Adgofion Andronicus/Y Ddyfrdwy Sanctaidd
← Oriau gyda John Bright | Adgofion Andronicus gan John Williams Jones (Andronicus) |
Corwen, Tref Glyndwr → |
Y DDYFRDWY SANCTAIDD.
AR Domen y Bala y gadewais y darllenydd ddiweddaf yn syllu ar olygfeydd prydferth y fro, ac yn eu plith y "Ddyfrdwy Sanctaidd" yn ymddolenu yn nghyfeiriad Dyffryn Edeyrnion ar ei ffordd tua'r môr mawr llydan. Nis gallwn yn well na dilyn yr hen afon gysegredig trwy ddyffrynoedd Edeyrnion, Llangollen, a Maelor.
"Dwr dwy" fyddai plant y Bala yn ddyweyd fyddai ystyr enw yr hen afon, sef afonydd y Treweryn a'r Ddyfrdwy yn nghyd. Ond dywed y Cymro gwladgarol a dysgedig Dr. John Rhys, yn ei nodion gwerthfawr yr argraphiad newydd o "Pennant's Tour in Wales," mai "Dwfr Duw" a feddylir, gan ddynodi y cysegredigrwydd gyda pha un yr edrychid ar yr afon gan ein hynafiaid.
Nid gwir chwaith yr hen dyb fod y Ddyfrdwy yn rhedeg trwy Lyn Tegid heb gymysgu â'r dwfr hwnw. Y mae llawer o aberoedd yn rhedeg i'r Llyn, ond nid ydyw y Ddyfrdwy yn dechreu a bod hyd oni chychwyna wrth Bont Mwnwgl y Llyn,[1] ar ba bont y safai y diweddar fardd llawryfol Tennyson, pan ddaeth drychfeddwl ardderchog iddo pan yn cyfansoddi rhan o un o'i orchestweithiau.
Ond rhaid cychwyn i'r daith, a chymeryd camau brasach nag a wna y "Gentle Deva" er mwyn cyrhaedd Corwen cyn i'r haul fyn'd i lawr. Wrth sefyll ar Bont y Bala gwelwn ar y llaw aswy y Rhiwlas, hen gartref y Preisiaid, disgynyddion William Pryce, yr hwn foneddwr oedd yn aelod Seneddol dros Feirion yn amser y Senedd Hir yn nheyrnasiad Siarl y Cyntaf.
Rhyfedd fel y mae pethau wedi newid, onite; heddyw nid yswain y Rhiwlas sydd yn cynrychioli Meirionydd yn Senedd Prydain Fawr, ond mab i un o denantiaid y Rhiwlas. Y pentref cyntaf y deuwn ato ar ol cefnu ar y Bala ydyw Llanfor, neu Llanfawr. Gadawn yr hen eglwys ar yr aswy lle claddwyd Llywarch Hen, cawn son am dani ar y daith yn ol. Ond rhaid cael dyweyd gair am Gareg y Bîg, anedd-dy bychan ar gyfer Penisa'r Llan. Cynhaliwyd moddion crefyddol yn Nghareg y Bîg, lle trigai Marged Rolant, hen wreigan dduwiol, nain Mr. Rowlands, ysgolfeistr caredig Brynsiencyn, Môn, am lawer o flynyddoedd bob Sabboth gan y Methodistiaid Calfinaidd cyn codi capel yn y pentref. Y mae hen fyfyrwyr y Bala sydd yn fyw yn cofio yn dda am y lle. Gofalid am bregethwr gan yr hen flaenor hunan-etholedig, Edward Rolant y gwehydd, Bala, a gofalid am y degwm gan yr hen foneddiges grefyddol o'r Tan'rhol hyd ei marwolaeth. Swllt oedd y degwm am bregeth ar brydnawn Sabboth i bregethwr mawr a bach, hyd o fewn ychydig o amser i agoriad y capel, pryd y cododd i "ddeunaw," pris Cefndwygraig. Pan glywai yr hen flaenor fod y pregethwr wedi dyfod i'r Bala, elai ato i'w lety i ofyn iddo fyn'd i Lanfor brydnawn Sul. Digwyddodd un tro fod "pregethwr mawr" o Lerpwl yn pregethu yn y Bala; aeth Edward Rolant ato, gan ddyweyd,"Ddowch chi i Lanfor