Adgofion Andronicus/Ioan Pedr

Michael Jones yr Ail Adgofion Andronicus

gan John Williams Jones (Andronicus)

Evan Peters

IOAN PEDR.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Peter (Ioan Pedr)
ar Wicipedia

NIS gallwn yn hawdd ddirwyn fy Adgofion i ben heb sôn tipyn am y gwr hoff hwn, "Ioan yr Athraw a'r Dysgybl anwyl." Ie, un anwyl oedd yr "Ioan" hwn fel yr oedd yr "Ioan" a garai yr Iesu mor fawr, yn un anwyl. Cof genyf pan oeddwn yn fachgen bychan iawn weled Ioan Pedr yn dyfod adref oddiwth ei waith yn rhai o'r melinau, oblegid seiri melinau oedd ei dad ag yntau. Deuai gan ymgomio yn siriol gyda'i dad, a chyda gair caredig a nod i hwn a'r llall a gyfarfyddai ar y ffordd. John fyddai yn cario y fasged arfau bob amser, a'i dad a gariai y piser bychan fyddid yn myn'd a llaeth neu de at giniaw. Gweithiai yn ddygn bob dydd am ei fara beunyddiol, a phan ddeuai adref, ei lyfrau fyddent y prif atyniad. Ei hoff astudiaeth fyddai ieithoedd a hynafiaethau, ac y mae ei enw yn gof-golofn yn mhlith enwogion Cymru beth all Cymro ieuanc wneyd trwy ddyfalbarhad. Bu Ioan yn gohebu â phrif Gymreigwyr y byd, ac y mae rhai o'r llythyrau a dderbyniodd ar gael hyd y dydd heddyw. Byddai gan Ioan Pedr air caredig i'w ddyweyd bob amser wrthym ni y plant, ac yr oedd yn hoffddyn gan bawb ohonom. Edrychem arno fel rhyw oracle yn y byd llenyddol, ac efe bob amser a'n rhoddai ar y ffordd sut i gadw Cyfarfodydd Llenyddol. Yn fuan ar ol marwolaeth yr Hybarch Michael Jones, cynygiwyd gwobrwyon mewn cyfarfod llenyddol a gynhelid yn hen gapel yr Annibynwyr. Y testynau oeddynt, "Cof-Draethawd i'r Parch. Michael Jones," a thraethawd a'r " Oliver Cromwell." Gyrodd awdwr yr ysgrif hon ddau draethawd i'r gystadleuaeth, a rhoddodd fel ffugenwau "Plato" a Virgil." Yr oeddwn wedi dewis yr enwau clasurol gan feddwl y buasai hyny yn pwyso gryn dipyn gyda'r beirniad, Ioan Pedr, ac yn hyn yr oeddwn yn lled agos i fy lle, oblegid fe "bwysodd" cynyrch fy ysgrifell i waelod rhestr yr ymgeiswyr. Gwnaeth Ioan gryn sport o'r awdwr oedd wedi benthyca enwau yr athronwyr Rhufeinig. Ond yr oedd y bachgen uchelgeisiol i'w esgusodi, oblegid yr oedd yn troi bob dydd yn mhlith myfyrwyr y colegau, a byddai enwau doethion Rhufain a Groeg fel enwau teuluaidd. Cafodd gwers y beirniad wrth draddodi y feirniadaeth effaith ddyladwy arnaf byth.

