Hanes Alexander Fawr/Ei Ddyrchafiad i'r Orsedd

Ei Ddyddiau Boreuaf Hanes Alexander Fawr

gan Hugh Humphreys, Caernarfon

Ei Ymgyrch i Jerusalem

EI DDYRCHAFIAD I'R ORSEDD.

Wedi marw Philip dewiswyd ei fab Alexander (ac efe yn 20 mlwydd oed,) yn ben tywysog y Groegiaid i ddwyn y rhyfel yn mlaen yn erbyn y Persiaid; yr hyn a ddygwyddodd yn y flwyddyn gyntaf i Darius, a'r flwyddyn cyn geni Crist 335. Gwedi darostwng o hono dan ei awdurdod ei lywodraeth gartrefol, croesodd yr Hellespont, sef cyfyngfor rhwng Ewrop ac Asia leiaf. Nid oedd ei fyddin ond deng mil ar hugain o wŷr traed, a phum' mil o wŷr meirch; er hyny goresgynodd holl ymerodraeth Persia, a rhan o'r India. Nid oedd ychwaith yn ei drysorfa pan gychwynodd ond deg talent a thriugain, sef oddeutu 14,4377. 10s. o'n harian ni. Eto gan ei fod ar orchwyl drwy drefniad yr Hollalluog (er na wyddai hyny,) ni bu arno eisiau dim, ac a lwyddodd yn mhob peth ond adferu Babilon, yr hyn nis gallai am ei bod wedi ei diofrydu i ddinystr. Yn mhen ychydig ar ol croesi yr Hellespont ymladdodd y frwydr gyntaf â'r Persiaid wrth afon Granicus, yn nhalaeth Mysia, yn Asia leiaf; ac a enillodd fuddugoliaeth fawr, er fod y Persiaid yn bum' waith yn fwy eu nifer na'r eiddo Alexander. Yr oedd Darius, cyn dechreu y frwydr hon, mor ddiystyr o Alexander fel y gorchymynodd ei ddal a'i guro â gwiail, ac wedi hyny ei ddwyn ger ei fron; ond buan y cyfnewidiodd ei feddwl am dano. Ffrwyth y fuddugoliaeth hon oedd cael meddiant o Sardis, lle yr oedd holl drysorau Darius; ac ymostyngiad rhan fawr o Asia leiaf, yr hon a orphenodd ei darostwng yn fuan wedi hyny. Yn y cyfamser yr oedd Darius yn ymbarotoi i amddiffyn ei deyrnas. Memon, ei ben-cadben, a'i cynghorodd ef i ddwyn y ryfel i Macedonia, i'r dyben i alw Alexander yn ol i amddiffyn ei wlad; gwelodd Darius resymoldeb y cynghor, ac ymddiriedwyd i Memon am y cyflawniad o hono; ac nid allai wneuthur gwell dewisiad, canys Memon oedd y cadben goreu, a'r doethaf oedd o ochr Darius. Pe buasid yn cymeryd ei gynghor yn mrwydr Granicus, ni chawsent y fath aflwydd; canys ei gynghor oedd atal ymladd y frwydr y pryd hyny, ond cilio yn ol ac anrheithio'r wlad o flaen Alexander fel y byddai yn rhaid iddo gilio yn ol o eisiau cynaliaeth: ond y cadbeniaid ereill ni wrandawsant arno, ac o ganlyniad arweiniwyd dymchweliad i freniniaeth Persia. Er hyny ni adawodd Memon achos Darius, ond casglodd weddillion byddin y Persiaid ar ol y frwydr uchod, gan benderfynu, wedi cyfarfod o hono â llynges Persia, hwylio i dir Groeg a Macedonia, gan arfaethu gwneuthnr eisteddfa y rhyfel yno; ond bu farw Memon wrth warchae ar Mitylene, o ganlyniad digalonodd Darius yn yr amcanion hyny, o herwydd nad oedd ganddo un cadben o'i gyffelyb y gallai ymddibynu arno i'r cyfryw anturiaeth. Nid oedd gan Darius bellach i ymddiried ynddo ond ei fyddinoedd dwyreiniol, y rhai a gasglodd i Babilon, yn chwe' chan' mil, ac