fory, Mr. ———" "Mae arnaf ofn nas gallaf Edward Rolant, ydw i ddim yn teimlo yn ryw hwylus iawn y tywydd poeth yma," atebai y pregethwr mawr." "O dowch yn wir, Mr. ——— bach, yr yden ni yn rho'i deunaw acw 'rwan." Wel, oherwydd ei daerineb fe aeth y gweinidog caredig ac anwyl, ac nid oherwydd fod y degwm wedi codi i "ddeunaw." Y mae yn cael ei dâl ar ei ganfed heddyw yn y Drydedd Nef. Rhyw haner milldir yn mlaen y mae y Dyfrdwy yn rhoddi tro chwyrn i ymyl y ffordd fawr, ac yno y mae llyn dwfn a du a elwir" Llyn y Geulan Goch." Ofnai plant a phobl yr ardal yn fawr fyn'd heibio y Geulan Goch wedi iddi dywyllu yn y nos, oblegid yr oedd yno "ysbryd." Dyma y stori,—Yr oedd ysbryd ar ffurf "hwrdd corniog" yn blino eglwys Llanfor. Ryw noson aeth sant ar gefn ei farch at yr eglwys ar haner nos, a gweddiodd ar ei gydseintiau am gael ymwared â'r "Ysbryd Corniog." Felly fu, daeth yr hwrdd allan, a neidiodd wrth sgil y sant, carlamodd yntau ei farch yn nghyfeiriad y Geulan Goch, a rhoddodd hergwd i'r bwgan i'r trobwll; ond ni foddwyd y gwalch, oblegid aflonyddwyd ar lawer a ddigwyddent dramwy y ffordd hono am lawer o flynyddoedd; yn wir, hyd yr adeg y daeth diwygiad crefyddol mawr, nid i ymlid ymaith y bwgan, ond yr ofergoeliaeth.
Uwchben y llyn hwn y mae Bryn Pader, lle y cartrefai gynt Peter Jones, y Goat, un o ferthyron brwydr etholiadol Wynne o Beniarth a Dafydd Williams, Castell Deudraeth. Fe ddywedir mai yr achos i'r lle hwn gael yr enw "pen liniol" hwn ydyw a ganlyn,— Yr oedd hen ffordd Rufeinig yn myn'd dros y bryn hwn, a hono yn serth a charegog, a phan y deuai y pererinion o ardaloedd pellenig Llawr y Betws i addoli i eglwys Llanfor, a chyraedd pen y bryn, hwy ddeuenț i olwg yr hen eglwys, ac yna syrthient ar eu gliniau mewn ymostyngiad defosiynol. Dyna y stori fel y clywais i hi gan hynafiaethydd enwog o'r Bala, a dyna fel yr oedd yntau wedi clywed y stori gan ei hen daid, yr hwn hefyd oedd wedi ei chlywed gan ei hen daid yntau.
Yn awr yr ydym yn dyfod at ddwy ffordd gyfarfod, ac er mwyn dilyn y Ddyfrdwy cymerwn y ffordd isaf, yr hon a'n harwain i bentref hynafol
LLANDDERFEL.
Deuwn yn ol i'r Bala y ffordd arall. Awn heibio Melin Meloch, a'r Bodweni, a Dewis Gyfarfod. Yr oeddym wedi clywed yr enw diweddaf lawer tro, ond erioed nid oeddym wedi deall ei ystyr. Ond dyma hen wr ar y ffordd, gofynwn iddo ef. "Wel," meddai yntau, "yn siwr i chi wn i ddim yn iawn, ond mi glywes rywun yn deyd mai dyma y fan y darfu i ddau Wyddel ddewis i gyfarfod i gwffio.' "Wel, meddem ninau, "os oedd y ddau Wyddel eisieu lle i gwffio—paffio ddywedodd o, dyna air Penllyn—heb fod ar yr Ynys Werdd, yr oedd digon o le iddynt ar yr Ynys Sanctaidd, lle yn awr y saif Caergybi (Holyhead)." Tybed mai nid yn y fan yma y darfu i ychydig o hen "ben gryniaid" ardal Llandderfel "ddewis i gyfarfod" yn amser yr erledigaethau chwerwon y cawn hanes am danynt yn "Methodistiaeth Cymru?"