Yr oedd gan blant y Bala hefyd gyfarfod llenyddol, for beginners, mewn ystafell fechan o dan goleg y Methodistiaid. Nid oeddynt yn ddigon o lenorion i fyned i'r Gymdeithas Lenyddol fawr, a gynhelid yn yr oruwchystafell, am yr hon y buom yn sôn mewn ysgrif flaenorol (gwel tudalen 83). Ar ddiwedd y tymor, cynhelid cyfarfod cyhoeddus gan y llenorion ieuainc, a chynorthwyid ni gan y greater lights oedd yn cartrefu uwch ein penau. Cof genyf am un cyfarfod neillduol iawn, yr oedd y lesser lights yn myn'd i "chwareu cadeirio bach," ac aethom dros ben y Doctor Roger Hughes, y pryd hyny yn fachgen deuddeg oed, i ddyfod i'n llywyddu, a Dr. Charles Edwards, yntau tua'r un oedran, i ddyfod yn gyd-feirniad â Ioan Pedr, i feirniadu y prif draethawd. Yr oedd yr ymgeisydd llwyddianus i gael ei gadeirio. Dyma i chwi, bwyllgor Eisteddfod Llandudno, dyma i chwi precedent, o'r sort oreu, i'ch cyfiawnhau am dynu yn eich penau lid pleidwyr y mesurau caethion, a hawl yr awdl yn unig i'r gadair. Prif destyn y cyfarfod oedd traethawd, "Rhyfeddodau Duw yn y Greadigaeth." Y wobr oedd dau swllt ac ysnoden werdd ofydd, heb "gadair na choron." Ar ol i un o'r arweinyddion ofyn dair gwaith, yn ol braint a defawd, "A oes heddwch?" ac i'r "dorf" ateb, "Heddwch!" daeth Ioan Pedr yn mlaen i ddarllen y feirniadaeth, a dyfarnodd y wobr i un a alwai ei hunan yn "Llai na'r Lleiaf." Dyma waedd drachefn, "A oes heddwch?" a'r "beirdd a'r llenorion ieuainc" a waeddasant gyda chrochlef, Heddwch!" galwyd ar y buddugwr i amlygu ei hunan, a gwnawd hyny gan Ellis Roberts, yn awr. Registrar Roberts, Llanfyllin. Arweiniwyd ef i'r gadair gan "ddau brif fardd," nid Hwfa Môn na Gwalchmai, ond dau o feirdd yr oruwch-ystafell. Daliwyd cledd yr hen Dwalad y Sargent, gyda pha un yr oedd wedi lladd tua chant o Ffrancod yn Waterloo, uwch ei ben, ac yn well na'r cwbl, cyflwynwyd iddo y wobr o ddau swllt, sef pedair ceiniog ar hugain, ceiniogau mawr Sior y Trydydd, oeddynt, wedi eu cymeryd wrth y drws am ddyfodiad mewn i'r "Eisteddfod." Cyn diwedd rhoddodd Ceidwad y Corn Gwlad dair bloedd ar y corn tin oedd wedi ei brynu am chwe' cheiniog gan haid o shipsiwns oeddynt yn pabellu o dan y Bryn Hynod. Ie, pedair ceiniog ar hugain oedd y wobr yn "Eisteddfod fawr" plant bach y Bala,—dylasai fod yn six and eight pence, legal fee twrne, yn yr hon broffes y darfu i'n cyfaill y Registrar wedi hyn enwogi ei hunan. Nid oes arnaf ofn iddo ddyfod a libel arnaf, oblegid iddo ef yr ydwyf yn ddyledus am adgoffa i mi am yr Eisteddfod fythgofiadwy hon. Byddai Ioan Pedr wrth ei fodd yn helpu plant y Bala yn ei difyrion diniwed.

EI ORDEINIAD.

