Adgofion Andronicus/Evan Peters

Ioan Pedr Adgofion Andronicus

gan John Williams Jones (Andronicus)

Rhestr o'r Tanysgrifwyr

EVAN PETERS.

EI FEBYD.

YR ydwyf wedi son fwy nac unwaith am fy hen gyfaill a'm câr, Evan Peters, yn y rhan gyntaf o'r Adgofion hyn, ond efallai y carai rhai o blant Ysgolion Sabbothol Cymru wybod tipyn mwy am y gwr hoff a fu yn holi cymaint arnynt. Pan fu farw Robert Owen, Nefyn, syrthiodd ei fantell ar Evan Peters, ac yr oedd ganddo yntau fel yr arch-holwr ei arddull ei hunan, ac yr oedd yr arddull hwnw yn un anghyffredin.

Ganwyd Evan Peters yn y Merddyn Mared, plwyf Llangower, yn Mhenllyn. Ei dad oedd Peter Jones, un o feibion y Wenallt, a brawd i'r gwr y mae darlun ohono ar gefn yr ebol asen yn nechreu y llyfr. Merch y Glyn oedd Sian Jones ei fam, ac os nad ydwyf yn camgymeryd yr oedd yn chwaer i fam Thomas Jones, yr hwn a fu am flynyddoedd yn genhadwr ar fryniau Cassia.

Canfyddwyd pan oedd Evan yn lled ieuanc nad oedd ei fryd ar weithio ar y fferm, na bugeilio defaid ei dad. Y mae yn lled debyg ei fod lawer tro wedi bod yn gwneyd ei ran gyda'r defaid, yn enwedig ar y "prif wyliau," sef diwrnod "golchi" a diwrnod "cneifio" y canoedd defaid oedd yn pori ar "libart" y Merddyn Mared. Gwell fyddai gan y bachgen ddarllen ac astudio a chwilio am adnod ar rhyw bwnc na myn'd i chwilio am ddafad gölledig. Ond, fe ddaeth y dydd mewn blynyddoedd, pan yr aeth Evan Peters ar ol llawer "dafad golledig," a bu yn foddion yn llaw y Bugail Mawr i ddyfod a llawer “dafad" oedd wedi crwydro, i'r gorlan.

Derbyniodd ei addysg elfenol yn y Bala, ac aeth i Goleg y Methodistiaid tua'r flwyddyn 1847, nid y pryd hyny gyda'r amcan o fyn'd i'r weinidogaeth, ond ei fwriad oedd paratoi i fod yn ysgolfeistr.

Yn y flwyddyn 1850, neu oddeutu hyny, aeth i Goleg Hyfforddiadol y Borough-road, Llundain, sefydliad o'r un natur ag ydyw Coleg Normalaidd Bangor, yr hwn sydd yn awr o dan ofal y Prif-athraw John Price, a'r Is-athraw John Thomas, B.A. Mewn rhai misoedd ar ol myn'd i'r brif-ddinas, cymerwyd Evan Peters yn glaf o'r cholera, yr hwn bla y flwyddyn hono a laddodd fwy o bobl yn Llundain nag a laddodd unrhyw bla er amser y pla du yn y flwyddyn 1665, yr hwn a ddilynwyd y flwyddyn ganlynol gan y tân mawr, yr hwn hefyd a laddodd ugeiniau o filoedd o'r dinaswyr.

DAN Y CHOLERA.

Un diwrnod daeth llythyr i fy nhad a marc post Llundain arno. Cymaint oedd y dychryn yn y wlad wrth glywed son am y geri marwol oedd yn difa cynifer o blant dynion yn y Brif-ddinas, fel yr oedd arnynt ofn cyffwrdd â hyd yn oed llythyr oddiyno. Agorodd fy nhad y llythyr gyda llaw grynedig, ac er ei fawr ofid gwelai fod ei hoff gâr a chyfaill, Evan Peters, yn gorwedd mewn Ysbyty yno o dan y cholera. Teimlodd y loes yn fawr. Gwelai mai ei ddyledswydd gyntaf oedd myn'd i dori y newydd trwm i Merddyn Mared, a dyna y swydd fwyaf anhawdd a syrthiodd i'w ran erioed.