Dyma ni yn awr wedi dyfod at y Fron Heulog, cartref Mr. John Davies, cyfaill mynwesol Mr. Charles, o'r Bala, a llywydd cyntaf y Feibl Gymdeithas yn Nghymru. Gwel y darllenydd gip ar y Fron Heulog yn y coed gerllaw o ben Pont Llandderfel. Dyma ni yn awr yn myn'd i lawr allt serth, dyma lle y syrthiodd Elias o Fon oddiar gefn ei geffyl yn adeg un o Sasiynau y Bala nes tori ei goes, a methu myn'd i'r Bala i bregethu. Os ydym yn cofio yr hanes yn gywir, myn'd i roddi pregeth yn Llandderfel y nos Lun cyn y Sasiwn yr oedd John Elias pan ddigwyddodd yr anffawd. Ar y llaw dde, yn y fan hon, gwelwn balasdy gorwych a adeiladwyd gan y diweddar Mr. Henry Robertson, cyn aelod dros Feirion. Enw y palasdy hwn ydyw
Y PALE.
Dyma lle y bu ein grasusaf Frenhines yn aros am ychydig o ddyddiau Awst, 1889. Hen gartref y Llwydiaid oedd yr hen Balé am dros wyth gant o flynyddoedd, a dywedai y diweddar Forys Hedd Llwyd, yr olaf ond un o'r llinach, mai ystyr y gair Palé ydoedd "lle gwlyb." Mwynhaodd ein brenhines Buddug ei hunan yn ardderchog yn y Palé, ac aeth gyda hi yn ol ddau beth, sef ewyllys da ei deiliaid yn Meirion a ffon Gymreig o wneuthuriad Mr. Hugh Ellis, un o flaenoriaid capel y Methodistiaid yn Llandderfel. Dyma, hyd y dydd heddyw, ydyw hoff ffon yr hon sydd yn eistedd yn nheyrngadair y deyrnas fwyaf pwysig yn y byd—y deyrnas na fydd yr haul byth yn machludo ar ei thêrfynau. Darllenais mewn newyddiadur sydd i fewn nghyfrinion y Palas Brenhinol y dydd o'r blaen, mai y ffon Gymreig a ddefnyddia Victoria i dramwy trwy ystafelloedd ei phalasau, a'r ffon hon oedd yn ei llaw yn Mhalas Buckingham fis Mawrth diweddaf, ac nid "teyrnwialen aur," pan yn rhoddi derbyniad i'w gweinidogion, ei hesgobion, a phendefigion mwyaf ei theyrnas. Gellir felly ddyweyd mai ar y ffon Gymreig, yr hon a gafodd gan y gwr da o Landderfel, y mae holl bwysau Ymherodraeth Prydain yn gorphwys.
Cyn troi dros Bont Llandderfel rhaid i ni droi ar y chwith i bentref bychan destlus Llandderfel, hen fangre hanesyddol, lle y ganwyd llawer bardd o enwogrwydd, ac yn eu plith
EDWARD JONES, BARDD Y BRENIN.
Ar ein ffordd i'w dŷ, darlun o ba un sydd gerbron y darllenydd, awn heibio i "Trafalgar Square," ac y mae y trigolion yn meddwl llawn cymaint o'i sgwâr ag y mae y Llundeinwyr yn feddwl o'u sgwâr hwythau o'r un enw. Nid ymholais pa un ai pobl Llandderfel roddodd yr enw ar eu heol hwy ar ol heol Llundain, ai ynte pobl Llundain ddarfu enwi Trafalgar Square ar ol sgwâr Llandderfel. Ond dyma ni yn ymyl hen gartref hen Fardd y Brenin, sef yr "Henblas." Mae pob Cymro yn gwybod mwy neu lai o hanes yr hen delynor, felly ni raid i ni ddyweyd ond ychydig am dano. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1752. Yr oedd ei dad yn gerddor cywrain, a dysgodd gerddoriaeth i bedwar o'i feibion. I Edward y dysgodd chwareu y delyn Gymreig. Pan yn ddwy ar hugain oed symudodd ein harwr i Lundain, lle y cyrhaeddodd enwogrwydd o dan nawddogaeth rhai o brif foneddigion Cymru. Dysgodd i lawer o foneddigesau perthynol ir bendefigaeth chwareu telyn Gwlad y Bryniau. Yn 1783 penodwyd ef yn delynor i Dywysog Cymru, wedi hyny Sior y Pedwerydd. Cyhoeddodd amryw lyfrau, ac yn eu plith y Bardic Relics yn y flwyddyn 1794, yn cynwys llawer o bethau dyddorol. Bu farw yn Llundain yn y flwyddyn 1824, yn 76 mlwydd oed, wedi byw yno dros haner can' mlynedd. Trown yn awr i gael golwg ar
HEN EGLWYS DERFEL GADARN.
