Yr Iesu'n ddi-lai

Yn rhad 'Rwy'n disgwyl rywbryd gael iachâd Yr Iesu'n ddi-lai

gan Morgan Dafydd, Caio

A Welsoch chwi Ef
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

141[1] Canmol Iesu.
55. 65. D.

1 YR Iesu'n ddi-lai
A'm gwared o'm gwae;
Achubodd fy mywyd,
Maddeuodd fy mai;
Fe'm golchodd yn rhad,
Do'n wir, yn ei waed,
Gan selio fy mhardwn
Rhoes imi ryddhad.

2 Fy enaid i sydd
Yn awr, nos a dydd,
Am ganmol fy Iesu
A'm rhoddes yn rhydd:
Ffarwél fo i'r byd,
A'i bleser ynghyd ;
Ar drysor y nefoedd
Fe redodd fy mryd.

3 'R wy'n gweled bob dydd
Mai gwerthfawr yw ffydd ;
Pan elwy' i borth angau
Fy angor i fydd :
Mwy gwerthfawr im yw
Na chyfoeth Periw;
Mwy diogel i'm cynnal
Ddydd dial ein Duw.

—Morgan Dafydd, Caio


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 141, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930