Haws dychmygu na darlunio teimladau Sian Jones pan glywodd y newydd. Eisteddodd i lawr yn yr hen gadair yn yr hon yr oedd wedi eistedd ganoedd o weithiau i fagu Evan bach. Dyma holl deimladau calon dyner mam yn cael eu cynhyrfu i'r gwaelodion. "Ow, Ow," meddai, "Evan bach, fy machgen anwyl i, yn gorwedd o dan y pla marwol, yn nghanol estroniaid. 'Does yna yr un fam i afael yn dy law, ac i roddi tipyn o ddwr oer i wlychu dy wefusau sychion, ac i esmwythau dy glustog" (wyddai y fam drallodus ddim fod ei bachgen mewn dwylaw caredig yn un o brif Yspytai y Brifddinas). Wylai Sian Jones yn dorcalonus, a gadawyd iddi. 'Does dim sydd mor iachusol i rywun mewn ing a thrallod, a chael wylo dagrau yn hidl. Os bydd arnat ti, ddarllenydd hynaws, eisieu wylo pan mewn ing, na fydded gywilydd genyt, oblegid oni wylodd yr Iesu o Nazareth uwchben bedd ei gyfaill Lazarus? Mae rhywbeth refreshing mewn cael colli dagrau pan fyddo y gostrel yn llawn. Wel, fe wylodd Sian Jones am fod Evan o dan y cholera. Safai Peter Jones a'm tad fel delwau. Ni wylodd Peter, nid oedd efe o'r un natur a'i wraig. Teimlodd i'r byw, ond nid ydoedd mor emotional a'i briod. Parchai fy nhad a Peter Jones deimladau y fam. Yn y man tarawodd rywbeth Peter, ac aeth at ei wraig, rhoddodd ei law ar ei hysgwydd, a dywedodd, "Paid a chrio, Siani bach, ydi Evan ni ddim ei hunan yn mhlith estroniaid, o nag ydi, yr oedd o yn ormod o ffrynd i'r 'Cyfaill a lŷn yn well na brawd,' iddo fo ei adael o mewn cyfyngder." Edrych- odd Siani yn myw llygad Peter, a gwenodd gan ddyweyd, O ydi, Peter bach, mae hi yn ol reit efo Evan, 'roedd o ac Iesu Grist yn gryn ffrindiau." Nid hir y bu Sian Jones cyn sychu ei llygaid gyda'i ffedog stwff cartref. Hen wr dewr oedd Peter Jones, o'r Merddyn Mared, wedi hyny o'r Rhydwen. Hen grefyddwr distaw. Chlywais i neb erioed yn dyweyd eu bod wedi ei glywed yn gorfoleddu amser Diwygiad Crefyddol, na'i fod erioed wedi rhoddi rhyw "amen" uchel iawn; ond nid oedd hyny yn arwydd yn y byd nad oedd " ysbryd ysbryd y peth byw" ganddo. Ie, hen wr brave oedd Peter Jones, fel y cawn weled yn mhellach yn mlaen.

D'OD ADREF.

Yn mhen ychydig o ddyddiau cafodd fy nhad ail lythyr o Lundain, wedi ei ysgrifenu yn llaw dda ac eglur Evan Peters, yn yr hwn y dywedai ei fod yn gwella yn gyflym, ac y deuai adref cyn gynted ag y cai ganiatad y meddygon. Da y cofiaf y prydnawn y daeth adref yn y goach fawr o Llangollen Road. Yr oedd tyrfa fawr wedi dyfod at y White Lion i'w ddisgwyl, a mawr oedd yr ysgwyd dwylaw. Yr oedd Peter a Siani Jones hefyd wedi dyfod i gyfarfod eu mab. Pan ddaeth y mab i fewn i'r ty—wel, mae'r olygfa yn rhy gysegredig—tynwn i lawr y llen.

