E'r dy fod yn uchder nefoedd

Nid oes eisiau un creadur E'r dy fod yn uchder nefoedd

gan William Williams, Pantycelyn

'R wy'n dy garu, Ti a'i gwyddost
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930


79[1] Gofal a Chariad Duw.
87.87.47.

1.E'R dy fod yn uchder nefoedd,
Uwch cyrhaeddiad meddwl dyn,
Eto dy greaduriaid lleiaf
Sy'n dy olwg bob yr un;
Nid oes meddwl
Ond sy'n olau oll o'th flaen.

2.Ti yw 'Nhad, a Thi yw 'Mhriod,
Ti yw f'Arglwydd, Ti yw 'Nuw,
F'unig Dŵr, a'm hunig Noddfa,
Wyt i farw neu i fyw :
Cymer f'enaid
Dan dy adain tua'r nef.

3.Tro 'ngelynion yn eu gwrthol,
A phalmanta'r ffordd i'r wlad,
Tra fwy'n yfed addewidion
P:ur yr iechydwriaeth rad;
Fel y gallwyf
O'm holl gystudd ymgryfhau.

4.Minnau ymddigrifaf ynot,
A chanmolaf fyth dy ras,

Tra fo'r anadl bur yn para,
Ynteu wedi'r êl i maes :
Tragwyddoldeb
Ni chaiff ddiwedd ar fy nghân.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 79 Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930