Adgofion Andronicus/Corwen, Tref Glyndwr

Y Ddyfrdwy Sanctaidd Adgofion Andronicus

gan John Williams Jones (Andronicus)

Cynlas

CORWEN, TREF GLYNDWR.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Corwen
ar Wicipedia

GADEWAIS y darllenydd yn y benod o'r blaen, pan oeddwn wedi dadflino, ar ol noson o gwsg melus, oddiwrth y daith flinderus "O'r Bala i Gorwen;" a dyma fi yn awr yn barod i'w arwain ar ein taith yn ol trwy ardaloedd ereill. Ond rhaid yn gyntaf gael golwg ar hen dref Owen Glyndwr.[1] Ni awn ar ol cael boreufwyd blasus gan ein lletywr caredig a'i briod hynaws, ac wedi cael y "Ddyledswydd Deuluaidd,"— O! ie, yr hen "ddyledswydd." Y mae llawer un o ddarllenwyr yr "Adgofion" hyn yn cofio yr hen arferiad yn ddigon da, ar yr aelwyd gartref. Y mae y tafodau a erfyniai fendithion y Nef ar y teulu wedi hen dewi, ond y mae'r argraph a adawodd yr erfyniadau hyny ar lawer un yn aros, a hir y pery. Y mae rhywbeth adfywiol yn yr hen "ddyledswydd," sydd yn gwneyd un yn gryf i ymladd brwydr bywyd. Pell y byddo y dydd pan y bydd y tân wedi diffodd ar allorau aelwydydd Cymru. Lle caf fi yr olygfa oreu ar eich tref chwi, Mr. Lloyd?" meddwn wrth fy lletywr caredig. "O Ben y Pincyn," meddai yntau yn llon,"mi ddof gyda chwi. Felly fu, i ben Eiffel Tower Corwen yr aethom, ac ni cheir o ben Eiffel Tower prifddinas y Ffrancod olygfa fwy swynol nag a geir o ben yr hen graig, o ben yr hon y taflodd Owen Glyndwr ei bicell, ôl yr hon a welir hyd y dydd heddyw (medde nhw) ar gareg yn mynwent Corwen. Y mae yn anhawdd gwybod pa le i ddechreu; y mae cynifer o bethau yn ymgynyg i'r meddwl. Y pwnc mawr ydyw ceisio dyweyd rhywbeth nad ydyw pawb yn ei wybod. Yn y pellder gwelir, ar ddiwrnod clir, y Wyddfa a'r holl fryniau oddi amgylch. Oddi tanom mae hen eglwys y plwyf, dan nawdd Mael a Sulien. Mae traddodiadau gwirion ffôl am yr eglwys hon eto, un o'r rhai ydyw, y bwriedid ei hadeiladu mewn man arall, ond rhag-rybuddiwyd yr adeiladwyr trwy freuddwydion a gweledigaethau nad hono oedd y llanerch gysegredig. Wedi hyny detholwyd lle arall, ond eilwaith daeth yr anweledigion i ymyryd ac i benderfynu ar y fan a'r lle yr oedd eglwys y seintiau Mael a Sulien i gael ei hadeiladu. Mi gredaf pe buasai yr ymyrwyr "ysbrydol" wedi dewis rhyw lanerch tua haner milldir o'r dref na fuasai y Corweniaid fymryn dicach wrthynt, oblegid nid rhywbeth dymunol iawn ydyw cael mynwent ar eich gwynt bob amser; y mae digon o bethau yn mywyd dyn i'w adgoffa am ei fedd heb weled cerig beddau y peth olaf yn y nos a'r peth cyntaf yn y boreu.