Gwellhaodd E. Peters yn gyflym o dan ofal ei fam. ac awelon iachus Mynydd y Berwyn, lle porai deadelloedd Peter Jones. Yn fuan wedi hyn ymadawodd y Parch. John Williams i Landrillo i fod yn agent i Lord Ward, a chymerodd Evan Peters ei le fel ysgolfeistr, ac yn lled fuan wedi hyny dechreuodd bregethu. Ar ol agor y British School yn 1855 gan Mr. John Price, yn awr o'r Normal College, Bangor, symudodd Mr. Peters i Tynewydd, Talybont, ger y Bala, lle bu yn ffarmio am flynyddoedd, ac yn cadw ysgol yn y capel. Bu eglwysi Talybont, Llidiardau, a Celyn o dan ei ofal am flynyddoedd.

PRIODI.

Pan yn ysgolfeistr yn y Bala elai yn ol a blaen i'r Rhydwen bob wythnos, a galwai yn fynych iawn yn y Ty Cerig, hen gartref Mr. Thomas Ellis, Cynlas, fel y buom yn dyweyd o'r blaen. Yr oedd yno ddwy ferch, Gwen a Catherine, ac nid ydoedd yn beth rhyfedd fod y llanc parablus wedi syrthio dros ei ben mewn cariad â'r hynaf o'r ddwy. 'Doedd hyny ond true to nature, fel y dywedai Wil Bryan. Unwyd y ddeuddyn hapus mewn glân briodas, a chafodd ysgrifenydd yr Adgofion hyn y fraint o fod yn bresenol ar yr amgylchiad. Mae Mrs. Peters yn fyw eto, ac yn iach a heini. Ar farwolaeth Mr. Peters, fel y dywedais o'r blaen, rhoddodd plant ysgolion Sabbothol pum' plwy' Penllyn gofgolofn hardd ar ei feddrod.

PETER JONES AC ETHOLIAD 1859.

Mae pobl y Bala yn cofio yn dda am etholiad fawr 1859, pryd y daeth Mr. David Williams, Castell Deudraeth, allan yn erbyn Mr. Wynne, o Beniarth, yr hwn oedd wedi eistedd dros Sir Feirionydd am lawer o flynyddoedd. Yr oedd Peter Jones yn un o ferthyron yr etholiad fythgofiadwy hono. Dylasai fod cofgolofn ar heol fawr y Bala yn goffadwriaeth am y gwŷr da hyny a ddioddefasant dros eu hegwyddorion yr amser hono. Foreu diwrnod yr etholiad collwyd Peter Jones yn foreu iawn o'r Rhydwen. Daeth cerbydau o'r dref oddiwrth y ddwy blaid i'w gyrchu i'r etholfa, ond nid oedd son am Peter. Chwiliwyd yr ysgubor, yr ystabl, a'r beudai. Awd i gorlanau y defaid i'r mynydd, ond nid oedd son am Peter Jones.

Bu yn gyfyng iawn arno o'r ddeutu. Dywedai un llais wrtho, Dos i'r Bala i fotio dros Williams, Castell Deudraeth. Dywedai llais arall yn groch,—Na, Peter, cerdd di i roddi dy bleidlais yn ol dymuniad dy feistr tir, dyna y peth goreu i ti o lawer. Yn nghanol y grug yr oedd Peter Jones yn llechu, ac nis gŵyr neb ond ef ei hunan a'r Hwn sydd yn gwybod pobpeth yr ymdrech y bu ynddi. Buom yn dychymygu lawer gwaith fod y defaid yn edrych ar yr ymdrechfa, ac yn gwel'd y gwr ar ei liniau yn nghanol y grug, ond efallai nad oedd yr olygfa yn un anghyffredin iddynt. Mae'n debyg mai nid dyna y tro cyntaf na'r diweddaf y bu Peter Jones o'r Rhydwen ar ei liniau yn y grug.

