Adgofion am John Elias/Pennod V

Pennod IV Adgofion am John Elias

gan Richard Parry (Gwalchmai)

Pennod VI

PENNOD V.

JOHN ELIAS MEWN CYMMANFA.

YR ydym wedi gwrandaw Mr. Elias yn pregethu ar noson waith yr ydym wedi ei ddilyn hyd noswaith gyntaf y gymmanfa, a'i glywed yn anerch y bobl ar y maes, ac yn cynnal addoliad teuluaidd yn y man lle y llettyai, yn hwyr y dydd: yr ydym wedi cael cyfle i'w wrandaw yn areithio mewn cyfarfod perthynol i'r Feibl Gymdeithas; ac wedi ei glywed yn anerch cynnulleidfa yn achos y genadaeth; ond yr ydym eto heb ei glywed yn pregethu mewn Sassiwn. Y mae y gymdeithasfa yn cael ei chynnal mewn tref ger llaw heddyw: y mae yntau i bregethu am ddeg o'r gloch. Beth fyddai ni fyned yno, a rhag blaen i'r maes? O'r goreu; bydded felly. Ni a gychwynwn yr awr hon!

Y mae yr oedfa wedi dechreu. Y mae y bregeth gyntaf drosodd. Y mae y gynnulleidfa yn lluosocach nag arferol, ac y mae dysgwyliad mawr i'w weled yn amlwg yn wyneb pob dyn. Y mae Mr. Elias yn codi i fyny at y ddesg. Y mae yn taflu golwg dros yr holl dorf. Y mae yn erfyn ar y nifer sydd tua'r ymylon nesäu i'r canol. Y mae yr olwg arno yn darawiadol iawn; y mae ei holl agweddau yn ddymunol; y mae rhyw urddas boneddigaidd yn ei agwedd; y mae mawredd yn gydblethedig â gostyngeiddrwydd yn ei ymddangosiad personol. Y mae yn dyfod allan i'r maes fel cadfridog i arwain byddin—yn dywysog ar lu yr Arglwydd, neu yn hytrach fel cenadwr dros ei frenin. Nid oes neb yn gofyn iddo am gael gweled seliau ei swydd―y mae pawb yn darllen ei awdurdod yn ei wedd. Nid oes neb a faidd ammheu ei anfoniad; y mae ei dystebau yn ganfyddadwy yn yr olwg arno. Y mae ei feddwl yn llanw pob llinyn, pob cyhyr, a phob gwythen yn ei wyneb. Y mae gwreichion tân yn neidio allan o'i lygaid, ac ar yr un pryd y mae y tynerwch mwyaf gwylaidd yn gwisgo ei wedd. Y mae yn ymddangos mor bryderus a phe byddai hon i fod y gymmanfa olaf am byth iddo ymddangos yn gyhoeddus i gyflwyno ei neges dros ei Feistr mawr; y mae fel pe byddai yn meddwl ei fod ar gael ei alw i roddi ei gyfrif i fyny i'w frenin; ac o blegid hyny, y mae yn gwysio pob teimlad, pob gewyn, pob gallu, a phob bwriad a fedd at ei orchwyl pwysig a difrifol. Y mae fel pe byddai am wneyd un orchest anfarwol. Heddyw neu byth, am achub yr eneidiau sydd ger ei fron! Y mae yn rhoddi pennill allan i'w ganu, â rhyw seingarwch fel cloch aur yn ei enau,—

"O Arglwydd! gosod, rhag gair ffraeth,
Gadwraeth ar fy ngenau;
Rhag im' gam-dd'wedyd, gosod ddôr
Ar gyfor fy ngwefusau."