Ni fu'm erioed yn credu mewn ysbrydion, ond fe'm dychrynwyd yn fawr un tro yn mynwent Corwen. Yr oeddwn yn cysgu yn ngwesty Owen Glyndwr, un o'r gwestai mwyaf cartrefol a chyfforddus yn Nghymru. Gwynebai fy ystafell—wely ar y fynwent. Pan aethum i'm gwely yr oedd yn dywyll fel y fagddu. Cysgais yn fuan, ond deffroais yn sydyn, ac wele yr oedd mor oleu o'r bron a haner dydd. Neidiais o'm gorweddfa yn ddychrynedig, gan feddwl fy mod wedi cysgu yn rhy hir, ac y dylaswn fod er's meityn ar y ffordd i Bentrefoelas. Aethum at y ffenestr. Yr oedd y cerig beddau i'w gweled wrth yr ugeiniau, ac o'r bron y gallwn ddarllen y cerfiadau arnynt. Ond och! beth ydyw y peth gwyn sydd yn symud rhwng y ddwy gistfaen acw, a'r un fynud tarodd y cloc un o'r gloch, a'r un eiliad dyma dri o'r bodau gwynion yn symud yn nghyfeiriad yr ysbryd cyntaf. Sefais yn syn, gan ddisgwyl mai y peth nesaf a glywn fyddai'r "udgorn diweddaf." Ond wele; pan ddaeth yr "ysbrydion" yn ddigon agos ataf, gwelwn mai pedair o ddefaid diniwed oeddynt, wedi cael y fraint o ddyfod i bori ar frasder y plwyf. Pe buaswn wedi neidio yn ol i'm gwely yn ddychrynedig, buaswn wedi credu fy mod wedi gwel'd drychiolaethau, ac y mae yn fwy na thebyg mai dyna fuaswn yn wneyd y mynudau hyn fuasai ysgrifenu am y pedwar ysbryd gwyn a welais yn hen fynwent Corwen.

Fe ddangosir i chwi yn y fynwent, ar rai o'r beddfeini gorweddog, dyllau yn y rhai y penliniai y rhai a ddeuai i weddio ar y seintiau am i ysbrydoedd y perthynasau oedd yn gorwedd islaw gael gollyngdod o'r purdan. Ni oddefai y saint i'r penlinwyr fyn'd a chlustog esmwyth, fel welir yn eglwysydd a chapeli yr oes hon. Rhai geirwon iawn fyddai rhai o'r seintiau fyddai yn eiriol dros eneidiau y purdan.

Y bryn crwn acw, a welwch chwi yn nghyfeiriad Dyffryn Clwyd, ydyw Caer Drewyn, hen gaerfa Brydeinig, ac olion amlwg i'w gweled hyd y dydd heddyw. Bu y gaerfa hon yn lled debyg yn noddfa oesoedd cyn i Owen Gwynedd ymladd byddin Harri yr Ail, a chyn i Owen Glyndwr ymladd â byddinoedd y Saeson yn nheyrnasiad Harri'r Pedwerydd. Nid oes dref yn Nghymru o'i maint wedi cymeryd camrau brasach gyda'r oes nag y mae Corwen yn ystod y deugain mlynedd diweddaf. Y mae'r adeiladau bychain tlodaidd wedi gwneyd lle i adeiladau nad oes eu gwell yn Meirion, —capelau heirdd perthynol i bob enwad ag sydd yn addurn i'r dref, ac adeiladau masnachol nad oes eisieu eu gwell. Cyn i'r march tân ddyfod i aflonyddu ar froydd tawel a phrydferth dyffrynoedd Edeyrnion a Llangollen, yr oedd Corwen y pryd hyny yn dref fywiog, yr oedd fel rhyw junction i ffyrdd y Bala a Cherigydrudion. Gwelais lawer tro ddwsiniau o droliau glo ar eu ffordd i lofeydd Rhiwabon, yn un rhes yn cyrhaedd o hen westy yr " Harp" i waelod y dref. Cychwynai y troliau o'r gwahanol ardaloedd ar ol i'r cloc daro haner nos, felly fe safid talu y "tyrpec" fwy nag unwaith o fewn y pedair awr ar hugain. Llawer tro y clywais droliau ardaloedd Penllyn yn trystio ar heol y Bala ar ol i hen gloc y dref gyhoeddi fod un diwrnod eto i gael ei gyfrif yn mhlith y pethau a fu. Hen westy o'r iawn sort oedd yr "Harp," a llawer gwaith y bu'm yn mwynhau boreufwyd blasus wrth fwrdd Mrs. Pritchard. Hen wreigan o'r sort oreu oedd mine hostess o'r "Harp." Y mae rhai o'i meibion wedi dringo i fyny i sefyllfaoedd uchel fel prif fasnachwyr Gwrecsam, ac y mae un arall yn amaethwr cyfrifol yn Nhrefalun, ger Rossett. Ond yr ydym wedi ymdroi ar y mwyaf, a chenym siwrnai fawr o'n blaen. Rhag i ni wyro ar y dde neu ar yr aswy, daeth ein lletywr i'n hebrwng dros bont Corwen sydd yn croesi y Ddyfrdwy, yr hon sydd erbyn hyn yn cyrhaedd cryn led. Ar ol croesi y bont, cadwn ar ffordd Caergybi, ffordd ardderchog Telford. Ar y llaw dde wrth Ty'n y Cefn, cychwyna ffordd Rhuthyn, trwy Gwyddelwern a Bryn Saith Marchog,—ffordd goediog brydferth, a'r creigiau calch fel mynor gwyn yn nghanol coed canghenog a gwyrddlas, yn disgleirio fel gemau gwerthfawr yn mhelydron tanbaid Brenin y Goleuadau. Ond nid ar y ffordd hon y mae y daith i fod yn awr. Awn yn mlaen ar ffordd Caergybi nes cyrhaedd y Ddwyryd, lle y cana ffordd Telford a ffordd y Bala yn iach i'w gilydd. Ond cyn cychwyn ar ffordd y Bala, rhaid i ni droi am fynud i hen balas