Rhyw dro ar ol marwolaeth yr Hybarch Michael Jones, dewiswyd Ioan Pedr i fugeilio eglwys Annibynol y Bala, a chymerodd yr ordeiniad le yn yr hen gapel Sentars, neu fel ei gelwid y dyddiau hyny, "y capel newydd," am nad oedd mor oedranus a chapel Mr. Charles. Nid oeddym ni blant y Bala erioed wedi cael y fraint o wel'd ordeiniad, yr oedd rheolau yr Hen Gorph mor geidwadol yn hyn o beth. Ni oddefid i neb o dan rhyw oedran penodol fyn'd yn nes i'r sêt fawr ar adeg ordeinio na'r cyntedd nesaf allan, ac ni oddefid i ferch o unrhyw oedran halogi" llawr cysegredig y capel ar yr amgylchiad o ordeinio. Mae'r darllenydd yn cofio yr hanes yn dda fel y rhwystrodd rhyw hen Gristion cul a rhagfarnllyd y diweddar Dr. John Hughes a'i gyfaill, oeddynt wedi cerdded yr holl ffordd o Lanerchymedd, i fyn'd i gapel y Tabernacl, Bangor, i weled ordeinio. Yr oedd cyfundeb yr Annibynwyr yn llawer mwy rhyddfrydig eu barn y dyddiau hyny, ac y mae yr Hen Gorph erbyn hyn-wedi dyfod i edrych ar y peth yr un fath. Wel, o dan yr amgylchiadau, yr oedd plant y Bala yn dyheu am fyn'd i gael gweled eu cyfaill Ioan Pedr yn myned o dan y "corn olew." Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parch. D. Roberts, Caernarfon, yn awr Dr. Roberts (Dewi Ogwen), Gwrecsam. Nid ydwyf yn cofio y gŵr da arall, bron y meddyliwyf mai Ap Vychan, ond nis gallaf fod yn sicr. Un peth mwyaf neillduol ydwyf yn ei gofio yn y seremoni ydyw Dewi Ogwen yn gofyn y cwestiwn hwn i'r pregethwr ieuanc, "A ydych chwi yn credu eich bod wedi eich haileni?" Atebai John Peters mewn llais clir, penderfynol, "Ydwyf, yr ydwyf yn credu fy mod yn gadwedig." Edrychodd plant y Methodus ar ei gilydd yn sobr, nid oeddynt hwy erioed wedi clywed y fath athrawiaeth. Yr oedd pob un ohonom ni wedi cael ein dysgu mai ni oedd "y pechadur pena," ac nid oedd yn bosibl i ni wybod pa bryd y ca'em ein haileni. Ond daeth dyddiau bendigedig y diwygiad mawr cyn hir, pan y pregethodd y Dr. Lewis Edwards, y bregeth fythgofiadwy "Y Diwrnod Mawr." Cymerodd ei destyn yn Josuah, "O haul sefyll yn Gibeon, a thithau leuad yn nyffryn Ajalon." Dysgwyd ni fod "diwrnod mawr yn hanes pob pechadur edifeiriol, ac y gallai wybod y dydd y symudwyd y gollfarn oddiarno. Yr oedd yn dda genym ni blant y Bala erbyn hyn ddeall nad oedd ein hoff gyfaill Ioan Pedr ddim wedi cyfeiliorni. Bu Ioan Pedr yn weinidog ar eglwys Annibynol y Bala am rai blynyddoedd, hyd oni aeth yn Broffeswr i'r Coleg, ac yna fe'i dilynwyd gan y cadeirfardd Ap Fychan.

SIMON JONES.

Yr ydwyf yn cofio tri o flaenoriaid capel Ioan Pedr yn dda, sef yr areithiwr dihafal Simon Jones, y blaenor distaw a'r Israeliad yn wir, Moses Roberts, a Tomos Cadwaladr, yr hen Gristion ffraeth, am yr hwn y bydd genyf gryn dipyn i ddyweyd cyn diwedd y benod hon.

Mae llawer wedi cael ei ddyweyd a'i ysgrifenu am "Simon Jones." Bu yn destyn darlith gan Plenydd, ac ysgrifenwyd yn ddoniol am dano i Cymru gan Llew Tegid, Ysgol y Garth, Bangor; ond nid ydwyf yn cofio i mi weled yr hyn a ganlyn mewn unrhyw gyhoeddiad o gwbl. Gŵyr pawb sydd yn gwybod rhywbeth am dano ei fod yn ddirwestwr o'r groth i'w fedd, a phe dai angen am Gyfarfod Dirwestol yn y Drydedd Nef byddai Simon" yn ddigon parod i areithio ar y pwnc.

