'N ôl marw Brenin hedd

Cyfododd Brenin hedd 'N ôl marw Brenin hedd

gan John Thomas, Rhaeadr

Gwyn a gwridog, hawddgar iawn
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

162[1] Atgyfodiad Crist.
66. 66. 88.

1 'N ÔL, marw Brenin hedd,
A'i eiddo i gyd yn brudd,
A'i roi mewn newydd fedd,
Cyfodai'r trydydd dydd;

Boed hyn mewn cof gan Israel Duw:
Mae'r Oen a laddwyd eto'n fyw.

2 Y Meichiau aeth yn rhydd
'N ôl rhoddi taliad llawn,
A Duw'n cyhoeddi sydd
"Mi gefais ynddo Iawn":
Gwnaeth ffordd yn rhydd i fynd at Dduw :
Mae'r Oen a laddwyd eto'n fyw.

3 Galarwyr Seion, sydd
A'ch taith trwy ddŵr a thân,
Paham y byddwch brudd?
Eich galar, troer yn gân :
O! cenwch, etholedig ryw—
Mae'r Oen a laddwyd eto'n fyw.

John Thomas, Rhaeadr


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 162, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930