gwedi bod wrth yr ysgol, a symud o le i le yn mharthau uchaf swydd Meirion dros ddeng mlynedd, ac ar yr un pryd yn pregethu yn aml, rhoddodd heibio yr ysgol yn llwyr, ac ymroddodd i lafurio yn y Gair, gan bregethu yn ddyfal trwy holl barthau Deheudir a Gwynedd, hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd yn wr goleu yn yr Ysgrythyrau, cadarn yn athrawiaeth gras yn ei hamrywiol ganghenau; yn wr ysbrydol o ran ei brofiad o bethau Duw, syml a diargyhoedd yn ei rodiad." Y mae hanesyn neu ddau yn Adgofion yr hen bregethwr, Lewis Morris, am dano ei hun, yn rhoddi ychydig o oleuni ar fywyd John Ellis a'i amserau, ynghyd a'r amser y daeth i fyw i'r Abermaw, ac y dechreuodd bregethu. Un hanesyn ydyw am fintai o erlidwyr, a Lewis Morris fel cawr yn arwain y fintai, i rwystro pregethu ar ddydd Sabboth yn Llwyngwril. "Ymysg y lliaws," ebe Lewis Morris, "yr oeddwn inau yn llawn gelyniaeth yn erbyn achos yr Arglwydd, ac yn gwrthwynebu 'y pregethu newydd' â'm holl egni. Un prydnawn Sabboth daeth ychydig grefyddwyr o'r Abermaw, a phregethwr, sef John Ellis, i Lwyngwril, gyda bwriad o gadw odfa yno, a chawsant addewid o le i bregethu mewn ty tafarn yn y pentref. Daethum inau i'r pentref y Sabboth hwnw, yn ol fy arfer, i ddilyn gwag ddifyrwch, pan y dywedwyd wrthyf fi a'm cyfeillion nad oedd wiw i ni fyned i'r dafarn i yfed cwrw y Sul hwnw, gan fod yno bregethu. Pan glywais hyn aethum yn llawn gwylltineb at y ty tafarn, a gelwais am y gwr i'r drws, a dywedais wrtho os ydoedd am roddi ei dy i bregethwyr a chrefyddwyr, ac nid i ni, yr ataliwn i iddo werthu cwrw yn gwbl, gan yr awn â phob achos neu gwrdd yfed i dŷ arall yn y pentref. Dychrynodd y dyn wrth hyn, gan y gwyddai fod genyf y dylanwad mwyaf ar fy nghymdeithion; ac efe a rwystrodd yr odfa, a gorfu i'r crefyddwyr fyned ymaith yn siomedig." Digwyddodd yr amgylchiadau hyn yn y flwyddyn 1788, gant a chwech i'r flwyddyn eleni. Yr oedd John Ellis yn byw yn yr Abermaw yn y flwyddyn hono; ; yr oedd wedi dechreu pregethu, feallai, er's blwyddyn yn gynt. Yr ydym yn gweled, modd bynag, ei fod yn pregethu yn 1788; fe ddechreuodd bregethu cyn hir wedi iddo ddechreu cadw yr ysgol; gan hyny, yr oedd John Ellis yn athraw cyflogedig ymysg rhai o'r ysgolfeistriaid cyntaf a gyflogwyd gan Mr. Charles.