Yr oedd boneddwr yn y Bala, tua'r adeg yr ydwyf yn sôn am dano, fyddai dipyn yn gaethwas i'r ddiod feddwol. Deuai yr awydd arno am y ddiod ar adegau, pryd y byddai yn hollol yn ei gafael am ysbaid o amser, ac yna ca'i lonydd am gryn amser. Yr oedd yn ddyn talgryf, hardd, ac yn un o'r dynion mwyaf talentog yn nhref y Bala. Gwnai ei oreu i ymladd a'i elyn, ac y mae yn sicr pe buasai ei gyfoedion wedi ei helpu yn lle ei demtio y buasai yn un o brif addurniadau cymdeithas. Ond er cywilydd iddynt, ei hudo a wnai y rhai a alwai efe yn gyfeillion mynwesol. Yr oedd yn fwy hoff o'r gyfeddach nag oedd o'r ddiod feddwol. Deallodd "Simon" hyn, ac aeth ato rhyw ddiwrnod, a dywedodd,- "Yna chwi, Mr.-- os eisieu cael cwmni eich cyfeillion sydd arnoch, p'am na yfwch chwi ddwfr glân?" Atebai yntau nad oedd ganddo ddigon o wyneb i fyn'd i dafarn a gofyn am ddwfr. "Dowch efo fi, ynte," meddai "Simon," ac felly fu. Aeth y ddau gyda'u gilydd fraich yn mraich i'r dafarn. Pan aeth aeth yr areithiwr dirwest mawr i ystafell y llymeitian, ni fu y fath syndod yn mhlith y llymeitwyr. Buasai yn dda ganddynt pe medrent am y tro ddiflanu fel y Tylwyth Teg. Eisteddodd "Simon" a'i gyfaill i lawr yn eu canol, canwyd y gloch, a daeth y forwyn yno, a phan welodd hi pwy oedd wedi ei galw, edrychodd yn ddychrynedig. "Mary, tyr'd a dau lasiad o gwrw Adda yma yn y fynud." "Dear me, Simon Jones, be ydi hwnw dudwch? Chlywes i 'rioed sôn am dano fo. Mi af i ofyn i meistres. Felly fu, a daeth yn ol yn ebrwydd, gan ddyweyd fod ei meistres yn dyweyd nad oedd hi ddim yn gwerthu dwfr. Edrychodd "Simon" ar y forwyn, fel yr edrychodd Shiencyn Penhydd ar y tafarnwr, a dywedodd,—"Dos ti i nol dau lasied o ddw'r y fynud yma, a dyma ti bres am dano fo," gan daflu grôt o bres ar y bwrdd. Cafwyd "cwrw Adda," ac yfwyd y ddiod flasus gydag awch, a galwyd am lasied bob un wed'yn. Edrychai edmygwyr Syr John Heidden yn syn ar "Simon" a'i gyfaill, a chawsant gryn hwyl yn gwrandaw ar ystori oedd gan yr hen ddirwestwr i'w dyddori. Ysgydwodd "Simon law gyda phob un o'r cwmni wrth ymadael, ac wrth un ohonynt dywedodd,—"John bach, yfa di ddigon o gwrw Adda' yn lle cwrw Llangollen, mi wnawn i ddyn ohonat ti." Fe ddywedir fod y gair bychan yna wedi effeithio gymaint ar y bachgen, na phrofodd ef byth ddiferyn o'r ddiod feddwol wedi hyny. Cafodd yr amgylchiad yma effaith ddaionus ar y boneddwr y buom yn sôn am dano, a bu yn ddirwestwr selog am amser maith. Gwnaeth "Simon" lawer o blaid dirwest mewn gwahanol ffyrdd, ac yr oedd ganddo bob amser air ffraeth yn barod i'w roddi i fewn yn mhlaid ei hoff bwnc. Dyna un o flaenoriaid eglwys Ioan Pedr.

TOMOS CADWALADR.