Mab ydoedd Derfel Gadarn Santi Emyr o Lydaw, ac adeiladwyd yr eglwys gyntaf tua'r chweched ganrif. Dangosir hen ysgrin uwchben pa un y safai delw o'r nawdd sant Derfel. Dangosir hefyd ddarn o geffyl Derfel, ond gallasai y ceffyl fod yn rhyw greadur arall o ran dim tebygolrwydd sydd ynddo i'r anifail defnyddiol hwnw. Dywed ereill mai llew oedd y "ceffyl," ond mae yn fwy tebyg mai y "doethion a'r philosophyddion" diweddaraf sydd agosaf i'w lle, y rhai a honant mai "carw" ydoedd y "ceffyl." Ond da waeth, nid ydyw yr hyn sydd weddill o'r pedwar troediog yn dda i ddim, nag yn addurn i Eglwys Derfel Sant. Mae yma hefyd "ffon Derfel," ac os hon oedd y wir ffon a ddefnyddiai y gwr cadarn ddeuddeg cant o flynyddoedd yn ol, mae lle i obeithio y bydd ffon ein brenhines Buddug ar gael ac yn relic gwerth edrych arni mewn cynifer a hyny o flynyddoedd. Mae yr ystori beth a ddaeth o ddelw bren Derfel Sant yn ddigon hysbys i blant yr ardal, ond rhag digwydd y bydd pob llyfr Cymraeg ond yr adgofion hyn wedi myn'd ar goll mewn mil o flynyddoedd rhoddaf hi yn fyr yn y fan hon. Gymaint o barch oedd gan yr ardalwyr i goffadwriaeth yr hen Sant fel ag y byddent yn gwneyd eilun o'r ddelw ac yn ei addoli, ac yr oedd traddodiad y byddai i'r ddelw bren hon roddi fforest ar dân rhyw ddydd. Fodd bynag, yn y flwyddyn 1538, awd a'r ddelw i Lundain o gyrhaedd y werin bobl, ac yn y flwyddyn hono fe gondemniwyd mynach o'r enw Fforest am wadu uwchafiaeth y brenin, i gael ei losgi wrth y stanc yn Smithfield, a thaflwyd delw Derfel Gadarn i'r goelcerth, yn mhresenoldeb Arglwydd Faer Llundain, a'r Esgob Latimer, a gwŷr o awdurdod ereill. Felly gwiriwyd yr hen brophwydoliaeth y gyrai delw Derfel Gadarn "Fforest" ar dân.
Y PALE. YR HEN BLAS. PONT LLANDDERFEL.
Yn ystod teyrnasiad Siarl yr Ail, ymfudodd llaweroedd o ardal Llandderfel i'r Amerig oherwydd yr erledigaethau, ac i ddangos eu cariad at eu hen wlad, ceir hyd y dydd heddyw laweroedd o enwau Cymreig ar rai o'r ardaloedd, megis Berwyn, Bryn Mawr, ac yn y blaen. Ond rhaid i ni gychwyn o'r "Llan er cymaint a garem aros yn hwy, y mae yr haul yn prysur gerdded tua'r gorllewin, rhaid i ninau gerdded yn gyflym tua'r dwyrain. Ar ol myn'd dros Bont Llandderfel down at ddwy ffordd, mae yr hon sydd yn troi ar y dde yn myn'd a ni i Dre' Rhiwaedog. Efallai y cawn fynd ar hyd-ddi ryw dro eto. Trown ar yr aswy heibio yr orsaf, ac awn yn nghyfeiriad
LLANDRILLO.
