Cyfododd Brenin hedd

Daeth Llywydd nef a llawr Cyfododd Brenin hedd

gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)

'N ôl marw Brenin hedd
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

161[1] Atgyfodiad Crist.
66. 66. 88.

1 CYFODODD Brenin hedd,
Iachawdwr dynol-ryw,
Mewn gogoneddus wedd,
O'r marwol fedd yn fyw:
Ein bywiol Ben esgynnodd fry,
Goruwch pob llu, tu draw i'r llen.

2 Daw'r saint o lwch y bedd
Ar wedd eu Priod cu,
I lawn dragwyddol wledd,
Mewn gwir orfoledd fry;
Dyrchafant draw o'r dyfnder cudd,
Cânt ddod yn rhydd, mae'r dydd gerllaw.

3 Pan losgo'r ddaear lawr,
A'i mawredd o bob rhyw,
Fe genir am yr awr
Daeth Ef o'i fedd yn fyw:
Bydd cof am hon gan ddisglair lu
Aneirif fry, byth ger ei fron.

Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 161, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930