Wel, yr oedd lecsiwn fawr 1859 yn myn'd yn mlaen yn y Bala, ac yr oedd pob pleidlais o werth amhrisiadwy. 'Doedd dim son am Peter Jones o'r Rhydwen. Yr oedd y poll i gau am bedwar o'r gloch. Dyma fys yr hen gloc mawr ar dri-chwarter wedi tri-haner awr wedi tri, ond dim golwg ar Peter Jones. Safai Evan Peters yn y dyrfa yn welw ei wedd gan bryder.

"Ddaw o ddim yn siwr," meddai rhywun.

"Choeliaf fi ddim," meddai Evan Peters, "tan fydd y cloc wedi taro pedwar." Dyna fys y cloc ar chwarter i bedwar, dyna ryw waedd yn y "Stryd fach." Be' sydd yn bod? Dyma Peter Jones wedi dwad," meddai ugeiniau o leisiau. Aeth yr hen wr i'r Town Hall. Yr oedd yno agent y meistr tir ac amryw ereill yn bresenol. Daliai pawb ei wynt yn ei ddwrn. "Wel, Peter Jones," meddai arolygydd y bleidesfa, "dros pwy ydech chwi yn myn'd i fotio?

"Dros Dafydd Williams, Castell Deudraeth," meddai'r hen wr yn dawel. Yn y grug yr oedd Peter Jones wedi tori y ddadl. Nid anghofiaf byth yr olygfa pan ddaeth yr hen wron allan o'r neuadd. Yr oedd Evan Peters yn barod i orfoleddu. Ni chafodd tywysog erioed fwy o groesaw nag a gafodd yr hen wron y prydnawn hwnw ar Heol Fawr y Bala. Ni adroddaf beth a ddigwyddodd ar ol yr etholiad, digon yw dyweyd mai Mr. Morris Peters, mab ieuengaf Peter Jones, gafodd y fferm, ac mai efe sydd yn byw yno hyd y dydd heddyw.

GWYL ARBENIG.

Diwrnod mawr yn Rhydwen fyddai diwrnod cneifio, dyna yr wyl arbenig." Rhifai defaid Peter Jones ganoedd lawer, ac nid wyf yn meddwl y gwyddai ef eu rhifedi, mwy nag y gŵyr Morris Peters yn awr rifedi ei ddefaid ef, a mwy nag y gwyddai Abraham rifedi ei ddeadelloedd pan oedd efe yn Ngwastadedd Mamre. Nid oedd gan Peter Jones gymaint ag oedd gan Job o ddefaid pan oedd ef yn ngwlad Us, rhifai ei ddefaid ef saith mil, ond fe glywais lawer tro fod gan wr y Rhydwen yn mhell dros fil o ddefaid yn pori ar fryniau y Berwyn. Ie, diwrnod mawr oedd diwrnod cneifio, fel y canodd Ceiriog yn ddoniol,—

"Sŵn y gwelleifiau mewn 'sgubor a buarth,
Hyrddod yn ymladd 'rol stripio eu gwlan;
Cwn yn brefu, a defaid yn cyfarth,
A'r crochan pitch yn berwi i'r tân."

Fy hoff waith i oedd cael myn'd i'r Wyl fawr i Rhydwen, ac hefyd i'r Wenallt, Gilrhos, a'r Ty Cerig. Yn y lleoedd hyny y dysgais y gelfyddyd o "argraphu," —nid argraphu ar bapyr, ond argraphu ochrau y defaid gyda llythyrenau pitch ar ol eu cneifio. Bu canoedd lawer o ddefaid yn tramwy ar fryniau mynydd mawr y Berwyn âg ol fy argraphwaith i arnynt. Llawer dafad a argrephais â'r llythyrenau P J., E J., M E., a T E. Dyna oeddynt lythyrenau Rhydwen, y Wenallt, y Gilrhos, a'r Ty Cerig. Dechreuais ddysgu "argraphu" pan yn chwech oed, a rhoddais i fyny y grefft pan aethum y tu ol i'r counter i werthu pitch, nôd coch a lamb black. Wn i ddim beth fuasech chwi, argraphwyr proffesedig yr oes hon, yn galw y llythyrenau? Nid bourgeoise, long primer, na small pica, na chwaith small caps. "Caps" oeddynt mae'n siwr, ond "large caps." Nid oedd yr argraphwaith ar ochrau y defaid yn hir—barhaol, oblegid byddai gwlan y defaid yn "tyfu drachefn," fel y "tyfodd gwallt Samson drachefn," ac yna collai y llythyrenau pitch, ac yr oedd yn rhaid cael nôd arall, sef

NOD CLUST.