Mae genym ddau neu dri o leoedd i alw ar y ffordd. Y cyntaf ydyw Bryn Bwlan, cartref olaf Mr. Edward Ellis, gynt o'r Ty Cerig, Llangower, a brawd i'r gwr hynaws, tad yr aelod anrhydeddus dros Feirion. Yma y mae rhai o'r teulu caredig yn byw yn awr. Dipyn yn mhellach down at y Bryn Melyn, cartref Melinydd y Ddyfrdwy, Mr. Thomas Jones, is—lywydd Cyngor Sirol Meirionydd. Mae cân Seisnig a Chymraeg hefyd, o ran hyny, am "Felinydd y Ddyfrdwy," a chân hefyd i'r " Jolly Miller." Mae ein cyfaill o'r Bryn Melyn yn ateb i'r ddau. Mae hefyd yn gerddor trwyddedig, oblegid ni a'i gwelsom yn myn'd o dan y corn olew, a'r cledd, yn ngwyneb haul a llygad goleuni, yn Eisteddfod Porthmadog, yn y flwyddynos ydym yn cofio yn iawn—1873. I Mr. J. M. Jones, Caerlleon, mab y Bryn Melyn, yr ydym yn ddyledus am y darluniau sydd yn yr ysgrif hon. Dyma ydyw hoff waith ein cyfaill pan yn treulio ei ddyddiau hamddenol ar lan yr afon Ddyfrdwy yn Nyffryn prydferth Edeyrnion. Y tro diweddaf y buom yn y Bryn Melyn,"melyn" a thlws odiaeth oedd y dolydd, wedi eu hardd wisgo â briallu Mai. Ond dylem ddyweyd nad ydyw Mr. Jones yn aelod o "Gyngrair y Briallu."—Yma hefyd y magwyd y diweddar Mr. David Jones, sylfaenydd y sefydliad llwyddianus David Jones & Co., masnachwyr, Lerpwl. Nid oes lan na thref yn Ngogledd Cymru na wyddant yn dda am yr enw.
Awn yn mlaen yn awr at balasdy y Crogen, perthynol i Arglwydd Dudley. Dywed rhai mai Careg Owdin yw yr ystyr, ac mai hen amddiffynfa ydoedd ar derfynau Penllyn ac Edeyrnion, a Phowys Madog, a Gwynedd. Yma, yn ol pob tebyg, yr ymladdwyd brwydr rhwng Owen Gwynedd a Harri yr Ail. Y mae yma adfeilion o hen dŵr yn ymyl y palas. Cerddwn yn mlaen dipyn a deuwn at Bont Cilan. Y mae hen adroddiad yn nglyn â'r bont hon, sef fod un Peter Ffowc, mab i Ffowc o'r Ty Gwyn, Llangwm, wedi syrthio mewn cariad â merch ieuanc o Landrillo, ond nid oedd serch y llanc yn onest tuagat y feinwen, a galwyd arno i roddi cyfrif, ac i dderbyn cerydd eglwysig gan y rhai oeddynt mewn awdurdod, megis yn ol arferiad y dyddiau hyny. Ond cyn dyfod dydd y penyd, yr oedd Peter ar y môr, yn hwylio tua gwlad yr Amerig, a chafwyd o hyd i gorph ei gariad yn yr afon ger Pont Cilan. Daeth Peter Ffowc yn mlaen yn y wlad newydd, a llwyddodd fel marsiandwr. Daeth yn ol i Lundain, lle y bu farw heb wneyd ei ewyllys, a bu achos yr "arian mawr" cael sylw yn llysoedd barn y Brifddinas am lawer o flynyddoedd, ac yn Llundain y mae yr "arian mawr" yn ddiogel hyd y dydd heddyw o ran hyny. Er fod llawer o Ffowciaid yn sir Feirionydd, nid oes yr un ohonynt wedi profi ei hunan yn berthynas agosaf na hawl i dderbyn "arian mawr" Peter Ffowc o enwogrwydd Pont Cilan.
Pentref bychan bywiog ydyw Llandrillo, y rhan fwyaf o'r trigolion yn bwyta eu bara trwy chwys eu gwyneb. Cawn yma gapelau yn perthyn i'r gwahanol enwadau, ac eglwys y plwyf o dan nawdd Trillo Sant. Er fod i ni adgofion melus am lawer dydd hapus yn y fro hon lawer o flynyddoedd yn ol, gofod a balla i ni ymhelaethu. Yn nghwmni ein câr Edward Jones, y Shop, awn am daith fechan yn y prydnawn i ben.
CADER BRONWEN.
