Prif Feirdd Eifionydd (testun cyfansawdd)

Prif Feirdd Eifionydd (testun cyfansawdd)

gan Edward David Rowlands

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Prif Feirdd Eifionydd

PRIF-FEIRDD EIFIONYDD:

EU HANES YN SYML, YNGHYD A DETHOLION
CYMWYS I BLANT, A'U GWAITH.

I'R YSGOL A'R AELWYD.

GAN

E. D. ROWLANDS.


"HWY PERY CLOD NA HOEDL."



CAERNARFON:

CWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.),

SWYDDFA "CYMRU."

Rhagair.

MAE yn debyg nad oes ardal yng Nghymru gyfoethocach ei llenyddiaeth nag Eifionydd. Ond ychydig o gyfle gafodd ieuenctid yr ardal i astudio ei llenyddiaeth hyd yn ddiweddar. Ni roddid lle i'r pwnc yma. yn ysgolion y wlad, a dyna pam y mae llenyddiaeth Cymru mor ddieithr i lawer o'i phlant.

Ond o'r diwedd torrodd y wawr, ac y mae yr awr anterth yn prysur neshau. Rhoddir lle amlwg i lenyddiaeth Cymru ymhob ysgol deilwng o'r enw, drwy y wlad.

Fel prif-athro un o ysgolion Eifionydd, teimlwn. angen am lyfr i'r plant yn rhoddi ychydig o hanes y Prif-feirdd a detholion o'u gweithiau.

Felly i ysgolion a ieuenctid Eifionydd, yn bennaf, y darparwyd y llyfr yma; ond mae'r beirdd yn fwy na beirdd ardal, maent yn feirdd Cymru, a hyderaf y bydd y llyfr o ryw wasanaeth i lawer ardal heblaw Eifionydd.

Gwyr pob un a phrofiad ganddo mai gwaith anodd yw ysgrifennu i blant. Ceisiais roddi yr hanes yn syml fel y gallai y plant ei ddeall. Mae amryw o'r detholion yn rhy anodd i'r plant eu deall eu hunain; ond bwriadwn i'r cyfryw gael eu hegluro gan yr athrawon.

Gwelir fy mod wedi dilyn yr un orgraff, hyd y gallwn, yn y detholion ag a wnaethum yn yr hanes. Gwnawn hyn rhag dyrysu'r plant a pheri anhawster ynglyn a sillebu.

Mae y bennod ar y Cynganeddion ar yr un cynllun a'r un sydd yn y llawlyfr Awdl Dinistr Jerusalem " gan Mr. Lias Davies, Gwrecsam.

Mae fy nyled yn fawr i Myrddin Fardd am ddarnau anghyhoeddedig o waith Eben Fardd ac ereill, ac am lawer o gynorthwy.

Dymunaf ddiolch o galon i Mr. William George, Mr. D. H. Davies, Yr Orsedd Fawr, a Mr. E. Jones Griffith, Pwllheli, am ddarllen y Llawysgrif dros bwyllgor Eisteddfod Eifionydd, gan y trefnid arholiad ar y llyfr cyn y deuai o'r wasg; hefyd i Mr. L. D. Jones (Llew Tegid) am daflu golwg dros y Llawysgrif; ac i Mr. W. Glynn Williams, M.A., am ddarlun o'i dad, Nicander.

Felly, gyda llawer o bryder, cyflwynaf fy llyfr i ysgolion ac i ieuenctid fy ngwlad.

E. D. ROWLANDS.
CHWILOG,
Alban Hefin, 1914.

Cynhwysiad

ROBERT AP GWILYM DDU.

Robert ap Gwilym Ddu.

MAE yn debyg nad oes yr un plentyn o Gymro nad yw yn medru yr emyn sydd yn dechreu gyda'r llinell,—

"Mae'r gwaed a redodd ar y groes."

Ac nid oes yr un plentyn meddylgar na charai wybod rhywbeth am awdur yr emyn anfarwol. Ei awdur yw Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu), a anwyd yn y Betws Fawr, ym mhlwyf Llanystumdwy yn Eifionydd, yn y flwyddyn 1767. Er fod bellach agos i gant a hanner o flynyddoedd er hynny, anrhydeddir enw y bardd hwn heddyw, cenir ei emynau, a darllenir ei waith. Hyn ddylai fod nod pob un ohonoch, sef cyflawni rhyw waith da fydd yn anfarwol, ac felly erys eich enwau yn berarogl i'r oesau a ddel.

Mae yr enw Betws Fawr yn adnabyddus drwy Gymru heddyw, am mai yno yr oedd cartref y Bardd Du. Mynnwch fyned i weled y lle. Yn un o'r caeau. gwelwch Faen Hir ardderchog sydd yn cuddio llwch un o'r hen Dderwyddon, neu yn nodi maes brwydr ym yr oesau gynt. Bu Robert Williams, pan yn fachgen, yn chware llawer o amgylch y Maen Hir yma, a thebyg iddo gael aml i godwm oddiar ei war. Cenwch yma un o emynau y bardd, adroddwch ran o'i farwnad i'w ferch, syllwch yn fanwl ar yr olygfa hardd geir yma ar y mynyddoedd a'r môr, ac ond odid na ddy- chwelwch o'r fan yn feirdd i gyd.

Amaethwr gwladaidd yr olwg arno oedd Robert ap Gwilym Ddu, ond dyn neulltuol mewn gwybodaeth a gallu. Yr oedd son am dano ledled y wlad, a chyrchai llawer o feirdd a dynion dysgedig i'w weled. Teimlai pawb yn ei gwmni eu bod ym mhresenoldeb dyn mwy na'r cyffredin. Edrychid arno fel proffwyd gan drigolion y wlad o amgylch. Nid fel bardd yn unig yr oedd yn enwog. Yr oedd yn hynafiaethydd o fri. Astudiodd hynafiaethau ei wlad a'i ardal; ac nid oes dim yn fwy diddorol na hanes arferion ein gwlad yn yr hen amser gynt. Mae pob "maen a murddyn " a "thomen" yn dweyd ei stori wrth y meddylgar a'r craff. Yr oedd hefyd yn gerddor deallgar; ei athro yn y gangen hon oedd y Parch. J. R. Jones o Ramoth, un o ddynion enwocaf ei oes. Chwiliwch ei hanes yntau.

Saif Robert ap Gwilym ymysg beirdd goreu Cymru. Dywed rhai cymwys i farnu fod ei englynion y rhai goreu yn yr iaith. Dyma un ohonynt sydd wedi glynu yng nghalon pob Cymro a'i clywodd,—

"Paham y gwneir cam a'r cymod,—neu'r Iawn,
A'i rinwedd dros bechod?
Dyweder maint y Duwdod,
Yr un faint yw'r Iawn i fod."

Yn aml iawn y mae llawer o bethau hynod yn perthyn i ddynion gwir fawr, ac yr oedd rhai hynodion. yn perthyn i'r bardd enwog yma. Dywedir ei fod yn hoff iawn o glywed rhywun yn adrodd ei waith ac yn ei ganmol. Un tro aeth dyn dieithr i edrych am dano, a gwelodd yn union nad oedd llawer o groeso iddo. Cofiodd fod y bardd yn hoff o glywed canmol ei waith, ac meddai wrtho, "Wyddoch chwi beth, Robert Williams, englyn rhagorol ydyw hwnnw wnaethoch chwi." "Pa un yw hwnnw, y gwr dieithr?" ebe'r bardd. "Hwn," meddai'r dyn, ac adroddodd yr englyn i'r Iawn, a ddyfynnwyd uchod. "Wel, yn wir, y mae o'n dlws," meddai yntau, ac yna dywedodd wrth ei wraig, "Gwnewch gwpanaid o de a thipyn o doast i'r gwr dieithr yn union deg." Dengys hyn mor naturiol a di-ragrith oedd, mae pob bardd yn hoff o glywed ei ganmol a chanmol ei waith.

Yr oedd llawer o nodweddion yn ei gymeriad y byddai yn werth i chwi eu hefelychu. Yn un peth, yr wedd yn hynod o ofalus a manwl gyda'i waith, ac nid wedd yn fodlon heb y goreu ym mhopeth. Oblegid hyn mae ei farddoniaeth yn goeth a'i iaith yn lân.

Peth arall, ni chyfansoddai er mwyn ennill gwobrwyon yn unig, ond canai, fel y gwna 'r aderyn, am ei fod yn hoff o ganu.

Efe oedd athro barddonol Dewi Wyn, ac nid rhyfedd i'r disgybl lwyddo wedi ei hyfforddi gan y fath athro.

Yn agos i orsaf yr Ynys, saif capel bychan tlws mewn ardal unig dawel. Ei enw yw Capel y Beirdd, a chafodd yr enw oddiwrth Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn, y rhai fu a rhan flaenllaw yn ei adeiladu. Yma y byddai y bardd yn myned i addoli, ac y mae yn debyg y cenid llawer ar ei emynau rhagorol yno.

Tua diwedd ei oes symudodd i fyw i'r Mynachdy Bach, ac yno y bu farw, yn y flwyddyn 1850.

Claddwyd ef ym mynwent Cawrdaf Sant, Abererch. Ar garreg ei fedd mae yr englyn isod, o waith. Ellis Owen, Cefn y Meysydd:—

"Y bedd lle gorwedd gwron—hynodol,
Iawn awdwr 'Gardd Eifion';
Y bardd fu fardd i feirddion,
Oedd y gwr sydd gor-is hon."

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)
ar Wicipedia

Awdl

Er cof am Jane Elizabeth Williams, unig ferch,
ac Etifeddes Robert ap Gwilym Ddu.

ОCH! gur, pwy fesur, pa faint
Yw 'nghwyn mewn ing a henaint!
At bwy tro'f yn fy ngofid,
A chael lle i ochel llid!
Angau, arfog, miniog, mawr,
Ar ei gadfarch ergydfawr,
Wele yma carlamodd,
A'i rym ar egni a r'odd;
Torrodd i lawr, drwy fawr feth,
Ein diddig, unig eneth;
A mynnodd hwnt o'n mynwes,
Enaid a llygaid ein lles;
Nid oes, ni fydd, yn oes neb,
Resyni'n fwy croesineb.
Y fi, lwydfardd, wyf ledfyw.
Mawr ei boen, rhwng marw a byw,
Dirdynwyd ni'n dra dinam,
Oerodd gwres mynwes ei mam;
Wylo yr ym lawer awr,
Diau wylwn hyd elawr;
Ow! Sian fach, mae'n syn fod
Ein t'wsen mewn ty isod!
Dwfn guddiwyd, ataliwyd hi,
Y man na welwyf mo'ni;
Llwch y llawr, yn awr, er neb,
Sy heno dros ei hwyneb.
Nid oes wên i'w rhieni
Ar ei hol, er nas gwyr hi;
Ni ddodir gair toddadwy
Byth o'r Berch i'm annerch mwy,
O'ch olwg wel'd ei chelain,
Erchwyn oer wrth arch ei nain.


Ymholais, crwydrais, mewn cri—och alar!
Hir chwiliais am dani;
Chwilio'r celloedd oedd eiddi,
A chwilio heb ei chael hi.


Gwywais o geudeb wel'd ei gwisgiadau,
Llanwai y meddwl o'i llun a'i moddau,
Dychmygion gweigion yn gwau-a'm twyllodd;
Hynod amharodd fy ngwan dymherau.
Ei llyfrau, wedi ei llafur odiaeth,
Im' pan eu gwelwyf mae poen ag alaeth;
Llawn oedd mewn darllenyddiaeth, a hyddysg,
Cref iawn o addysg mewn 'sgrifenyddiaeth.


Och! arw son, ni chair seinio—un mesur,
Na musig piano;
Mae'r gerdd anwyl yn wylo,
A'r llaw wen dan grawen gro.

At byrth Cawrdaf âf o Eifion—i lawr,
Dan ddoluriau trymion;
Briwiau celyd, braw calon,
Llwyth mawr y'nt yn llethu 'mron.

Ochenaid uwch ei hannedd—a roisom,
Mae'n resyn ei gorwedd;
Lloer iefanc mewn lle rhyfedd,
Gwely di-barch—gwaelod bedd.

Ow! Sian, ymorffwys ennyd—o'n golwg,
Yn y gwely priddlyd,
Gair a ddaw i'th gyrhaeddyd—o'r dulawr,
I faith, faith, lonfawr, fyth fythol wynfyd.


Pan fo'r bedd yn agoryd,
Ddydd barn, ar ddiwedd y byd,
Daw'r llwch o'r llwch bob llychyn,
Er marw, ar ddelw yr Ail Ddyn.

Ow! Sian fach, bellach ni bydd
I ddoniau fawr ddywenydd;
Gruddfan, mae f'anian, wrth fod,
Ar abell, un awr hebod.

Y peswch marwol, pwysig,
Fu'n erlyn i'w derfyn dig;
Poethi ac oeri i gyd,
A'i blinodd, bob ail ennyd;
Chwys afiach, a chas ofid,
A'i grudd fach dan gryfach gwrid;
Pob arwyddion coelion caeth,
A welid o'i marwolaeth.
Llawer dengwaith, drymfaith dro,
Tra sylwn—tro'is i wylo.
Byr oedd hyd ei bywyd bach,
Oes fer—Ow! be sy fyrrach?

Goleu y rho'dd eglurhad,
Hoff a rhyfedd o'i phrofiad.
Daliodd o dan bob duloes,
Hyd ei olaf lymaf loes;
A'i gwaedd bur yn gu ddibaid,
I'r lan, ar ran yr enaid;
Cyflwynodd o'i bodd tra bu,
Ef i lwys ofal Iesu:
A dewis ymadawiad
Adre' i glir dir ei gwlad.

Gwlad rydd, a golud o ras,
Gwlad gyflawn o diriawn des;
Gwlad ddiangen, lawen lys,
Gwlad y gwir, a hir ei hoes.

Cael tragwyddol gydfoli,
Mewn eilfyd, hyfryd â hi,
A'n lle fry yn nhŷ fy Nhad,
Amen, yw fy nymuniad.

Annerch yr Awen,

Neu Fyfyrdod y Bardd wrth Afon Dwyfach.

MOR fwyn, fy llaw forwyn fach,
Yw dyfod at fin Dwyfach:
I'th gwrdd unwaith, gerdd enwawg
Myfyrio, a rhodio rhawg:
Mynnu eistedd,—mwyn osteg,
Ar fin dŵr tir Eifion deg:
Uwch Hengwm a'i gychwyngell,
Treiddio mae trwodd y'mhell:
Lli ei dòn sy'n lledaenu,
Islaw i'r ddofn Seler Ddu:
Dyli' braisg ar dal y bryn,
Yw'r mur dwr ar war Derwyn.

Cyrraedd y mae cainc arall
Oddidraw ei llaw i'r llall:
O dir Nant Cyll, dewrwyllt dòn,
Hoff, enwog, ddisglair ffynnon,
I'r hon fyth mae rhyw hen fawl,
Ymddug in' ddwr meddygawl.
Difyr yw oslef Dwyfach,
A difyr yw ei dwfr iach;
Ar ei glan wiwlwys ganwaith,
Owain a fu, awen faith,
Erys yn fyw yr awen fad,
Hyd lenydd ei dylanwad;
Ymarllwys cerdd o'i merllwyn,
Bu lwys fab Elias fwyn.
Minnau, ydd wyf am annerch
Cerdd dda yng ngwersyllfa serch;
Mewn cell ar ei min y cair,

Cain awen yn cyniwair.
Cefais awr o ddistawrwydd
Uwch ei phen, i'r awen rwydd;
Awr fach, ymhlith oriau f'oes,
Fwynaf o oriau f'einioes;

Eilio, mân byncio, mwyn bill,
Dan lawen wybren Ebrill;
Egor llais, wrth gwr y llyn,
Digymell ar deg emyn;
Tan gysgawdwydd, irwydd iach,
Mwyn dyfiant ym min
Dwyfach; Ac ednaint gwar, lafar lu,
Uwchben oedd yn chwibianu;
Dolef ar gangau deiliog,
Oruwch dwr glân lle cân côg.

Difyr cael, dan dewfrig gwydd,
Roi anadl i'r awenydd;
A gweld islaw distaw dòn,
Araf deg rifedigion,
Amryw o bysg-mawr a bach,
Heigiant, nofiant yn Nwyfach;
Cu amledd ym mhob cemlyn,
Ebyrth y deifr,-ymborth dyn;
Rhof fynych henffych i hon,
O'i chroywddwr chwareuyddion;
Dirioned ei raeenyn,
Yw'r dwr glâs ar dir y Glyn;

O! yr afon ddofn, ryfedd,
I mi sy'n dangos fy medd;
O hyd y modd y rhedi,
Y rhed f'amser ofer i;
I foroedd byd anfarwol,
A'u dyli'n wyrth dialw'n ol.

Y nos sydd wedi neshau,
Er difyrred fy oriau;
Tyred, awen naturiol,
Arwain fi 'nawr yn fy ol;
Da beunydd i'm diboeni,
O! enaid fwyn, na âd fi.


Bydd wych bellach, Dwyfach deg,
Fflur odiaeth, yn ffloyw redeg;
Hyd farn dy ruad a fydd
Trwy faenor tir Eifionydd;
Y dydd hwn sydd yn neshau,
Dwthwn dy osteg dithau.

Gwir ac Anwir.

TYNNU mae'r byd at anwir,
Enllibio a gwawdio
Gwir; Troi wyneb at yr anwir,
Bradychu a gwerthu Gwir.
Enynnu mae gwên anwir,
Ond prudd gan gystudd yw Gwir;
Anwiredd aeth yn eirwir,
Traws a gau y troes y Gwir.

Yr enaid ni choronir—
Er mor wael heb gael y Gwir.

Er enwog fawrhau anwir,
Cryfach, rhagorach y Gwir;

'R ennyd b'o cwymp yr anwir,
Dyna bryd gwynfyd y Gwir;
I ddinystr ydd â anwir,—
Rhag purdeb gwyneb y Gwir;
Y Duw uniawn di anwir,
Rho'ed i'm bron galon y Gwir;
Ac yna bid gwae anwir
A gwarth am gyfarth y Gwir.


Coffadwriaeth

Am y diweddar Fardd Godidog Dewi Wyn o Eifion.

GWAE oror wag Eryri,—gwae gannoedd,
Gwg Ionawr ddaeth inni:
Och! Wynedd, yn iach enwi
Iaith na dawn i'th enaid di

Gyrrwyd i ni flaguryn—o ardd Duw,
Iraidd deg blanhigyn,
A'r nodd a rodd o'i wreiddyn
Yw da waith ein Dewi Wyn.

Tyr Eifion ei bron am ein brawd,—a'i gwaedd
Mal gweddw am briawd;
Gwae randir hon gan gryndawd,
Mawr dy loes, hen Gymru dlawd.

Mae'r enaid yn merwino—am Ddafydd,
Ymddifad wyf hebddo;
A'r galon bur yn curo,
A hir ddeil o'i herwydd o.

Gwae fi, rhaid boddi dan bwys—poen gyfyng.
Pan gofiwyf ei orffwys;
A deoliad y wiwlwys
Awen o'r Gaerwen i'r gwys.

Gwyddom am ei gywyddau,—a gwiwdeb
Ei gedyrn linellau;
Pob cydsain gywrain yn gwau
Anadlant yn ei awdlau.

Dawn Eden a'i dynododd—uwch eraill.
A chywrain ymadrodd:
Dilafur y dylifodd
Yr iaith o'i ben wrth ei bodd.


Hwn fydd mawr bob awr tra bo—urdduniant
I farddoniaeth Cymro:
Er bedd erchyll, dywyll do,
Ei enw ni chuddir yno.

Englynion.

Crist ger bron Pilat.

DROS fai, nas haeddai, mae'n syn,—ei weled
Yn nwylaw Rhufeinddyn;
A'i brofi gan wael bryfyn,
A barnu Duw ger bron dyn.



Pilat yn y Farn.

YN y dorf, mewn ofn dirfawr—pwy welir,.
Ow! ai Pilat rwysgfawr?
Ie'r trwm fradwr tramawr,
Foru'n fud, yn y farn fawr.



Gweddi.

GWIR wylaf ddagrau heli,—o lwyr och,.
I lawr af dan waeddi
At ei orsedd, mewn gweddi,
A gwaed y Mab gyda mi.

Drwy'r hoelion, a'r coroni,—draw, a'i gur,
Drwy y gwawd a'r poeri,
Drwy y gwinegr, dir gyni,
Drwy ei boen fawr, derbyn fi.



Ateb i Ddewi Wyn pan oedd mewn iselder ac anobaith

ER cwyno lawer canwaith,—a gweled
Twyll y galon ddiffaith,
Ni fyn Duw o fewn y daith
Droi neb i dir anobaith.


I'w Argraffu uwch ben Drws Capel.

FFYDDLONDEB, undeb, a bendith,—wych elw,
A chalon ddiragrith;
Gwylia reddf annhygoel rith,
Mae us gwan ym mysg gwenith.

Beddargraff.

YR Ion pan ddelo'r ennyd,—ar ddiwedd,
O'r ddaear a'n cyfyd;
Bydd dorau beddau y byd
Ar un gair yn agoryd.


Ffon y Bardd.

Digwyddodd i Ddewi Wyn, wrth gyd—deithio â R. ap Gwilym Ddu, ryw dro, ofyn iddo paham y cariai ffon mor geinciog, ac atebodd yntau mewn englyn:—

NID arwain Ynn na Deri—Eifionydd
A fynnaf eleni;
Pren Celydd, prin y coeli,
A phen aur yw fy ffon i.

PEDR FARDD.

PEDR FARDD.

"Pedr Fardd pa awdwr fu
Mwy anwyl i emynu?"
R. AP GWILYM DDU.

UN o'r penillion cyntaf a ddysgir gan blant Cymru yw yr un sydd yn dechreu gyda'r llinell brydferth,—

"Cysegrwn flaenffrwyth ddyddiau'n hoes,"

ac y mae ganddo y fath afael arnom fel y'i cenir gyda hwyl gan hen bobl, fel pe heb feddwl ei ystyr.

Eifionydd eto biau awdur yr emyn sydd yn dechreu gyda'r pennill nodir uchod, sef Pedr Fardd.

Ganwyd Peter Jones (Pedr Fardd) yn y flwyddyn 1775, mewn bwthyn diaddurn o'r enw Tan yr Ogof, ar ochr Carn Dolbenmaen. Pan oedd yn blentyn ieuanc symudodd ei rieni i fyw i Fryn Engan, ac oddi- yno drachefn i Langybi.

Dywedir fod ei dad yn brydydd pur dda, a bu hynny yn fantais i'r plentyn i ddysgu rheolau barddoniaeth. Dywed ei hunan yn ei annerch i Ddewi Wyn a Robert ap Gwilym Ddu:—

"Rhyw anghelfydd brydydd brau
O Eifionydd wyf finnau,
A phrydydd hoff ei rediad
Addfwyn, o hon, oedd fy nhad."

Yr oedd ynddo chwaeth at farddoniaeth pan yn blentyn. Dywedir iddo wneud yr englyn canlynol i'w chwaer pan yn bur ieuanc:—

Fy chwaer sydd ferch daer a dig,—un 'stormus
Rhyw sturmant anniddig;
Er bwrw ia a barrig,
Myn hon gael menyn neu gig."


Mae yn debyg i'w chwaer ei anfon i geisio enllyn—menyn neu gig, ar ddrycin oer yn y gaeaf.

Galwodd Dafydd Ddu Eryri yn nhy ei dad pan oedd y bardd tua phymtheg oed, a gofynnodd iddo wneud englyn i'r mis, sef mis Ionawr. Gwnaeth yntau yr englyn hwn:—

"Och! Ionawr, aml ochenaid,—o'th achos
A thuchan wna'r gweiniaid;
Cwyno herwydd ia cannaid,
Oer hin, a rhew blin, wna'r blaid."

Pan tua phump ar hugain oed symudodd i Lerpwl, a dyna lle treuliodd weddill ei oes.

Daliodd ar bob cyfleustra i ddiwyllio ei hunan, a daeth yn ysgolhaig gwych. Yna aeth i gadw ysgol; ond mae yn debyg y buasai yn well ganddo gael hamdden a thawelwch i farddoni, na bod yn Ysgolfeistr. Dyma fel y dywed yn ei annerch i Wilym Aled:—

"Och yn f'einioes na chawn fwyniant,—ysgol
A wasgai fardd methiant;
Gyda blin giwed o blant,
Egwan weithiau y'm gwnaethant.

"Lleisiau ni ewyllysiwn,—i'm dotiaw
O'm deutu fel cacwn;
Boddi mewn nadau byddwn,
Nychais i gan wich a swn.