Peth tra dyddorol arall a gofnodir gan Lewis Morris ydyw, yr hanes am dano ei hun yn myned i'r Ysgol. "Aethum y Calanmai canlynol at y dywededig John Ellis, o'r Abermaw, i Fryn-y-gath, Trawsfynydd, lle yr oedd ef y pryd hyny yn cadw ysgol ddyddiol; a bum yno dair wythnos; a dyna pryd y dysgais ddarllen fy Mibl." Yr oedd hyn o fewn llai na blwyddyn i'r adeg yr argyhoeddwyd ef, a llai na dwy flynedd i'r amser y buasai yn rhwystro yr hwn yr elai yn awr ato i'r ysgol i bregethu, ac efe ei hun y pryd hwn yn ddeng mlwydd ar hugain oed. Clywsom un o feibion Bryn-y-gath yn adrodd, amser yn ol, fel y clywsai ef ei fam, neu ei nain, yn rhoddi hanes Lewis Morris yn dyfod yno, o'r hyn yr oedd hi yn llygad-dyst. Adroddai am dano yn gwyro i lawr hyd ei haner wrth ddyfod i mewn trwy y drws, ac yn gwyro yr un fath wrth basio o dan swmer llofft y tŷ, ac yn cyfarch y teulu, gan ddywedyd, "Lewsyn, Coedygweddill, ydw' i (wrth yr enw hwn yr adnabyddid ef cyn hyn ac yr hawg wedi hyn); 'rydw' i wedi dyfod yma i'r Ysgol at Siôn Ellis, ac yn dyfod atoch chwi i edrych a gaf fi lodgings." Dywedir nad oedd yn adnabod llythyrenau y wyddor pan yr aeth yno. Yr oedd rhai personau yn byw yn yr ardal yn lled ddiweddar oeddynt yn cofio gwraig, yr hon, yr adeg yr ydym yn cyfeirio ati, oedd yn eneth fechan, ac yn ferch i un o amaethwyr y gymydogaeth, a ddysgodd Lewis Morris i adnabod y llythyrenau, tra yr oedd yr athraw wrthi yn dysgu y plant eraill. Ac fe barhaodd tymor ei ysgol am dair wythnos! Ymhen ychydig wedi hyny, fe ddechreuodd Lewis Morris bregethu; ymhen pum' mlynedd, yr oedd yn bregethwr pur adnabyddus. Hynod mor wahanol erbyn hyn ydyw moddion addysg, a'r ffordd i bregethwr ddechreu pregethu. Pregethwr, neu efrydydd yn myn'd i Fryn-y-gath i'r Ysgol! Bryn-y-gath, o bob lle yn y byd, fuasai y lle olaf i ymgeiswyr am y weinidogaeth fyned i chwilio am addysg, yn yr oes aml-freintiog hon. Y mae pob to o efrydwyr sydd wedi bod yn Athrofa y Bala yn gwybod pa le y mae Abergeirw. Oddeutu milldir i'r de orllewin o Abergeirw, y mae Bryn-y- gath. Ffermdy unigol ydyw, a'i sefyllfa ar ben llechwedd uchel, uwchlaw ceunant rhamantus, mewn rhandir anhygyrch ac anghysbell, yn y pellderoedd pell, rhwng bryniau Meirionydd, ddeng milldir hir o Ddolgellau, saith o Drawsfynydd, a deg neu well dros y mynydd noethlwm, o'r Bala. Yno y bu un o bregethwyr cyntaf Gorllewin Meirionydd yn derbyn ei addysg, yn un o Ysgolion Cylchynol y dyddiau gynt. Pregethai Mr. Charles un tro, ar ddiwrnod teg o haf, yn yr awyr agored o flaen tŷ Bryn-y-gath, a thra yr oedd yn egluro yn ei bregeth am ail enedigaeth, dywedai rhai o'r bechgyn oeddynt wedi d'od i fyny o'r cymoedd i'r odfa, y naill wrth y llall, "Glywi di, glywi di, y dyn yn son am eni ddwywaith!" Mor fyred oedd eu gwybodaeth fel na feddent yr un dychymyg am ail enedigaeth. Bu rhai o berthynasau Mrs. Charles yn byw yn Bryn-y-gath ychydig yn flaenorol i'r amser crybwylledig. Ychydig yn is i lawr na'r lle, yr ochr arall i'r ceunant, y mae Cwmhwyson, neu fel y swnir ef gan y cymydogion Cwmeisian, man genedigol Williams o'r Wern.