Y mae gwroldeb newydd yn gwisgo ei wynebpryd; y mae rhyw harddwch rhagennillgar yn mhob ysgogiad o'i eiddo; ac y mae serchogrwydd yn mhob edrychiad a wna, sydd yn gwisgo anmhrydferthwch ei wynebpryd â thegwch deniadol iawn. Nid oes eisieu un math o ddyheurad arno am ymgymmeryd â'i swydd. Y mae cleddyf yr Ysbryd yn amlwg yn ei law; ac y mae hwnw mor lân ac mor loew, fel y mae ei ddysgleirdeb yn serenu llygaid y dorf. Y mae helm yr iachawdwriaeth yn eglur am ei ael; y mae wedi amgylchwregysu ei lwynau â gwirionedd y mae wedi ymwisgo â holl arfogaeth Duw; y mae ysbryd bywyd yn melltenu yn ei dremiadau; y mae ei bregeth yn ymwthio i'w wyneb; y mae amcan ei genadwri yn ymwthio yn ei wedd: y mae hyawdledd byw yn chwareu ar ben ei fys; y mae areithyddiaeth grymus i'w weled yn ei ymafaeliad yn ymylon ei gôt; ac y mae swyn dengar yn symmudiadau ei napcvn llogell. Yn mhob peth, y mae yna ragarwydd amlwg fod daiargryn ger llaw!

Y mae y canu drosodd. Y mae math o sirioldeb difrifol yn gwisgo ei wedd. Y mae yn darllen ei destyn, mewn llais clir, ond hollol syml a dirodres:—" Ar fod Crist yn trigo trwy ffydd yn eich calonau chwi; fel y galloch, wedi eich gwreiddio a'ch seilio mewn cariad, amgyffred gyda'r holl saint, beth yw y lled, a'r hyd, a'r dyfnder, a'r uchder; gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwch law gwybodaeth, fel y'ch cyflawner & holl gyflawnder Duw." Y mae yn esbonio ei destyn; y mae yn dechreu dangos prif nod ac amcan yr apostol yn ysgrifenu y llythyr; y mae yn prysuro at egluro cyssylltiadau y testyn a'r cyd-destynau. Y mae yn agor dirgelion cynnwysiad yr holl ymadroddion cryfion sydd yn cael eu harfer gan yr apostol yn llydan ac eglur o flaen meddwl pob dyn. Y mae yn gosod pob cymmal ar wahân, ac yn eu dangos ger bron y dorf, ol a blaen, wyneb a chefn, nes y mae pawb yn eu deall yn gwbl oll. Y mae fel y celfyddydwr, yn agor cauad yr awrlais, yn dattod y colynau, ac â'i efeilen yn rhyddhau pob hoel, yn dattod pob bach, ac yn tynu yr holl olwynion oddi wrth eu gilydd. Y mae yn gosod y dringlyn o'r neilldu, yn dodi y morthwyl taro ar y bwrdd, ac yn symmud y pwysau ymaith; ac wedi dangos pob paladr ac olwyn, pob pin a phegwn, pob cranc a nodwydd, ac egluro eu dybenion, y mae yn dangos y modd yr oedd y dannedd yn cydio yn eu gilydd, a'r modd yr oedd pob olwyn yn cyd-ddibynu, y naill ar y llall; ac yna y mae yn gofyn:—"A ydych chwi yn deall natur y peiriant?" Y mae agwedd y bobl yn ateb, " r ydym yn deall yr awr a'r mynyd, wrth edrych ar y wyneb, y ffugyrau, a'r bysedd." "Ië," meddai yntau, "ond y mae arnaf eisieu i chwi ddeall y modd y mae yr olwynion mewnol yn symmud, er dangos yr amser i chwi, fel na byddo i neb o honoch betruso dim, nac ofni unwaith eich bod yn cael eich siomi am y gwirionedd"—ac yna y mae yn dodi y cyfan wrth eu gilydd fel o'r blaen. Felly, yn debyg i'r crefftwr medrus, yr oedd y pregethwr yr oedd yn agor pob adnod, yn egluro pob ymadrodd, ac yn esbonio pob gair; ac yn eu dangos bob un, yn mhob golygiad, i bawb, fel nad oedd modd i neb eu camddeall. Yr oedd yn gosod pob athrawiaeth, pob egwyddor, a phob addysg, fel goleuni haul hanner dydd o flaen meddwl pawb —ïe, hyd yn oed y gwanaf ei ddeall yn y lle. Gwedi chwalu a chwilio y cyfan ar wahân, gosodai y cwbl yn nghyd drachefn, yn ngoleuni eu cynnwysiad, eu cyssylltiad, a'u dyben. Mynai i bawb wybod cymmaint ag a wyddai yntau ei hun ar bob pwnc. Gwnaed hyn oll mewn tuag ugain mynyd o amser. Yr oedd y dorf yn ymddangos wrth ei bodd, ac yn gwenu mewn syndod a difyrwch anarferol! Yr oedd ef wedi bod hyd yn hyn yn ymwneyd yn unig â deall y bobl, ond yr oedd yn ymddangos fel pe buasai yn ymwybodol ei fod wedi cael gafael ar yr allwedd at eu teimladau a'u calonau.