"Gwaeddi A, B, mawr gri mor groes,—hyll wbain,
A sillebu trachroes;
I'm pen yr acen a roes
Hallt ias a holltau eisioes.

"O'r dwndwr a'r syfrdandod—y mynych
Ddymunais ryw gysgod;
Nid oes bardd yn dewis bod,
Yn nirfawr swn annorfod."

A fuoch chwi erioed yn meddwl fel y bydd "blin giwed o blant" yn poeni athro; a'r "nychu sydd gan wich a swn" pan yng nghanol eich dwndwr?

Mae yn debyg fod ar Pedr Fardd hiraeth am ardal ei febyd yn aml. Yn ei anerchiad i'w gyfeillion yn Eifionydd dywed:—

"Fy hen serchog fryniog fro,
Ni chaf ond prin ei chofio.
Aeth y Garn ymaith o gôf—
Bryn Engan bron i anghof:
Ac nid oes am oes i mi
Un gobaith am Langybi.
Fy enaid am Eifionydd
Mewn hiraeth ysywaeth sydd."

Pa ryfedd i fardd yng nghanol "crochlef yr holl dref draw" hiraethu am fryniau a llethrau Eifionydd, ardal nad oes ei phrydferthach yng Nghymru.

Y mae Pedr Fardd yn enwog fel crefyddwr, bardd a llenor. Bu yn flaenor yn eglwys y Methodistiaid, Pall Mall, Lerpwl, am dros ddeugain mlynedd.

Enillodd amryw o wobrwyon mewn Eisteddfodau, ac yn eu mysg y wobr am awdl ar "Roddiad y Ddeddf " yn Eisteddfod Aberhonddu yn y flwyddyn 1826.

Cyhoeddodd ei waith barddonol yn llyfr, a elwir "Mel Awen." Mae ei emynau ymysg goreuon yr iaith, a bydd ei enw yn fyw tra cenir emynau Cymraeg. Bu farw yn y flwyddyn 1845.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Peter Jones (Pedr Fardd)
ar Wicipedia

Hynafiaid y Cymry.

COFFADWRIAETH ffraeth i hoff Frython—boed
O bwyll cynganeddion;
A chwilier achau haelion,
Gwelyau teg y wlad hon.

Gwyr enwog o wroniaid
Yn hannu o Gymru gaid;
Y dydd blin da oedd y blaid—o ddewrion
A mawrion Omeriaid.

Yn erbyn y gelyn gynt
Aml luyddion ymleddynt;
Dyrys hwyl o draws helynt—oedd ofid
Am ryddid ymroddynt.

Am ddewrwech fwynwech Fanon,
Omeres wiw, bu mawr son;
Buddug goeth, a byddai câd
O'i llywiad hi oll lewion.
Y fwynwiw gu fenyw gain
Tarfai olwg torf filain:
Dofwyd ag arswyd ei gwedd
Llid rhyfedd llewod Rhufain.

Cawr hoew ydoedd Caradog
Ap Bran lòn, ddwyfron ddifreg:
Nid ofnai ef na dwfn ŵg,
Na iau Rhufain na'i rhyfyg.

Arthur hyf a'i gleddyf glâs,
Dewr iawn bryd, a'i darian brês,
Diegwan oedd, dug yn is
Elyn dig, ffyrnig i'r ffôs:
Y Saeson â bron heb rus
Gyrrai draw i gwr y drŵs;
Ddiriaid oer fleiddiaid arw flys


Llew olwg oedd Llywelyn
I'r arth o Sais, Iorwerth syn;
Sawdwr sydyn
O fro i fryn.

Glandwr, glun dew
Gwladwr gloewdew
Gwnai ar Sais arwlais oerlew,
E eilliai flaidd hyll ei flew.

Bu o'r genedl wiwber gannoedd
Yn ymryson amryw oesoedd
A thrinoedd o uthr anian.
Y gormeswyr egr eu moesau,
Aflonyddent fil aneddau;
Caf lefau o'u cyflafan.

Harri'r Modur, gwych Benadur,
Neud o Tudur, a'n datodai
O afaelion y gwyr trawsion;
I fyw'n rhyddion ef a'n rhoddai.
Maeddodd goryn
Llwyd ei gopyn, llidiog epa;
Lladdodd Rhisiart,
Trwyn y llewpart torrai'n llipa.

Gyrrai Fonwyson gur i fynwesau
Lluyddion Rhisiart i'w lladd yn rhesau;
Wyr Owen Tudur, a ro'i i'n tadau
Deg lonyddwch, diogel aneddau;
Mwy o ryddid a mawreddau—cawsant,
Fe wawriodd gwelliant i fyrdd o'u gwallau.

Heblaw mwynhad o ryddid gwladawl
E ddrylliwyd barrau dorau durawl
Cur a chaddug gorchuddiawl;—cai'r werin
Roddiad mwy iesin, ryddid moesawl.


Gwelwyd adwedd i'n gwlad wywedig:
Duw a gododd o'r Diwygiedig
Amryw frodyr mawrfrydig;—gwladgarwyr
A da iachawdwyr nid ychydig.

Gwilym Salsbri, gwr o fawrfri,
Sydd i'w enwi a'i swydd uniawn.
E gaiff hir goffâd;
Gwir les gwyr ei wlad
Fu ei dueddiad a'i fâd wiwddawn.

Gwilym Morgan wiwlan eilwaith.
Hael ei fwriad a'i lafurwaith:
Drwy eu gofal i'w droi'n gyfiaith,
Gair yr Ion a geir ar unwaith.

E gaed doethion gyda hwythau,
A phur enwog offerynau
Parri drylen, pur hydr, olau,
A rhai eraill o'r rhyw orau.

Edmwnd Prys, felys fawliaith,—mae'n fuddiol
A hynod lesol ei hen dloswaith:
Salmau emynau mwyniaith—a gauodd:
E rywiog eiriodd ei ragorwaith.

Dwys gadarn oedd dysgeidiaeth y dynion
Fu eres union fawr wasanaeth;
A llyfr Duw o'u llafur daeth—drwy Gymru
Yn bur i deulu pawb o'r dalaeth.

Brawdgarwch.

BRAWDGARWCH sy brid goron
O! dysg o hyd wisgo hon.
Tyfed a deued bob dydd
Yr eginyn ar gynnydd.

Gair uniawn y gwirionedd,
Ei swm o hyd sy am hedd.
Bygwth mae â gwae y gwyr
Na fyddont dangnefeddwyr.

Cenfigen Cain a fagodd
Echrys fâr; Och, eres fodd!
Yn y dyn bu gwŷn dan gêl;
Rho'i ddiben rhudd i Abel.
Yn y byd o hyd mae hon;
Myn ei dannedd mewn dynion.
O'i bachau a'i du bechawd
Ceisiwn ffoi rhag cnoi ein cnawd.

Rhyw bwnio ceir rhai beunydd,
"A llunio bai lle na bydd."

Gwiliwn rwyg—o galon rydd
Bugeiliwn bawb eu gilydd.
Car addysg a'th ceryddai;
Gwell ffonnod na bod mewn bai.
Nid oes wyr, diau, sy waeth
Na dwys gablwyr disgyblaeth.

E ddylai gwŷch ddal y gwan,
A dwyn baich y dyn bychan.
Chwiliwn raid; â chalon rydd
Ein golud rho'wn i'n gilydd.
Gwan, nerthwn; rho'wn gynorthwy
I'n brodyr—dim ocyr mwy.

Boed cynhaliaeth, lluniaeth llon
A thrwyadl i'n hathrawon.
Hefyd (byw raid) na foed brin
Gyflog y gweithiwr goflin.

Dyngarwch.

AI ymaith i'w daith un dydd
Wr unig, heb arweinydd,
O Gaersalem, groes helynt,
I Jericho, arwach hynt:
Ac ar y ffordd, mewn gorddor,
Gwelai ddyn wrth gil y ddor;
Islaw bryn mewn dyffryn du,
A'r nos dduoer yn nesu,
Galwai hwn, ac wele haid
Wgus o wallus wylliaid;
Ac ar redeg o'r adwy
Gwedi hyn i gyd a hwy.
Cernodient, gwasgent y gŵr.
Goflin a gwael ei gyflwr:
O lawn dig, ei lindagu
I lewyg ddwys, olwg ddu.
Aent a'i ariant a'i oriawr,
Ei gwbl ef a'i gobio i lawr.

Chwarddent y lladron chwerwddull.
Rhedent a ffoent mewn ffull;
A'i adael yn wael ei wedd
Y'min cornant mewn carnedd.
A drain i'w gylch, druan gwr!
Heb fwyd, na chlwyd, na chlydwr.

Bu yno am dro mewn drain,
Er ei nych oer, yn ochain.
A deuai yn y diwedd
Drwy'r wlad offeiriad hoff wedd;
Dieithr fodd! pan daeth i'r fan.
Canfu hwn ef yn cwynfan.
Ond pan welodd, e drodd draw.
Diystyr fu a distaw.
Yr un modd, gwelodd ei gur,
Ryw Lefiad, a'i arw lafur.
Wrth ei gur ni thosturiodd,
Ond yn ddifraw draw fe drodd.


Aeth y rhai'n ymaith ar hynt,
Swyddwyr o'r eglwys oeddynt.
Os oeddynt o wiw swyddau
Anweddaidd wyr oedd y ddau:
Drwg wyr ni wnaen' drugaredd
A'r truan oedd wan ei wedd.
Ond rhyfedd! o'r diwedd daeth
Gwawr deg o waredigaeth..
Teithiwr un bwynt a hwythau,
O well dyn na hwy ill dau,
Ddieithr hynt, ddaeth ar eu hol,
O ddamweiniad ddymunol.
Didwn Samariad ydoedd,
Tad cun llawer un lle 'r oedd.
Clywai ochain clau uchel,
A chwynfan dyn gwan dan gêl.
Yn y man ar fin llannerch,
Daeth i'r amlwg olwg erch:
Dyn noeth a hwn dan aethau,
Gwaed i gyd gwedi ei gau.

Cyffrodd, disgynnodd y gwr,
A rhedodd at y rheidwr.
Y dwfr hallt a dywalltodd,
Wylad mwyth weled y modd.
Lliw poen a briw pen a bron.
Sychodd a rhwymodd y rhai'n
Yn eu lleoedd á lliain;"
Gan dywallt y gwin diwael
A'r olew coeth 'rol eu cael.
A gwisgodd ef a gwasgawd;
Meddai galon a bron brawd.
Ac, rywfodd, dododd y dyn
Oer isel ar ei asyn.
Ac felly, i'r llety llawn
Dygodd ef i gael digawn.
A phan aeth helaeth haelwr
Talodd heb ffrost gost y gwr.


Dyna gymydog dinam
I'r gwr a gawsai oer gam.
Da was doeth:-O! dos dithau
I wneud un modd, enaid mau.
Bydd yn hoff o'r cloff a'r claf
Rho echwyn i'r Goruchaf.
Diledrith dalu adref
Diau 'n ol, a wna Duw nef.

Anerchiad

I Ddewi Wyn a Robert ap Gwilym Ddu.

HIN wych o hoen ac iechyd
I ben beirdd bannau y byd;
Beirdd Eifion, beraidd ofeg,
Dau frawd o ddoniau difreg.

Enaid awen yw Dewi,
Yn flaenaf y dodaf di;
Ac ar d'ol yn gywir daw
Ap Gwilym, hoewlym hylaw.
Cu Wyn a Du ac nid oes
Cyffelyb coffâ eiloes.
Henffych i'r gorwych gewri,
A gura neb ein gwyr ni?
Bwrn ydynt i'r beirniadon;
Cofus arswydus yw son.
Onid enbyd yn Dinbych
Godi'r gwael i gadair gwych?
Rhoen' dlws yr hen Daliesin
I'r Dryw bach drwy bleidiach blin!
Os ca'dd Dryw unrhyw anrheg,
Mae'r enw i ti Dewi deg.
Dy awdyl, diau ydoedd
Uwch ei bri, iach hoewber oedd:
Sain gwir elusengarwch
I dlodion llymion y llwch.


Ond beirdd clau, cynlluniou llon
Yw Dafydd a Du Eifion.
Dyma ddau o'r gorau gwyr
A fedd Gwynedd o ganwyr:—
Am brif-fardd Môn mawr son sydd,
Goronwy fygr awenydd.
Ond Gronwy yn fwy ni fydd.
Ei enw difeth na Dafydd.
Mingoeth yw am awengerdd,
Pen y gamp yw yn y gerdd.
A'r ail yn Eifion o rym,
Gelwir Robert ap Gwilym.
Yn drydydd minnau droediaf
Ar eich ol, O wŷr, o chaf.
Rhyw anghelfydd brydydd brau
O Eifionydd wyf finnau,
A phrydydd hoff ei rediad
Addfwyn, o hon oedd fy nhad.
Ond heddyw gwn nad diddan
Yw fy llais, mi gollais gân.
Fy hen serchog, fryniog fro,
Ni chaf ond prin ei chofio.
Aeth y Garn ymaith o gôf—
Bryn Engan bron i anghof;
Ac nid oes am oes i mi
Un gobaith am Langybi.
Fy enaid am Eifionydd
Mewn hiraeth ysywaeth sydd;
O fy anwyl Eifionydd!
Pan wneir ei son poen arw sydd.

Annerch i Thomas Gwynedd,
Bardd Cymdeithas y Cymreigyddion yn Llynlleifiad.

HA was! ai Tomas wyt ti—a godwyd
I gadair uchelfri?
Minnau sydd ym min soddi,
Tan y dwr y'm tynnwyd i.

Ti, wr, haeddit eu rhoddion,—rhugl wiwddoeth,
Rhyglyddai obrwyon:
Gwyddant y Cymreigyddion
Rin gwledd yr Awen, aig lon.

Enw i'th ber awenwaith bu:—yn deg lon
Dy glod aeth drwy Gymru,
A chefaist dy ddyrchafu
A nawdd coedd, awenydd cu.

Ni chefais innau uchafiaeth—na chêd,
Na chodiad ysywaeth;
Mwyn nawdd am awenyddiaeth
Ar un pwnc, neu lwnc o laeth.

A fu'r ddawn o farddoni—o un lles
A llaesiad i'm cyni?
Dwy geiniog i'm digoni
O les hon ni welais i.

Mewn brywes, mwynber awen—eres hael
Ni roes i'm fy halen;
Trengaf cyn y tyr angen
Nag y rhydd geiniog i'r hen.


DEWI WYN O EIFION.

DEWI WYN O EIFION

"Enaid awen yw Dewi,
Yn flaenaf y dodaf di."
Pedr Fardd.

DYMA fardd arall a wnaeth Eifionydd yn enwog. Dodir Dewi Wyn bob amser yn rheng flaenaf beirdd Cymru. Mae yn anfarwol am fod ei waith yn anfarwol. Mae y rhan fwyaf o'i waith yn rhy anodd i chwi'r plant ei ddeall; ond o ddarllen yr hyn sydd yn llyfr yma cewch yn sicr ddigon o flas arno i wneud i chwi benderfynu darllen ei waith i gyd os cewch fyw i ddod yn ddigon hen i'w ddeall.

Mab i Owen Dafydd y Gaerwen oedd Dafydd Owen (Dewi Wyn). Saif y Gaerwen ym mhlwyf Llanystumdwy, ryw ychydig i'r gorllewin o orsaf yr Ynys, a bydd y lle yn enwog byth am mai yno y ganwyd Dewi Wyn; yno hefyd y bu yn byw y rhan fwyaf o'i oes, ac yno y bu farw.

Ganwyd ef yn y flwyddyn 1784, a bedyddiwyd ef yn eglwys Llanystumdwy. Ni cheir fawr o hanes ei rieni, ond dywedir fod ei fam yn wraig dalentog, ac fel y dywedodd rhywun," Mae mam dda yn well na chant o ysgolfeistri."

Bu Dewi Wyn yn yr ysgol gyda William Roberts yn Llangybi, a chydag Isaac Morris yn Llanarmon, ac wedi hynny yn Llanystumdwy a Phenmorfa.

Pan oedd yn yr ysgol ym Mhenmorfa, achwynodd bachgen, o'r enw Richard Morris, arno wrth ei athro, a chanodd Dewi iddo fel hyn:—

"Dic Morus, fradus, di-fri,—hen chwannen
Yn chwennych drygioni;
Y gwar cam a'r garrau ci,
Y grigwd, fe haeddai 'i grogi."


Nid oedd yr adeg yma ond deuddeg oed, a champ go lew i un mewn oed, heb son am blentyn, fuasai gwneud englyn digrif fel yr uchod.

Bachgen difrif a gweithiwr caled oedd Dewi yn yr ysgol, ac ystyriai y plant ef yn un galluog iawn ac yn ben arnynt oll. Yr oedd hefyd yn fachgen dewr ac yn arwr gan y bechgyn.

Ar ol ei gwrs addysg yn yr ysgolion enwyd, anfonwyd ef i ysgol ym Mangor-is-y-coed i orffen ei addysg. Wedi hynny daeth adref at ei rieni i'r Gaerwen i amaethu, a dyna lle bu, am y rhan fwyaf o'i oes, yn

"Amaethon boddlon a bardd,"

ac amaethwr llwyddiannus iawn oedd.

Parhaodd i ddarllen ac astudio, a rhoddodd sylw arbennig i rifyddiaeth, cerddoriaeth a hanes. Ond barddoniaeth oedd ei hoff bwnc, a dywed ei hun yn Awdl Amaethyddiaeth:—

Mynnai awen am ennyd,
Fy nghael i'w gafael i gyd."

Yr oedd i Ddewi Wyn frawd o'r enw Owen yn siopwr ym Mhwllheli. Collodd ei frawd ei iechyd a symudodd Dewi a'i fam ato i fyw. Bu Dewi Wyn yno am ddeng mlynedd, hyd nes marw ei frawd, ac yna dychwelodd i'r Gaerwen, lle bu byw hyd ddiwedd ei oes.

Sylwais o'r blaen ei fod yn prydyddu pan yn ddeuddeg oed, ac yn yr oedran ieuanc yma y cyfansoddodd "Gywydd y Farn"; ac nid oedd ond un-ar- bymtheg oed pan gyfansoddodd gywydd rhagorol ar "Fawredd Jehofa." Pan yn un-ar-hugain oed aeth son am dano drwy Gymru, drwy iddo ennill gwobr y Gwyneddigion am Awdl ar "Folawd Ynys Prydain." Yn fuan ar ol hyn enillodd wobr yn Thremadog am Awdl ar Amaethyddiaeth.

Yn y flwyddyn 1819 cyfansoddodd ei orchestwaith, sef Awdl ar "Elusengarwch," testyn Eisteddfod Dinbych.

Yn y flwyddyn 1820 cyfansoddodd "Awdl y Gweithwyr" yn yr hon y cyfeiria at Mr. Maughan a wnaeth ffordd newydd drwy ganol Eifionydd o Ffriwlyd i gyfeiriad Mynydd Cenin, ac a blannodd goed bob ochr iddi. Gelwir y ffordd yn "Ffordd Maughan "neu "Y Lôn Goed." Diwedda yr Awdl fel hyn:—

"A da'r cof wedi'r cyfan,
Maughan am goed,—minnau am gan."

Yr oedd Dewi Wyn yn nodedig o ffraeth ac yn hynod am ei atebion pert. Dyma i chwi ryw ychydig o enghreifftiau; hwyrach y byddant yn help i rai ohonoch wneud pennill neu wau cynghanedd. Yr oedd ganddo gi, o'r enw Pero, oedd yn hoff iawn o fwyta mwyar duon, a chanodd Dewi fel hyn iddo :—

"Mae Pero laes ei gynffon
Yn hela'r mwyar duon,
Gan feddwl mynd ond bod yn lew
Yn dew ar fwyar duon.

Pe byddai'r ynfyd gwirion,
Yn gwyro i hel llygeirion,
Fe ai yn llyfn ei flewyn llwyd,
Wrth fwyta bwyd bon'ddigion."

Un tro yr oedd Lewis Tomos yr hwsmon a Dewi Wyn yn y drol yn myned i nol mawn, a bachgen o'r enw Wmffra Owen yn certio. Aeth y gwas bach a'r drol yn erbyn cilbost adwy. Dwrdiai yr hwsmon yn enbyd, a'r gwas bach amddiffynnai ei hun; a Dewi, wrth wrando, ddywedodd fel hyn:—

"Mae Lewis, ddyn aflawen,
Am ffrae ag Wmffra Owen;
'Rwyf mewn ofn, a dweyd y gwir,
Y curant yn y Gaerwen."


Unwaith gofynnai i was, o'r enw Wil Parri, a oedd wedi gorffen rhyw waith, a phan atebodd hwnnw, dywedodd Dewi:—

"Wele purion Wil Parri
Gonest iawn a da gwneist ti."

Dywedai un o'r gweision ryw dro ar ddiwedd y cynhaeaf:—

"Y gwair a'r ŷd i gyd a gawd."

Ac ebe Dewi;—"Ie, ond bod

"Eisiau 'i ddyrnu a'i falu'n flawd,
A'i bobi'n fara i fagu cnawd."

Nid yw yr uchod ond ychydig o enghreifftiau i ddangos mor ddoniol a pharod ei atebion oedd y bardd.

Fel hyn y byddai Dewi yn ymddifyrru gyda'r gweision wrth gario mawn a lladd gwair a gweithio ar y fferm. Byddai ei feddwl weithiau mor llwyr ar farddoniaeth fel yr anghofiai ei hun. Un tro yr oedd wedi bod yn torri cawellaid o wellt medi, ac yr oedd ar ganol y grisiau yn y ty, yn myned i fyny i'r llofft a'r cawell ar ei gefn, pan waeddodd ei fam arno, "I b'le rwyt ti yn meddwl mynd?"

Gallech feddwl oddiwrth yr hanesion uchod nad oedd dim neilltuol ynddo mwy nag amaethwr arall ond ei fod yn dra doniol a ffraeth.

Ond pan gofiwch am ei awdlau godidog, gwelwch ei fod yn fardd tra enwog. Dyma ddywedodd Islwyn am dano, "Uchelfardd Eifion, genius mwyaf hil Gomer yn ol fy marn i." A dyna farn llawer heblaw Islwyn. Clywch hefyd fel y canodd Hiraethog am dano:—

"Ni wiw i Fôn am Oronwy
Owen mawr, i wneud son mwy;
Owen y Gaerwen gurawdd
Ei Howen hi'n ddigon hawdd.
O ni bu gan neb Owen
Gu erioed fel y Gaer wen!
Na Dewi chwaith—dweda'i chwi
Ar y gŵr wnai ragori;
Na Gwyn na Du, gwn nad oedd,
Allasai drwy'r holl oesoedd
Guro hwn, rwy'n gwir honni—
Un iawn oedd 'y Newi Wyn i!"

Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, ac yr oedd i'w feddwl nerth angherddol. Yr oedd ei sylwadau yn glir ac yn wreiddiol ar bob pwnc, ac yr oedd ymhell uwchlaw'r cyffredin ym mhob peth.

Yr oedd yn ddyn gonest a hael ac yn garedig iawn wrth y tlawd. Os am wybod y cwbl am dano, mynnwch gael traethawd Myrddin Fardd arno.

Nid oes dim a ddengys fawredd bardd yn well na'r lle gaiff ei ymadroddion yng nghof ei genedl. Ni ddyfynnir dywediadau yr un bardd yn amlach na rhai Dewi Wyn. Maent erbyn hyn megis diarhebion. Dyma i chwi rai ohonynt :—

I herio unrhyw un wrthbrofi'r hyn a ddywedir, defnyddir y llinellau hyn:—

"A wado hyn aed a hi,
A gwaded i'r haul godi."

Oni ddesgrifir y natur ddynol yn aml iawn gyda'r llinellau:—

"A phawb yn gall ac yn ffôl,
A ddygymydd a'i ga'mol?"

Cysurir y claf yn aml iawn trwy ddywedyd :—

"Gwybydd, dan law Dofydd Dad,
Nad yw cerydd ond cariad;
Yna o'i law, anwyl Iôn,
Wedi cerydd daw coron.'


Disgrifiwyd cyni'r tlawd filoedd o weithiau gyda'r geiriau hyn:—

Dwyn ei geiniog dan gwynaw,
Rhoi angen un rhwng y naw."

Bu farw nawn Sul, Ionawr 17eg, 1841, a chladdwyd ef ym mynwent Llangybi. Dywed Eben Fardd yn ei Gywydd i Langybi:—

Dyna fedd Dewi Wyn a fu—ben bardd
Heb neb uwch yng Nghymru;
Ond p'le mae adsain cain, cu,
Tinc enaid Dewi 'n canu."