RHUG.

Hen gartref y Vychaniaid, o Nannau a Chorsygedol, ydyw. Meddienir yr ystâd yn awr gan Mr. Charles H. Wynn, un o feibion y diweddar Arglwydd Newborough, o Lynllifon, yn Arfon. Yn Rhug, gwelir yn yr ardd olion hen gastell, lle y carcharwyd Gruffydd ab Cynan, Tywysog Gwynedd, tua'r flwyddyn 1077, trwy iddo gael ei fradychu i ddwylaw Huw Lupus, cwnstabl Caerlleon, yr hwn hefyd a'i symudodd i gastell y ddinas hono mewn talm o amser, lle y bu yn garcharor am ddeuddeng mlynedd, hyd nes y rhyddhawyd ef trwy wroldeb mawr Cynffig Hir. Yr olaf o Vychaniaid y Rhug oedd Syr Robert Vaughan, hen Gymro Cymreig, a fedrai siarad Cymraeg, fel y medrai boneddigion yr oes hono, ac yr oedd hyny yn llawer gwell nag y medr eu holynwyr. Mae hen stori ar lafar gwlad yn yr ardal na fyddai yn anyddorol, efallai. Cymerai Syr Robert lawer o ddyddordeb yn ei ddefaid. Adnabai bob un ohonynt, ac adnabyddid ei lais yntau, fel llais bugail da, gan y defaid. Un diwrnod collodd un o'r praidd, ac aeth i chwilio am y golledig. Ryw dipyn o ffordd o'r palas, cyfarfyddodd ag un o'i denantiaid, a gofynodd iddo, John, welis ti yr un ddafad a V ar ei chefn hi?" "Naddo'n wir, Syr Robert, welis i yr un ddafad chwaith fase yn medru eich cario chi." Fe ddywedir mai haner y rhent fu raid i'r tenant dalu yr haner blwyddyn. hwnw, cymaint oedd Syr Robert wedi mwynhau ei ffraethineb. Cofus genyf aml dro wel'd cerbyd Syr Robert yn myn'd ac yn dyfod trwy y Bala ar ei ffordd o Nannau ac yn ol. Yr wyf yn cofio hefyd yn dda ei gladdedigaeth, pan y dangosodd pobl yr ardaloedd barch mawr i'w goffadwriaeth. Ond dyma ni ar

Y FFORDD UCHA' I'R BALA.