Dyma frenhines bryniau y Berwyn, yn sefyll ddwy fil a haner o droedfeddi o uchder, ac oddiar ei chopa ceir golygfeydd ardderchog. Edrychwn i'r gogledd, gwelwn Moel Famau, eilun trigolion glanau yr afon Clwyd, sylwi ar gopa yr hon fydd yn codi hiraeth ar y Llyfrbryf pan yn rhodiana yn Everton Brow, yn Lerpwl, ei ddinas fabwysiedig, am fyned i'w hoff Ddyffryn ac i ardal Castell yr Iarll Grey de Rhuthyn. Trown i'r gogledd-orllewin, gwelwn gopâu mynyddoedd Eryri, y "Wyddfa gyrhaeddfawr a Charnedd Llywelyn yn ymryson am y llawryf o uchder. I'r gorllewin, fe welir Llyn Tegid fel drych ardderchog, wrth ba un y mae y ddwy chwaer, yr Arenig Fach a'r Arenig Fawr yn ymbincio fel "Morwynion Glân Meirionydd" cyn cychwyn i gyfarfod eu cariadau yn min yr hwyr. Dacw ddwy chwaer arall yn y de-orllewin, Aran Benllyn ac Aran Fawddwy, yn ymgystadlu am sylw Cader Idris. Gwelwn hefyd o ben Cader Bronwen gopâu bryniau Maldwyn, ac yn y pellder gwelwn frig y Wrekin, hoff gyrchle gwyr beilchion yr Amwythig ar ddyddiau hafaidd Mehefin. Ie, lle ardderchog ydyw "Cader Bronwen" i gael golygfa ysblenydd,
Dair milldir o Landrillo y mae Cynwyd, lle nodedig yn y dyddiau gynt fel man lle y cynhelid cwrtydd gan dirfeddianwyr y fro i benderfynu terfynau eu hetifeddiaethau. Ar y cyfryw amgylchiadau cawn fod y " cwrw da" yn cael lle pur amlwg yn eu plith, yn gymaint felly, fel yr ydym yn cael un tro i drwyth yr heidden effeithio gymaint arnynt yn nghyfeiriad cariad brawdol ac ymddiriedaeth fel y darfu iddynt gyduno i daflu gweithredoedd eu tiroedd i'r tân.
Yr ydym yn awr yn prysur agoshau i ben ein siwrne, ond rhaid i ni droi i gael golwg ar hen eglwys Llangar, neu "Llan y Carw Gwyn." Saif yr eglwys henafol hon yn ymyl llinell rheilffordd y Bala a Chorwen, ar y llaw dde wrth fyn'd i gyfeiriad y lle olaf. Mae i eglwys Llangar eto ei thraddodiad fel pob eglwys arall, a dyma fo,—Bwriedid adeiladu yr eglwys yn ymyl Pont Cynwyd sydd yn croesi y Ddyfrdwy; ond, trwy weledigaeth neu freuddwyd rhag—rybuddiwyd yr adeiladwyr fod yn rhaid iddynt adeiladu yr adeilad cysegredig ar y llanerch lle codai carw gwyn mewn helfa, ac ar y llanerch lle yn awr y saif eglwys Llangar y cododd y carw gwyn."
Mae'r haul bellach wedi suddo i'w wely yn nyfnderoedd y gorllewin, ac wedi tynu y "cyrten coch " ardderchog o amgylch ei orweddfa, ac y mae lleni yr hwyr yn prysur orchuddio hen dref Owen Glyndwr, a thra yn cerdded yn nghyfeiriad y gwesty a elwir ar enw yr hen wron Cymreig daethom ar draws Postfeistr Cyffredinol Corwen a'r ardaloedd, sef ein cyfaill hoffus Mr. Owen Lloyd, mab—yn—nghyfraith i'r diweddar Barch. Dafydd Dafis o'r 'Bermo, yr hen weinidog anwyl, yr hwn gyda'i lais treiddgar a melus a yrodd lawer cynulleidfa ar dân yn adeg Diwygiad Mawr 1859. Wel, 'doedd byw na marw na arhosem dan gronglwyd ein cyfaill am noson. Cawsom lety cysurus a phob tiriondeb gan y gwr hoff a'i briod dirion. Ar ol cael cysgu noson yn ngwely y pregethwrs teimlem ein hysbryd cellweirus wedi ei nawseiddio a'n calonau wedi adfywio, ac yn barod eto i gychwyn yn ol y ffordd arall "O Gorwen i'r Bala," hanes pa daith a roddwn yn nesaf.
Nodiadau
golygu- ↑ Cywira Mr. Owen M. Edwards fi mewn rhifyn o CYMRU, a dywed fod tarddiad y Ddyfrdwy yn Garneddwen rhwng y Bala a Dolgellau, a rhaid i mi ymostwng iddo ef.