Ar garreg ei fedd mae'r llinellau canlynol, o waith Ioan Madog, wedi eu cerfio:—

"Sain ei gain odlau synnai genhedloedd;
Hir fydd llewyrch ei ryfedd alluoedd;
Oeswr a phen Seraph oedd !—pen campwr,
Ac Amherawdwr beirdd Cymru ydoedd."



Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
David Owen (Dewi Wyn o Eifion)
ar Wicipedia

Elusengarwch.

Tarddiad Elusen.
Yn rhodd anfonodd nef wen,
O law Iesu elusen.

Disgynnodd duwies gwiwnef,
I'n daear ni, do, o'r nef—
Llysoedd brenhinoedd heini,
Islaw ei holl sylw hi.
Chwyddai serch y dduwies hon
At aelwydydd tylodion;
Agor o'i thrysor wrth raid
A'i rannu i drueiniaid.
Ni lysir, gan Elusen,
Un cnawd yn ieuanc na hen;
Edwyn eisieu dyn isel,
Yn hen a gwan hon a'i gwel.

Delw Duw ar dylawd wr.
Gwel'd brawd ar ddelw 'Nghreawdwr,
A delw Duw ar dylawd wr,
A chofio 'nhlawd Iachawdwr,
Fu un dydd yn gofyn dwr,
A enynna yn uniawn,
Fy nhymer dyner a'm dawn.


Hanner yr eiddof, yn awr, a roddwn;
Ac heb ail wrtheb y cwbl a werthwn,
I roi yn hael er enw Hwn:—teyrnasoedd,
Llawnder y bydoedd oll nid arbedwn.

Brodyr ydym.
Mewn ystyr brodyr o un bru ydym;
Ar y cyntaf yn Addaf, un oeddym;
Ni, i gyd oll, un gwaed ym,—yn ddiddadl,
Un cnawd ac anadl, ac un Duw gennym.


Fewythr William.
Fy nwr hallt yn ddafnau rhed,
Uthr weled f'ewythr William:

Mamau, hen neiniau anwyl,
I'r drysau mewn eisiau 'n wyl;
O! 'r hen wr, mor druan yw!
Fy hen daid, fy nhad ydyw:
Troednoeth, a phen—noeth a'i ffon
A'i gydau dan fargodion.
GWGAN oedd, nid gwag o nerth,
Ac arno wir ddelw GWRNERTH;
O gynheddfau gweinyddfawr,
Cyrus, Ahasferus fawr.
Be'n eistedd yn Senedd Sior,
Ef i'w chanol f'ai'i chynor;
Ac i'w deyrnben, cadarnbwynt.
Y lluniai hi'n well na hwynt.


Nid oes yn nau Dŷ y Senedd—ei well;
Ow! O! mae'n beth rhyfedd
Na wnaed hwn yn ynad hedd;
Neu frenin o fawr rinwedd.


Caru'r tlawd.
Ac o cheri Iesu Grist fel Cristion,
Amlyga dy gariad i'r tlawd gwirion:
Edrych am anwyl gadw ei orchmynion;
O gwnei ryw giniaw, gwna i rai gweinion;
Ac nid rhai goludog, cyfoethogion;
Nid cyfarch a gwneud cofion,—ond gweithred,
Rhoi tirion nodded i'r truain weddwon.
Ys Crist, yn drist, dan boen drom,
Fu o'i rad ras farw drosom,
Gwael na ro'em o galon rydd,
Ein golud dros ein gilydd.


Gwaith Elusen.
Melysu mae Elusen
Y bustl a'r huddugl o'i ben;
Gyr chwerwder o garchardai;
Newyn y lleidr a wna'n llai.
Nid bai a noda â'i bys,
Ond angen hi a'i dengys.

Gwobr Elusen.
Tlodion ŷnt deulu da Naf,
Llios o'i frodyr lleiaf:
A weinyddo un nodded,
I'r rhain, a ga orhoen gêd:
Yn y ne, dyle dilyth,
Mamon yn gyfeillion fyth.
Cânt ogoniant digynnen,
Teyrnas, gwych balas, uwch ben;

Yng ngwawl anfeidrawl nef wen;—coronau
Gemau a thlysau o waith elusen.


Y rhai yn awr a heuant—ei maesydd,
Dim eisiau ni welant;
Os i'r bedd ar ddiwedd ânt,
I fedi adgyfodant;
Myned i fyd y mwyniant,
Y'myd y nef medi wnant.

Y Cybydd.
Yn ei lian main, mynnai
Fyw'n foethwych, dan fynych fai:
Llidiodd wrth bob llwydaidd ddyn,
Yn ei ddrysau'n ddiresyn;
I ddwyn dim oedd yn ei dai,
Ni thyciai gair na thocyn:
Rhoi i'w gwn, ar ei giniaw,
Ond dal y trist ddyn tlawd draw.
Ymhyllai, dwrdiai bob dydd,
Cernodiai eu cornwydydd;
Dydd y farn gadarn, ar goedd,
Eithradwy y gweithredoedd,
Duw a rydd ei dir a'i waith,
A'i hen eiddo yn oddaith;
A bydd yr hen gybydd gau,
Yn eu canol yn cynnau;
Ei dda, am fyth, i ddim fydd,
Ond i'w enaid yn danwydd.
Nis gwnaed gwisg i'w enaid gau,
Na'i gorff llwm, ond gwaew'r fflamau.

Ni cha yntef yn grefwr,
Byth yn ei safn ddafn o ddŵr,
I oeri tafod eirias;
Dloted fydd y cybydd cas.

Dedwydd yw rhoddi.
O! 'n awr, dedwyddach i ni,
A chwe rhwyddach yw rhoddi :
Hau'n helaeth, helaeth â hi,
Gwyn—fyd yn nef gawn fedi:
Rhoddi wna drysori sail,
A chodi goruwch adail.
Rhyw ddyn a wasgarodd dda,
Gai 'chwaneg o echwyna.
Pa fraint sy cymaint, os caf
Roi echwyn i'r Goruchaf?

Cyni'r Gweithiwr.
Mae y gwr yn ymguraw,
A'i dylwyth yn wyth neu naw:
Dan oer hin yn dwyn y rhaw,—mewn trymwaith;
Bu ganwaith heb giniaw.

Aml y mae yn teimlo min
Yr awel ar ei ewin;
A llwm yw ei gotwm, gwel,
Durfing i'w waed yw oerfel.
Noswylio yn iselaidd,
A'i fynwes yn bres oer braidd.
Ba helynt cael ei blant cu,
Oll, agos a llewygu?
Dwyn ei geiniog dan gwynaw
Rho'i angen un rhwng y naw.
Edrych yn y drych hwn dro,
Gyr galon graig i wylo:
Pob cell a llogell egyr,
A chloiau dorau a dyr.


Molawd Ynys Prydain.

Y Dyffrynnoedd.
BRO hardd aroglber yw hi,—bro llawnion
Berllennydd a gerddi,
Dyffrynnau, bryniau llawn bri;
Addurnawl y wedd arni.


Ar y dyffrynnoedd hyfryd ffriw enwawg,
Glaswyrdd orchudd gwiw lysiau ardderchawg;
Pob ffrwythau melysion, aeron eurawg
Cain yw cynnyrch y llennyrch meillionawg,
A'u dewis goed blodeuawg,—pur rawn cair,
Oreuwawr ddisglair ar irwydd osglawg.

Y Mynyddoedd a'r Niwl.
Uwch y gwaelodion, iach a goludawg,
Wele'r bryniau a'r creigiau cerygawg,
Echrys ac uthrol ysgŷthrawg,
A mannau crebach uwch meini cribawg,
Gar parthoedd ardaloedd deiliawg, cymoedd,
Mawrion fynyddoedd, a galltoedd gwelltawg.


Edrych ar un o'i odrau—i'w hir ben
Ban yn y cymylau,
Caddug llwyd a gwyd yn gau,
Wisg addas i'w ysgwyddau.


Y Wlad ffrwythlawn.
Gwelir oddiar freich-hir fryn
Dewffrwyth amryliw'r dyffryn,
Glaswellt, ardderchog lysiau
Gloewon, perarogl ein pau;
Ar fronnydd, y coedydd cain
Dilledir à dail llydain;
Gwiw ednaint ar wydd gwydnion,
A'u ffraeth brydyddiaeth bêr dôn,
Canmawl yn hyfrydawl frau,
Eurog engyl ar gangau
Difyrru â'u llefau llon
Wybren nefawl, bro Neifion.


Gerddi
Gerddi lle sang ar gangau—eirin pêr,
Aeron, pob afalau,
Dan gnwd o heirdd dewion gnau,
Ymyrrant wrth y muriau.


Y Rhaeadr.
Uchel-gadr raeadr dŵr ewyn,—hydrwyllt,
Edrych arno'n disgyn;
Crochwaedd y rhedlif crychwyn,
Synnu, pensyfrdanu dyn.


Yr Afon.
O'i ffynhonnau golau gant,
Y ffrydiau hoff a redant,
Dylifedd yn dolefain,
Lle chwery pysg ymysg main;
Yr afonydd drwy faenor
Yn dwys ymarllwys i'r môr;
Grisial ar y gro iesin,
Drych y ser; dŵr iachus in'.


Caradog.
Caradawg alluawg, digoll, eon,
Gwrolwych ef, a'r dewrwych frodorion,
Orhyfion luedd, a'u heirf yn loewon;
Blaenor ydoedd mewn trinoedd terwynion;
Rhag ei air gwelwai'r gâlon;—eryr craff,
Er gwneud llwyr wastraff ar gnawd llu'r estron


Arthur
Os yw gyfyng is gofwy—ar Brydain,
Wedi'r brad ofnadwy;
O'r wlad hardd i'w herlid hwy
Cawn Arthur i'n cynorthwy.


Llu'r Sais, bid yn llwyr y son,
A fedodd yn arfodion;
Y cefnfor, trwm ruo'r oedd,
Achwyn o ddwyn byddinoedd;

Ail diddim ar led oeddynt;
Sofl neu gawn, us o flaen gwynt;
Clodfawr, â'i gledd Caledfwlch,
Gwnai'r brenin drwy'r fyddin fwlch.
Pery yn hir ei glir glod;
Madru wna enw Medrod.

Llywelyn.
Llywelyn ddiball eilwaith,
Caffai rwysg; coffeir ei waith;
Ar for a thir hir barhau,
Heb ludded, llew'n lladd bleiddiau:
Gan hil y Cymry dilyth
Bydd caniad ei farwnad fyth.
Ein gwrol enwog aerwr,

Owain Glyndwr.
Un glan deg, Owain Glyn Dwr;
Owain er Prydain wr prif,
O'r dewrion aerwyr dirif;
Bu'r dewraf o'r brodorion
Gynt a fu o Gaint i Fôn.


O na buasai yn bwysig—i'n dwyn
Oddi dan iau Seisnig,
Gan Owain, ar ddamwain ddig,
Lu odiaeth Macsen Wledig.

Hen wrolion gwychion gant,
Mawryger hil Gomer gynt;
Trwst bys gwyn ar dyn aur dant,
Yw coffau eu henwau hwynt.
Colli Lloegr wlad glodadwy,
Och o'r modd, o'u hanfodd hwy.


Nid cais na malais milwyr—nid arfau,
Neu derfysg ymdreiswyr;
Diochel waith bradychwyr
Oll oedd yr achos yn llwyr.


Cywydd y Farf.

BA fodd y cododd ceden,
Tô o wrych oddeutu'r en?
Mawr na chai bardd fyw'n hardd heb
Gnu o rawn gan yr wyneb:
Dwyn ysgubell grinell grog,
Dan ei drwyn, mal dwyn draenog:
Da gofynnaist, deg fenyw,
Ai bwch hwn, neu fwbach yw?

Wrth weled y fath geden,
A gudd fri y gwddf a'r ên,
Mynd yn brudd dan gythruddaw,
Rhag edrych o'r drych troi draw.

Bochau gwynion bachgennaidd,
Gên bwbach, neu bruddach braidd;
Mor Iddewaidd mae'r ddwyen,
Tyrrau o wallt yn toi'r ên.
Yr un fodd yw yr ên fau
Ac un naws a gên Esau;
Ni chaf goflaid gannaid gu,
Achos hon i'w chusanu.
Wyf annedwydd ofnadwy,
Ni wena merch arna'i mwy.

Ow! na b'ai f'wyneb ieuanc
Heb hon yn llyfn pan wy'n llanc:
Ni fynnwn fyw'n anfwynaidd,
Dan flew fel madyn neu flaidd.

Dywed, Awen ddien dda,
A oes dyfais i'w difa?
Deifio barf lle ar dwf bo,
Nid yw rwydd na'i diwreiddio.
Nid addas driniad iddi
Un dull ond ei heillio hi.


Dyma'r farf, p'le mae'r arfau,
Ellyn gwlyb, i eillio'n glau?
Eillier hon yn llwyr heno,
Yn llefn, mewn trefn-myned dro
Ag wyneb glandeg anwyl,
Lle rhodiaf, ni fyddaf ŵyl;
Ymofynnaf am fenyw
Hawddgaraf fwynaf yn fyw:
Dygwyf ferch mor deg a fo,
Dau rhy lan i'w darlunio;
Mor deg na thremir digon
I'w hoes ar wawr hawddgar hon.
Sirioldeb ei hwyneb hi
Fydd lan i'm cwbl foddloni;
Y ddwy foch o goch a gwyn,
Gruddiau fel dau flodeuyn.

Ni cha'r bardd, rhag anharddwch,
Adael ei farf fel barf bwch:
Hi ddwg ellyn digollarf,
A dwr im' i dorri 'marf,
A thywel llian mainwych,
Sebon yn drochion, a drych.
Meinir fawr werth, myn ar frys.
F'eilliaw, be na b'ai f' 'wllys:
Gwell yr olwg lle'r elwy',
Ni feiant ar fy marf mwy;
Ni raid ofn i wyr difarf,
Lle bwy' myn'd, enllibio 'marf.
Gwna mannon gain ei mynwes
Bob amser lawer o les,
Ond bydd i brydydd fwy braint,
O'i rhan yn amser henaint;
Byddaf drefnusaf o neb,
Oll o ran eillio'r wyneb;
Hynny wna hen yn ieuanc,
Hen wr llwyd yn hanner llanc.

Cywydd Elen.

Aм un Elen mae 'nolur,
Am hon i'm calon mae cur;
Elen wen, o lân wyneb,
Yw f'eilun i o flaen neb.
Dra bum ddigloff i'w hoffi,
Elen aeth a 'nghalon i;
Uwch merched llon beilchion byd
Un Elen yw f'anwylyd:
Ac er neb caru a wnaf
Ydd Elen rinweddolaf.
Cyflawn hardd caf f' Elen hon,
F' angyles a fy nghalon.
Elen, fy munud olaf,
O chaf nerth, ei chofio wnaf.

Yn ol enwi hon un waith,
Enwi Elen wèn eilwaith,
Trymhau fy natur a 'mhen
Mae'r olwg im' ar Elen
Trwm am Elen, feinwen fâd,
Yw clwyf gwr claf o gariad;
O! na bid i ddwyn i ben
Marwolaeth im' er Elen.

Os yr Elen siriolaf
A ga'i 'n fy nydd gan fy Naf,
Bydd wrth fy modd rodd fy Rhên,
Moliant a ro'f am Elen:
A Duw a wnel mai Elen
Ddiwair fo fy Mair, Amen.


Englynion i Bont Menai.

Uchelgaer uwch y weilgi,—gyr y byd
Ei gerbydau drosti;
Chwithau, holl longau y lli,
Ewch o dan ei chadwyni.

Cloddiwyd, gosodwyd ei sail—yn y dwfn,
Nad ofnir ei hadfail;
Crogedig gaerog adail,
Na roes yr Aifft enghraifft ail.

Bathwch yn un holl bethau hynodion
Hen awdwyr yr oesau;
Hynotach, ddirach o'r ddau,
Yw'r bont hon ar bentanau.

Tri chanllath (uwch trochionlli)—'r hyd drudfawr;
Tair rhodfa sydd arni;
Tri deg llath, tra digio lli',
Yw'r heolydd o'r heli.

Tra chynnwrf môr yn trochioni,—tra thòn
Trwy wythennau'r weilgi,
Ni thyr hwn ei thyrau hi
"Tra'r erys Twr Eryri."

Awr o Fawrth, oer ryferthwy,—caf fyn'd o'n
Cyfandir i dramwy;
A theithiaf uwch Porthaethwy,
Safnau'r môr nis ofnir mwy.

Dwy heol ydyw o haearn—praffwaith,
Prif—ffordd hardd a chadarn;
Gwiw orsedd, ac awyr—sarn
Safed fyth, sef hyd y Farn.


Englynion.

Gruffydd Dafydd o Frynengan.

NODEDIG o ddawn nid ydoedd,—er hyn
Rhannai fara'r nefoedd,
O'i law aur i laweroedd,—
Offeryn Duw, a'i ffrynd, oedd.


Cyfarch Eben Fardd pan enillodd gadair Powys
am ei Awdl ar "Ddinistr Jerusalem."

EBENEZER, o bu'n isel,—a godwyd
I gadair oruchel;
Uwch uwch ei rwysg, uchach yr êl,
Dringed i gadair angel.



Gwirod.

GWARED ni rhag Gwirod noeth!—dwyn iechyd
A nychu'r holl gyfoeth;
Dwyn synnwyr dyn sy annoeth:
Gwared pawb rhag gwirod poeth.



Cof Goronwy Owen.

CANAI awdlau cenhedloedd,—ac iddo
Rhoed cywyddau'r nefoedd;
Angel i wneud englyn oedd,
Mawr awdur Cymru ydoedd.



I'r Llinell.

POB llinell dywell a adawo—'r gwr
A'i gwel i betruso,
A'r llinell yn fusgrell fo,
Ym mhell bo'r llinell honno.

Amglygrwydd gwiwrwydd mewn geiriau,—y sai
A'r synnwyr yn olau,
Cyngan hyfryd i gyd gau,
Oll yn oll y llinellau.


SION WYN O EIFION.

SION WYN O EIFION.

DRINGODD llawer un i enwogrwydd drwy anhawsterau ac anfanteision. Ond mae yn debyg na ddaeth neb i enwogrwydd llenyddol drwy fwy o anfanteision na Sion Wyn.

Ganwyd John Thomas (Sion Wyn) yn Nhy Newydd, Chwilog, yn y flwyddyn 1786. Gwelwch felly fod Dewi Wyn tua dwy flynedd yn hyn nag ef.

Ei dad oedd Thomas Roberts, brawd y bardd enwog Sion Lleyn.

Yr oedd John yn blentyn iach a bywiog, ac yn un o'r bechgyn mwyaf glandeg yn yr ardal.

Ei brif bleser oedd darllen ac astudio. Cafodd gychwyn da gan ei fam, fel y dywed ef ei hun, "Fe'm dysgwyd i ddarllen Cymraeg gan fy mam, pan oeddwn yn dra ieuanc; yn wir, ni allaf gofio yr amser pan na allwn ddarllen Cymraeg."

Pan tua naw oed aeth i ysgol Llanarmon gedwid gan Mr. Isaac Morris. Dysgodd rifyddiaeth yn rhwydd a daeth i fedru darllen Saesneg yn fuan.

Yr oedd Dewi Wyn yn gyd-ysgolor ag ef yn Llanarmon, a ffurfiwyd cyfeillgarwch rhyngddynt a barhaodd ar hyd eu hoes.

Un diwrnod lled oer yn niwedd y flwyddyn, pan oedd tua phedair-ar-ddeg oed, aeth ef a chyfaill iddo. am dro i lan y môr. Buont yno am oriau yn difyrru eu hunain, yn casglu cregyn ac yn synnu at ryfeddodau'r môr. Yn ddisymwth teimlai John Thomas ei hun yn wael, ac aeth mor llesg fel y bu raid i'w gyfaill ei gario adref. Bu am fisoedd yn dihoeni, ac yna cafodd glefyd, o'r hwn ni chryfhaodd hyd ei fedd. Yn ystod yr wyth mlynedd cyntaf o'i gystudd ei unig ymborth oedd llaeth, wedi ei wneud yn "faidd," neu "bosel."

Dywed ef ei hun am yr adeg yma, "Yr oeddwn yn rhy wael a gwanaidd i ddarllen dros y rhan fwyaf o'r flwyddyn gyntaf o'm carchariad yn y gwely, ond byddai fy mam dyner yn darllen cyfran o'r Beibl bob dydd, a rhyw lyfrau buddiol eraill, yn neilltuol gwaith Prichard Llanymddyfri.

Y llyfr cyntaf wyf yn gofio i mi ddarllen fy hunan oedd Taith y Pererin' gan Bunyan." Ymhen amser maith daeth i allu cymeryd ychydig fara a phethau eraill yn ymborth, ond ni bu fawr o gyfnewid ar ei waeledd am flynyddau.

Er hynny parhai i ddarllen a chwilio am wybodaeth.

Bu am bum mlynedd ar hugain yn ei wely heb godi o gwbl. Beth feddyliwch chwi am hyn? Mae yn bur anodd aros yn y gwely am ddiwrnod, pan y mae eisieu mynd allan i chware, onid yw?

Ar ol pum mlynedd ar hugain o orwedd, daeth Sion Wyn ddigon cryf i godi i'r gadair am ychydig amser, a chyn hir gallai oddef ei gario allan. Y tro cyntaf y bu yn yr ardd dywedodd, "O mor brydferth ydyw yr olygfa, yr wyf yn teimlo fel pe ym Mharadwys."

Pan gryfhaodd ddigon i fyned allan yn gyson rhoddodd ei gyfeillion gerbyd bychan yn anrheg iddo. Byddai bechgyn y pentref wrth eu bodd yn ei dynnu yn ei gerbyd bychan. Ond er iddo barhau i fyned allan am ychydig bob dydd am lawer o flynyddoedd, yn y gwely y byddai y rhan fwyaf o'i amser gan ei fod mor wan.

Yr oedd ei wely yn destyn syndod i bawb a'i gwelai. Gwely wainscot hen ffasiwn wedi ei lenwi â llyfrau amgylch ogylch.

Er yr holl wendid a gwaeledd bu ei fywyd yn fywyd o lafur dyfal. Astudiodd Saesneg, Rhifyddiaeth, Morwriaeth, a Seryddiaeth. Yr oedd tuag ugain oed pan ddechreuodd ddysgu Saesneg. Ond er hynny, llwyddodd i ddysgu'r iaith yn drwyadl, er nad oedd ganddo ond geiriadur i'w gynorthwyo. Mae yn syndod iddo ddod i ysgrifennu Saesneg mor rhagorol.

Sut yr hoffech chwi geisio dysgu Saesneg yn eich gwelyau heb ddim ond Dictionary i'ch helpu? Dechreuai Sion Wyn ar ei wers tua phump o'r gloch yn y bore, a daliai ati drwy y dydd, oni byddai yn rhy wael. Gwelwch yn y llyfr hwn ddarn o farddoniaeth o'i waith yn Saesneg, i ddangos fel y gallai gyfansoddi yn yr iaith honno.

Dywedir hefyd ei fod wedi dysgu Lladin, Groeg, a Ffrancaeg yn weddol dda.

Ond gyda barddoniaeth y cai fwyaf o bleser, a chyfansoddodd lawer o ddarnau tyner a thlws. Cyfansoddodd ei Awdl ar Gerddoriaeth at Eistedfod Freiniol Caernarfon yn y flwyddyn 1821, a dywedwyd y buasai yn fuddugol pe daethai i law mewn pryd.

Deuai llawer o wyr enwog i'w weled a synnai pawb at ei wybodaeth eang. Unwaith aeth y bardd Seisnig Shelley i'w weled, ac ar ol ymgomio âg ef a gwybod ei hanes, dyma ddywedodd,—"Wonderful, wonderful, wonderful."

Cyrchai llawer o ddynion ieuainc ato i gael gwersi mewn barddoniaeth; ac yn eu mysg yr oedd Eben Fardd a Nicander. Bu ei ddoniau a'i dduwioldeb o ddylanwad mawr yn yr ardal—dylanwad sydd yn aros hyd heddyw.

Bu farw yn y flwyddyn 1859, a chladdwyd ef wrth gapel Penlan, Pwllheli.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
John Thomas (Siôn Wyn o Eifion)
ar Wicipedia

Cywydd i'r Rhosyn.