Yr oedd yn ddigon amlwg erbyn hyn fod y pregethwr wedi perffaith ennill y sylw mwyaf astud a difrifol. Yr oedd wedi rhwymo pob clust wrth ei wefus, tra y bu yn esbonio iddynt yr Ysgrythyrau. Daeth rhagddo yn fuan i draethu ar anfeidrol fawredd cariad Duw at fyd colledig. Dywedodd, "Yr wyf yn canfod fel pe byddai holl ogoniant caritor Duwdod mawr yn cael ei osod allan mewn tri gair, sef—Duw, cariad yw.' Ac nid oedd ryfedd i Ioan ddywedyd, Yn hyn y mae cariad: nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau ni.' Yr oedd fel pe buasai am gynnwys mewn un ymadrodd gymmaint ag a ellid ddywedyd byth am ei gariad! Nid yn unig, y mae cariad yn briodoledd yn y Duwdod, ond dyma ydyw ei hanfod; dyma ydyw ei garitor. Y mae ei gariad yn pelydru drwy holl drefn yr iachawdwriaeth, a thrwy holl egwyddorion llywodraeth Duw." Yma yr oedd efe yn dechreu ymollwng i rym ei hyawdledd dylanwadol, ac yr oedd yr effeithioldeb ar y dorf yn cynnyddu, yn mron gyda phob brawddeg. Yr oedd fel llanw y môr yn dringo yn uwch, uwch, o dòn i dòn, yn ddiorphwys, ac ambell nawfed tòn yn rhuthro yn nes i'r lan ar draws pob peth, gyda mwy o rym. Yr oedd dylanwad ei weinidogaeth yn rhedeg dros deimladau yr holl dorf, nes yr oedd ocheneidiau y bobl fel pe buasent yn mynu tori allan, er maint oedd pawb yn geisio eu cadw i lawr a'u hattal, hyd yn hyn. Daeth i gyflawn nerth ei areithyddiaeth, a'i feistrolaeth ar deimladau y bobl, gyda'r ymadroddion canlynol, y rhai a dywalltodd efe fel cawod o wlaw taranau ar benau y gwrandawyr oll:— "Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw,' sef yn anfoniad ei Fab i'r byd. Dyma lle yr eglurodd Duw ei galon. Nid yw ei briodoliaethau, a llefaru yn feirniadol, yn ddim amgen na gwahanol amlygiadau o'i gariad. Beth yw ei ddoethineb? Dim ond ei gariad yn llunio trefn i achub pechadur euog. Beth yw ei allu? Dim ond ei gariad yn gweithio allan ffordd iachawdwriaeth. Beth yw ei wirionedd? Dim ond ei gariad yn cwblhau pob peth oedd yn ofynol er gwaredu yr euog. Beth yw ei sancteiddrwydd? Dim ond ei gariad yn gwahardd pob peth sydd yn niweidiol i gyflwr dyn. Beth yw ei ddigofaint? Dim ond ei gariad at drefn; yr hwn sydd fel mur tanllyd o'n hamgylch, i'n cadw rhag pob drwg!" Ni allodd fyned rhagddo gyda y gofyniadau a'r atebion hyn, ddim yn mhellach; o blegid torodd teimladau nifer o bobl lled ieuainc oedd yn agos i'r areithfa yn ddrylliau, ac yr oedd yn fanllef o waeddi am drugaredd, ac am faddeuant, ac am fywyd, drwy y lle. O herwydd hyn, arafodd yntau, a throes atynt, mewn cyfeiriad tyner, ac erfyniodd arnynt ymdrechu i lywodraethu eu hunain, ac attal eu tymmerau, os gallent mewn un modd; a dywedai ei fod ef heb ddyfod at amcan ei genadwri eto, a bod arno eisieu ymddyddan â'r bobl bellaf ar y maes, yr un modd a hwythau:—" Ac heb law hyny," meddai ef, "y mae hi yn rhy fuan i waeddi eto; y mae y seithfed tro heb ddyfod. Nid oedd Israel i waeddi dim wrth gaerau Iericho gynt, hyd nes y byddai iddynt weled yr hen furiau yn dechreu cwympo; ac yna, yr oedd Ioshua yn gorchymyn iddynt waeddi. Nid yw caerau annuwioldeb wedi dechreu chwalu yma eto, er ein bod yn dysgwyl gweled pethau mawrion cyn diwedd y cyfarfod yma ac yn wir, yr ydym bron a dychymygu ein bod yn clywed yr hen dyrod yn dechreu cracio yn barod, a phan gyntaf y gweloch chwi yr hen gestyll yn dechreu syrthio, yna gwaeddwch, yn enw yr Arglwydd!" Ar hyn, yn lle attal teimladau, dyma dymmerau yr holl dorf fawr, yn ymddryllio ar unwaith, a wynebau pawb oll, yn hen ac yn ieuanc, yn un foddfa gyffredinol o ddagrau; rhai yn ceisio sychu eu gruddiau gwlybion, ac ereill am eu bywyd yn ceisio ymattal rhag tori allan i waeddi mwy; ac ereill yn mron ymdori wrth ymgynnal, mewn awydd clywed y genadwri fawr yn dyfod allan yn eithafion ei nerth. Pa fodd bynag, lliniarodd tymmerau y bobl yn raddol; ond yr oedd yn amlwg fod pob teimlad a feddai pob dyn oedd ar y maes wedi cael eu symmud mewn rhyw ffordd neu gilydd; yr oedd grym y weinidogaeth yn dwyn cyflyrau a phrofiadau y gwrandawyr i'w gwynebau; yr oedd y genadwri onest yn dreiddgar, " ac yn llymach nag un cleddyf dau—finiog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a'r ysbryd, a'r cymmalau a'r mêr, ac yn barnu meddyliau a bwriadau y galon." Yr oedd yn llefaru nes yr oedd y bobl yn teimlo, nid yn unig y dylasent edifarhau, ond fod yn rhaid iddynt blygu ac ufuddhau yn y fan!