Dyma y ffordd y byddai yr hen goaches, y troliau, a'r cerbydau yn myn'd ac yn dyfod i'r Bala, nid am ei bod yn ffordd mor brydferth a rhamantus a'r ffordd drwy Landrillo, oblegid nid ydyw felly ar un cyfrif. Ond y mae filldir yn ferach, ac yn ffordd well. Ffordd ddigon anial oedd y "ffordd ucha' mewn rhai manau, hyd oni ddelom at Gefnddwysarn, ac y mae yn lled sicr ei bod yn fwy anial fyth yn awr pan nad oes fawr o dramwy arni. Gadawn Bettws Gwerfil Goch dipyn i'r dde, ac awn drwy bentref bychan Llawr y Bettws yn lled frysiog, ar ol cael golwg ar yr eglwys a adeiladwyd ar gynllun Syr Gilbert Scott, yr archadeiladydd enwog. Yn yr ardal yma y mae Hengaer Isa' a Hengaer Ucha',—yr hyn a ddengys fod rhyfel a thywallt gwaed wedi bod yn yr ardal anghysbell hon. Dyma ni yn awr yn Bethel. Mae yma gapel, gefail gôf, a thafarndy dan arwydd y "Boot." Capel Annibynol sydd yma, a theithiodd yr hybarch Fichael Jones lawer yma, oblegid bu dan ei ofal am flynyddoedd, a gwnaeth ei fab, M. D. Jones, yr un peth.

Tua milldir a haner yn mlaen down i'r Sarnau. Bu yma gapel yn nechreu y ganrif hon gan y Methodistiaid, capel bychan tô gwellt a llawr pridd, a chedwid traed y saint yn gynes gyda brwyn, tra y cedwid eu calonau yn gynes gan wres y llefarwyr Penaugryniaid a ddaethai ar eu tro i'r ardal. Cawn hanes am un hen bregethwr duwiol o'r enw Gruffydd Sion yn byw yn Bethel tua diwedd y ganrif o'r blaen. Hen wehydd ydoedd, ac fe ddywedir mai gyda'r Gruffydd Sion hwn y bu John Elias yn brentis o wehydd yn ardal Penmorfa. Esbonir yr achos iddo ddyfod i fyw i'r cwr hwn o'r wlad trwy ei gysylltiad â theulu Preis y Rhiwlas, yr hwn oedd ganddo stâd yn Eifionydd heb fod yn mhell o'r fan lle trigai yr hen bregethwr. Arferai Gruffydd Sion wneyd llymru o'r fath oreu, a phan y byddai pobl Corwen a Llawr y Bettws yn myn'd ac yn dyfod i Sasiynau y Bala, byddent yn cael eu gwala a'u gweddill o lymru yr hen Gristion. Un tro hefyd digwyddodd i'r hen Breis o'r Rhiwlas fyn'd i ffowla i ymyl Sarnau, a daeth chwant bwyd arno, a 'doedd dim i'w wneyd ond troi i dŷ Gruffydd Sion. Sgenoch chi tipyn bara chaws, Gruffydd?" meddai'r hen sgweiar. Nag oes 'n wir, mistar bach, ond mae gen i lon'd crochan o lymru.' "Towch brofi Gruffydd." Daeth yr hen bregethwr a llon'd cwpan bren o lymru ar y bwrdd, a llwy bren i'w fwyta. Gnewch chi gweddio arno fo, Gruffydd" (gofyn bendith), meddai'r hen Breis. Ac felly fu. Caf- odd perchenog stâd y Rhiwlas fwynhau yr un danteith- fwyd ag a ga'i pererinion Sasiwn y Bala, sef "llymru Gruffydd Sion."

Bu y diweddar hen flaenor duwiol a gweithgar, Ellis Dafis, Ty'n y Coed, yn mynychu y capel hwn yn moreu ei oes. Symudodd yr achos yn nechreu y ganrif hon i

CEFNDDWYSARN.