GORWYCH rosyn hygaraf,
(Dyna hoff flodeuyn haf)
Ni bai teg haf hebot ti,
A gorddwl fyddai'r gerddi;
Diserch pob llannerch a llwyn—
Ni's gwenai tes y gwanwyn;
A phrisid, heb hoff rosyn,
Aeaf gwag fel yr haf gwyn—
A di-os heb y rhosyn,
Yn ei daith fe gwynai dyn.
Dy arogl pêr dynerawl,
A'th wedd ferth a haeddai fawl;
Eirian uwch blodau ereill
Yw'th wedd iach llonnach na'r lleill:
A'th fad liwiau cariadlawn,
Gwyn a choch yn geinwych iawn—
Lliw cwrel llu a'i carant,
A hŷ at liw'r eiry ânt—
Lliwiau'r rhos càn gwell y rhain,
Mwy a'u câr—càn mwy cywrain—
Gwr ieuanc a gâr awen,
Llawn o barch—llawen ei ben;
Ei wyneb hardd a wena,
O wel'd gwyn rosyn yr ha';
Yn ei fynwes y'th esyd
A gwên falch—ys gwyn ei fyd!
Gallu Naf heb goll yn wir,
Yn dy wyneb adwaenir,—
Hynodawl frenin ydwyt
Y blodau oll—heb ail wyt;
Digymar, lliwgar, a llon
A siriawl fel rhos Saron.
Ond os hardd y nodais wyt,
Un i edwi gwn ydwyt:

Henu'n ddigêl y'th welir—
Gwywaw rhwng fy nwylaw'n wir!
Nid yw fai, ond gwn dy fod
Rosyn, ar derfyn darfod,—
Edwi oll mae blodau haf,
Gwywaw fal y'min gaeaf.
Tebyg, hawdd iawn y tybiaf,
Yw dyn i'r rhosyn yr haf,—
Gwag einioes a'i gogoniant,
Ewybr iawn heibio yr ânt:—
Yr ieuanc pybyr ëon,
Hardd eu lliw, iraidd a llon,
Er manwl garu mwyniant,
O ddewr oes i ddaear ânt:
Er hynaws bryd a rhinwedd,
Daw'r glân yn fuan i'w fedd.

Diolchgarwch am Anrheg,
sef y Cerbyd gafodd gan ei gyfeillion.

ADFYDIG ac unig wyf,
A nodir egwan ydwyf.
Poed hyn ar derfyn darfod,
I nychu fyth ni chaf fod.
E geir hil y gwyr haelion
Yn fri hardd i'n hen fro hon;
Cyfeillion mwynion eu moes
Rai anwyl im' drwy einioes—
Gyrrant roddion i'm llonni,
Dogn am oes—digon i mi.
Caf hefyd hardd gerbyd gwych
(Haeddai ganiad rwydd geinwych),
Heb wegi mi debygwn,
Cerbyd haf harddaf yw hwn;

A'i oleuwych heirdd liwiau,
Seirian gorff, fel ser yn gwau:
Gwyrdd glwys, ail y gerddi glân,
A lliw wyneb holl anian.
Esmwyth er adwyth yr âf
Yn hwn, a braidd na hunaf;
Prydaf a gweuaf gywydd
Ar y daith tra pery'r dydd,
Neu yn llawen darllenaf,
Eiriau o werth oriau haf;
Difyrrus y clodforaf
Ior mâd—ei gennad a gaf;
Tirionhael im' trwy einioes
Y bu ei law dan bob loes—
Daliodd fy mhen bob ennyd
Dan y boen drwy donnau byd.

Erfyniaf drwy Eifionydd.
Gael rhoi tro i deithio'r dydd,
A gweled broydd gwiwlwys
O fewn i wlad Arfon lwys;
Dyffryn tirion Meirionydd,
A Lleyn deg, llawen y dydd!
Caf olwg, mae cof eilwaith,
Ar gwr y môr garw a maith,
A'i fryniau gwrdd donnau dig,
A bâr odwrdd berwedig,
A enynnant ddawn anian
O ael coed i eilio cân.
Caf eilwaith ar daith y dydd
Weled gwyllt waelod gelltydd—
Coedydd a dolydd deiliog,
A llwyni glân, lle cân cog;
Arwrawl gribau'r 'Ryri,
Muriau braisg Cymru a'i bri,
A ddeuant i wydd awen
Gyda pharch, i godi ei phen.

O lonned wyf eleni
Gan gymaint fy mraint a 'mri;
Dedwydd er gwendid ydwyf,
Do'f yn well—diofnau wyf.
Ail i win, caf awel iach,
Bob awr a'm gwna'n bybyrach
Llaw anian ddaw i'm llonni—
Nerthir ac adferir fi.

Beth ar led a ddywedaf?
Pa ddawn yn gyflawn a gaf
I ddiolch â rhydd awen,
Heb wall parch, neu bwyll y pen,
Am wiw rodd yn fy mro iach
Na welwyd ei hanwylach?
Rhodd brydferth o werth i wan
Sy' i gynnal llesg anian;
Parchaf, enwaf drwy einioes
Yr hael gyfeillion a'i rhoes.

Verses
Composed on hearing of the death of the late
benevolent and charitable Mrs. Ellis Nanney,
of Gwynfryn.

MAY not the friendly, and the tender heart,
The beautiful, the bounteous, and the wise,
For once escape the ever mortal dart?
Must cruel death dissolve the closest ties?

What is our life? What is the glory of man?
Are they not like the flower of the field?
It not our time in shortness like a span?
The great, the small, alike to death must yield.

The faithful Dorcas! she whose name we bless,
Rejoiced the widow and dispelled her fears,
Her footsteps cheered the children of distress,
Her death unseal'd the fountains of our tears.


Benevolence shone brightly in her eyes,
Her smile enhanced the bounties of her hand,
Her tender heart was formed to sympathise,
And spread the gifts bestowed at her command.

In all creation, I a God can see,
In characters as clear as shining light,
Yet in the mind affectionate and free,
I see his image eminently bright.

The scenes which erst were by her presence cheered
With clouds of sorrow now are overcast;
We look in vain for her to all endeared,
The unforgotten while our memories last.

No more she travels in this world of woe,
On angels' wings she soar'd to heaven above:
For all her griefs and sufferings here below,
She now is free in realms of perfect love.

The friend of the distrest is now no more,
Cold is the heart that never glowed in vain;
The sick and poor the loss of her deplore,
Too faint to hope to meet her like again.

The deep vale she passed without alarms,
She braved terrors of its deathly gloom,
Secure in the everlasting arms,
She entered where affliction never come.

Immanuel, the friend divine of man,
In the last struggle smil'd benignly down,
With steadfast faith in the redeeming plan,
She gained the prize—a never fading crown.

Englynion
A gant y bardd i'w nai.


SIONYN bach i swn ein byd—y daethost
I deithio ffordd tristyd;
Dy yrfa mewn daearfyd,
Hyd fedd a fo'n hedd o hyd.

Hynod ddigrif a heini—dy araith
Fwyn dirion ddiwegi;
Mynych ca'm bron ei llonni,
Drwy'th gampau a d'eiriau di.

Gwenu o'm deutu bob dydd—a dadwrdd,
Onid ydwyt beunydd?
Dy lonaid o lawenydd,
Yn wastad, a siarad sydd.

Cain faban mwynlan i'n mysg—ar redfa
Dy yrfa ddiderfysg;
Doed i'th hawl weddawl addysg,
Gan fwynhau doniau a dysg.

Rhoed Ner ras i'th addasu—i rodio
Puredig ffyrdd Iesu:
Cynnar boed it' amcanu
At ei waith, a'i gyfraith gu.


Beddargraff
A ddodwyd ar fedd Mrs. Jones, Abercin, Llanystumdwy.

Os gorwedd yr wyf is gweryd,—Duw Ner,
Mwy cofier a'm cyfyd,
I dŷ diddan dedwyddyd,
Man uwch bedd mewn mwynach byd.


Morglawdd Madog.

DRAW ar led drwy y gwledydd—mewn monwent,
Mewn maenawr a gelltydd,
Drwy Eifion a Meirionydd,
Gwiw son am Dre Madog sydd.

Cnydau perllannau llawnion—a gwenith,
Os nid gwinwydd ffrwythlon,
Gerddi a dolydd gwyrddion.
Sy'n awr lle bu'r dyrddfawr don.

Trwy fâd lafurwaith Madog,—er mawrlen
Lle bu'r morlif tonnog,
Dilys ceir coedydd deiliog,
A byr—gyll man lle cân cog.

Am faith lafurwaith drwy for—y sonir
Dros wyneb ein goror,
Er gorfod tonnau garwfor,
Gwneir morglawdd dan nawdd ein Ior.

Drwy Brydain der ei brodir,
Ni chaf, ni welaf yn wir,
Ail yn hawdd i'r morglawdd mawr
Yn derfyn cenllif dirfawr.

Deued Mon a Meirionydd—dir eirioes,
Doed Eryri fynydd,
Doed Arfon ag Eifionydd
I'r gwaith ar daith yr un dydd.


EBEN FARDD.

EBEN FARDD.

"Eben Fardd oedd Eben fwyn,—ni welwyd
Anwylach gwr addfwyn,
O'ı golli mae cyni cwyn,
Oes uchel barhaus achwyn."

Hiraethog. "Yм mhob gwlad y megir glew," medd yr hen ddi— hareb, ond yn sicr codir mwy o rai glewion mewn ambell i ardal na'r llall. Chwiliwch chwi, blant, pa faint o enwogion gododd yn Eifionydd, a diameu y cewch lu mawr ohonynt. Dywed Goronwy am enwogion Mon:—

Pwy a rif dywod Llifon?
Pwy rydd i lawr wyr mawr Môn?"

Pe dechreuid cyfri gellid dweyd yn debyg am wyr mawr Eifion.

Ar fron bro hardd Eifionydd y magwyd Eben Fardd, ac y mae yn un o'i phlant enwocaf ac yn un o feirdd goreu Cymru. Ganwyd ef ym mis Awst, yn y flwyddyn 1802, yn Nhan Lan ar dir y Gelli Gron ym mhlwyf Llanarmon. Bedyddiwyd ef yn eglwys blwyfol Llangybi. Ei dad oedd Thomas Williams, gwehydd o ran ei alwedigaeth.

Mae yn debyg na wyddoch chwi, blant yr ugeinfed ganrif, beth yw gwehydd. Yn yr hen amser gynt, enillai llawer eu bywoliaeth drwy "nyddu" a "gwau." Byddent yn nyddu yr edafedd o'r gwlan gyda'r droell. Yna byddent yn gwau "brethyn cartref" o'r edafedd gyda gwydd." Dyna oedd gwaith tad Eben Fardd, a bu Eben hefyd yn dilyn yr un gorchwyl am rai blynyddoedd. Gweuwyd llawer o frethyn cartref clyd a chynnes yn hen fythynod Cymru yn amser ein hynafiaid.

Enw priodol Eben Fardd oedd Ebenezer Thomas. Byddai yn arferiad y pryd hwnnw i'r plant gymeryd enw cyntaf y tad yn enw teuluol.

Yr oedd yn hoff o'i lyfr pan yn dair blwydd oed, a pharhaodd i hoffi darllen ar hyd ei oes.

Faint o honoch chwi sydd yn hoff o ddarllen llyfrau da? Os nad ydych,

"'Does dim ond eisieu dechreu,"

fel y dywed Ceiriog, a byddwch yn sicr o ddal ati. Cofiwch yr hen ddihareb,— Ni bydd doeth na ddarllenno." Ni lwydda un ohonoch byth i ddod yn enwog heb ddysgu caru llyfrau da a charu addysg.

Bu Eben Fardd yn yr ysgol yn Llofft y Llan," Llangybi, gyda Mr. Issac Morris. Ar ol ei ddyddiau ysgol cyntaf bu yn gweithio gyda'i dad fel gwehydd am rai blynyddoedd. Ond yr oedd ei holl fryd ar lyfrau ac astudio. Oherwydd hynny anfonwyd ef i'r ysgol drachefn, i Abererch, ac wedi hynny i ysgol Tydweiliog.

Dywedir ei fod yn dechreu dangos talent i farddoni pan oedd tua phedair ar ddeg oed, a'r adeg yma enillodd sylw beirdd yr ardal, Robert ap Gwilym Ddu, Dewi Wyn a Sion Wyn. Mae'n debyg iddo fanteisio llawer ar gwmni'r beirdd enwog yma. Dywed ei hun,—

"Yn fachgen syn wrth draed Sion Wyn,
Y bum yn derbyn dysg."

Os adwaenoch fardd neu lenor gwych, ceisiwch ei gwmni gymaint ag a ellwch. Bydd ei ddylanwad, fel gwlith ar y glaswellt, yn ireiddio eich meddwl.

Cwestiwn pwysig gennych chwi, onide, yw pa fath chwareuwr fydd rhyw blentyn. Ofnaf na buasai Eben Fardd, pe gyda chwi yn blentyn, yn ffefryn gennych yn yr ystyr yma. Yr oedd yn rhy hoff o feddwl a myfyrio i chware llawer. Bachgen gŵylaidd, llednais a thawel oedd. Ond pan ddigiai wrth y plant defnyddiai fflangell yr awen i'w ceryddu.

Oherwydd ei fod yn fachgen tawel, ac nad oedd yn hoff iawn o chware, galwai y plant ef weithiau, o ran hwyl, yn Lleban yn lle Eban, a dyma fel y canodd iddynt —

"Enllibwyr a'm galwo'n lleban,—elont
I waelod pwll aflan,
Bywiog anifail buan,
Teirw neu feirch a'u torro'n fan.

"Chwain a llau, ychain a llewod,—ruthro
Ar wartha'r llebanod;
Chwyther gan eirth a chathod,
Y rhain odditan y rhod."

Cyfansoddodd amryw o englynion a chywyddau pan tua deunaw oed. Yr adeg yma cawn iddo gyfansoddi dau "Gywydd Diolch" dros ryw gyfeillion iddo. Sut y byddwch chwi yn diolch am anrheg? Drwy lythyr Saesneg mae'n debyg. Pe gallai rhai ohonoch ddiolch am anrheg mewn pennill, neu englyn, neu gywydd, fe'i cedwid, a hwyrach y byddai byw ar eich ol chwi.

Ar ol gadael ysgol Tydweiliog daeth Eben Fardd yn ysgolfeistr i Langybi, a thra yno enillodd gadair Eisteddfod y Trallwm am ei awdl ar "Ddinistr Jerusalem." Nid oedd ef yr adeg yma ond dwy ar hugain oed.

Yn y flwyddyn 1827 symudodd i Glynog Fawr i gadw ysgol, ac yno y bu hyd ddiwedd ei oes.

Yn 1840 enillodd Gadair y Gordofigion, yn Lerpwl, am ei awdl ar "Job." Yn 1858 enillodd Gadair Eisteddfod Llangollen am awdl ar "Faes Bosworth."

Cyfansoddodd lawer iawn o gywyddau, englynion ac emynau, ac awdlau heblaw y rhai a enwyd uchod. Yr oedd yn ysgolfeistr rhagorol ac yn gyfaill cywir i'r plant. Buasech wrth eich bodd yn ei ddosbarth. Gwn yn dda nad oes dim sydd well gennych, ar dro, na phennill doniol neu englyn pert. Felly, mae'n debyg iawn, y difyrrai Eben Fardd blant yr ysgol.

Yr oedd yn enwog fel beirniad, a bu yn beirniadu mewn lliaws o Eisteddfodau mwyaf Cymru. Ni chlywid neb yn cwyno oherwydd ei feirniadaeth; yr oedd bob amser mor deg a gonest.

Mewn cwmni yr oedd yn ddyn tawel a distaw. Glywsoch chwi yr hen ddihareb, Mwya' 'u trwst llestri gweigion"? Wel, nid un o'r rheiny oedd Eben Fardd, ond un yn meddwl mwy nag oedd yn siarad. Mewn englyn at Robyn Ddu mae'n rhoddi darlun ohono ei hun fel y canlyn:

Dyn sur, heb ddim dawn siarad—wyf fi'n siwr,
Ofnus iawn fy nheimlad;
Mewn cyfeillach swbach sad,
A'i duedd at wrandawiad."

Ni chewch yn y llyfr yma ond ychydig o'i waith— y darnau hawddaf i chwi eu mwynhau; ond mynnwch ddarllen eu awdlau ar "Ddinistr Jerusalem," "Job," "Maes Bosworth," ac yn wir y cwbl o'i waith, pan ddeloch ddigon hen i'w ddeall.

Gadawodd Eben Fardd ddylanwad a bery ar lenyddiaeth ei wlad, ar yr Eisteddfod, ac ar y Cymdeithasau Llenyddol.

Bu farw yn y flwyddyn 1863, a chladdwyd ef ym mynwent Clynog Fawr. Perchwch ei enw.

Awdl y Flwyddyn.

BLWYDDYN, mesuryn amserol—ydyw,
O'i adeg dymhorol,
Y dyry'r glôb daearol,
Drwy emau ser, dro am Sol.

I. Y GWANWYN.


Dechreu 'nghân fydd y Gwanwyn,
Yr adeg i eni wyn,
Bethau clysion, gwirion, gwâr,
A diniwed yn naear.
Ymlamant yn aml yma,
A'u "me" mwyn, a'u "ma," "ma," "ma ";
Gan neidio, gwylltio trwy'r gwellt.
Yn glysion hyd y glaswellt:
Miwsig oen ym maes gwanwyn,
O! y mae yn fiwsig mwyn!
A mamog weithiau'n mwmian,
Yn fwy cre'i "me" na'r wyn mân;—
Bref côr yn brefu cariad,
Neb yn medru brefu brad;
Neb i gynnyg bugunad
Rhyw filain, oer, ryfel nâd.

Gwyntoedd y Gwanwyn.

Awelon uchel a lawenychant,
Adeg cyhydedd eu nwydau codant;
Ag ynni edlym bywiog anadlant,
Anadl i anian yn ei hadloniant;
Y neint, o wallus nwyon, wyntylliant,
A hwyr a bore, yr awyr burant;
Y rhingyll—wyntoedd a groch gyhoeddant,
Fod y gwanwyn, a'i fyd o ogoniant,
Yma yn neshau, ym monwes ieuant;
Hwnt o or—daflu natur o'i diflant;

Oes y gwyrdd-ddail i mewn osgorddiant,
Oes o hedd i'r llysiau wahoddant,
Oes o bwysi hysbysant,-yn bybyr,
Siriol, a difyr,-oes yr ail-dyfiant.

Teithiwr ar draed, a'r gwynt i'w wyneb.

Dacw'r hutyn dyn ar daith,
A'i amwisg ar fynd ymaith,
Yn ei gôb fawr yn gwibio
Drwy'r ffyrdd, a'i odre ar ffo;
Mewn llawn dynn, mae un llaw'n dal
Ar ei het, er ei hatal,
Rhag, odid fawr, y gedy
Ei ael frwd, i'r awel fry.

Y Llong.

Dacw y llong o'r doc ollyngwyd,
Yn "gorwedd wrthi," mewn lli llwyd;
Hi aeth lom a noeth-lymun,
Yn nwydd mael, heb hwyl, ddim un;-
Hwylbrennau, llathau lleithion,
Ac ambell raff braff, ger bron;
Dyna'i threc dan noeth ddrycin
Ym murmur blwng môr mawr blin.

Y goedwig dan bwys gwynt.

Dacw'r goedwig lom-frigog,
Lle yn fuan y cần công,
Drwyddi'n clecian gan y gwynt,
Yn gorwedd dan y gyrrwynt;
Y crin-wydd mân yn cronni,
Tua'r llwyn, gwter y lli;
Er hyn i gyd, mae'r hen gainc
Yn gref o flagur ifainc;
Argoel mawr fod gwawr dydd gwell,
Yn hapus, heb fod nepell.

Yr arddwr.

Yr arddwr ar dalar deg,
Ni ystyr wynt neu osteg;
Ei fryd maith yw gwaith y gŵys,
O gam i gam, yn gymwys;

Milain yrr ymlaen ei waith,
Gan chwiban uwch ei obaith;
Ei "wedd" gref gerdd yn ddigryn,
Yn hywaith, bob tenewyn;
Ni ddawr yntau ddewr wyntoedd,
A'i "wedd" o'i flaen yn ddi floedd;
Yn unig rhag un anhap,
'E ddeil à gén ddol ei gap,
I gyd gael gyda'u gilydd
Troed a dwrn at raid y dydd.

Y fro o amgylch.

Af, orig, i fyfyrio
Gyferbyn, ar fryn o'r fro,
Ar y wlad fawr orledol.
Mal hyn geir ymlaen ac ol;
Syllaf ar y brys allan;
Mae byw a mynd ym mhob man.

Yr amaethwr a'i lafur.

Yma a thraw amaethwyr rhydd—welaf,
O oleu bwygilydd;
Cymhwysant acw i'w meusydd
Hadau da ar hyd y dydd.

Yr og ddanheddog enhudda—yr hâd,
Yr hwn sydd at fara;
Hin nawsaidd a'i cynhesa
I gnwd ir, o egin da.

Y llongau.

Y llongau hwythau, weithion,
Ant i'w dawns ar hyd y dòn;
Trwy wynt, oll troant allan,
O bob modd, ac am bob man:
Ac wele rhed clo yr ia
Oddiar y moroedd eira;
Bala bydd, o bawl i bawl,
Holl-foriog a llifeiriawl.


Y llwyni a'r adar.

Awen fwyn! gad yna fôr,
A thyred tu a'th oror;
Trwy y llwyni, twyni teg,
Ymrodia,-dyma'r adeg
Nodi hoen, a gwrando ar
Ddrydwst nwyf-gerddi'r adar;
Pawb a'i gymar yn barau
O wedd deg, yn ddau a dau,
Yn llygadlon gynffonni
Yn y llwyn, ym min y lli:
Miwsig masw a leinw lwyn.
O'u gyddfau pluog addfwyn.
Pob pig fel pib a chwiban,
Ac o frig ir, cwafria gân;
Pob pig drwy'r wig draw ar waith
Yn crynnu caine ar unwaith;
Pob pig ei miwsig moesa,
Pob siol a phig, pib "sol ffa."


Rhagor sy rhwng rhywogaeth,
Rhagor maint, a rhagor maeth,
Rhagor llun, a rhagor lliw.
Rhai'n or-las, rhai'n eurliw;
Rhagor llais, rhai gwâr a lleddf,
Yn eu cân, dyna'u cynneddf;
A rhai llon yn chware'u llais
Sain-eglur, nes ein hoglais :
Amrywia eu mir awen
Heb un bwlch o ben i ben,
O'r gryglyd wich i'r greglais,
O wâr lef, i'r eryr lais;
O'r dawn wng, i'r dôn angel,
O'r sïan main i'r swn mel.


O! 'r ehedydd fydd mor falch
O'i fywyd ef, a'r fwyalch;
A'r fronfraith fwria'i hunfryd
Ar y gân yn awr i gyd.


Y gwanwyn ddwg y wennol
A'i thelyn a'i theulu'n ol
O dir sy 'mhell dros y môr
I Frydain wen yn frodor,
I wneud nyth drwy syth yn sad,
A'i gleio yn dynn gload,
Na syfl oddiar ais oflaen
I ffwrdd fyth, mwy na phridd faen;
A'i hediadau'n nodedig
I osgo'i ffordd, wysg ei phig;
Tua'r llawr yn troell—wyro,
Gwna frad ednogion y fro;
Braidd na hêd heb rydd wanhau,
Yn saeth i'r fonwes weithiau;
Ond heibio'r â, i'w hynt bryf,—
Dyna'i hannel, edn heinyf.

Y Blodau.

O! O! 'r blodau! un, dau,—deg,
Na, uwch hynny, ychwaneg;
D'wedwch deg cant" ar antur,
Na, "mil," pa'm? o liwiau pur;
Na, deng mil,—mwy, deng miliwn,—
Ofer rhoi y cyfri hwn.—
At hyn, dyn, eto nid aeth
I feiddio ei rifyddiaeth;
Ni wyr yr hyn sy aneirif,
Culach yw rhod y cylch rhif;
Dyrysa os à dros hon,
Aneirif a'i gwna'n wirion.


Teg yr addurnwyd, bob tu,
Y llwybr oll å briallu;
A blodau gôb y wlad gain
Ymagora'n em gywrain;
Wrth dlws, tlws yn ystlysu,
A bywyd twf ar bob tu.


A gwlad deg, lle gwelwyd hau,
Yn gaenen o eginau.


II. YR HAF.


Ei wres.

Daw'r pryfaid o'u llaid a'u llwch,
Hen nawdd eu hûn a'u heddwch,
I'w Haf hynt, i ail fywhau,
O'u lleoedd yn bob lliwiau;
Haid o arliw diweir-lan,
Beryl glwys neu berlau glân,
Milionos fel melynaur,
Dymchwel y dom chwilod aur.