Dyma eto hen giaractor rhyfedd oedd yn addurno sêt fawr capel Ioan Pedr. Brodor ydoedd Tomos Cadwalad, fel y gelwid ef, o Cynllwyd, Llanuwchllyn. Clywais ef yn dyweyd rhyw dro ei fod yn cofio myn'd i hen Eglwys Llanuwchllyn un boreu Sabboth pan yn blentyn, ar gefn ei dad. Ar ol i'r gwasanaeth fyn'd drosodd, ymgasglodd y gynulleidfa at eu gilydd yn y fynwent i chwareu eu mabol gampau, megis ymaflyd codwm, neidio am y pellaf, a chwareu pêl ar wal yr eglwys. Eisteddai y person ar un o'r cerig beddau i fwynhau y chwaraeon ac i gadw cofnod o'r campau, ac enwau y buddugwyr. Pan yn ieuanc yr oedd Tomos yn un o'r rhai mwyaf direidus. Gadawodd ei gartref yn lled ieuanc, ac aeth i wasanaethu i Goed y Foel Isaf. Nid oedd Tomos yn credu mewn Tylwyth Têg nac ysbrydion, ac yr oedd hyn yn gryn fantais iddo, oblegid yr oedd yn hoff iawn o fyn'd allan yn y nos i boachio, a llawer ysgyfarnog, gwningen, a pheasant oddiar 'stâd y Rhiwlas a syrthiodd i ran y bachgen direidus o Goed y Foel. Rhyw ddiwrnod yr oedd wrthi yn ddygn yn tori gwair ar ben y dâs yn y gadles. Cododd ei ben am fynud, a gwelai ysgyfarnog braf yn llygad-rythu arno. Yr oedd ysgyfarnogod Mr. Price o'r Rhiwlas y dyddiau hyny mor ddof a chathod. Wel, yr oedd gwel'd y pry' hir-glustiog yn ormod i Tomos, slipiodd i lawr ochr y dâs wair, ac aeth i'r armoury, sef llofft y 'stabl, lle yr oedd ganddo glamp o wn careg fflint. Aeth a'r gwn i ben y dâs, ac yr oedd yr ysgyfarnog wrth y clawdd yn pori yn dawel, ond ni phorodd, ac ni chnodd ei chil byth mwyach. Mewn llai o amser nag a gymerodd i mi ysgrifenu y frawddeg uchod yr oedd y drancedig yn gorwedd yn dawel wrth ochr chwaer neu gyfnither iddi yn llofft y gwair. Aeth Tomos yn ol i ben y dâs, ac nid cynt ag y cyrhaeddodd yno nag y clywai sŵn traed march, a phwy oedd ond yr "Hen Breis," y pryd hyny yn Mr. Price ieuanc, oblegid tua'r un flwyddyn y ganwyd Thomas Cadwaladr yn Nghwm Ffynnon, Cynllwyd ag y ganwyd aer y Rhiwlas, yr hwn a adwaenem ni blant y Bala fel yr "Hen Breis.' Ar gefn ei geffyl gwyn yr oedd y boneddwr. Safodd ar gyfer y gadles, a gwaeddai:—

Domos, clywsoch chi sŵn gwn, 'rwan jest?" Do, syr," meddai Tomos. . 191 "Cwelsoch chi dyn daru gollwng ergyd, Domos?"

"Naddo, syr," ebai'r llanc, "fu neb yn y gadles yma er's oriau ond fi, syr.".

"Cawn i gafel yno fo, mi baswn yn cyru fo i jail Dolgelle at once."

"Basech yn gwneyd tro call iawn efo fo, syr," ebai'r poacher, "y cena drwg, bwy bynag oedd o, yn lladd y pethe bach diniwed."

"Ydech chi bachgen da iawn, Domos, bachgen gonest, call; os bydd arnoch chi eisia lle Clame nesa, dowch chi ata i i'r Rhiwlas. Bore da, Domos."

"Bore da i chithe, syr; os clywaf i pwy saethodd y sgwarnog, neu beth bynag oedd y pry', mi ddo i atoch chi i ddeyd, syr."

Ond ar ol i Tomos gael gwraig daeth cyfnewidiad mawr drosto, oblegid fe ddenodd ei wraig ef i'r capel, ac yn fuan iawn daeth yn ddefnyddiol iawn yn yr eglwys, ac mewn amser yn flaenor gweithgar. Dewisodd fel ei alwedigaeth waith bwtsiar, a chadwai ystondin yn mhrif heol y Bala, o flaen ty Mr. David Evans, lle yn awr y saif y North & South Wales Bank.

YN NHIR "NOD."

Yr oedd ty Tomos Cadwalad, fel y galwem ni y plant ef, ar gyfer hen gapel yr Annibynwyr, a byddai yn gyson ac mewn pryd yn y moddion. Efe a arferai gyhoeddi y gwasanaeth.