Yn y lle hwn a lleoedd cyffelyb, megis y dywedir yn ei fyrgofiant yn y Drysorfa Ysbrydol, yn "symud o le i le yn mharthau uchaf Swydd Meirion," y treuliodd John Ellis ddeng mlynedd o'i amser gyda'r Ysgol deithiol. Ond er yr anfanteision mawrion, mewn ardaloedd noethlwm, anghysbell, teneu eu poblogaeth, byr eu hamgyffredion, fe lwyddodd yn fawr yn y swydd o ysgolfeistr, i addysgu llawer o ieuenctyd y wlad, yn gystal ag yn y swydd uwch o bregethwr yr efengyl, fel y gadawodd argraff ddaionus ar y wlad yr oedd yn byw ynddi, ac y mae coffa am dano eto, ymhen yr holl flynyddoedd wedi iddo fyned i ffordd yr holl ddaear. Dywediad Mr. Humphreys, o'r Dyffryn, am dano ydoedd, "Yr oedd John Ellis, y Bermo, yn HYPER-Calfin mewn athrawiaeth, ac yn moral agent yn ei fuchedd a'i rodiad yn y byd." Ymhen llai na deng mlynedd wedi iddo ddechreu pregethu, bu raid iddo ef a'i frodyr yn y weinidogaeth gymeryd trwydded (license) i bregethu, er mwyn ei ddiogelwch rhag cosb y gyfraith. A ganlyn ydyw y drwydded, yr hon sydd wedi ei hysgrifenu ar groen, ac wedi ei harwyddo gan y swyddog gwladol, yn Llys Sirol y Bala, yn mis Gorphenaf, 1795:—
MERIONETH} To WIT. } |
This is to certify that John Ellis, of Barmouth, in the' County of Merioneth, hath this seventeenth day of July, One Thousand Seven Hundred and Ninety Five, in open Court at the General Quarter Sessions of the Peace held at Bala in and for the said County, before Rice Anwyl and Thomas Davies, Clerks, being Justices assigned to keep the peace in and for the said County, taken the usual oath and subscribed the Declaration to qualify himself as a Protestant Dissenting Preacher and Teacher according to the Act of Parliament in that case made and provided. |
EDWARD ANWYL, Dpt. Clk. of the Peace." |
Mae y Drwydded, fel yr ysgrifenwyd hi yn y Llys Sirol, yn
awr yn meddiant wyr John Ellis, sef Mr. John Timothy,
Einion House, Friog, yr hwn sydd wedi bod yn flaenor ffyddlawn yn eglwys y Friog am lawer o flynyddoedd, ac yn Abermaw am lawer o amser yn flaenorol. Mae ef
yn bwriadu
cyflwyno y drwydded i Lyfrgell Athrofa y Bala, os nad ydyw
eisoes wedi gwneyd hyny, i fod yn goffadwriaeth weledig i'r
oesoedd a ddaw o helyntion yr amseroedd gynt.
Y mae yn perthyn i eglwys y Methodistiaid yn Abermaw (capel Caersalem yn awr) hen lyfr, yn cynwys rhestr o enwau y cyflawn aelodau am y flwyddyn 1810. Rhif y meibion, 22; merched, 50; cyfan, 72. Yn eu plith y mae enw John Ellis, ac am fis Awst y flwyddyn hono, y mae y gair marw ar gyfer ei enw yn y llyfr. Dyna y mis a'r flwyddyn y cymerodd hyny le, yn y 52ain mlwydd o'i oedran. Yr oedd hyn flwyddyn cyn i'r Ordeiniad cyntaf ymhlith y Methodistiaid gymeryd lle. Yn ol ei safle, o ran parch a dylanwad yn y Sir, pe buasai byw un flwyddyn yn hwy, y tebygolrwydd ydyw mai John Ellis, Abermaw, fuasai un o'r rhai cyntaf i gael ei ordeinio o Feirionydd.