Y gloyn byw, glân ei bais,
Oddiamgylch ddaw i ymgais
Yn ei awyr wen, newydd,
Neu a'i draed ar flodau'r dydd.

Cacwn â'i swn unseiniol,
Lunia gylch ymlaen ac ol;
Ei bwysig gaine mewn Bys Coch,"
Chwery pan y'i carcharoch!
Ond gwyliwch nod ei golyn,
Gwna wayw tost trwy gnawd dyn.

Y gwenyn o'u ceginau—a heidiant
Hyd y newydd flodau,
Ar eu mel hynt, er amlhau
Hardd olud eu per ddiliau.

Bechgyn yn ymdrochi.

Edrychwn ar ymdrochi,"
Gan fechgyn yn llynn y lli;
Suddant, nofiant yn nwyfus,
Yn ddewr oll ac yn ddi rûs;
Ac ar ddwr y corr o ddyn
Ysgydwa fel pysgodyn.

Lladd gwair.

Chwysu a dyddfu mae dyn,
A'i gadach sych ei gudyn;
Cais gysgodfan dan ryw do,
Rhyw dwyn i wyraw dano;

A'i iad frwd, ynghyd a'i fron
Yn furum o ddiferion.

Da yn wisg deneu, ysgawn,
Fyddai gwe edafedd gwawn,
Oni b'ai twym danbaid dês
A wna'r gwawn yn rhy gynnes.
Mae'n dyheu, 'n myned o'i hwyl
Ac archwaeth at bob gorchwyl;
Diosga hyd ei wasgod,—
Hyd ei grys,bai'n felys fod
Heb un cerpyn, bretyn brau,
Ond rhyw lain ddeutu'r lwynau.
Ond siarad am y bladur
Finia bwynt ei elfen bur.
At amod fawr y tymor
Awchus fydd, pe chwysai för!
"Diau, rhaid lladd gwair," dywed
"Rhaid lladd gwair, myn crair cred."

Y pladurwyr.

Pladurwyr, gwyr miniog wedd,
Gwyr y maes a'r grymusedd,
Gwisgi o glun ac esgair,
Di ludd eu gwynt at ladd gwair,
Ant oll yn fintai allan,
Yn arfog, miniog, i'w man;
Abl a dewr o bladurwr,
A bywiog iawn yw pob gwr;
A'i fraich ef, gref a di gryn,
Dery arfod â'r erfyn;
Egyr wanaf gywreiniol,
Rhed ei ddur ar hyd y ddôl;
A'i bladur gaboledig,
Glaer wawr, yn goleuo'r wig.

Trin gwair.

Dwthwn gwair daeth i'n gŵydd—yn hyn o le,
Gwnawn ei lun yn ebrwydd;
Caf weirwyr da cyfarwydd
I'w drin, ac mae'r hin yn rhwydd.


Bloeddiadau y bobl ddodant—wynt amlwg
I'w teimlad o foddiant;
Gan ddadwrdd a chwrdd chwarddant,
Dadsain llen y nen a wnant.

Un a gân, tra yn gweini,—un rŷ ffrwd
O eiriau ffraeth digri;
A'i ddiflin gribin grwbi,
Wrth ei hoen, ar waith a hi.

Daw rhyw herlod ar hirlam,—ymyrra
A morwyn mewn cydgam,
I dynnu chwareu dinam
Heb fryd drwg, na gwg, neu gam.

Hwy feglir ymhlith carfaglau—y gwair,
I gwymp a bydd gawriau
Meibion y ddôl am ben y ddau,
Yn grych iawn o grechwennau.

Bras—dyrrir mewn brys diraid,—a rhencir
Ar winciad y llygaid,
Gan lwytho beichio'n ddibaid,
Er cludo llawer clwydaid.

Ym mhen y llwyth mae un llanc,—ar y llawr
Wele'r llall, gryf hoywlanc,
Nerth ei gefn yn porthi gwanc
A thro y llwythwr ieuanc.

Mae un dyn ym mhen y dâs,—a chwaneg
Yn gwych weini'r gadlas;
Mae stwr a gwib meistr a gwas
At ardeb twt y weirdas.

Taranau.

Ond och! dacw ryw fan du—draw yn awr
Drwy y nen yn lledu,
A lliw tân yn melltennu,
A thwrw gwan, ffroch;—rhoch a rhu.


Y tawch sydd yn tewychu,—y mae'r storm
A'r stwr yn dynesu;
A dilyn ar fwdylu
Yw rheol y ddol,—mae'n ddu!

Dyna hi, 'n torri! taran—a dreigl hwnt,
A'r gwlaw sy'n pistyllian;
Bellach ni erys neb allan,
Pawb wna i'w fwth, pob un i'w fan.

Y gwartheg yn yr adladd.

Eto, pan glirio, bydd glan
Orielau awyr wiwlan,
A'u gloyw asur yn glysach
Nag erioed mor liwgar iach;
Nesha'r haul yn siriolach
Nag un pryd at ein byd bach:
Yn naear ceir gwedd newydd,
Gwyrddlas faes, gardd—lysiau fydd;
Adladd o radd ireiddiol,
A masw dwf mewn maes a dol;
Ei nodd a adnewyddir,
Efe a â yn fwy ir.
A buaid teg a'i bwytânt,
Hwy ddistaw ymloddestant
Ar ei frasder per puraidd
A newydd rin nodd ei wraidd;
Iraidd fydd eu gorweddfâu
Ar laswellt a pherlysiau,
Yn cnoi cil ac yn coledd
Ymarhous dymer o hedd;

Nes daw adeg pysdodi,—ac wedyn
Codant i'w direidi,
Dros ffos a rhos yn rhesi
I'w hynt i'r llaid tua'r lli.


Y cynhaeaf yd.

Ar warthaf yr haf, yr ŷd-addfeda
Yn wyddfodol buryd:-
Crymanau ceir am ennyd
Yn ben ymddiddan y byd.

Ceir i'w min y crymanau,-a dwylo
Medelwyr i'w stumiau;-
Y fedel a'i defodau
Hidla i mewn dâl am hau.

Duwiesaidd yw'r dywysen;
Grym ei phwys a gryma'i phen.

Y lleuad nawnos oleu
.

Try y lloer fel troell arian,
Uwch byd yn yr entrych ban;
Yn ei chlir liw a'i chlaer led
A llun llon ei llawn lluned;
Wyneb ei rhod wna barhau
Nes el yn naw-nos olau,
I roi i drinwyr yr ŷd
Loew ffafr ei gwawl hoff hyfryd.

III. YR HYDREF.


Ffrwythau addfed.

MELYNA amliw anian-drwy y tir
Daw'r twf i'w lawn oedran;
O'i safle glwys afal glân
A gwymp o hono'i hunan.

Sgrympiau Gwyl y Grog.

I gyfarch Sol, Aulus-a eilw
Ei awelon grymus;
Yn nerthoedd croch a brochus
Ar wedd dreng hyrddiau di rus.

A'r gwynt o'i glwyd, ar gant glyn-dyrr osteg
O ddeutu'r adeg fe ddetry'i edyn:
Ysgydwa ei fraisg aden
A'r chwa chwibana uwch ben.


Mewn troiadau mae'n trydar—hydr wyntoedd.
Drwy entyrch y ddaear;
A gwynion genllysg anwar,
Cerrig od yn curo gwarr.

Bydd sgrympiau, rai dyddiau'n dod,
Dirybudd diarwybod;
Rhuthro wnant o werthyr nen
Drwy ddybryd orddu wybren,
Yn eirwlaw rhydd ar ael rhiw,
Neu gymysg genllysg, gwynlliw..
Ond ennyd yw,—a daw'n deg
Mae haf wrid am fer adeg.

Cwymp y dail
.

At hyn mae gwyrddliw y tw',
Trwy wen haul yn troi'n welw;
Anian yn troi yn henaidd,
Maeth ei bron yn methu braidd;
Coed yn eu hoed yn hadu,
Y berth yn llai nag y bu;
Dail ar ol dail yn dilyn
I lawr gwlad, neu i li'r glyn,
Yn gawod trwy y gwiail,—
Camp y dydd yw cwymp y dail.

y dydd yn byrhau.

Ar ei chil, mewn gorchwyledd
Y flwyddyn à, gwywa'i gwedd!
Tegwch y wawr gwtoga,
Hyd wddf yr hwyr, dydd fyrha.

Ddoe ddifyr yn fyrr a fu,
Heddyw'n fyrr, i ddwyn foru;
Foru bach, yn fyrrach fydd,
Byrrach, truanach trennydd.

Prudd-der yr adar.

Mae'r adar yn fwy gwaraidd
Ger ein bron, yn bruddion, braidd;
A'u chwiban yn gwynfan gwâr,
Mewn tyle, ym mhen talar;

Pa olwg glaf! eu plu clyd,
Eu swp hoewblu mor 'spyblyd.

Adeg rhwymo yr anifeiliaid.

Dyma adeg rhaid mudo
Y praidd i rywfan dan do;
Oddiar fynydd i'r faenawr,
Cynnes loc yn is i lawr;
O hafotir i fetws,
Rhandir glyd yr hendre glws;
Aerwyo o'r oer awel
Y llo a'r fuwch yn llwyr fel
I gynnwys cymaint ag annai
O'n buaid oll yn eu beudai;
A'r march dihafarch hefyd
Yn glwm wrth ei resel glyd.

IV. Y GAEAF.


Y rhew

Gad anian i gadwyni
Yr Iâ mawr i'w rhwymo hi:
A'r Iâ ni arbeda'r byd,
Ei iasau arno esyd;
Ei efyn rwym afon rydd
Yn galed yn ei gilydd;
A'r dwr a lifai ar daen
Sy eilfydd i risialfaen;
Aber loew glws yn berl glân,
Y llyn hir fel llèn arian;
Maes yn llwm, ac ymson lli
Ystwyol yn distewi;
A'r awel fel yn rhewi,
Y tywydd hwn tawodd hi :
Pob annedd mewn pibonwy
O loew rew main, welir mwy;
A gleiniau rhew fel glân—wydr,
Bob gwedd fel rhyw bibau gwydr.
A gydiant wrth fargodion
O eirian bryd arian bron.


Bechgyn yn ysglefrio

Y bechgyn, er rhynn yr iâ,
Wych rwyfant i'w chwareufa;
Oll yn fyw a llawn o faidd
Ar y lithren or—lathraidd;
Hawdd gamp fydd llithro'n ddigur
Ar ysglènt, heb drwsgl antur,
Fel ergyd gwefr i 'sglefrio,
Ar frys gryn hanner y fro.

Ystorm eira.

Y glaer wybren disgleirbryd
Sy'n berlau a gemau i gyd;
Noswaith deg, na, 'sywaeth! dydd
Dry wychaf i'r edrychydd;
Rhaid ystyr nad rhew distaw,
Fel hyn, o ddydd i ddydd ddaw.
Na! dua haeniad awyr,
Mewn cerbyd iâ, eira yrr;
Ac o'i oerllyd gerbyd gwyn
Plua y byd, bob blewyn;
Plu fydd drwy'u gilydd yn gwau
Yn belydrog fân bledrau,
I'w hebrwng trwy yr wybren,
Mal afrifaid, gannaid genn,
Neu flawriog feflau oerion
Nes toi oer grwst daear gron.

Y ty clyd a'r aelwyd gynnes.

Achles tân, a chael ystol
Oddi mewn, fydd ddymunol;
Tŷ ac aelwyd deg, wiwlan,
A chwedl yn gymysg â chân;—
Gloewi marwor glo mirain,
A phen ambell fawnen fain,
A bregus flaenau briwgoed,
Neu ddarnau boncyffiau coed,
Noson eira, dyna dân
Sy lon i iasol anian!


Estyniad y dydd;
y gwanwyn yn neshau.

Ond estyn dernyn mae'r dydd
O un goleu bwygilydd;
Argoel fod oriau Gwyl Fair
Ar agosi trwy gesair;
Tywydd ir at doddi iâ,
Tywydd er toddi eira,
Gan y gwres, byd gynhesir;
Daw o ddwr gwlaw ddaear glir:
"Ni erys eira mis Mawrth
Mwy na 'menyn ar dwymyn dorth,"
Ebe'r hen air;—a barn hyn
Yw, y tawdd ar bob tyddyn.
O'r newydd daw tywydd teg,
A ddetry'r iâ'n ddiatreg;
Pan bydd, o dipyn i beth,
Wyneb hapus gan bopeth;
Daear rwym ddaw yn dir rhydd,
Ac i'r arddwr ceir hirddydd,
I'w chochi ac i'w chychwyn
O lwm ddull i ailymddwyn.

"Blwyddyn gron";—awdl gron.

Y ddau eithaf "a ddaethant,
I roi y cwlm ar y cant,
Nes eilfydd yw ein sylfon
I'w henw gwraidd—Blwyddyn gron.
Crynnedd yw'r marc ar anian,
Crwn yw y glób, cywrain, glân;
Crwn ar len yr wybren rydd,
Ei osodiad, yw'r sidydd;
Os cron yw'r sylfon neu'r sail,
Cron rod ceir yn ar-adail;
Awdl gron yw hon, gan hynny,
Yn fath o droell fyth a dry,
I agos ddangos i ddyn,
Yr aml wedd geir ym mlwyddyn.

Dinistr Jerusalem.

AF yn awr i fan eirian,—golygaf
O glogwyn eglurlan,
Nes gweld yr holl ddinas gàn,
Y celloedd mewn ac allan.

Ierusalem fawr islaw im' fydd—gain
Ar gynnar foreuddydd;
Ei chywrain byrth a'i chaerydd
I'w gweld oll mewn goleu dydd.

Ond O! alar o'u dilyn,
O! 'r wylo hallt ar ol hyn.

Gosteg.


Holl anian fyddo'n llonydd,
Na seinied edn nos na dydd;
Distawed na chwythed chwa,
Ac ust! eigion, gostega!
Na fo'n dod fyny i dir
Eildon o'r Môr Canoldir;
Iorddonen heb dwrdd ennyd,
Gosteg! yn fwyndeg drwy fyd,
Na fo dim yn rhwystr imi,
Na llais trwm i'm llestair i.
Rhagwelaf drwy argoelion.
Na saif yr hardd ddinas hon
Am hiroes yn ei mawredd:
Adfeilia gwaela ei gwedd.


Galanas.


Trwy'r ddinas, galanas wna'r gelynion,
A gorwygant yn anhrugarogion;
Lladdant, agorant fabanod gwirion;
Ow! rwygaw, gwae rwyfaw y gwyryfon;
Aniddanawl hen ddynion—a bwyant,
Hwy ni arbedant mwy nâ'r abwydion.
Swn aniddig sy yn y neuaddau,
I drist fynwes pwy les wna palasau?
Traidd galar trwodd i giliau—gwychion
Holl dai y mawrion, er lled eu muriau.


Nychir y glew gan newyn,
Ac O! daw haint gyda hyn;
Dyna ysa'r dinaswyr,
Hwy ânt i'r bedd mewn tro byr;
Bonedd a gwreng yn trengi,
Gweiniaid a'u llygaid yn lli.


Y pennaf lueddwyr, O! pan floeddiant,
Acw'r gelltydd a'r creigiau a holltant;
Ereill gan loesion yn waelion wylant,
Eu hanadi, a'u gallu, a'u hoedl gollant:

Y Deml a gwympa.


Gan boen a chur, gwn, byw ni chânt,—angau,
Er gwae ugeiniau, dyrr eu gogoniant.
Ys anwar filwyr sy yn rhyfela,
Enillant, taniant gastell Antonia;
Y gampus Deml a gwympa—cyn pen hir;
Ac O! malurir gem o liw eira.
Wele, drwy wyll belydr allan—fflamol
A si anaturiol ail swn taran:
Mirain Deml Moria'n dân—try'n ulw—
Trwst hon clyw acw'r trawstiau'n clecian!
Yr adeiladaeth ddygir i dlodi,
Be bae cywreiniach bob cwrr o honi;
Tewynion treiddiawl tân a ânt trwyddi;
Chwyda o'i mynwes ei choed a'i meini;
Uthr uchel oedd, eithr chwâl hi—try'n llwch,
A drych o dristwch yw edrych drosti.
Fflamau angherddol yn unol enynnant,
Diameu y lwyswych Deml a ysant;
Y dorau eurog ynghyda'r ariant,
Y blodau addurn, a'r cwbl a doddant,
Wâg annedd ddiogoniant!—gyda bloedd
Hyll bwyir miloedd lle bu rhoi moliant.


Llithrig yw'r palmant llathrwyn,
Môr gwaed ar y marmor gwyn.


Golygfa drist.


Meirwon sy lle bu'r muriau—rhai waedant,
Ddrewedig domennau;
Nid wyddir bod neuaddau
Neu byrth erioed yn y bau.

Darfu'r aberthau am byth,
Dir, o gof yn dragyfyth.
Wylofus gweld y Lefiaid
Yn feirw yn y lludw a'r llaid.
Plaid y Rhufeiniaid o'r fan
Ar hynt oll droant allan:

Ah! wylaf ac âf o'i gwydd,
Hi nodaf yn anedwydd;
Distryw a barn ddaeth arni,
Er gwae tost gorwygwyd hi.

Cywydd
Ymweliad a Llangybi (1854).

LLANGYBI! OS wyf fi fardd,
Pa ehud!—pwy a wahardd
Un awdl fer, o anadl f'oes,
Un annerch, brydnawn einioes,
I ti, fy Llangybi gu,
Fan o'i gwrr wyf yn garu?
Hoff o Fon oedd Goronwy,
Tydi a garaf fi yn fwy;
Yn dynn ar dy derfyn di
Ynganaf gael fy ngeni;
Mae bendith fy mabandod
Yn wir ar dy dir yn dod.

Hiraeth heddyw yw'r arwr
Egyr y gân o gwrr i gwrr!
Y fynwent a'i beddfeini
Yn flaenaf fyfyriaf fi;

Y mae rhan o'm rhieni
O fewn ei swrth fynwes hi.
Deil eu llwch nes y del llaw
Duw anian i'w dihunaw.

Isaac Morys gymerwyd
I gwrr ei llawr a'i gro llwyd;
Ni eithriwyd yr hen Athro,
Yn anad'r un, yn ei dro!

Dyna fedd Dewi Wyn a fu—ben bardd,
Heb neb uwch yng Nghymru;
Ond p'le mae adsain cain, cu,
Tinc enaid Dewi'n canu?

Mae degau o'm cymdogion,
A'u tai yn y fynwent hon;
A mi'n ieuanc mwynheais,
Ag aidd llon, eu gwedd a'u llais;
Ond O! y modd! dyma hwy
Isod ar dde ac aswy,
Yn fudion lwch—hanfodau,
A neb o'i hûn yn bywhau.

Buoch bobl a baich y byd
Ar eich gwarrau uwch gweryd;
O! mor chwai pan delai dydd
A'ch galwad at eich gilydd,
Fel hyn gryn fil ohonoch
Y gwnaech lawen grechwen groch;
Gan annerch yn gynhennid,
Y naill y llall heb un lliw llid:
Torrech trwy holl faterion
Hyn o blwy yn wyneb lon;
Dilynai eich dylanwad
Trwy fywiog lu tref a gwlad

Ond wele'n awr, delw neb
Ni ymwana i'm wyneb!


Af i'r Llan, fan o fonedd,
Hyd yr hen Lan,—hi dry'n wledd;
Cofion ar gofion gyfyd
Olwybrau mêl boreu myd.
Ah! dyma'r Fedyddfa deg,
Man bedydd, 'min bo'i adeg;
Er ystod faith cristiwyd fi
Yn nawdd hon newydd eni;
Duw i fy rhan! a'i dwfr rhydd
Fe'm mwydwyd yn fy medydd;
Boed da y ffawd, bedydd ffydd
Fo y ddefawd, fyw Ddofydd.
Bedydd ffydd, boed da y ffawd,
Fyw Ddofydd, fo y ddefawd.

Roberts, beriglor hybarch,
Y mwyn wr mae yn ei arch;
Urddasai'r Llan ar Ddywsul,
Am hir dalm, gyda'i Salm Sul,
O'r hen ddull ei rinwedd oedd,
Caredig mewn cur ydoedd;
Da i'r tlawd er atal loes
A diddanu dydd einioes;
Ymawyddai am heddwch;
Ni haeddai lai.—hedd i'w lwch.

Trof yn awr, trwy y fan hon,
Hyd y grisiau lled groesion,
Ar osgo, i le'r ysgol,
Oedd fyw o nwyf ddydd fu'n ol,
Sef llofft y Llan, man mwyniant,
Ddesgiau'r plwyf at ddysgu'r plant.
O! dyma olygfa lwys
Ar waglofft brudd yr eglwys;
Nid oes twrw !—hun distawrwydd,
Dwng yma'i le, ers tri deng mlwydd.

Estyll y lleoedd eistedd
Ynt o'r un waith, eto'r un wedd

Lle gallwyd, â llawgyllell,
Gwneud bwlch, neu gnoad, o bell,
A tharo brath i ryw bren,
Neu ysu twll mewn ystyllen,
Gan hogiau go anhygar,
Taeog o wedd, tew eu gwarr;
Pery'r hen graith i faith fyw,
A'i naddiad yr un heddyw;
Ond yr awdwyr o'r direidi,
Neu ddim o'u nod, ni wyddom ni.
Tòn ar ol tòn a'u taenodd,
Pwy wyr eu rhan, na'u man, na'u modd?

Dyma faine a chainc ar ei chŵr,
O'r dyndod mawr ei dwndwr
Hyd—ddi gynt ydoedd dda'i gwedd,
Yn gostwng, codi ac eistedd;
A throi llyfr, a tharo llaw,
Cynllwyn o bobtu'r canllaw,
Yn gu rosynog, res anwyl,
Yn gariad i gyd, mewn gwrid gwyl.
Yr un fath yw yr hen fainc,
Lle safai'r lliaws ifaine;
Ond, O Dduw ne! p'le mae'r plant
Heinif, hoewon, yna fuant?
Trosglwyddwyd yr ysgolyddion
Fu yn ei cylch ar y fainc hon,
I lawer math o leoedd.
O dreigl chwyrn, dirgel a choedd;
Un i'w le yn yr hen wlad,
Trofa ei hen gartrefiad;
Rhyw bell fangre yw lle'r llall.
Wyneb dŵr, neu y byd arall!

Dyma fi, Langybi gu,
A f'annerch yn terfynu,
Bellach mae'm gwyneb allan
O wynt y lle, fynwent a Llan;

Mae tynged yn mud hongian,
Gan ysgog at Glynog lan;
Hi ddengys, pwy faidd wingo?
A brwd frys, y briod fro;
Cyfeiria'i bys cyfarwydd
I greu i'm rhan awgrym rhwydd
Mai Clynog, i'm cu lonni,
Ar fin mor, yw'r fan i mi

Craig yr Imbill.

EILIWN pe byddwn waelach
I Graig yr Imbill bill bach;
Pwy wyr gael synnwyr mewn sill
I ymbwyth â'r gair Imbill?
Ond o aml greig yr eigion,
Goreu y ceir y graig hon,
Nid llaesod neu dwll isel
Yn y lli'n gerdd mewn llen gêl;
Nid dychryn i goryn gwr,
Rhy uchel i edrychwr;
Ond cymwys i ddal pwys pen
Yn sobr ar fan is wybren;
I olrhain rhyw lain, ar lw,
Fo dewisolaf at sylw,—
Holl olwg tref Pwllheli
O'i heang sail ddengys hi;
Llawn gyfyd Lleyn ac Eifion,
Dir-lun hardd o dorlan hon.

Digrif y nawf llif, un llaw,—yn eigion
Unigol gan sïaw;
A'r naill for yn llifeiriaw,
Ei ferw a'i droch, o fôr draw.

O gwrr arall creig Eryri—asiant
Yn oesol gadwyni,
Mal dwy fraich, am wlad o fri.
Sy'n rhosyn rhwng y rhesi.


Ynghrombil eang yr Imbill—d'wedant
Y dodir cryf ebill
Dyn o'i pherfedd ryfedd rill
Taranol at ryw ennill.

Gwyr y gyrdd hyd ei gwar gerddant,—diwrnod
Ei darnio ddaw meddant,
A'i chloddio nes byddo'n bant
Agennog, diogoniant.