Rhwng y Sarnau a Chefnddwysarn yr oedd comins anial nad oedd un goeden yn tyfu arno mwy nag sydd yn niffaethwch Sahara. Y pen agosaf i Bethel y mae ffrwd fechan yn rhedeg, ac felly yn y pen agosaf i Gefnddwysarn, ac yr oedd sarn yn croesi pob un, felly y cawn Sarnau a Chefnddwysarn. Y mae llawer o bethau hynafol yn ardal Cefnddwysarn, ac er mwyn i mi beidio camarwain fy narllenwyr, trown i fewn i Grynierth i gael ymgom ddifyr gyda Mr. Robert Evans, yr hwn sydd, fel ei frawd Mr. Daniel, Fourcrosses, yn awdurdod ar hynafiaethau y fro. Wel, dyma ni yn Nghrynierth, a thra yn mwynhau cwpanaid o dê cawsom dipyn o hanes yr ardal. Nid oedd Mr. Evans erioed wedi clywed fod Tylwyth Teg wedi bod yn chwareu eu pranciau ar gomins y Sarnau, yr oedd yn lle rhy noethlym iddynt, meddai. Hysbyswyd ni mai ystyr yr enw Crynierth ydyw Cyn yr ierth, yr hyn sydd o'r un tarddiad a Cynlas neu "Cyn y loes.' Mae esboniad arall arno medd Mr. Daniel, yn yr hyn y cydolyga tywysog yr hynafiaethwyr Cymreig, sef y Doethawr John Rhys, a hwnw ydyw "Crwn Arth," neu Garth Gron. Cawn hefyd yn yr ardal hon Caerbach, Maes y Clawdd, Cefn y Byrlos (cefn y byr loes). Dengys hyn yn amlwg fod llawer brwydr wedi ei hymladd yn y fro dawel hon eto yn amser Cymru fu, ac fe ddichon fod llawer o waed Rhufeinig wedi ei golli ar y llechweddau lle yn awr y pora y defaid mewn tawelwch, a llawer un o filwyr llengoedd Cesar wedi eu lladd ar y dolydd lle yn awr y mae y gweision amaethyddol yn "lladd y gwair." Ar lechwedd y bryn y tu deheuol i gapel Cefnddwysarn mae caerfa henafol, a gwarchgloddiau i'w gweled yn amlwg hyd y dydd heddyw. Dywedai Ioan Pedr mai oddiar y caerau hyn y byddai yr hen Gymry yn rhoddi hysbysrwydd pan fyddai y gelyn yn dyfod i'r wlad, trwy oleu tân mawr arnynt, ac y mae ôl y tanau hyny i'w gweled yn amlwg. Yr oedd caerau hefyd ar ben Cader Idris, Moel Famau, a bryniau ereill, ac fel hyn yr hysbysid newyddion (fel y gwyr y darllenydd yn ddigon da) o un ardal i'r llall.

