Adgofion Andronicus/Michael Jones yr Ail

Michael Jones y Cyntaf Adgofion Andronicus

gan John Williams Jones (Andronicus)

Ioan Pedr

MICHAEL JONES YR AIL.

YR ydwyf yn sicr na ddigia fy hen gyfaill parchus, y Parch. M. D. Jones, M.A., cyn-Brifathraw Coleg Annibynol y Bala, am i mi adrodd y stori fach a ganlyn a glywais y dydd o'r blaen gan hen gyfaill a fu yn cyd-chwareu â mi ugeiniau o weithiau ar lan Llyn Tegid, ac yn cyd-bysgota "dyrogiaid " ger y fan lle y cychwyn y Ddyfrdwy ar ei thaith tua'r môr:—"Yr oeddwn yn un o blant ysgol yr Hybarch Fichael Jones, pan y byddai yn cadw ysgol i'r plant, a Choleg i'r pregethwyr yn yr un adeilad. Cymerai yr hen ŵr ei brydau bwyd yn ei study uwchben ystafell y plant. Ryw dro yr oedd yr hen athraw wedi myn'd oddicartref, a chan fod ei fab yn digwydd bod gartref ar y pryd, cymerodd ofal o'r ysgol am y tro. Am ryw drosedd nad ydwyf yn cofio beth, bu raid i dri ohonom aros ar ol i ddysgu rhyw wers fel cosp am ein trosedd. Eisteddai mab ein hathraw ar ei gadair i ddarllen y Times, eisteddem ninau i wneyd ein penyd. Toc aeth 'ceidwad y carchar' i fyny i'r study i gael ei giniaw, ac ar yr egwyddor

"When the cat is away
The mice will play,"

dechreuasom ninau droi tops oedd yr hen John Morris y Saer wedi ei wneyd i ni. Clywodd y gŵr oedd yn y study y twrw a daeth i ben y grisiau a chloben o dorth fawr o dan ei fraich, a chyllell yn y llaw arall. Trwy ryw anffawd slipiodd y dorth o'i afael, a rowliodd i lawr y grisiau, cododd un ohonom hi ac aethpwyd a hi i fyny i'w pherchenog, yr hwn oedd yn sefyll ar y grisyn uwchaf yn chwerthin nes oedd o yn siglo. Gwell i chwi fyn'd adre' 'nawr blant ne bydd eich ciniaw wedi oeri.' Trwy anffawd y dorth maddeuwyd ein pechodau. Y mae y Prifathraw M. D. Jones, wedi anghofio pobpeth am yr amgylchiad, ond ydw i ddim, er fod haner can` mlynedd er yr amser hono."

Dyma ystori arall am y Bonwr caredig o Bodiwan. Yr oedd yn myned am dipyn o dro yn nghyfeiriad Llanycil, pryd y cyfarfyddodd â'r hen wr haner dall, Edward Richards, gyda'i drol mul, am yr hwn y mae genym ysgrif (gwel tudalen 123). Y mae yn anhawdd gwybod pa un ai Edward oedd yn tywys y mul ai ynte y mul oedd yn tywys Edward, fodd bynag, cymerodd yr ymgom a ganlyn le:—

"Wel, Edward," meddai y Bonwr caredig, “i ba gapel 'ych yn myn'd yn awr?”

"I gapel y Baptis, syr," atebai Ned, gan dwtsiad ei het, a het iawn fyddai gan yr hen bererin, gymaint ei chantel bron a thorth geirch Sarah Jones or Wenallt.

"Yr oeddech chwi yn addoli gyda'r Wesleyaid yn y capel hwnw onid oeddych chwi, Edward?" meddai'r Bonwr.

Oeddwn, syr, ac mi faswn eto dase Wesle i'w cael."

Wedyn mi aethoch at y Methodus i'r Capel Mawr?"

"Do siwr, syr, yr oedd yn rhaid addoli yn y 'mynydd hwn' gan nad oedd yr un Jerusalem' i'w chael."

"Ac yn awr dyma chwi yn ol i'r hen gapel Wesle?"

"Ie siwr, syr."

"Wel, Edward bach, mae'n amlwg mai crefydd cath yw'ch crefydd chwi; chwaith mae dwy fath o grefydd, sef crefydd ci a chrefydd cath. Chwi wyddoch am y ci, yr â ef yn wastad gyda'r teulu pan yn ymadael â'r ty, ond am y gath hi erys yr holl amser yn y ty, felly chwi welwch mai crefydd cath y'ch chwi wedi gael, ond ydi o ods yn y byd os ydyw eich rhan a'ch mater yn dda. Bore da, Edward Richards."



Nodiadau golygu