Gresyn i'r hen graig, rywsut,
Ado'i sail, newid ei sut;
Holl waelod traeth Pwllheli,
Ni byddai hardd hebddi hi;
Gorwag bant yn lle'r graig bur,
Ni etyb darlun natur;
A'i synnwyr yw briwsioni
Adwy'r llong yn nyfnder lli?
Onid trwm fydd trem y fan,
Os tynnir cilbost Anian.

Englynion.

Y Gwanwyn.

MAE ael Anian yn ymlonni,—mae'n brain
Mewn brys am ddeori,
Mae ein hadar yn mwyn nodi
Miwsig y nef yn ein mysg ni.

Mae ein gwanwyn yn min geni—y myrdd
Myrddiwn math o dlysni;
Mor wyrdd, lân, mor hardd eleni,
Mae tir a mòr i'm trem i.

Main laswellt mynn ail oesi—man lle bu
Mewn lliw balch yn codi;
Mae allan drefn meillion di ri',
Mae ail olwg am y lili.


Mae'r eigion yn ymrywiogi—mae'r donn
Mor deneu'n ymlenwi;
Moddion tyner!—meddant ini,—
"Mae yn y nef Un mwy na ni."

Y Cnu Gwlan.

DYMA glod am y gwlan,—i Robert Hughes.
Mae'r bri teg yn gyfan;
Canu mud am y cnu mân,
O daw eisiau dwy hosan!

O edefyn cochddu dafad,—gellir
A phum gwiallen wastad,
Wych blethu a chwbl weithiad
Hosan glws nes synnu gwlad.

Hifiwyd draw'r ddafad druan,—â gwellaif
Hi gollodd ei phurwlan;
Och! fynnu gwisg ei chefn gwan
I'w hasio i mi'n hosan.



Wrth fyned i gysgu.

I TI, Dad, eto dodaf—ogoniant
Ac yna mi gysgaf;
Ac wedi nos codi wnaf.
Am Dduw eilwaith meddyliaf.

Dyro Iesu dy nawdd drosof,—maddeu
Fy meddwl a'm hangof;
Rhin dy waed nac aed o'm côf,
Gwnaed gannaid enaid ynnof.



Y bore wrth godi.

MOLIANNAF am oleuni,—gwedi cwsg.
Adeg hardd i godi;
Rhyw fael fawr i wr fel fi
Yw drannoeth didrueni.


Englyn a wnaeth y bardd wrth ddyfod o'r Gaerwen,
Ddydd Llun y Pasg, 1821.


EBRILL wrth rodio'r llwybrau—mi welais
Gan miliwn o flodau,
Oll yn heirdd i'm llawenhau,
Gannoedd o fan eginau.


Eifionydd.

EIFIONYDD! Eifionydd! fy anwyl Eifionydd,
Eifionydd, Eifionydd ar gynnydd yw'r gân;
Er gwyched yw bronnydd goludog y gwledydd,
Yng nghoedydd Eifionydd mae f'anian.

Hen finion Eifionydd a luniant lawenydd
O galon bwygilydd, o fynydd i för;
Mi gara' 'i magwyrydd, a'i llynau dŵr llonydd.
Ei choedydd a'i dolydd hyd elor.

Mae bendith mabandod fel gwlith oddiuchod
Yn disgyn yn gawod ar geudod dy gwys;
Hen, iraidd, gynarol, fro awen foreuol,
Dewisol briodol baradwys.

Draw, copa Carn Bentyrch, dan wyntoedd yr entyrch,
Rhydd achles i'w llennyrch, a chynnyrch ei choed;
Cysgododd yn ffyddlon oludog waelodion
Hen Eifion a'i meibion o'u maboed.

Llangybi, llwyn gwiwber pob llondeb a llawnder
Islaw ar ei chyfer, heb chwerwder a chwardd;
Bro llawn o berllenni, a gwyrddion ei gerddi,
Heb ynddi i 'mhoeni ddim anhardd
.
Islaw tew gaeadfrig y Gadair a'r goedwig
Tardd ffynnon foneddig, nodedig, a da;
Daw iechyd diochain, er culed eu celain,
I'r truain ar ddamwain ddaw yma.


Rhandiroedd Llanarmon a welir yn wiwlon,
Mor siriol a Saron, ym minion y môr;
Di anair ei dynion, naturiol, nid taerion,
Ond haelion drwy gyrion eu goror.

Hyd Chwilog dychwelir, man glwysdeg mewn glasdir
Ddyfradwy hardd frodir a gerir yn gu;
Ac yma'n ddigamwedd Sion Wyn sy'n ei annedd,
Tangnefedd diwaeledd i'w deulu.

Sion Wyn o Eifionydd, fy anwyl Eifionydd,
Sion Wyn o Eiflonydd sy'n gelfydd ei gân;
Gwir awen a grewyd, a Miwsig gymhwyswyd,
Gyd-blethwyd, hwy unwyd a'i anian.

O Chwilog iach olau, bro anwyl a'i bryniau,
Yn llon at Llanllynau a glannau y gwlith,
Rho'wn dremiad diatreg a chenir ychwaneg,
Ychwaneg i fwyndeg fro'r fendith.

Gwlad ber Llanystumdwy, oludog, fawladwy
Erioed cymeradwy, clodadwy, clyd yw;
Ireiddiawl fro addien, pau rywiog per awen,
Nid amgen gardd Eden,—gwerdd ydyw.

Gwel glogwyn pinaglawg hen Gricieth gastellawg,
Uwch annwfn trochionawg, ardderchog ei ddull,
Uwch agwrdd grych eigion a'i lidiawg waelodion;
Mor dirion i Feirddion ei fawr-ddull.

Ar fynwes Eifionydd, fy anwyl Eifionydd,
Y magwyd ein "Dafydd," dieilfydd ei ddawn;
Mae'r "Bardd Du" 'n ymlonni oherwydd ei eni
Rhwng llwyni a deri'r fro diriawn.

Fy anwyl Eifionydd, bwriadai yn brydydd
Ei Phedr sy mor gelfydd ei gywydd a'i gân.
Ac Elis o'i goledd, rhad awen o'r diwedd
Droi'n sylwedd o unwedd a'i anian.


Planhigyn o ganol Eifionydd wiw faenol,
Yw Morys awenol, farddonol ei ddawn;
Paradwys y prydydd yw f'anwyl Eifionydd,
Bro lonydd llawenydd, lle uniawn.

Clau wrandaw!-clyw'r wendon yn siaw yn gyson
Hyd lenydd gwyrddleision bro Eifion bêr hardd,
Wrth weld ei gwrth-gysgod ar Gantref y Gwaelod,
Myfyrdod sy'n gorfod y gwirfardd.

Penillion

I'w ferch fechan am dorri nyth aderyn.

(Heb ei gyhoeddi o'r blaen.)

MEWN dirgel dwll ym mol y clawdd
Gwnaeth Robin Goch ei nyth;
A'i feddwl oedd na byddai'n hawdd
I neb ei weled byth.

Bu'n hir yn hedeg yma a thraw,
A blewyn yn ei big;
Gan chwarae yn y llwyn gerllaw
A'i hynt o frig i frig.

Ei dlos gymhares oedd ger bron
Yn fynych yn y fan,
A phrysur, prysur iawn oedd hon
I wneud yn rhwydd ei rhan.

O'r diwedd wedi llafur hir,
Fe wnaed y nyth yn dlws,
A Robin ganai'n llon yn wir,
Ar ddraenen wrth ei ddrws.

Ei lân gymhares âi i'r nyth,
I ddodwy wy neu ddau,
Heb feddwl fawr am blantos byth,
Yn agos i'w thristau.


Ond ganol dydd ryw ddiwrnod teg,
Fe glywai Robin blant
Yn d'wedyd, Awn yn ara' deg
Cawn acw nythod gant."

A gwelai yn dynesu ddau,
Ar hyd y cloddiau clyd;
A thorri llawer brigyn brau
Heb achos yn y byd.

Diangai Robin gyda'i wraig.
Fe beidiai'r miwsig mwy!
Fe ofnai'r plant yn fwy na draig,
Rhag iddynt ddwyn ei wy.

Ond felly fu!—aeth bachgen crych,
A geneth ar ei ol,
I wel'd y nyth yng nghwr y gwrych,
Ar fin rhyw ddeiliog ddol.

Y bachgen dynnai'r wyau'n glau,
I'r eneth ef a'u rhoes!
Yn union Robin gollai'i gân,
A'i wraig oedd lawn o loes.

At dad yr eneth Robin aeth,
A dweyd a wnaeth yn wir.
Na welodd ef un eneth waeth
Er pan y daeth i'r tir.

"Ni b'asai ryfedd gennyf fi.
I fachgen dorri'r drain
A dwyn yr wyau o fy nyth,
Fel gwnaed i nyth fy nain.

"Ond wrth wel'd geneth fechan lân,
Mor greulon, nid wyf iach;—
Pa sut yr hoffai hi i'r frân
Ddwyn tegan o'i thy bach?"

Y Llongwr Bach.

FE aeth o'r ty dan gau y ddor,
A throi ei olwg tua'r môr,
Do, do, fe aeth o gam i gam
At fwrdd y llong o dŷ ei fam.

Cychwynnai'r llong yn ara' deg
A'r bachgen serchog, tair—ar—ddeg,
Yn rhodio'r bwrdd o gam i gam
Gan gofio cusan ola'i fam.

'Nol sychu'i lygad a chael gwynt,
A'r llong yn hwylio'i chwrs yn gynt,
Rhyw dyner wên rhwng llon a phrudd,
Chwareuai'n ysgafn ar ei rudd.

Meddyliau fyrdd yr ennyd hon
A wibient drwy ei ieuanc fron,
I addo popeth yn well, well,
Nes cyrraedd i'r gorllewin pell.

O dòn i dòn fe aeth i dir,
I Charleston draw, o'i fordaith hir:
Ac erbyn edrych arno'i hun,
Fe newidiasai'n fawr ei lun.

'Roedd gwynt y môr, a'r haul a'r hin,
Oll wedi 'mroi i'w droi a'i drin,
I'w fam y gyrrai dros y lli,—
"Ni buasech mwy'n f'adnabod i."

Ond nid oedd hyn ond cysgod gwan
O newid mwy oedd ar ei ran,
Lliw angau syrthiodd ar ei wedd,
Nid lliw y byd, ond lliw y bedd.

O Charleston ni ddychwelodd gam,
Ond llythyr ddaeth i dweyd i'w fam
Mai yno'r hunai mwy mewn hedd,
Ei hanwyl fachgen yn ei fedd.


Fel hyn bu farw'r llencyn teg
Cyn cyrraedd pedair blwydd-ar-ddeg,
Oddiwrth ei fam led moroedd draw,
Heb obaith mwy cael ysgwyd llaw.

Ond angel glân a wylia'r lle
Nes delo galwad fawr y Ne',
I ddwyn y llongwr bach i'r lan
Ar draeth Paradwys yn y man.

Ffon y Plisman.

CANWN glod i ffon y Plisman,
Mil rhagorach yw nag arian,
O gywreinwaith William Ifan,
Dyma glian glws.
Am ei blaen mae amgorn copor,
Wedi ei sadio gyda sodor;
Hon a biga bob hen begor,
Feiddio dreisio'r drws.

Naddwyd pen crwn iddi,
Newydd ddwrn oddiarni,
A bwriwyd plwm,
I'w gwneud yn glwm
Fel botwm mae yn beauty.

Mae yn ffon er amddiffyniad,
Neu er sydyn ymosodiad,
Yn llaw'r swyddog Hughes yn wastad;
Gwae pob gwylliaid drwg.

Cledra bac o ladron,
Maedda gecron meddwon,
A gostwng frig y dynion dig
Heb gloffi a phig ei lawffon;
Boed i Evans fawl am dani,
Boed i Hughes y budd o honi
Boed i scamps i gyd ei hofni,
Gwae a dynno'i gwg.


Pont Menai.

PONT MENAI pa 'nd dymunol—ei chadwyn
A'i chydiad gorchestol,
Di lerw did o lawer dol,
A phlethiad asiad oesol.

Oesol adail seiliedig ar—waelod
Yr heli chwyddedig;
Niweidio'i mur unedig
Ni all y don na'i dull dig.

Er dull dig rhuad hallt eigion—ni syfl
Nes syflo ERYRON!
Ac o'i ffurfio caiff Arfon
Bont tra mŷg i, BEN TIR MON.

PEN TIR MON, pa antur mwy—ei gyrraedd
Dros gerynt Porthaethwy?
Nid bad, y BONT, safadwy
A ddaw a glan yn ddiglwy.

Di glwy yw tramwy a gwneud tremiad—ar
Yr orwech adeilad;
Uwch o ran ei chywreiniad
At iawn les na Phont un wlad.

Nid oes un wlad is y Ne' lon—fyth deifl
Y fath did dros afon;
Na chynygiwch enwogion!
Heb wneud taith hyd y BONT hon.


NICANDER.

NICANDER.

"Eifion grand a Nicander
Eu cof da saif tra cyfyd ser."
Eben Fardd.

DYMA i chwi un yn rhagor o gewri Eifionydd. Saif enw Morris Williams, M.A. (Nicander), yn uchel ymysg enwogion y fro hon.

Cewch yn ei hanes ddarlun o un o fechgyn eich gwlad ddringodd i glod ac anrhydedd ym myd addysg, er gwaethaf tlodi ac anfanteision.

Ganwyd ef yn y flwyddyn 1809; gwelwch felly fod Eben Fardd ryw saith mlynedd yn hŷn nag ef.

Ei gartref pan yn blentyn oedd y Gaety, yn agos i Bentyrch Isaf, plwyf Llangybi.

Yr oedd yn nai fab chwaer i'r enwog Pedr Fardd; felly nid rhyfedd i'r awen ddatblygu ynddo yntau.

Ar ol iddo adael yr ysgol ddydd, anfonwyd ef i ddysgu gwaith saer coed. Ond nid oedd ei fryd ar y gwaith yma. Gwyddoch yn dda mor annifyr yw ceisio dysgu rhyw waith nad oes gennych unrhyw bleser ynddo.

Daliai Morris Williams, y saer ieuanc, ar bob cyfle gâi i ddarllen. Gyda'i lyfr y byddai o hyd, a meddyliai ei feistr na ddelai daioni byth ohono,—fel saer coed beth bynnag.

Yn Ysgol Farddol Eifionydd y dysgodd farddoni, gyda Dewi Wyn ac Ellis Owen, Cefn y Meysydd. Yr oedd Eben Fardd yn aelod o'r ysgol honno yr un adeg, a dywed hanes un cyfarfod fel hyn:—

"Wedi i mi ddarllen yr anerchiad yn lled swil a chrynedig, dyma alwad ar Morris Williams i draddodi ei araith, ag i fyny ag ef mewn munud wrth y tân, yn llefnyn gwridgoch pur hyderus, a thraethodd ei gyfarchiad yn dra llithrig a boddhaol; hwn a ddaeth ymhen amser yn Nicander y Cymry."

Gwelid yn amlwg fod talent neilltuol yn y bachgen ieuanc hwn, a phan oedd yn bedair-ar-bymtheg oed anfonwyd ef i Ysgol Ramadegol yng Nghaer. Ymhen rhyw ddwy flynedd aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen, a graddiodd yn M.A. gydag anrhydedd. Dyna i chwi ganlyniad y darllen a'r dysgu pan yn saer coed. Peidiwch rhoi ffarwel i'ch llyfr pan yn gadael yr ysgol; nid ydych ond ar ben y ffordd, ac o ddilyn ymlaen gwnewch well gwaith a bydd mwy o lwyddiant ar eich bywyd.

Urddwyd Nicander i'r weinidogaeth, ac aeth yn gurad i Dreffynnon. Wedi hynny bu yn gurad ym Mangor am chwe blynedd; ac ar ol hynny bu yn Llanllechid ac Amlwch.

Yn y flwyddyn 1859 penodwyd ef yn Rheithio Llanrhyddlad, Mon, ac yma y bu hyd ei farwolaeth.

Glywsoch chwi ambell i ddyn yn cwyno ar ei wlad neu ei ardal? Wel, nid arwydd da mo hynny. Ary dyn ei hun bydd y bai fel rheol. Ond clywch mor annwyl y canai Nicander i wlad Mon:—

"Gwelaf Fôn, a thirionach
Man ni bu na Mona bach;
Ar dy ben deled bendith
Ddibeidiaw fel glaw a gwlith;
Bendith Iôn a'th gorono,
Mal y gwlith ei fendith fo;
Gwynfyd it, hawddfyd a hwyl
Mewn einioes, fy Mon annwyl."

Yn y flwyddyn 1849 enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Aberffraw, am ei awdl ar " Y Greadigaeth." Canodd lawer o gywyddau a chaniadau; ac yr wyf yn sicr y cewch hwyl iawn wrth ddarllen ei "Ddamhegion Esop ar Gân."

Dyma fel y dywedodd Dewi Wyn am dano mewn englyn:—

Morus sy'n Forus anfarwol,—Morus,
Sy'n un mawr ryfeddol;
Ni fydd ei enw ef yn ol,
Ond Morus anghydmarol."


Ond er fod Nicander yn fardd o fri, yr oedd yn enwocach fel llenor dysgedig ac fel pregethwr hyawdl.

Oherwydd ei wybodaeth mewn ieithoedd penodwyd ef i olygu argraffiad o Feibl Rhydychen, a dywedir mai y Beibl hwn yw y cywiraf o ran ei iaith. Golygodd amryw o lyfrau ereill, a gweithiodd yn galed ar hyd ei oes.

Mae yn debyg mai at ei ddawn fel pregethwr y cyfeiria Eben Fardd yn y cwpled:

"Nicander dyner ei dôn,
Un a nawf yn nawn Eifion."

Cyfansoddodd lawer o emynau melys a genir gan filoedd drwy Gymru heddyw. Bu farw yn y flwyddyn 1874.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Morris Williams (Nicander)
ar Wicipedia

Cywydd
I Ofyn Cosyn.


MOLED ereill aml diroedd,
Tai mawrion gwychion ar goedd;
Dogn o aur da gan rywrai,
Digon o rwysg da gan rai;
Gwell yw pleser gan ereill
Na chur a llafur y lleill;
Nwydog win i'w digoni
Ceisio maent, ond caws i mi!
I rai ereill bo'r arian,
I wledd, a'r rhwysgedd yn rhan;
Ac o Eifion, burlon bau,
Menyn a chaws i minnau!

Cwynais, ad—gwynais ganwaith,
Heb fenyn, na chosyn chwaith;
Heb gaws haf yn fy ngafael
'Rwy'n adyn di—gosyn gwael,
Heb un hoen—byw anhynaws,
Nych neu gur,—O, na chawn gaws!

Ceisiaf gan addfwynaf ddyn,
Ceisiaf gardota cosyn;
A gwir hyn, â'r gŵr hynaws
Dygymydd cywydd y caws;
Gwrendy'r Bardd, ŵr hardd, ar hyn,
Ac er cysur ceir cosyn
Ni rydd nag, groesnag, grasnaws,
Ond im ar fyr y gyrr gaws!

Poed in y caws, paid nacau,
O, rho gosyn rhag eisiau!
Caws braf, caws haf, caws hufen,
Caws brych, caws harddwych, caws hen,
Caws cyfan, caws y cofir
Yn ein hoes am dano'n hir!


Y Gwanwyn.

GWANWYN Eden sy'n gwenu
Ar lawr ein gwlad geinfad gu;
Blodau o hadau Eden
Ddaeth yma i Walia wen;
Ein llafar adar ydynt
Hil perchen gwig Eden gynt;
Ein mwyalchen, cywen cyw
Mwyalchen Eden ydyw.
Yn Eden ein ehedydd
A bynciai pan dorrai'r dydd;
Cân yn awr acw'n y nen
Beroriaeth odiaeth Eden.


Damhegion Esop ar Gan.

Y Bwch a'r Llwynog.

AR noson ddiloer, wrth ymgrwydro'n hwyr,
Fe gollodd Llwynog gynt ei ffordd yn llwyr.
Yn lle cael hyd i iâr, neu ŵydd, neu oenyn,
I ganol pydew'n lwmp y syrthiodd Madyn.
A dyna lle'r oedd mewn gofid a gwarth
Ynghanol y llaid a'r t'w'llwch a'r tarth.
Ac er nad oedd y fan yn ddofn,
'Roedd ar ei galon euog ofn
I'r sawl a'i gwelai yno'r borau
Ddial gwaed yr ieir a'r gwyddau.
Danghosai'r wawr erchylldra'i gyflwr enbyd;
Fe welai Madyn nad oedd modd diengyd.
Ond, fel bu'r lwc, ar godiad haul daeth Bwch,
Un mawr ei gyrn, at fin y pydew trwch.
"Holo! bore da'wch!"
Ebe'r bwch wrth y Llwynog;
"Bore da'wch, bore da'wch!"
Medd yntau wrth y barfog..
"Ydyw dwfr y pydew'n flasus?"
Campus!" medd y Llwynog, "Campus!

'Rwyf er's teirawr yn yfeta
Yn fy myw ni ddown oddiyma,
Rhag mor beraidd ydyw'r ddiod
Sydd ar risial mân y gwaelod.
Fy nghyfaill, neidia i lawr yn glau,
Mae yma ddigon inni'n dau:
Mewn helaethrwydd a llawenydd
Yfwn iechyd da i'n gilydd."
Gwr y farf wrandawai'n rhadlon
Ar wahoddiad gwr y gynffon;
'Roedd y 'stori at ei chwaeth,
Ac i'r pydew neidio wnaeth.
Neidiodd y Llwynog ar ei wàr e'n wisgi
Ac allan;
A'r Bwch mewn llaid hyd at ei dòr yn gwaeddi,
"Y fulan!"
Ac wrth ymadael, ebe'r Cadno castiog,
"Pe buasit mor synhwyrol ag wyt farfog,
Ni buasit ti, Syr Hirflew,
Byth neidio i lawr i'r pydew."
A'r bwch, dan bwys ei anobeithiol alar,
Yn mwmial wrtho'i hun yn rhy ddiweddar,
"Na neidied neb i unman
Nas gallo'n rhwydd ddod allan."

Y Morgrugyn a Sioncyn y Gwair.

Ryw dro, fel mae'r gair,
Daeth Sioncyn y gwair
(A gyfenwir yn Geiliog y Rhedyn,)
A'i wep yn brudd-lwyd,
O newyn am fwyd,
At daclus dŷ clyd y Morgrugyn.
'Roedd eira tew gwyn
Ar bant ac ar fryn,
A 'sgrytian gan anwyd 'roedd Sioncyn.

"A gaf fi ddarn o heidden,
I mi a'r plant rhag angen,—
'Rwy'n farw bron gan oerni a phoen,—
Neu ddarn o groen pytaten?"

"Lle'r oeddit ti, 'r cnaf,
Ar dywydd teg, braf,
Yn lle casglu digon ar hinon yr haf?"

Wel, gyd a'ch cennad, Ewa.
Nid oeddwn i'n segura,
Ond canu'n fwyn mewn rhos—wair tew,
Nes daeth y rhew a'r eira."

"He! felly!—'r neb sy ffoled
A dilyn cerdd a baled,
Yn lle hel trysor yn yr haf,
Drwy dymor gaeaf dawnsied."

Y Dyn a'r Epa.

MEWN gwig yng ngogledd Asia
Ryw fore, meddant hwy,
Neu yng ngwig fawr Mongolia,
Ni waeth pa'r un o'r ddwy,—
Cyfarfu Dyn oedd estron
Ag Epa yn y coed;
Ac aeth y ddau'n gymdeithion
Coedwigol mwyna' 'rioed.

Ryw ddiwrnod, fel yr oedd y ddau,
Y Dyn a'r Epa'n bwyta cnau,
A llus, a mefus gwylltion, yn foreufwyd.
A hithau'n oer, a'r Dyn yn teimlo anwyd,
Fe welai'r Epa'r Dyn
Yn chwythu ar ei fysedd:
Meddyliai ynddo'i hun
Fod hynny'n orchwyl rhyfedd.

"I beth mae hyn yna da, fy nghyfaill?"
Medd yr Epa, dan synnu:—
"Yr wyf fi'n gwneud yn union fel bydd eraill,
Pan fo'n oer,—i'w cynhesu,"
Medd y Dyn, gan edrych yn gall;
"Ho, ho! felly'n siwr!" ebe'r llall.
Os cawsant frecwast diwres,
'Roedd raid cael ciniaw cynnes
Hwy wnaethant rual blawd a dŵr,—
'Dwy' ddim yn siwr, neu botes.
Dechreuasant ei fwyta fe'n union
Yn chwilboeth o lygad y crochon;
A'r dyn rhag llosgi ei sefnig
A'r ciniaw brwd berwedig,
Yn chwythu'n ddi-dawl
Ar y grual,—neu'r cawl;—
Pa un ai grual ynte cawl oedd ganddo,
Nid ydyw'r hynafiaethwyr yn cytuno;
Pa un bynnag, sylwai'r Epa
A thybiai mai mwy 'smala,
Mwy annirnadwy, a mwy òd a rhyfedd,
Oedd chwythu'r potes nag oedd chwythu'r bysedd.
Pam, ddyn, yr wyt ti'n chwythu ar dy botes?
Mae eisoes, i'm chwaeth i, 'n llawn digon cynnes.
"Ai gwaith synhwyrol, doeth
Mewn difri
Yw chwythu potes poeth
I'w boethi?"