Wedi i'r dorf feddiannu ei hun i raddau, ac i dymmerau wastatau ychydig, aeth Mr. Elias rhagddo mewn dull tra hynod i ddarlunio trefn yr iachawdwriaeth, a mawredd cariad Duw, yn ol y dychymyg yn y testyn, yn eangder eu terfynau anfesurol. Wedi cyrhaedd i uchder grym ei afael yn ei destyn, ac yn nheimladau y bobl, bu yn ymadroddi yn lled afrwydd, os nid yn geirio yn lled drwstan, am beth amser, o herwydd grym eiddigedd tanllyd ei fynwes; ond eto, er hyn i gyd, yr oedd y cyfan rywfodd fel pe buasent yn uno i chwyddo nerth ei ddylanwad ar y bobl, "Amgyffred gyda'r holl saint, beth yw y lled, yr hyd," &c. Gofynai yma yn gyffröus, "Beth yw lled trefn yr iachawdwriaeth 0 y mae yn rhy anhawdd dywedyd: ond beth bynag ydyw, y mae hi yn rhy lydan i'r lleidr ar y groes syrthio drosti i uffern! Beth yw ei hyd ynte? Nid oes dim modd dywedyd; ond pa faint bynag ydyw, y mae hi yn rhy hir i Saul o Tarsus syrthio drosti i golledigaeth!" Ar hyn gwaeddai rhyw ddyn cryf, gwrol, gwledig, o ganol y dorf "O diolch byth! y mae hi yn ddigon o hyd i hen bechadur colledig fel fi felly!" Rhedodd teimladau y dyn hwnw fel tân gwyllt drwy yr holl dorf mewn moment. Aeth Mr. Elias yn mlaen; ond yr oedd ei deimladau ef ei hun yn mron a thori dros yr ymylon weithiau. Gofynodd, "Beth yw dyfnder trefn gras yr efengyl? Y mae yn rhy anhawdd treiddio i wybod; ond pa faint bynag ydyw, y mae ei sylfaeni yn rhy ddyfnion i ddim dafn o ddamnedigaeth gyffwrdd byth & Manasseh waedlyd, wedi unwaith gredu yn Nghrist, er iddo fod wedi bod yn llenwi heolydd Ierusalem â gwaed y saint! Beth yw uchder trefn gras? Ni ellir dywedyd; ond y mae ei thŵr yn rhy uchel i un o'r cythreuliaid a wasgwyd o Mair Magdalen ddringo dros ei nen i fyned yno i'w lithio hi i drueni byth!" Erbyn hyn, nid oedd modd clywed yr un gair, gan floeddiadau a griddfanau y dorf. Bernir nad oedd y fath beth a gruddiau sychion ar y maes; ac erbyn hyn, yr oedd y pregethwyr a'r gweinidogion oedd yn yr areithfa wedi myned i wylo fel plant o'i amgylch! Yr oedd golygfa ryfedd ar y lle drwyddo draw!

