Hanes Alexander Fawr/Ei Ddyddiau Boreuaf

Hanes Alexander Fawr Hanes Alexander Fawr

gan Hugh Humphreys, Caernarfon

Ei Ddyrchafiad i'r Orsedd

EI DDYDDIAU BOREUAF.

Dywedir fod Alexander, pan yn fachgen, o duedd tra chymedrol; ac er ei fod yn fywiog, neu yn hytrach yn derfysglyd mewn ymarferion ereill, nid oedd yn hawdd ei gyffroi at bleserau a moethau corphorol; ac os ymwnelai â hwy o gwbl, byddai hyny gyda'r cymedroldeb mwyaf. Ond yr oedd rhywbeth yn aruchel a mawreddog yn ei uchelgais, yn mhell uwchlaw ei flynyddoedd. Nid pob math o anrhydedd a geisiai efe, ac nid yn mhob cyfeiriad ychwaith, fel ei dad Philip, yr hwn oedd mor falch o'i hyawdledd ag y gallasai unrhyw athronydd neu areithiwr fod, a bu mor ynfyd a chofnodi ei orchestion yn y campau Olympaidd ar ei fathodynau arian. Alexander, ar y llaw arall, pan cfynwyd iddo gan rai o'r bobl a fyddai iddo ymgystadlu yn y rhedegfa Olympaidd, a atebodd (er ei fod yn hyned o gyflym ar ei droed,) "Mi a ymgeisiwn pe cawn freninoedd i gydymgais â mi."

Ar un tro daeth negeseuwyr o Persia i lys Philip, pan oedd efe yn absenol ar hynt filwrol, a derbyniwyd hwy gan Alexander, y pryd hyny yn fachgen, yn ei le, a mawr synwyd hwy gan ei ddoethineb a'i arabedd. Ni ofynodd iddynt gwestiynau plentynaidd a dibwys, ond ynghylch y pellder i'r fan a'r fan, ac yn nghylch y tramwyfeydd trwy daleithiau uchaf Asia; dymunai gael gwybod nodwedd eu brenin, yn mha ddull yr ymddygai at ei elynion, ac yn mha beth yr oedd nerth a gallu Persia yn gynwysedig. Tarawyd y cenadon â syndod, ac edrychent ar y mab fel yn tra-rhagori ar y tad mewn athrylith a doethineb.

Pa bryd bynag y dygid adref y newydd fod Philip wedi cymeryd rhyw ddinas neu amddiffynfa gref, neu wedi enill rhyw frwydr fawr, yn lle ymddangos yn falch am hyny, dywediad cyffredin Alexander wrth ei gyfeillion fyddai, "Bydd i'm tad fyned yn mlaen fel hyn gan orchfygu, fel na bydd dim neillduol i mi a chwithau i'w wneyd ar ei ol ef." Gan nad ymgeisiai am na phleser na chyfoeth, ond am ogoniant a gwrhydri, tybiai mai po mwyaf eang y byddai y tiriogaethau a dderbyniai ar ol ei dad, mai lleiaf oll o le fyddai iddo ef arddangos ei hun. Ystyriai ychwanegiad pob talaeth newydd yn gyfyngiad ar y maes fyddai ganddo ef i chwareu arno; oblegyd nid ewyllysiai enill teyrnas a ddygai iddo anrhydedd, moethau, a phleserau, ond un lle y caffai ddigon o ryfela a brwydro, a'r holl ymarferion cyfaddas i'w uchelgais rhyfeddol ef.