a'u harweiniodd i gyfarfod y gelyn. Pan glybu Alexander hyny prysurodd i'w erbyn, gan gymeryd meddiant o'r bylchau sydd yn arwain o Cilicia i Syria, gan arfaethu ymladd yno. Nid oedd gan Alexander ond deng mil ar hugain o wŷr, ac nid ellid arwain ychwaneg mewn trefn brwydr yno, o herwydd cyfyngder y bylchau; ond nid oedd le i'r ugeinfed ran o fyddin y Persiaid. Gwelodd rhai o'r Groegiaid oedd yn myddin Darius yr anghyfleustra i ymladd mewn lle mor gyfyng: gan hyny cynghorwyd i dynu'r fyddin i wastadedd Mesopotamia, lle y gallai yr holl fyddin gymeryd eu rhan ar unwaith yn y frwydr. Ond ni wrandawodd Darius ar y cynghor da hwn, am fod Alexander yn ymddangos fel pe buasai yn cilio yn ol, yr hyn a barodd i'r Persiaid bwyso yn mlaen fel y byddai iddynt ddyrysu byddinoedd Alexander yn y bylchau, lle y dechreuwyd ymladd; ond nid allai Darius estyn ei fyddin yn ddim mwy na'r eiddo y Macedoniaid, o ganlyniad trefnodd y fyddin y naill rês o'r tu ol i'r llall. Ond gwroldeb y Macedoniaid yn tori y rhês gyntaf a barodd iddi syrthio ar yr ail, a'r ail ar y trydydd, &c. fel y syrthiodd holl fyddin y Persiaid i annhrefn; yna Alexander yn pwyso yn drwm arnynt yn yr ymladd a barodd iddynt ffoi, ac wrth fathru eu gilydd, bu farw mwy na thrwy gleddyfau y Macedoniaid. Diangodd Darius, yr hwn oedd yn ymladd yn y rhês gyntaf, drwy lawer o anhawsder, ond y gwersyll y'nghyd a'r holl glud, ei wraig, ei fam, a'i blant (y rhai, yn ol arfer breninoedd Persia, a ddygasid i'r rhyfel) a syrthiasant i ddwylaw'r gelyn, a mwy na chan' mil o'r Persiaid yn feirw ar y maes. Gwedi hyn sicrhaodd Alexander iddo ei hun y taleithiau o'r tu ol, gan ychwanegu Syria at ei lywodraeth. Yr oedd gan Darius hefyd dri chant a naw ar hugain o ordderchafon, yn nghyda llawer o bendefigesau, y rhai a yrodd ymaith dan ofal gorsgordd cyn dechreu y frwydr; y rhai hyn oll a fradychodd llywydd Damascus i Alexander, wedi clywed am ffoad Darius. Yn mhlith y rhai hyn yr oedd gwraig weddw Memon, o lendid rhagorol, o'r hon y ganwyd mab i Alexander o'r enw Hercules.

ALEXANDER YN CYMERYD TYRUS.

Y frwydr nesaf i Alexander oedd cymeryd Tyrus, yr hon oblegyd cadernid ei chaerau a orfu iddo warchae arni am saith mis; ond eto nid oedd gan Alexander un ffordd i'w chymeryd heb wneuthur sarn llydan o'r cyfandir hyd ati, canys yr oedd yn sefyll ar ynys yn y môr, ac i'r dyben hyny, cludodd gedrwydd o Libanus, a bwriodd adfeiliau yr hen Dyrus i'r môr, i'r dyben i sylfaenu y sarn, ac hefyd fel y cyflawnid y broffwydoliaeth, Ezec. xxvi. 12. Gorphenwyd y sarn yn mhen saith mis, a chymerwyd y ddinas er gwaethaf gwrthwynebiad y Tyriaid. Y mae y sarn i'w gweled hyd heddyw. Lladdodd Alexander wyth mil o'r Tyriaid wrth gymeryd y ddinas, a mynodd groeshoelio dwy fil, a gwerthodd ddeng mil ar hugain yn gaethweision. Ond achubwyd pymtheng mil yn ddirgelaidd gan y Sidoniaid, mewn llongau, wrth gymeryd y ddinas.

Nodiadau golygu