Ar un cyfnod neu ddau o'r bregeth, dringodd ar aden dychymyg, o'r braidd yn rhy uchel i gyrhaeddiadau y dorf i'w ddilyn yn enwedig, pan, yn ngwres ei hyawdledd, y chwareuai ar rai o ffugrau aruchel y testyn, ac y rhedai dros rai darluniadau o anfeidrol fawredd cariad Duw, a threfn yr iachawdwriaeth, ac y gwaeddai â llef uchel"Cyfuwch a'r nefoedd yw, beth a wnei di? dyfnach nag uffern yw, beth a elli di ei wybod? mae ei mesur yn hwy na'r ddaiar, ac yn lletach na'r môr; beth a all creadur meidrol ei gynnwys? Mae ei lled yn cyrhaedd at bob gradd ac oed, ac at bob sefyllfa a chyflwr o ddynolryw. Y mae ei hyd yn cyrhaedd fel cadwen euraidd, o dragwyddol fwriad Duw hyd at dragwyddol ogoneddiad y saint yn y nef; y mae ei dyfnder yn cyrhaedd at isder eithaf codwm Eden; ac y mae ei huchder yn cyrhaedd hyd at orsedd y Mawredd yn y goruwch leoedd! Meddyliwch am ei gariad o ewyllys da at ei greaduriaid, neu ei gariad o hyfrydwch yn ei bobl, y mae pob mesuriad dynol wedi colli am byth! O ryfedd ras ein Duw!"