Bu dau o hen benaethiaid Cymru yn byw yn yr ardal hon. Un oedd Iolyn, a ddaeth yma o Blas Iolyn, ger Pentrefoelas, ac a drigodd mewn anedd-dy a alwyd Llwyn Iolyn. Y llall oedd Bedo. Aeth y ddau benaeth i ymladd a'u gilydd, a lladdwyd y diweddaf yn y bwlch cyfyng sydd yn ymyl Coed y Bedo. Rhyw filldir o'r tyddyn hwn y tardd yr afon Hafesp, ac heb fod yn mhell o'i tharddiad y ganwyd Bedo Hafesp, a'r ochr arall i'r afon, mewn bwthyn tô gwellt, y ganwyd Dewi Hafesp, yr englynwr dihafal. Bu'm yn darllen y llythyr diweddaf a ysgrifenodd Dewi y dydd o'r blaen, ac yr wyf yn deall fod y cyfaill a'i gyrodd i mi am ei anfon gyda thipyn o hanes y bardd trancedig i'r wasg. Ar lan Ar lan yr afon Hafesp, onitê, rhyw haner milldir o hen eglwys Llanfor, y lladdwyd Llywarch Hen a'i feibion, yn ol traddodiad. Rhed yr afon fechan trwy Lanfor a chroesa y ffordd filldir o'r Bala rhwng Penucha'r Llan a'r ficerdy, a chyn iddi ymarllwys i'r Ddyfrdwy Sanctaidd, golchwn ein ysgrifell ynddi ar ol ysgrifenu cymaint am dywallt gwaed, ac awn yn ol am enyd i gapel bychan prydferth Cefnyddwysarn. Adeiladwyd y capel hwn yn y flwyddyn 1868, blwyddyn fawr yr etholiad fythgofiadwy. Perthyna i'r capel bychan fynwent, ac y mae erbyn hyn yn faes Macpela hanesyddol. Yma y claddwyd Ellis Roberts, Fron Goch, un o ferthyron cyntaf brwydr etholiadol 1859. Claddedigaeth i'w gofio oedd claddedigaeth Ellis Roberts; daeth tyrfaoedd o bob cyfeiriad i ddangos eu parch i'w goffadwriaeth, ac i ddangos eu hedmygedd o'r gwron oedd yn ddiddadl wedi colli ei fywyd dros ei egwyddorion. Yma hefyd y gorwedd llwch Ellis Dafis, Ty'n y Coed, a Marged ei wraig. Gwr ydoedd Ellis Dafis a deilynga gyfrol o'i hanes. Yr oedd yn perthyn i "upper ten duwiolion Penllyn. Yma hefyd y gorwedd Ellis Jones, Llandrillo, masnachydd yn ol ei urdd, ond yn gywrain mewn amrywiol bethau; ac yma hefyd y gorphwys llwch Mari Jones ei fam. Mae'r darllenydd yn cofio mai Mari Jones oedd partneres "Edward Jones o'r Wenallt," am yr hwn y buom yn son mewn penod flaenorol.

CLUB HOUSE MARGED JONES.

Yr oedd i'r hen chwaer ferch, ac yn Nghefnddwysarn y gwna ei chartref yn awr. Flynyddoedd yn ol sefydlwyd yn nhy Marged Jones fath o glwb llenyddol, lle y cyfarfyddai rhai o wleidyddwyr ieuainc yr ardal i drafod pynciau gwleidyddol ar ol dyfod o'r seiat a'r cyfarfod gweddi. Cyhoeddasant newyddiadur, hyny ydyw, cymerent ddarn mawr o bapyr a rhoddent yn ngofal gwraig y "Club House." Elai aelodau y "club" yno pan darawent ar ryw newydd o bwys, ac ysgrifenent golofn yn y "Club Journal." Gyrwyd y papyr fwy nag unwaith i golegau Aberystwyth a Rhydychain pan fyddai rhai o'r aelodau yno, er mwyn iddynt wneud eu rhan i lenwi y papyr. Dyddorol fyddai cael gafael ar un o'r rhifynau; ceid gwel'd beth oedd syniadau gwleidyddol yr ysgrifenwyr y pryd hyny. Yr ydym yn gwybod eu syniadau yn awr yn lled dda, oblegid mae rhai ohonynt yn arweinwyr gwleidyddol, ac un ohonynt yn llanw swydd bwysig yn y Weinyddiaeth bresenol, a bydd genym air i ddyweyd am ei fan genedigol yn y benod nesaf. Ond y mae newyddiadur "clwb" gwleidyddol Cefnddwysarn, a sefydlwyd tua phymtheng mlynedd yn ol, yn ddigon diogel yn ngofal Marged Jones, a byddai yn haws tynu mêl o faen llifo na thynu dim o gyfrinion y "club" o Farged Jones. Yn mynwent Cefnddwysarn gwelwn hefyd gofgolofn hardd i Evan Peters, apostol plant Ysgol Sul Penllyn, wedi ei chodi ganddynt er cof am dano. Ar Evan Peters y syrthiodd mantell Robert Owen, yr holwr, ag aeth son am ei ddawn trwy holl Gymru. Bu yn gofalu am amryw eglwysi yn ardal y Bala am flynyddoedd. Yr oedd Evan Peters yn boblogaidd iawn yn mhlith cleifion y Bala.

Nodiadau

golygu
  1. Da genyf ddeall fod awgrym Mr. Owen M. Edwards i gael Côfgolofn i Glyndwr yn cael derbyniad selog.