Pan ddarfu i Philonicus, y Thessaliad, gynyg y ceffyl Bucephalus ar werth i Philip am dair talent ar ddeg, aeth y brenin, a'r tywysog, ac amryw ereill, i'r maes i'w weled. Ymddangosai y ceffyl yn hynod wyllt ac afreolus, ac ni allai yr un o'r marchweision ei drin, chwaithach myned ar ei gefn. Philip, wedi cythruddo o herwydd iddynt ddwyn y fath farch iddo ef, a orchymynodd iddynt ei gymeryd ymaith. Ond Alexander, yr hwn a ddaliasai sylw yn fanwl ar y ceffyl, a ddywedodd, "Y fath geffyl ardderchog y maent yn golli, o ddiffyg medr ac yspryd i'w drin!" Ar y cyntaf ni wnaeth Philip un sylw o hyn; ond trwy i Alexander ail-adrodd y geiriau amryw weithiau, gan arddangos cryn anesmwythder, ei dad a ddywedodd, "Ddyn ieuangc, yr ydych yn beio rhai hynach na chwi eich hun, megys pe byddech yn gwybod mwy na hwy, neu y gallech drin y march yn well." "Medrwn wneyd hyny hefyd", meddai y tywysog. "Beth fydd i chwi fforffetio, os methwch?" ebai ei dad. "Mi a fforffetiaf bris y ceffyl," atebai Alexander. Ar hyny cydsyniodd ei dad, a nesaodd y tywysog at y march, ac wedi gafael yn y ffrwyn, trôdd ei ben at yr haul-oblegyd sylwasai fod cysgod y march, wrth symud i'w ganlyn fel y symudai ef, yn ei ddychrynu. Wedi ei dawelu trwy ei guro yn ysgafn â'i law, a sisial wrtho, efe a neidiodd yn sydyn ar ei gefn, ac a aeth ymaith ar garlam. Yn mhen ychydig amser dygodd ef yn ol, wedi ei drwyadl feistroli! Philip ei dad a waeddodd allan, wedi iddo ddychwelyd yn ddiangol, "Chwilia am deyrnas arall, fy mab, yr hon a fyddo yn deilwng o dy alluoedd, oblegyd y mae Macedonia yn rhy fechan i ti!"

Pan aeth Philip ar ryfelgyrch yn erbyn Byzantium, nid oedd Alexander ond un ar bymtheg oed, er hyny gadawyd ef yn rhaglaw ar Macedonia, ac yn geidwad sêl y deyrnas. Yn ystod ei raglawiaeth ef gwrthryfelodd y Medariaid, ac ymosodwyd ar eu dinas gan Alexander, yr hon a gymerodd efe, ac a alltudiodd y barbariaid o honi, gan blanu yn eu lle drefedigaeth o bobl a gasglasai efe a wahanol leoedd, ac a'i galwodd Alexandropolis. Efe hefyd a ymladdodd yn mrwydr Cheronea, yn erbyn y Groegiaid, a dywedir mai efe oedd y cyntaf erioed a dorodd "fintai gysegredig" y Thebiaid. Yn ein hamseroedd yr oedd hen dderwen yn cael ei dangos gerllaw y Cephisus, a elwid Derwen Alexander, am fod ei babell wedi ei gosod i fyny oddi tani; a dernyn o dir gerllaw iddi, yn mha un y dywedir fod y Macedoniaid wedi claddu eu meirw.

Darfu i alluoedd y milwr ieuangc beri i Philip fod yn dra hoff o'i fab, a chyda phleser y clywai y Macedoniaid yn galw Alexander yn "frenin,” ac efe ei hun yn ddim ond "cadfridog." Er hyny torodd cynen allan yn fuan yn y teulu, a hyny yn benaf o achos merch; ac fel hyn y bu:—Yr oedd Philip wedi syrthio mewn cariad â merch ieuangc o'r enw Cleopatra, ac er ei fod mewn gwth o oedran, efe a'i priododd. Yn y briodas, tra yr oeddynt yn gwledda, ei hewythr Attalus, wedi ymlenwi o win, a anogodd y cwmni i weddio ar y duwiau ar fod i'r briodas hon rhwng Philip a Cleopatra gynyrchu etifedd cyfreithlawn i'r goron. Alexander, wedi ei gythruddo trwy hyny, a ddywedodd, "Beth! a wyt ti yn awgrymu mai mab orddderch ydwyf fi?" Ar yr un pryd efe a gyfododd, ac a daflodd ei gwpan at ei ben. Ar hyny Philip a gododd ar ei draed, ac a dynodd ei gleddyf; ond yn ffodus i'r ddau, yr oedd y brenin mor feddw fel y syrthiodd ar y llawr. Wrth ei weled, gwaeddodd Alexander, "Wŷr Macedon, gwelwch y dyn sydd yn ymbarotoi i groesi o Ewrop i Asia! Nid yw yn alluog i symud o un bwrdd i'r llall heb syrthio." Yr oedd Philip ar y pryd yn parotoi ei fyddinoedd i fyned yn erbyn y Persiaid. Wedi yr ymrafael yma â'i dad, efe a gymerodd ei fam Olympias gydag ef, ac a'i sefydodd yn Epirus; tra y cymerodd efe ei hun noddfa yn Illyricum.

Yn fuan ar ol hyn, dyn ieuangc o'r enw Pausanius, yr hwn a ddywedai iddo gael cam gan Attalus a Cleopatra, a apeliodd at y brenin am gyfiawnder, yr hyn a wrthodwyd iddo. Y canlyniad fu iddo ladd Philip.

Nodiadau golygu