Adgofion Andronicus/Cynlas

Corwen, Tref Glyndwr Adgofion Andronicus

gan John Williams Jones (Andronicus)

Eglwys Llywarch Hen

CYNLAS

AR ol gadael Cefnddwysarn, a cherdded tua dau gan' llath yn nghyfeiriad y Bala, deuwn at lidiart ar y llaw dde. Agorwn hi ac awn i fyny ffordd serth, ac ar ol cyraedd pen yr allt cawn ein hunain yn muarth taclus Cynlas Fawr, "Cyn y Loes," medd rhai, sef cyn dyfod at faes lle bu brwydr rhwng yr hen Gymry a'r darostyngwyr. Dywed ereill mai oddiwrth Cunyg Las y tardd y gair, sef am hen dywysog Cymreig. Gwr doeth arall a ddywed mai ystyr yr enw Cynlas ydyw llanerch yn ngwyneb yr haul yn glasu yn gynt na llanerchi ereill yn yr ardal. Beth ydych chwi bobl Ffestiniog yna yn feddwl o'r esboniad diweddaf, onid ydych yn cael ynddo rywbeth lled awgrymiadol? Ond gadawn ystyr y gair i'r doethion a'r deallus, digon yw i ni wybod mai yma y ganwyd ac y magwyd Mr. Tom Ellis, yr aelod anrhydeddus dros Feirion, a phrif Chwip y blaid Ryddfrydol. Dyna beth ydyw yn awr, ond beth fydd mewn deng mlynedd, mwy neu lai, nis gwyddom.

Daeth Mr. Thomas Ellis i fyw i Gynlas yn y flwyddyn 1855, o'r Ty Cerig, Llangower. Hen balasdy, mae'n amlwg, oedd Ty Cerig; yr oedd yn dŷ mawr, a seler dano, ac yr oedd y seler hono er's blynyddoedd yn llawn o ddwr, a gwelais lawer tro yr hwyiaid a'r gwyddau yn ymddifyru yno. Yr wyf yn sicr, os daw y geiriau hyn o flaen llygaid Plenydd, neu ei gyfaill Daniel, y dywedant fod seler lawn o ddwfr a hwyiaid a gwyddau yn llawer gwell na seler lawn o faluriau cwrw.[1] Tua 150 o flynyddoedd yn ol yr oedd yn Ty Cerig, Llangower, a elwid y pryd hwnw Plas Newydd, deulu o'r enw Wyn yn byw, ac fe ymddengys mai teulu anuwiol iawn oeddynt, yn ymhoffi yn erledigaeth y crefyddwyr. Bu un ohonynt foddi wrth ddyfod adref o ddawnsfa a gynhelid mewn palas yr ochr arall i'r afon, ac fe fu farw yr olaf ohonynt yn berson yn Llangwm, ac fe gyrchwyd ei weddillion i feddrod y teulu yn Llangower, lle y gwelir heddyw feddfaen mawr yn dynodi y llanerch.

Oddeutu 120 mlynedd yn ol syrthiodd yr etifeddiaeth i ddwylaw rhyw berthynas iddynt, a rhoddwyd y lle i fyny. Cymerodd un o'r enw Ellis Cadwaladr y plas a'r tir i'w amaethu, a newidiwyd yr enw i Ty Cerig. Bu gan Ellis Cadwaladr fab o'r enw Edward, a galwyd ef yn ol yr hen ddull Cymreig yn Edward Ellis, a mab iddo ef ydyw Thomas Ellis, Cynlas Fawr, tad Mr. Tom Ellis. Tua chan' mlynedd yn ol daeth teulu y Ty Cerig at grefydd, a dechreuasant roddi eu holl yni a'u sel i wasanaeth y Gwaredwr. Bu eu ty am lawer o flynyddoedd yn agored i weision yr Arglwydd. Gan fod y Ty Cerig mewn lle cyfleus ar ochr Llyn Tegid rhwng Llanuwchllyn a'r Bala byddai y pregethwyr fyddai yn teithio rhwng y De a'r Gogledd, trwy Ddolgellau a thros Fwlch y Groes, yn nghyda phregethwyr Sabbothol, yn lletya yno am dros 50 mlynedd; a thrwy fod teulu caredig Cynlas yn parhau i agor eu ty ac i roddi croesaw i'r Cenhadon Hedd hyd y dydd heddyw, gellir dyweyd fod eu ty wedi bod yn "gartref oddi cartref" i'r rhai sydd yn efengylu er's dros gan' mlynedd. Bu farw Edward Ellis yn y Ty Cerig 47 o flynyddoedd yn ol. Fe wêl y darllenydd, er nad ydyw teulu y Cynlas yn hanu o hen deulu y Wyniaid, y rhai oeddynt yn ymffrostio yn eu "gwaed glas" a'u hynafiaid, y maent yn hanu o linach mwy urddasol, a gallant olrhain eu hachau i bendefigion teyrnas yr Iesu o Nazareth.

Yr wyf yn cofio un prydnawn Sabboth y digwyddais fod yn y Ty Cerig pan yn fachgen bychan iawn. Yr oedd y teulu oll wedi myn'd i'r Ysgol Sul i Gapel y Glyn, a minau gyda nhw. Ar ol dyfod yn ol beth welai y tri brawd ond dau leidr yn eistedd yn gyfforddus wrth y bwrdd yn y gegin fawr, ac yn mwynhau danteithion Sabbothol y Ty Cerig. Nid hir y bu y tri brawd talgryf, Thomas, Edward, a John yn rhoddi croesawiad i'r "ymwelwyr." Cyrchwyd rhaffau rhawn o'r ysgubor, a rhwymwyd y lladron. Prin yr oedd y rhaffau yn foddlon i'w gwaith anghynefin, oblegid eu hoff waith oedd rhwymo gwair ar y ceir llysg. Buan y cyrchwyd y cwnstabl o'r Bala, a chafodd yr ymwelwyr Sabbothol fyn'd i edifarhau i garchar Dolgellau, ac i dori cerig am eu gwaith yn tori ty a thori y Sabboth.

Y mae yr hen Gynlas, lle y ganwyd Tom Ellis, wedi hen fyned i wneyd lle i'r Gynlas bresenol, ty prydferth a chyfleus i gyfarfod âg anghenion yr oes. Fferm dda ydyw Cynlas, wedi ei thrin yn rhagorol gan Mr. Ellis er's deugain namyn un o flynyddoedd. Mae ugeiniau o hen fyfyrwyr y Bala yn gwybod yn dda am Gynlas, ac wedi profi o garedigrwydd a chroesaw Mr. a Mrs. Ellis, y ddau yn ymgomwyr dyddan ac yn ddarllenwyr mawr a deallgar. Pwy bynag fydd yn ysgrifenu hanes Cynlas mewn can' mlynedd, nid ceisio esbonio yr enw Cynlas a wna, ac ni fydd eisieu son am Rufeiniaid ac am y brwydrau, ond ysgrifenu a wna am Gynlas fel man genedigol gwleidyddwr enwog, yr hwn a orweddai yn faban yn ei gryd pan y disgwyliai ei anwyl rieni dderbyn gyda phob post rybudd i ymadael o'u cartref ar gyfrif eu daliadau crefyddol a gwleidyddol. 'Does ryfedd fod ein gwron o Gynlas yn wleidyddwr mor graffus, yn genedlgarwr mor drwyadl, ac yn un o arweinwyr blaenllaw Cymru Fydd.

Nodiadau golygu

  1. Yr ydwyf yn ddyledus am hanes y Wyniaid o'r Plas Newydd i Miss M. E Ellis, Cynlas.