Byddai oedfa ar brydnawn Sabboth ambell dro yn y Capel Sentars, a phan fyddai yn fwll yn yr haf cysgai Tomos Cadwalad yn drwm yn y sêt fawr o dan y pwlpud. Rhyw dro digwyddodd y Parch. Mawddwy Jones fod yn pregethu. Yr oedd yn brydnawn trymaidd, a buan yr aeth yr hen flaenor i dir "Nod." Cafodd y pregethwr gryn hwyl, ond swiai ei lais yr hen Domos i gysgu yn drymach, fel y gwna llais y fam i'r plentyn gysgu yn y cryd. Toc dyma rai o'r hen bobl yn dechreu porthi, ac yn gwaeddi " Ie, ie," " diolch byth," "Amen, Amen." Yr oedd un hen frawd yn mhen draw'r capel eisieu i'w "Amen " yntau gael ei chlywed, a dyma fo yn rho'i rhyw "Amen" ddychrynllyd, na chlywyd y fath "Amen" erioed. Ie, Amen i'w chofio oedd hono, oblegid fe ddeffrodd Tomos Cadwalad o'i gwsg melus. Yr oedd yr Amen fawr hono wedi tynu y gwynt o hwyliau y pregethwr am rhyw fynud, a phan ddadebrodd yr hen flaenor yr oedd distawrwydd yn y pwlpud, a meddyliodd yr hen frawd fod y bregeth drosodd, a bod y gynulleidfa yn disgwyl wrtho i gael trefn y moddion am yr wythnos. Dyma fo i fyny ar ei draed, ac meddai, Cyfarfod canu am bump, Mr. Jones am chwech, Cyfarfod Gweddi nos yfory, Seiat nos Fawrth, Mr. Jones y Sabboth nesa'." Methodd y gynulleidfa a dal, aeth pawb i chwerthin, ac yr oedd y pregethwr yn dal ei gadach poced wrth ei safn, ddywedaf fi ddim mai chwerthin yr oedd yntau, meddyliwch chwi beth a fynoch. Rhoddwyd penill allan i ganu, ond ychydig iawn ddarfu "joinio y chorus." Yr oedd pawb wedi myn'd adref cyn tri o'r gloch. Dyna y stori fel y clywais i hi gan hen gyfaill oedd yn bresenol, ac y mae hyny yn ddigon i mi gredu yn ei geirwiredd.

TWYMNO'R CAPEL.

Un gauaf oer iawn,—sef y gauaf y rhewodd Llyn Tegid drosto, ac yr oedd y rhew mor gryf fel y gellid myned a cherbyd ar ei draws yn berffaith ddiogel,— y gauaf hwnw, penderfynodd y brodyr yn nghapel Ioan Pedr gael stove i dwymno'r capel, ond yr oedd hyny yn groes iawn i feddwl Tomos Cadwalad, a safai yn gryf yn erbyn y symudiad.. Credai ef nad oedd eisieu dim gwres o gwbl ond gwres yr efengyl yn nghalonau pechaduriaid i'w cadw yn gynes. Gwrthwynebai ef yn gryf gael dim byd i'r capel i wneyd cynesrwydd artificial, a chredai yn sicr y deuai a barn yr Hollalluog ar eu penau. Ond y mwyafrif a orfu, a bu raid i'r hen Gristion foddloni i'r drefn.