"Pw! nid i'w boethi, paid a bod yn hurtyn,
'Rwy'n chwythu arno, ond i'w oeri dipyn.'
"Pa beth! ragrithiwr, 'rwyf fi'n darfod bellach
Am byth â thi, a'th ddeublyg ffals gyfeillach.
Tydi sy'n newid fel y gwynt a'r lloer,
Gan chwythu weithiau'n gynnes, weithiau'n oer.
Dos, hel dy bac,—'rwyf weithian yn dy ddeall.
Dos hwnt o'm golwg i ryw goedwig arall."


Y Cranc a'i Fab.

Mi welais granc carfaglog,
Efe a'i fab ewinog,
Yn rhodio ar fin y traeth
Gan gyd-ymgomio'n ffraeth
Am helynt y ceimychiaid,
A'r cocos mân a'r gwichiaid,
A'r tywod a'r clai,
A'r llanw a'r trai,
A'r modd i ddal llymrïaid,
A berdys
Rhwng deufys.
Yr ydoedd eu rhodiad dirwysg
Ill dau, fel y gwyddoch, yn wysg
Eu hystlys.

Yr oedd y tad er's meityn
Yn edrych ar yr hogyn
Yn llusgo'i "gorpws" melyn
Ar hyd y traeth i'w ddilyn
Ar osgo, fel pe'n feddwyn,
Neu fel pe'n gloff bryf copyn;
Troes ato braidd yn sydyn,
A'i annerch fel y canlyn:
"Fy machgen i pam
'Rwyt ti'n cerdded yn gam?
Tyrd cerdda rhagot ar dy union syth,
Neu ni chyrhaeddi ben dy siwrnai byth."
"Yn wir ar f'union syth," medd yntau, "'r af,
"Os gwnewch chwi ddangos imi sut y gwnaf:
Ond cerdded yn gam
Byddwch chwi a 'mam
Bob amser erioed
Hefo'ch deg troed:
Pan welaf chwi eich dau'n ymlwybro'n union,
Felly gwnaf finnau, o ewyllys calon."


Cemni eraill a ganfyddwn,
Ond ein cemni'n hun nis gwelwn.
Dyna ystyr cynta'r ddameg,
Mae un ystyr eto'n chwaneg:
Wrth i ti addysgu'th blentyn,
Gwell yw siampl na gorchymyn.


Y Bugail-Fachgen a'r Blaidd.


'ROEDD bachgen o Fugail
Pur ddiriaid yn arail
Ei ddefaid yn ymyl y dreflan;
Fe waeddodd ryw ddiwrnod.
I borthi ei 'smaldod
A thuedd ystryw-ddrwg ei anian,
"Y Blaidd y Blaidd!
Mae'n llarpio'r praidd!"
Fe wnaeth y gelach diffaith
Hyn yma fwy nag unwaith
A phobol y pentref, heb ameu
Yn rhedeg gan gario pastynau,
A phigffyrch, a choesau pladuriau,
A 'stolion tri-throed a gefeiliau;
A cherrig a ffyn, a phob arfau,
A ddigwyddent wrth law.
Gan bryder a braw,
A'r gwragedd a'r plant yn ymguddio,
Gan arswyd i'r blaidd eu hysglyfio,
A'r hogyn mewn gwawd ac ysgafnder
Yn chwerthin i watwar eu pryder.
O'r diwedd cyn pen hir
Fe ddaeth y Blaidd yn wir,
Gan ruthro i'r ddiadell,
A'r bugail, heb un ddichell
Na rhith yn awr, yn gwaeddi
Mewn ofn a dychryn difri.

Yn uchel ei ddolef
Ar bobol y pentref
Fod y Blaidd mewn gwirionedd
Wedi dyfod o'r diwedd:
A hwythau'n tybied, er ei fynych floedd,
Mai cellwair, fel y gwnaethai gynt, yr oedd:
Ac heb gymeryd arnynt glywed mo'no
Dilynai pawb y gorchwyl ag oedd ganddo,
A'r Blaidd yn ddiwahardd yn para i larpio,
Ac yntau'n para o nerth ei ben i floeddio.
Wrth weld y Blaidd yn rhwygo'r wyn a'r defaid.
Dywedai wrtho'i hun, y Bugail diniwaid,
Ni choelir y celwyddog, hyn sydd glir,
Gan odid neb, er iddo ddweyd y gwir.


Yr Asyn a'r Colwyn.

'ROEDD Asyn gynt a Cholwyn yn byw 'nghyd
Dan yr un meistr, yn llon a hawdd eu byd,
Bob un yn ei sefyllfa:
Y Colwyn yn y parlwr, weithiau'n hepian,
Ac weithiau'n chwarae'n chwim, ac weithiau'n llepian
Ei gymysg laeth a bara.
Ar lin ei feistr fe neidiai weithiau'n wisgi
I lyfu ei law, ac yntau oedd yn hoffi
Y cian bach ysmala.
A'r Asyn yntau'n cario'r plant o gwmpas,
Neu'n pori'r ysgall o gylch caeau'r palas,
Ac weithiau'n moelystota.

Ond ofnai er ys ennyd hir,
Nad oedd ei feistr, a dweyd y gwir,
Mor hoff o hono ag o'r Colwyn moethus;
A hyn a'i gwnai dipyn yn eiddigus.
Fe dybiodd, ond dynwared pranciau'r cian,
Ac ymddwyn fel efe, a chwarae'n ddiddan,
A champio'n hoenus, y cai bob rhyw foethau.
A byw'n y parlwr yn ddi-waith fel yntau.

Aeth i'r ystafell oreu ryw brydnhawn
Yn llawn o hono'i hun, a'i foes a'i ddawn,
A'i feistr ynghyd â'r teulu da'n ciniawa;
Dechreuai frefu a phrancio'n llon a 'smala
A chodai'i ddau droed blaen ar lin ei feister;
Pob peth mewn gair a fyddai'r Ci'n ei arfer.
Ond taflai'r bwrdd, dymchwelai'r bras ddysgleidiau,
A thorrai'r llestri'n gandryll mân â'i gampiau.
Fe waeddai pawb mewn wbwb gwyllt, "Holo!
O, bobol, helpwch! y mae'r mul o'i go'."
Ymaflai gwr y ty mewn ffon o dderwen,
A dyrnai'r Asyn ffol ar draws ei ledpen;
A rhoes 'e drannoeth, am ei gampau gwirion,
I ryw ddyn tlawd i gario penwaig heilltion.
A llawer gwaith, a'i gefn yn friwiau noethion
Dan faich anesmwyth cawelleidiau trymion,
A'i fol yn wag, y dywedodd wrtho'i hunan,
'Wel, wel! nis daethwn i'r sefyllfa druan
'Rwyf ynddi'n awr, pe baswn yn boddloni
Ar fy myd gynt, yn lle dynwared Corgi.
Mi wn yn awr (ond ni waeth tewi bellach,)
Mai nid 'r un fath mae pawb i foddio'i gryfach.
Cymered pob Asyn siampl oddi wrthyf fi,
Na wnelo byth ddynwared castiau Ci."

Hercwlff a'r Certwynwr.

Yr oedd gynt amaethydd.
Yn gyrru certwyn drom,
Ar hyd ffordd serth a chleilyd,
Yn llawn o laid a thom:
Fe lynai yr olwynion
Mewn rhigol lawn o glai;
Nid âi'r ceffylau 'mhellach,
Ac nid oedd arnynt fai.
Ar hyn y swrth Gertwynwr

Heb ymdrech dim ei hun,
Weddïai ar i Hercwlff
Ddod ato mewn rhyw lun:

"O Hercwlff, gwrando'm llefain,
A thyn y drol o'r baw;
Y cryfaf wyt o'r duwiau;
Anorfod nerth dy law."

Disgynai Hercwlff ato
Mewn munud awr o'r nef,
Ac â lleferydd sarrug
Yn llym ceryddai ef:
"Ai disgwyl 'rwyt i'r duwiau
Roi help i'th ddiogi di,
Y dyn a 'mdrecho'n unig
Gaiff gymorth gennym ni.

Dod d' ysgwydd wrth yr olwyn,
Ac arfer egni'th nerth,
Gan fod y ffordd yn anhawdd,
Yn gleilyd ac yn serth;
Os methi a llwyddo felly,
Gweddïa am help y nef;
Ond am y weddi segur,
Gwrthodir gwrando'i llef."

Y Fam a'r Blaidd.

DIGWYDDAI Blaidd, wrth grwydro am ysglyfaeth,
Ddyfod at ddrws rhyw dy lle'r ydoedd mamaeth
Yn magu plentyn bach, a hwnnw'n crio,
A hithau'n gwneud ei goreu glas i'w suo,
Ond methu'n lân a chaffael ganddo dewi;
Nid oedd dim diwedd ar ei nâd a'i waeddi.
Ac meddai hithau wrtho,
O'r diwedd, gan ei ddwrdio,
A'r Blaidd wrth y pared,
Yn glust fain yn clywed,
"Rhof di'n lwmp i'r Blaidd i'th lyncu,
Os na thewi di a nadu.

Tyr'd yma, 'r Blaidd, tyr'd yma, 'r hyll a'r milain,
A hwde'r plentyn drwg sydd yma'n gerain."


Fe feddyliodd y Bleiddyn mai gonest
Oedd bygythiad y wreigen, a gwir;
Ac y taflai hi'r baban trwy'r ffenest',
Iddo ef i swpera cyn hir.

Ond fe dawodd y plentyn yn fuan,
Ymdawelodd ar fynwes ei fam,
Tra'r oedd hithau yn ei ganmol â chusan;
Nid oedd berygl o niweid na nam.


"Na! ni chaiff y Bleiddyn
Mo'm hanwylyd i;
Hai, li, lwli, 'mhlentyn;
Clws dy fam wyt ti.
Doed y cono cethin
I dy nôl di'n awr,
Gwnawn ei ben yn gregin,
Hefo'r fwyall fawr."

"Ho! ho!" meddai'r Blaidd.
Mae'r gwynt wedi troi!
'Rwy'n meddwl o'r braidd,
Mai gwell imi ffoi.
Ces siomiant a mêth
Wrth wrando mam anghall,
Yn d'wedyd un peth,
Ac yn meddwl peth arall."


Merchur a'r Cymynnydd Coed.

GYNT yng ngwlad Groeg, pan oedd hi'n wlad paganiaeth
(Nid yw hi heddyw nemawr gwell, ysywaeth!)
'Roedd dyn yn torri coed ar fin yr afon;
Llithrodd ei fwyall i'r cenllifoedd dyfnion,
Ac aeth i'r gwaelod. Galwodd yntau'n uchel
Ar ei dduw Merchur. Ac ar asgell awel
Daeth Merchur ato. Suddodd yn y funud
I'r dwfr a dug i fyny fwyall cynnud
O'r puraf aur. "Ai hon yw'th fwyall di?"
"Nage; un arall oedd fy mwyall i."
Suddodd i'r dwfr drachefn; ac wedi disgyn
Dygodd i fyny o'r gwaelod mewn amrentyn
Glws fwyall arian. "Hon yw'r eiddot ti?"
"Nage; un haearn oedd fy mwyall i."
Suddodd drachefn, a dug o'r gwaelod iddo.
Ei fwyall haearn; a dywedodd wrtho,
"Am dy onestrwydd, fy addolwr mwynlan,
Cymer y fwyall aur a'r fwyall arian
Ynghyd a'r fwyall ag i'r dwfr a lithrodd."
Cymerodd yntau'r tair a gwir ddiolchodd.

Aeth y cymynnydd at ei gymydogion,
A thraethodd wrthynt fel y bu yn gyson.
Ac eb un wrtho, "Ti y penffol ynfyd,
Pam na buasit ti yn taer ddywedyd
Mai'r fwyall aur ydoedd yr hon a gollaist?
Fel hurtyn gwirion pendew yr ymddygaist."
Ac ebe'r dyn, "Y rheswm am fy ngwaith
Oedd mai nid honno na'r un arian chwaith,
Ydoedd fy mwyall i." "Gwn beth a wnaf,
(Ac felly bwyall aur yn sicr a gaf,")
Medd yntau, yn lle siarad geiriau ofer
A ffwl fel hyn i golli'm poen a'm hamser."
A pheth a wnaeth, ond myned i'r un lle,
I dorri coed, gan demtio gallu'r ne.
Syrthiodd ei fwyall yntau (nid damweiniad;
Efe ei hun a'i taflodd mewn rhyfygiad:)

Galwodd ar Merchur egni nerth ei ben;
Daeth Merchur ato'n sydyn o wlad nen.
Suddodd i'r dwfr mewn moment: dygodd fwyall
O aur o'r puraf; nid y fwyall arall.
I'r dyn gofynodd, "Hon yw'th fwyall di?"
"O! ie: diolch filoedd fo i chwi.'
Ond ffromodd Merchur wrth ei ragrith enbyd;
"Ni chei mo hon; ac mi a'th daflaf hefyd
I'r dyfnder dwfr, i chwilio am dy fwyall
Dy hun, i'th gosbi am dy gelwydd anghall."
I lawr a'r dyn i'r llif, gan sydyn suddo;
Ac yno mae efe a'i fwyall eto.


A glywaist ti a gant Arllwydd?
Nid oes o ragrith lwydd.
Prif gallineb gonestrwydd.


Y Llances a'r Piseraid Llaeth.

'ROEDD Llances gynt yn cario ar ei phen
Biseraid llaeth: ei henw hi oedd Gwen.
Ei bwriad oedd ei werthu yn y dref
Ag oedd gerllaw; piseraid llawn oedd ef
O lefritn pur. Dechreuai syn-fyfyrio
(Nid y piseraid, cofiwch chwi, ond Gwenno):
Bydd gwerthu hwn yn help im' brynu wyau
I'w rhoi dan ieir; ac felly mi gaf finnau
Chwe dwsin llawn o gywion at eu gwerthu :
Prynaf â'r arian ddillad hardd, i ddenu
Llygaid y llanciau; ac mi gaf fy newis
Gariad ohonynt cyn y pasio wythmis."
Ar hyn hi roes ryw naid o wir lawenydd
Am gynnyrch y piseraid llefrith newydd:
Syrthiodd y piser ar y llawr yn yfflon
Collodd ei llaeth, ei hwyau oll, a'i chywion,
A'i dillad hardd, a'i dewis-lanc yn gariad;
Diflannai'r cwbl ar unwaith mewn amrantiad.

Cymer, ddarllenydd mwyn, gan Esob gyngor:
Paid byth a chyfri'r cywion heb eu deor.


Pwyllgor y Llygod.

'ROEDD cath goch, wrryw, filain, fawr,
Yn byw yng nghegin Rhita gawr,
Ers talm byd, byd;
A hon oedd o hyd
Yn galanastru cymaint ar y llygod
Nes oedd eu cenedl agos iawn a darfod;
A drwg oedd cyflwr y goroeswyr ofnog,
Na feiddient fynd o'u tyllau yn newynog,
I hela lluniaeth iddynt hwy eu hunain,
Rhag marw'n lân, a thamaid i'w rhai bychain.
Nid oedd y gath ond cath (mae pawb yn gwybod)
I Rhita gawr, ond cythraul oedd i'r llygod,
Neu ddieflig ddraig.

Aeth hon oddicartref ryw ddiwrnod,
Er dirfawr lawenydd i'r llygod,
I chwilio am ryw saig,
Neu ynte i geisio gwraig,
A gwelid y llygod yn cynnal,
Yng nghongl fwyaf dirgel y 'stabal,
Ryw bwyllgor neu gomiti neu gynghorfa,
I wybod beth i wneud yn eu cyfyngdra.
Etholwyd llywydd,
Ac ysgrifennydd;
Dechreuwyd areithio,
A chynnyg ac eilio
Penderfyniadau,
Pawb am y gorau,
Mewn croch leferydd
Ar draws eu gilydd,
Bron mor ddireol
A festri blwyfol
Neu bwyllgor lleol
Yr iechyd trefol,
Neu Barlament bresennol
Y Deyrnas Gyfunol.

Cododd y llywydd ar ei draed, a gwaeddodd
"Gosteg!" ac yna'r Pwyllgor ymdawelodd,
"Yn fy marn i, y ffordd a fyddai ddoethaf,
A goreu byth po cyntaf,
A fyddai crogi cloch o gylch ei gwddw;
Ac fe'n rhybuddiai'r twrw,
Mewn pryd i ddianc
Rhag min ei chrafanc."
Fe gododd pawb ei bawen,
Gan floeddio i gyd yn llawen;
Ar unwaith heb bleidleisiad,
Fe gariwyd y cynygiad.
Ond teimlid peth anhawster
Ynghylch cwblhau y mater;
Pwy esyd y gloch
Am wddw'r gath goch?"
"Mae arnaf arswyd rhaib y fall,"
Medd un, "pe amgen mi a'i gwnawn yn union."
"Braidd y diengais," ebe'r llall,
Wythnos i neithiwr rhag ei dannedd llymion."
Ac ebe'r trydydd, "'Rwy'n rhy gall
I fynd o fewn tair llath i'r ddiafles greulon."
A thorrodd y pwyllgor i fyny
Heb wneuthur un dim ond llefaru.

Pan fo eisiau ymgynghori,
Ffraeth ei dafod yw comiti:
Ond pan fyddo'n amser gwneuthur
A chwblhau yn ddiwall,
Y mae dwylaw pawb yn brysur,
Hefo rhywbeth arall.

Y Gwybed a'r Llestr Mel.

GOSODODD gwraig masnachydd
Yr hon a flinid beunydd.
Gan wybed mân yn drygu'r bwyd a'r eiddo,
Lestryn o fel, i'w dal ac i'w distrywio.
Aroglent hwythau hwn, ac aent i'w ganol,
Heb ddeall dim o'r brâd na'r amcan marwol
Bychan y gwyddent hwy mai magl oedd hon
I ddal a lladd eu bywyd bychan llon.
Hwy sugnent y mêl yn awyddus;
O! 'r ydoedd e'n bêr ac yn flasus!
"Dyma felys bryd!
Deuwn yma beunydd:
Dyma hufen byd!"
Meddent wrth eu gilydd.

Ond glynodd, druain! yn y mêl eu coesau,
A glynodd eu hadenydd bach ynghyd:
Nis gallai egni bach eu hymdrechiadau
Eu cael yn rhydd drwy foddion yn y byd:
Tagasant oll ym moddfa'r melusderau.
VOnd clywyd un yn sibrwd ar y pryd,
"Mor wael ac mor ofer
Fu'n gwaith ac mor ynfyd!
Am funud o bleser
Collasom ein bywyd!"


Y Llew a'i Gynghorwyr.

EDLIWIWYD i'r llew gan ddywalgi
Fod ei anadl e'n enbyd yn drewi,
A galwodd y llew am y milgi;
Gofynnodd, "Yw 'ngwynt i'n arogli?"
"O nag ydyw, f'arglwydd," medd hwnnw.
A lladdodd y llew ef yn farw,
Am ei wenieitheb.

Ac yna gofynnodd i'r blaidd;
Medd yntau, "Wel ydyw, syr, braidd."
Fe laddodd y llew y blaidd hefyd,
Yr un modd a'r milgi gwenieithlyd,
Am ei wiriondeb.

Yna galwodd y llew am y llwynog;
Gofynnodd i hwnnw, gan annog
Ar fod iddo draethu'r gwirionedd
Heb ofn, ac heb ffafr na gwenieithedd.

"Yn wir," eb yntau, "gyda'ch cennad, f'arglwydd,
Yr wyf er's tridiau'n hollol anghyfarwydd
Ar bob arogliad: y mae'r anwyd arnaf;
Eich ateb heddyw yn fy myw nis gallaf."

Pan y syrthiom ar amserau
Enbyd, fel y digwydd weithiau,
Peidio dwedyd dim yw'r gorau:
Cloi a barrio drws y genau.


Emynau.

Y Gan Newydd.

MAE'R gwaed a redodd ar y groes
O oes i oes i'w gofio;
Rhy fyrr fydd tragwyddoldeb llawn.
I ddweyd yn iawn am dano.

Prif destyn holl ganiadau'r nef
Yw "Iddo Ef," a'i haeddiant:
A dyna sain telynau glân
Ar uchaf gân gogoniant.

Mae hynod rinwedd gwaed yr Oen,
A'i boen wrth achub enaid,
Yn seinio'n uwch ar dannau'r nef
Na hyfryd lef seraffiaid.

Mhen oesoedd rif y tywod mân,
Ni bydd y gân ond dechreu,
Rhyw newydd wyrth o'i angeu drud,
A ddaw o hyd i'r goleu.

—ROBERT AP GWILYM DDU.


Galwad ar yr Ieuainc.

CYSEGRWN flaenffrwyth ddyddiau'n hoes
I garu'r Hwn fu ar y groes;
Mae mwy o bleser yn ei waith
Na dim a fedd y ddaear faith.


Cael bod yn fore dan yr iau
Sydd ganmil gwell na phleser gau;
Mae ffyrdd doethineb oll i gyd,
Yn gysur ac yn hedd o hyd.

O! na threuliaswn yn ddigoll
O dan iau Crist fy mebyd oll!
Mae'r Hwn a'm prynodd ar y groes
Yn deilwng o bob awr o'm hoes.

—PEDR FARDD.


"Yr Afael Sicraf."

Mi âf ymlaen o nerth i nerth
Er maint y rhwystrau sy;
Crist yw Preswylydd mawr y berth-
Mae'r afael sicraf fry!

Rhagluniaeth fawr y nef, o'm plaid.
Ei holl olwynion try;
Agorai'r môr pe byddai raid-
Mae'r afael sicraf fry!

Angylion i'm gwasanaethu caf,
I'm cymorth dônt yn llu;
Mewn cyfyngderau canu wnaf-
Mae'r afael sicraf fry!

Yr wy'n ffieiddio pechod cas,
Wrth garu 'Mhrynwr cu;
Ond ni hyderaf ar fy ngrâs-
Mae'r afael sicraf fry!

Fy Nhad a'm harwain, er pob drwg,
I mewn i'w nefol dŷ;
O law fy Mhriod pwy a'm dwg?
Mae'r afael sicraf fry!

—PEDR FARDD.


Mawl Plentyn.

ER nad wyf fi ond plentyn,
Dan erfyn dof yn awr,
O flaen fy mwyn Greawdwr,
Sy'n Lluniwr nef a llawr;
Am gymorth llawn i'w gofio
Neu dreulio f'amser drud,
I'w ogoneddu'n ddyfal,
O fewn yr anial fyd.

Ei drugareddau'n gyson,
Sy'n dirion nos a dydd;
I'm rhyfedd amgylchynu,
Ei santaidd allu sydd:
'Rwy'n derbyn fy nghysuron
Sy'n rhoddion gwerthfawr rhad,
A phopeth angenrheidiol,
O law y dwyfol Dad.

Fe drefnodd rai o'm deutu,
I'm caru ar bob cam,
A'm hymgeleddu'n dyner
Ynghyd â mwynder mam;
Ymdrechant fy addysgu
I anrhydeddu Duw,
A'i achos gogoneddus,
Yn barchus tra f'wyf byw.

O boed i'm henaid egwan,
Ro'i cân o foliant cu,
Mawl peraidd fel melyswin,
I Frenin nefoedd fry;
Rhoes imi ddeall eglur,
Cymesur à fy maint,
A chalon i dymuno,
Byth seinio gyda'i saint.

—SION WYN.


Caru'r lesu.

O AM râs i garu Iesu,
Ac i wrandaw ar Ei lais—
I roi parch i'w orchymynion,
Ac i wneud pob peth a gais!
Gwyliwn wneuthur dim i'w ddigio,
Gan Ei fod yn un mor fwyn;
Gan Ei fod i ni yn fugail,
Byddwn ninnau iddo'n ŵyn.

O! mae Iesu'n fil mwy tirion
Nag yw tad, na mam, na brawd;
Er ein mwyn ac E'n gyfoethog,
O'i wir fodd fe ddaeth yn dlawd;
Boed i ninnau erddo yntau,
Yma'n dawel ddwyn y groes;
Na adawn ein Iesu tyner
Dros in' fynd dan lawer loes.

