'R wy'n dy garu, Ti a'i gwyddost

E'r dy fod yn uchder nefoedd 'R wy'n dy garu, Ti a'i gwyddost

gan William Williams, Pantycelyn

Duw anfeidrol yw dy enw 2
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930


80[1] Gwaith Duw yn yr Enaid.
87. 87. 47.

1.'R WY'N dy garu, Ti a'i gwyddost,
'R wy'n dy garu, f'Arglwydd mawr;
'R wy'n dy garu yn anwylach
Na'r gwrthrychau ar y llawr:
Darllen yma
Ar fy ysbryd waith dy law.

. Fflam o dân o ganol nefoedd
Yw, ddisgynnodd yma i'r byd,
Tân a lysg fy natur gyndyn,
Tân a leinw f'eang fryd:
Hwn ni ddiffydd
Tra parhao Duw mewn bod.

3.P'le'r enynnodd fy nymuniad?
P'le cadd fy serchiadau dân?
P'le daeth hiraeth im am bethau
Fûm yn eu casáu o'r blaen?
Iesu, Iesu,
Cwbwl ydyw gwaith dy law.

4.Dymuniadau pell eu hamcan
Ynof wy'n eu teimlo 'nglŷn,
Dacw'r ffynnon y tarddasant-
Anfeidroldeb mawr ei hun:
Dyma 'ngobaith
Bellach byth y cânt barhau.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 80, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930