A Welsoch chwi Ef
← Yr Iesu'n ddi-lai | A Welsoch chwi Ef gan David Charles (1762-1834) |
Pob seraff, pob sant → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
142[1] Crist a'i Aberth.
557. 779.
1 A WELSOCH chwi Ef?
A welsoch chwi Ef?
Iesu, fy Mhrynwr a'm Duw!
Dros droseddwyr fel myfi,
Rhoes ei Hun ar Galfari,—
Trwy gyfiawnder fy Meichiau caf fyw.
2 Hoeliwyd yr Aberth,
Hoeliwyd yr Aberth,
Iesu addfwynaf oedd fud !
'R Hwn sy'n taenu'r nef fel llen,
A ogwyddodd yno'i ben,
I wneud cymod dros bechod y byd.
—David Charles (1762-1834)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 142, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930