O! mae Iesu'n well na'r cyfan,
Yn y byd, ac yn y nef;
Ar ddeng mil y mae'n rhagori—
Rhosyn Saron ydyw ef:
Fe all ddod i galon plentyn
A bod yno'n byw o hyd,
A rhoi inni fwy llawenydd
Na holl bethau goreu'r byd.

—EBEN FARDD.


Duw, a Digon.

MAE gennyf ddigon yn y nef,
Ar gyfer f'eisieu i gyd;
Oddi yno mae y tlawd a'r gwael
Yn cael yn hael o hyd.


O law fy Nuw fe ddaw'n ddifêth
Fy mywyd a fy nerth;
Fy iechyd, synnwyr, a phob peth—
Fy moddion oll, a'u gwerth.

O law fy Nuw y daw, mi wn,
Bob cymorth heb nacau—
Holl drugareddau'r bywyd hwn
A'r gallu i'w mwynhau.

Gan hynny, digon, digon Duw!
Aed da a dyn lle'r êl;
Mi rof f'ymddiried yn fy Nuw
A deued fel y dêl.

Ym mhob cyfyngder, digon Duw!
Fy eisieu, Ef a'i gwêl:
Efe i farw, ac i fyw,
A fynnaf, doed a ddel.

—EBEN FARDD.

"Dysg i mi Dy ddeddfau."

DYSG im', Arglwydd, ffordd Dy ddeddfau,
Ynddi rhodiaf hyd yn angeu;
Gair D'orchymyn, pan ei dysgaf
A'm holl galon byth fe'i cadwaf.

Gwna imi rodio ffordd D' orchmynion,
Maent i mi'n hyfrydwch calon;
Gostwng f'enaid at Dy gyfraith,
Ac nid at gybydd—dra diffaith.

Oddi wrth wagedd tro fy llygaid;
Yn Dy ffyrdd bywhâ fy enaid;
O sicrhâ D' addewid imi,
I'th lân ofn yr wy'n ymroddi.

—NICANDER.


Hoffder y Cristion.

HOFFI'R Wyf Dy lân breswylfa,
Arglwydd, lle'r addewaist fod;
Nid oes drigfan debyg iddi
Mewn un man o dan y rhod.

Teml yr Arglwydd sy dŷ gweddi,
Lle i alw arnat Ti;
Derbyn Dithau ein herfyniau,
Pan weddïom yn Dy dŷ.

Hoffi'r wyf wir Air y Bywyd,
Tystio mae am wlad yr hedd,
Lle mae gwynfyd yn ddiderfyn
I'w fwynhau tu draw i'r bedd.

Hoffi'r wyf ddadseinio'th foliant.
Yn Dy dŷ ag uchel lef—
Arglwydd grasol, gwna ni'n addas
I'th glodfori yn y nef.

—NICANDER.


Y Cynganeddion.

'Rwy'n siwr eich bod yn hoffi "Puzzles." Rhyw fath o "puzzles" mewn seiniau llythrennau yw y gynghanedd.

Ni raid i chwi fod yn feirdd i ddeall cynghanedd; ond rhaid i chwi wybod rhywbeth am "glec" y gynghanedd cyn y medrwch fwynhau miwsig barddoniaeth yn y mesurau caethion.

Ni cheisiaf yma ond egluro ryw ychydig ar y cynganeddion symlaf i chwi, a hynny'n unig er mwyn i chwi sylwi'n fanylach ar y llinellau, a gwrando'n fwy astud ar sain gywrain cynghanedd.

Y mae pedwar math ar gynghanedd:—

I. Y Gynghanedd Lusg.
II. Y Gynghanedd Sain.
III. Y Gynghanedd Draws.
IV. Y Gynghanedd Groes.

I. Y GYNGHANEDD LUSG.

Yn y Gynghanedd hon sylwch :—

(a) Fod yn rhaid i'r gair olaf yn y llinell fod o ychwaneg nag un sill.
(b) Rhaid i'r acen ddisgyn ar y sill olaf ond un.
(c) Rhaid i'r sill olaf ond un yn y gair olaf fod yn ateb rhyw sill, neu sain, yn nechreu'r llinell.

Cymerwch y llinell:—

"Dyma'r farf—p'le mae'r arfau."—(Dewi Wyn).

Sylwch :—

(a) Fod "arfau" yn ddwy sill,—arf-au.
(b) Fod yr acen yn disgyn ar y sill olaf ond un,—arf-au.
(c) Fod y sill "arf".. yn arfau yn ateb y sain "arf" yn farf.


Dyma i chwi enghreifftiau ereill: —

"Fel ergyd gwefr i sglefrio."—(Eben Fardd)

"Dacw'r goedwig lom frigog."—(Eben Fardd)

Y mae saith math ar Gynghanedd Lusg, ond nid oes llawer o wahaniaeth rhyngddynt.

II. Y GYNGHANEDD DRAWS.

Yn y Gynghanedd hon,—

(a) Atebir y cydseiniaid sydd yn nechreu'r llinell gan yr un cydseiniaid yn niwedd y llinell.
(b) Rhaid newid y llafariaid rhyngddynt.
(c) Rhaid cael darn heb ddim cynghanedd yn y canol i gamu drosto.

Y mae chwe math ar Gynghanedd Draws; ni wnaf ond prin eu henwi. 1. Y DRAWS FANTACH.

"A Baich o'r dyfroedd yn Bwn."

Gwelwch,—

(a) Fod y llinell yn dechreu ac yn diweddu gyda gair unsill.
(b) Atebir y gydsain gyntaf yn y gair cyntaf â'r un gyd. sain yn nechreu'r gair olaf.

2. Y DRAWS DDISGYNEDIG.

"Y llyn hir fel llen arian."

Il n r // ll n r

Sylwch fod y gair olaf yn ddeusill, er ei gwneud yn ddis gynedig.

3. Y DRAWS GYFERBYN.

"A bregus flaenau briwgoed."

br g (s) // brg (d)

Sylwch fod yn rhaid i'r cydseiniaid a saif lle mae "s" a "d," fod yn wahanol.

4. Y DRAWS O GYSWLLT.

"O'u gyddfau pluog addfwyn."


Swnia fel hyn,—

O'u gyddfau / pluo / gaddfwyn.

g dd f (u) /bwlch / g dd f (n)

Y ddwy arall yw,—

5. Y DRAWS O GYSWLLT DDISGYNEDIG, a'r

6. DRAWS GYFERBYN.

III. Y GYNGHANEDD SAIN. Yn y gynghanedd hon ceir:—

(a) Dwy sill neu ddwy sain yn odli (rhyme).
(b) Dwy sain (neu ychwaneg) yn cynganeddu.

Cymerwch y llinell,—

"Lle yn fuan y Cân Côg."—(Eben Fardd).

Gwelwch fod :—

(a) Y sill —an yn "fuan" yn odli gyda "cân"
(b) "C" yn "Cog" yn ateb "C" yn Cân.

Gelwir hon yn gynghanedd sain rywiog.

Y mae pedwar math ar Gynghanedd Sain.

1. Y SAIN RYWIOG; a gymerwyd fel enghraifft uchod. Dyma i chwi enghreifftiau ereill ohoni,—

"Goruwch dwr glan lle cân côg."—(R. ap Gwilym Ddu)

"Gwyl Fihangel ei Sel Sai."—(Eben Fardd).

2. Y SAIN DRAWS.

Y mae hon yn debyg iawn i'r Sain Rywiog.

"Y ddwy foch o Goch (a) Gwyn."

"Rhag edrych, o'r Drych (troi) Draw."

Gwelwch mai yr unig wahaniaeth yw fod un gair i fewn rhwng y geiriau sy'n cynganeddu.

3. Y SAIN DRAWS DDISGYNEDIG.

Y mae hon yn wahanol i'r Sain Draws am fod yn rhaid cael gair lluosill ar ddiwedd y llinell,—

"Paham y gwneir CAM (a'r) CYMod."

Gwelwch hefyd fod yr "C" a'r "M" yn "cam" yn cael eu hateb.

4. Y SAIN O GYSWLLT.

"Caru Duw a Byw heB ofn."

Swnia fel hyn,—

Caru Duw a byw he bofn."

IV. Y GYNGHANEDD GROES.

Mae y Gynghanedd hon yn debyg i'r Draws.

(a) Atebir pob cydsain yn y rhan gyntaf c'r llinell, ond yr olaf (o flaen y brif orffwysfa).
(b) Newidir y llafariaid.

Cymerwch yr enghreifftiau canlynol:— 1. Y GROES RYWIOG.

'Rhoi angen un rhwng y naw."

rh ng n (n) / rh ng n (w)

Sylwch y gellir ei newid fel hyn,—

"Rhwng y naw, rhoi angen un."

rh ng n (w) / rh ng n (n)

Gwelwch fod y llinell hon hefyd yr un fath,—

"Dwyn ei geiniog dan gwynaw."

2. Y GROES DDISGYNEDIG.

"Trwy wynt oll troant allan."

trnt ll / tr nt ll

Sylwch fod y gair olaf yn ddeusill.

3. Y GROES O GYSWLLT.

"O'i safle glwys afal glan."

s fl gl(y) / s flgl (n)

Swnia fel hyn,—

"O'i safle glwy / safal glan."


Problemau mewn Rhifyddiaeth ar Gan.

GWAITH IEUAN LLEYN A IOAN PEDR.

(O Gell Myrddin Fardd).

1. O'R defaid tra breision, eu hanner oedd wynion,
Eu chwarter yn dduon, gan Simon ge's i,
Eu chweched yn gochion, a phedair yn frithion,
'Sawl un a roes Simon Rhys imi?
IEUAN LLEYN.

2. Rhyw Gymro 'rwy'n cofio aeth heibio bren hir
Yn tyfu ar dir gwastad a'r wybr yn glir,
Tri ugain-pum troedfedd oedd cysgod y pren,
Fe fethodd a'i ddringo gan bendro'n ei ben;
Rhoes bastwn pum troedfedd yn syth wrth y fan,
Ei gysgod oedd pedair ac un-ddegfed ran;
Os byddwch cyn fwyned a 'styried ei gwyn,
Mynegwch ei uchder ar fyrder yn fwyn.
IEUAN LLEYN.

3. Rho'i Dafydd i Domos o bunnoedd gryn ri',
Naw deg-punt a phedair o'r rhain gefais i,
Hanner y gweddill gai Forgan yn log,
A'r bumed ran prynwyd i Gwenno hardd glôg;
Mae'r ddeg fed ran eto y'nghadw gan Twm
O'r punnoedd roes Dafydd, pa faint oedd eu swm.
IEUAN LLEYN.

4. Rhyw wraig yn Aberdaron yn amser William Lleyn,
A rannai fil o bunnau rhwng William a rhyw ddyn
A elwid Sion Eifionydd, nid yn ei hanner chwaith,
O achos na wnai felly, bu d'ryswch lawer gwaith;
Un bumed ran o'r arian gâi William ber ei dón
Oedd fwy o ddeg punt union nag un bedwaredd Sion;
Mae brenin penwyn Enlli bron mynd o'i hwyl ei hun,
Dywedwch i'w dawelu pa faint a gâi pob un.
IEUAN LLEYN.


5. Gwelais bysgodyn rhyfedd
Hyd ei ben oedd ddeunaw modfedd,
Hyd ei ben a hanner union
Hyd ei gorff, oedd hyd ei gynffon;
Ond ni fedrais fod yn foddlon
Nes im' fesur hyd ei gynffon,
Hon a'i ben ond eu cysylltu
Oedd hyd ei gorff, pa faint oedd hynny?
IEUAN LLEYN.


6. 'Roedd gan fy nain hen glorian bren,
Un glew am bwyso gwlan,
A cherrig gymaint a fy mhen,
Ynghyd a cherrig mân.

'Roedd un yn garreg deugain pwys,
Yn ol cywiraf farn,
Ond torrwyd hon drwy ddamwain ddwys,
Yn gryno bedwar darn.

Ond rhyfedd iawn! yr oedd fy nain
A'i henwog glorian coed
Yn pwyso gwlan a 'dafedd main,
Mor brysur ag erioed.

Ac heb na charreg, pres, na phlwm,
Heblaw y darnau dwys,
Yn gywir pwysai unrhyw swm
O un hyd ddeugain pwys.

Yn awr, rifyddwyr gwych, ar gân
Dywedwch im' eich barn,
Pa faint oedd pwysau, mawr, a mân,
Pob un o'r pedwar darn.
IOAN PEDR.



Geirfa.

A

Abell, pell iawn.

achles, n.f. cysgod, amddiffyn, protection, shelter.

adfydig, adj. mewn adfyd.

adwyth, n.m. < ad+ gŵyth, harm, mischief; pl. adwythau.

Athrodion gweision a gwŷr
A bair adwyth rhwng brodyr.—T. ALED.

addas, adj. priodol, fit, suitable.

aerwr, n.m. rhyfelwr, warrior.

aethau, n.f. poenau, pains; sing. aeth.

anorfod, adj. < an+gorfod, annorchfygol, cannot be overcome..

annai (gannai), 3 pers. sing. of gannu, to contain, cynnwys.

arail, v. bugeilio, to tend the sheep.

ardeb, n.m. dull, shape.

ariant, n. old form of arian, silver.

B.

Bala, n. agoriad, mynediad allan, outlet; bala bydd=agored bydd.

baled, n. ballad.

ban, adj. uchel, high.

berdys, n. shrimps; sing. berdas.

beryl, n.m. mwn neu faen gwyrdd gwerthfawr, precious stone. bledrau (pelydrau) n. rays; mân bledrau=the shining snow-flakes.

blwng, adj. cuchiog, frowning, angry.

Bryn Engan, enw fferm ym mhlwyf Llangybi.

buaid, n. buchod, gwartheg, cows, cattle; sing. bu.

bugunad, n. rhuad, oer nâd, bellowing.

buryd=pur + ŷd, ripe corn.

bwbach, n.m. bugbear.

C.

Carfaglau, n. traps, snares; carfaglau y gwair = gwair bras yn maglu'r neb a gerddo drwyddo.

ceden, n.fem. of cudyn, lock of hair.

ceimwch, n.m. lobster; nl. ceimychiaid. cemlyn, n.m. < cam+llyn; llyn cam.

certwyn, n.f. cart.

cian, n. a little dog.

coledd, v. to look after; to possess.

colwyn n.m. puppy.

cono, n.m. < cenaw, a cub.

crair, n.m. coel, argoel, belief; pl. creiriau, relics

cregin, adj. shattered.

crochwaedd << croch+ gwaedd, gwaeddi'n groch.

cwafria (cwafrio), v. lleisio, to sing. quaver.

cwlm, n.m. knot; cwlwm.

cynnud, n. firewood, fuel.

CH.

Chelain (celain), n. corff marw, corpse; pl. celanedd.

chynor (cynor), n.m. cynhaliwr.

D.

Daliesin (Taliesin), ffugenw Dewi Wyn wrth ei Awdl ar Elusengarwch yn Eisteddfod Dinbych. 1819.

deifr, n.m. pl. of dwfr; dyfroedd.

deor, v. to hatch.

didwn, adj. < di+twnn, digoll, cyflawn, faithful.

digollarf, n.m. a perfect instrument.

difeth, adj. < di+meth, infallible.

diraid, adj. unnecessaray.

diledrith, adj. < di+lledrith, heb siom, heb dwyll, without sham.

dilyth, adj. << di + llyth, vigorous, unfailing.

dirus, adj. < di + rhus, di—ofn, daring.

durfing (durfin), miniog, sharp, biting.

dwthwn, n. < dythwn < dydd hwn, amser, moment.

dyddfu, v. to waste away in the heat.

dynwared, v. to imitate; gwatwar is used in Carnarvonshire.

Dryw, ffugenw E. Hughes, Bodfari, wrth ei Awdl ar Elusengarwch yn Eisteddfod Dinbych, 1819.

Nodyn:DD.

Ddawr (dawr), to mind, to care.

ddewrwech (dewrwech), fem. of dewrwych, brave.

ddiriaid (diriaid), adj. wicked.

ddirach (dirach), comp. deg. of dir; sicrach.

ddrydwst (trydwst), n. trydar, chattering.

E.

Echrys, n.m. terror, used as an adj. terrible.

echrys far, terrible passion.

echwyn, n. benthyg, loan.

edlym, adj. <ed+llym, keen, piercing.

ednaint, n. pl. of edn; adar, birds.

ednogion, n. pl. of ednog, any creature with wing; insects.

edwi, v. gwywo, to jade, to wither.

edwyn, v. 3rd. pers. sing. of adwaen; he knows.

efyn (gefyn), n.m. jetter; pl. gefynnau.

eilfyd, adj. hafal, tebyg, equal.

eirian, adj. fair.

eiry, n.m. eira, snow.

eithradwy, adj. eithro, didoli, gwahanu.

enhudda (enhuddo), v. gorchuddio, to cover. enhuddo'r tân, gorchuddio'r marwydos â lludw.

eon, adj. eofn.

eres, adj. rhyfeddol, strange, wonderful.

esgair, n. limb, leg; pl. esgeiriau.

etwa, etwo, eto.

ewa, n. ewythr, uncle; usual way of addressing an old man.

ewybr, adj. cyflym, speedy, swift.

F.

Faenor (maenor), n. dyffryn, dale, district.

fedel (medel), n. from medi; a reaping; the harvest.

feflan (meflan), n. blemishes; sing. mefl.

fetws (betws), n.m. lle cynnes, dyffryn, valley.

fulan, n.m. villain.

fusgrell, adj. afrosgo, araf, slow.

Fflur, n.m. blodau, flowers.

ffloyw, adj. gloyw, bright.

FF.

ffriw, n. agwedd, golwg, appearance.

ffull, n. brys, ffwdan, haste.

G.

Gadfarch (cadfarch), n.m. warhorse.

Gaint (Caint), Kent.

gâlon, n.m. pl. of gelyn; gelynion, enemies.

gawn (cawn), n. straw, reeds; sing. cawnen.

gawriau, n.f. shouts; sing. gawr.

"Rhoi gawr nerthol a dolef,
Mal clych yn entrych y nef."—GRO. OWEN.


gêd (cêd), n.f. rhodd, gift.

gerain, v. crying.

gesair (cesair), n. cenllysg, hailstones.

gleiniau, n. tlysau, jewels, gems.

glôb, n. y ddaear gron; the globe.

gobio (cobio), v. to thump, to beat.

goflin, adj. exhausted, very tired.

gofwy, n. ymweliad, visit.

gorddor, n. drws cul, cilfach gul yn ochr y ffordd.

gorddwl, adj. dwl iawn, gloomy.

Goronwy, Goronwy Owen o Fôn, un o feirdd mwyaf Cymru. (1722—1769).

gormeswyr, n. oppressors.

grinell, n. peth sych caled; crin.

grwbi (crwbi), adj. cefngrom; with a bent back.

gwâr, adj. dôf, tame.

gwawn, n. gossamer.

gwelyau, n. llwythau, teuluoedd, tribes.

Gwilym Salsbri, William Salisbury, Caedu, Llansannan, cyfieithydd y Testament Newydd i'r Gymraeg.

Gwilym Morgan, Esgob Morgan, Llanelwy, a gyfieithodd y Beibl i'r iaith Gymraeg.

Gwgan, un o ddewrion yr Hen Gymry.

gwirod, n. liquors.

gwŷn, n. nwyd, passion, anger.

gynheddfau (cynheddfau), n. natural abilities.

gythruddwr (cythruddwr), n. one who disturbs or vexes.

H

.

Harri'r Modur, Harri'r Brenin, Harri VII.

"Egin Madog ein Modur."—GUTO'R GLYN

haeniad, n. a cover, a layer; haeniad awyr, the covering of the sky

hafotir, n. mynydd—dir, tir pori yn yr haf.

hendre, n. ty mewn llawr gwlad; winter dwelling.

"O hafotir i fetws,
Rhandir glyd yr hendre glws."—EDEN FARDD.

heigiant, v. from "haig," a shoal.

hydrwyllt, adj. wild and terrible.

I.

iad, n. rhan uchaf y pen, the skull, the cranium.

iesin, adj. prydferth, beautiful, fair.

L.

Lueddwyr (llueddwyr), n. warriors. soldiers.

lysir (llysir), impers. of llysu, to refuse.

LL

Llepian, v. to lap up with the tongue.

lluyddion, n. warriors, soldiers.

llymrïaid, n. Sand-fish, sand-eels.

M.

Madru, v. pydru, to putrify.

Madyn, n.m. llwynog, fox.

mael, n.f. lles, benefit.

main, n. pl. of maen; meini.

Crog glychau'r creigle uchel
Fflur y main ffiolau'r mel."—(Eifion Wyn).

malais, n. brad, cenfigen, jealousy, malice.

mannon, n.f. merch landeg, brenhines.

masw, adj. chwareus, difyrrus; miwsig masw, soft music.

milionos, n. mân bryfetach, insects.

mingoeth, adj. < min+coeth, iaith goeth.

mir, adj. tlws, beautiful, fine.

moelystota, v. to run wildly about.

mwmial, v. to mumble, siarad yn aneglur.

N

Naws, n. nature.

nawf, v. nofio, to swim.

neud, adv. dïau, truly.

Neifion, Neptune, god of the sea; sea, water.

O.

Ocyr, n. twyll, crib-ddeilio, deceit.

ofeg (gofeg), n. meddwl, ewyllys; mind, thought.

oflaen, n. bargod, eaves.

osgorddiant (gosgorddiant), v. gorymdeithiant; march.

oror (goror), n. border.

orielau, n. galleries.

oslef (goslef), n. llef, voice.

P.

Parri, Richard Parry, Esgob Llanelwy; a adolygodd gyfieithiad Esgob Morgan o'r Beibl.

pau, n.f. gwlad, country.

pibonwy, n. pibellau o rew oddiwrth fargod; icicles.

pysdodi, v. to run wildly about; gwartheg yn rhedeg ar wres.

R

Raeenyn (graeenyn), n. sing. of graean; sand.

resyni (gresyni), n. pity.

Rhisiart, Rhisiart III. a orchfygwyd gan Harri'r VII. ar Faes Bosworth.

Rhita Gawr, un o dywysogion y Brythoniaid; dywedir fod ganddo fantell wedi ei gwneud o farf brenhinoedd a laddodd mewn rhyfel

rhyferthwy, n. storm, tempest.

S

Sawdwr, n. milwr, soldier.

seirian, adj. disglair, sparkling

Sol, n. Latin for sun; haul.

T.

Trec, n. celfi, implements.

trinoedd, n.f. rhyfeloedd, wars; sing. trin.

Bedwyr yn drist a distaw
At y drin aeth eto draw."—T. GWYNN JONES

trydar, n. chattering of birds.

Tudur, Owain Tudur o Ben Mynydd, Môn, a briododd weddw Harri V. Wyr iddo ef oedd Harri Tudur,—Harri VII.

U.

Uchelgadr, adj. uchel a nerthol.

uthr, adj. ofnadwy, wonderful, awful.

urdduniant, n. anrhydedd, honour.

W.

Wanaf (gwanaf). n. arfod, hay cut at one sweep of the scythe.

wiwlwys (gwiwlwys), adj. most beautiful.

wng, "dawn wng," dawn gyffredin, yn ein cyrraedd.

wrtheb (gwrtheb), n. atebiad croes, objection.

wylad, n. from wylo; a weeping.

Y.

Ymbwyth, v. < ym+ pwyth, odli neu gynganeddu.

ysgubell, n.f. a broom, a brush.

ysywaeth, the more's the pity.

Hen Wlad fy Nhadau.



MAE hen wlad fy nhadau yn anwyl i mi,—
Gwlad beirdd a chantorion enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd,
Dros ryddid gollasant eu gwaed.

Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad,
Tra môr yn fur i'r bur hoff bau.
O bydded i'r heniaith barhau.

Hen Gymry fynyddig, Paradwys y Bardd,
Pob clogwyn, pob dyffryn i'm golwg sydd hardd,
Trwy deimlad gwladgarol mor swynol yw si
Dy nentydd, afonydd i mi.

Gwlad, &c.

Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed,
Mae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed,—
Ni luddiwyd yr Awen gan erchyll law brâd,
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.

Gwlad, &c.

—T. JAMES.[1]





Cyhoeddedig gan

Gwmni y Cyhoeddwyr Cymreig (Cyf.),

Swyddfa "Cymru,"

Caernarfon.

Nodiadau golygu

  1. Diawl y wasg. J(ames) James ac E(van) James