Dyma "nôd" farbaraidd dros ben; wn i ddim lle cafodd yr hen Gymry y drychfeddwl an—ardderchog, os nad gan y Tyrciaid neu y Persiaid. Maent hwy, medd ysgrifenydd yr erthygl ragorol Yma ac Acw yn Asia yn y rhifyn cyntaf o'r LLENOR, yn hoff iawn o "dori clustiau" dynion, beth bynag am glustiau defaid. Waeth gan y Shah dori clust dyn i ffwrdd na'i 'winedd. Golygfa a barodd i mi wylo lawer tro oedd gwel'd y bugail neu y bwtsiar yn tori clustiau yr ŵyn bach diniwed. Buasai yn llawer gwell genyf eu gwel'd yn tori clust y bugeiliaid; byddai fy nghalon yn gwaedu wrth wel'd y gwaed yn treiglo i lawr benau yr ŵyn bach.

Wn i ddim yn sicr a ydyw nodau clustiau gwahanol siroedd Cymru yn gwahaniaethu llawer, ond dyma rai o nodau sir Feirionydd:—1. Nod canwar—tori bwlch yn mlaen y glust: 2. Nod carai—tori un ochr i'r glust: 3. Nod sciw—tori un ochr i'r glust ar sciw: 4. Bwlch tri thoriad: 5. Bwlch plŷg: 6. Tori blaen y glust.

FY OEN LLYWETH.

Mawr oedd fy llawenydd pan roddodd fy nain oen llyweth" yn bresant i mi—"oen swci" ddywedant mewn rhai siroedd. Canlynai fi i bob man fel y canlynai "pet lamb" "Mary" y buom yn canu am dani yn yr ysgol pan yn fabanod. Ond pan ddaeth Edward Jones o'r Wenallt i'r Gilrhos rhyw ddiwrnod, dywedodd yr hen wraig wrtho,—"Yma ti, Ned, gwell i ti ro'i nôd clust ar oen John bach." Rhoddais fy mreichiau am wddf fy oenig, a dywedais, "Chewch chi ddim tori clust fy oen bach; well gen i, i chwi dori fy nghlust i." Am y tro bu fy eiriolaeth yn ddigon. Fodd bynag, pan aethum i ffwrdd i Loegr am haner blwyddyn rhoddwyd nôd ar glust fy oen, a gyrwyd hi i'r mynydd mawr gyda'r defaid. Pan ddaethum yn ol, chwiliais lawer am dani, ond nid oedd Beti yn adnabod John na John yn adnabod Beti. Tybed ai onid oes rhyw oruchwyliaeth i roddi nôd parhaol ar ddefaid heb arfer creulondeb? Fe ddywed rhai nad ydyw yr oen bach yn teimlo teimlo poen. Ond paham y mae'r oen diniwed yn brefu mor dorcalonus ag y bydd baban yn wylo pan mewn poen? Clywais na fydd bugeiliaid yr Alpau yn tori nôd ar glustiau y defaid, ond mai math o gylch roddir am eu gyddfau, ac oddiwrth hwn bydd cloch fechan yn hongian. Pan y bydd y praidd yn dychwelyd i'r gorlan gyda'r hwyr, rhag ofn y bleiddiaid, bydd swn y clychau yn adseinio trwy'r dyffrynoedd a'r llechweddau yn y modd mwyaf swynol. O! na chaem glywed y fath fiwsig ar lechweddau y Berwyn, yr Aran, Cader Idris, Moel Famau, y Wyddfa fawr, a bryniau ereill Gwalia Wen.



Nodiadau

golygu