Rhoddwyd y gwaith o osod y stove i saermaen a adnabyddid oreu wrth yr enw "Evan Pobpeth," ond nid bob amser y medrai Evan wneyd "pobpeth" yn iawn, ac felly gyda'r stove. Bu Evan wrthi ddyddiau yn ceisio cael "bwgan" Tomos Cadwalad, i weithio. Gwelai yr hen frawd Evan yn myned ol a blaen i'r capel, ac effeithiodd gymaint ar ei feddwl fel y ciliodd cwsg, ac y methodd a bwyta. Rhyw brydnawn daeth Tomos adref o Benisa'rllan, Llanfor, lle yr oedd wedi bod yn prynu defaid, a phan yn myn'd i fewn i'r ty gwelai dipyn o fŵg glâs yn esgyn i fyny o'r simddeu haiarn oedd yn mur y capel. Ond ni wyddai yr helynt yr oedd "Evan Pobpeth ynddo i gael gan y stove i "dynu" er trio "pobpeth," darfu i'r cwbl end in smoke, ac erbyn amser dechreu y seiat yr oedd y capel mor oer, os nad yn oerach nag y bu erioed. Aeth Tomos Cadwalad i'r capel yn ol ei arfer bum' mynud cyn amser dechreu. Aeth heibio i'r stove heb edrych arni, gan feddwl, wrth gwrs, fod ei llon'd o dân. Eisteddodd i lawr yn y sêt fawr a golwg pruddglwyfus arno, heb ddisgwyl na gofyn am fendith o gwbl y noson hon. Dechreuwyd y seiat gan un o'r myfyrwyr. Holwyd y plant gan Moses Roberts, a dywedodd Simon Jones rhyw air wrthynt. Gofynodd Ioan Pedr i Tomos Cadwalad oedd ganddo ef air i'w ddyweyd, "nac oes, John bach, ddim byd heno," meddai'r hen bererin yn ddigalon. Aed yn mlaen yn y dull arferol gyda'r ymddiddan. Toc gwelid Tomos Cadwalad yn datod botymau ei gôt fawr, ac wedi hyny yn tynu ei gadach poced coch allan, ac yn sychu ymaith y "chwys dychmygol." Pan yr oedd un hen wreigan yn dyweyd ei phrofiad gyda gryn dipyn o hwyl, dyma Tomos Cadwalad ar ei draed, a thynodd ei gôt fawr oddiam dano gan ddyweyd dros y capel, "'does dim posib byw mewn lle poeth fel hyn, mae hi fel pe da ni yn nhypobty John Roberts." Aeth gwên dros lawr y capel, ac aeth Ioan Pedr at yr hen frawd a dywedodd, Does dim tân yn y stove Tomos bach, mi fethodd Evan gael gan y stove i weithio." "Wel diolch i'r Nefoedd am hyny," ebai yr hen wr, a bu agos iddo waeddi Bendigedig" dros y capel.

RHODDI DEHEULAW CYMDEITHAS.

Pan y byddai pregeth ar brydnawn Sabboth yn y capel Sentars, elai Mr. Jones, yr Exiseman, yno, er mai gyda'r Methodistiaid yr arferai wrandaw. Eisteddai yr hen foneddwr yn sêt Mrs. Evans, y Post Office, yn y sêt agosaf at y sêt fawr. Yr oedd yn drwm iawn ei glyw. Eisteddai Tomos Cadwalad yn y sêt fawr a'i gefn ar sêt Mrs. Evans. Rhyw brydnawn Sul, daeth Mr. Jones i'r capel a'i fraich dde mewn sling, yr oedd wedi anafu ei law. Rywbryd pan oedd y pregethwr ar ganol ei bregeth, ac yn dechreu ar y tipyn peth melus," chwedl yr hen bobl, yr oedd ar Mr. Jones eisieu tynu y faneg oedd am ei law chwith, ac i'r diben yma roddodd bwniad i Tomos Cadwalad. Trodd yntau at Mr. Jones, a safodd ar ei draed. Gwelodd fod llaw yr hen Exiseman yn estynedig ato, a meddyliodd ar unwaith mai eisieu iddo estyn "deheulaw cymdeithas" iddo oedd arno. Gafaelodd y blaenor yn dŷn yn llaw Mr. Jones, ac ysgydwodd hi yn galonog, gan ddyweyd yn lled uchel, "Mae'n dda iawn gen i eich gwel'd chwi yn troi atom ni, Mr. Jones, bach." Dyna i chwi dipyn o hanes am ddau o flaenoriaid perthynol i gapel yr addfwyn Ioan Pedr. Y mae y ddau flaenor a'r bugail mwyn erbyn heddyw wedi cyrhaedd y wlad ddedwydd hono y soniasant gymaint am dani pan yma ar y llawr, ac yr ymdrechasant ymdrech deg i'w chyrhaedd. "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig."



Nodiadau

golygu