Pan y daeth at y darluniad am y saint yn amgyffred yr hyn sydd uwch law gwybodaeth, yr oedd yn wir effeithiol. Wrth ddarlunio gwerth gwybodaeth brofiadol, "gofynai—Pa fodd y gall pobl gyffredin fel sydd yma gynnwys y wybodaeth uchel hon?" Ac atebai, â gwên serchus ar ei rudd, "Y mae genych chwi yr eneiniad oddi wrth y sanctaidd hwnw, a chwi a wyddoch bob peth!' Dyna yr unig wybodaeth oedd yn destyn ymffrost yr apostol: yr oedd yn cyfrif pob peth yn golled er mwyn ardderchogrwydd gwybodaeth Crist Iesu ei Arglwydd! Gallai dyn ddeall llawer o wybodaethau ereill, ac eto heb fod yn ddim gwell na hurtyn yn y wybodaeth hon! Dyma yr unig wybodaeth a wna ddyn yn ddoeth i iachawdwriaeth! Dyma yr unig wybodaeth all lenwi holl alluoedd a dymuniadau enaid dyn!'

Erbyn hyn, yr oedd y bregeth wedi cyrhaedd uchder nerth ei dylanwad ar y bobl. Yr oedd fel pe buasai wedi llwyddo i gael y dorf i olwg y cyflwr; ac o hyn allan, ei amcan oedd ennill pawb i ddefnyddio y waredigaeth. Darluniai fawredd cariad Duw, yn ei barodrwydd i dderbyn pechadur edifeiriol, mewn ymadroddion oedd yn ddigon nerthol i hollti y graig, a thoddi y graig gallestr yn llyn dwfr. Mewn llais tyner, hanner toredig, ac megys yn ymyl wylo, darluniai duedd rasol calon Duw, addasrwydd trefn yr iachawdwriaeth at gyflwr pechadur, llwybr gogoneddus gweinyddiad trugaredd a gras i'r annheilwng trwy angeu y groes, seiliau cedyrn gobaith derbyniad i'r edifeiriol, nes yr oedd yr holl dorf drwyddi fel pe buasai yn plygu dan bwys y dylanwad. Cyfeiriodd yma at ei brofiad ei hun, a theimlai pawb ei fod yn llefaru yr hyn a wyddai, ac yn tystiolaethu yr hyn a brofai. Trosglwyddai ei brofiad ei hun i fynwesau pawb ereill. Yr oedd teimladau y dorf, erbyn hyn, fel y cwyr dan wres yr haul, yn derbyn argraffiadau ei genadwri. Yr oedd yn llefaru mor dreiddgar, fel nad oedd modd peidio ei glywed; mor oleu, fel nad oedd modd peidio ei ddeall; ac mor danllyd, fel nad oedd modd peidio ei deimlo! Wedi agor yr archollion yn ddigon dwfn, ymddangosai megys wrth ei fodd, fel meddyg medrus, yn tywallt olew i'r briwiau, ac yn rhwymo y doluriau wedi arwain y clwyfedigion at yr Hwn a ddichon yn gwbl iáchäu!

Yn nghanol y teimladau hynod hyn, troes y pregethwr megys i adlewyrchu ychydig ar ei sylwadau blaenorol; ac wrth ryfeddu mawredd y cariad, sydd uwch law gwybodaeth, yn anfeidroldeb ei eangder a'i rinwedd yn achub yr enaid, yn tawelu y gydwybod, ac yn puro y galon, adroddodd yr hen bennill canlynol, gyda'r fath effeithioldeb, na byddai ond cwbl ofer ceisio ei ddarlunio:

"O gariad! O gariad! anfeidrol ei faint,
Fod llwch mor annheilwng yn cael y fath fraint;
Cael heddwch cydwybod a'i chlirio trwy'r gwaed,
A chorff y farwolaeth, sef llygredd, dan draed."

Yr oedd ei dynerwch a'i daerineb, yn annog pob pechadur i ddyfod at Grist, yn cyrhaedd i'r byw at bob calon; yr oedd yn agor drws gobaith ger bron y gwaethaf a'r annheilyngaf, trwy ddarpariadau cariad Duw yn anfoniad ei Fab i'r byd, yn effeithiol iawn. Adroddodd y gwahoddiadau ysgrythyrol i bechaduriaid gyda nerth anarferol, fel yr oedd yr adnodau mwyaf adnabyddus yn dyfod ar y teimlad gyda'r fath newydd—deb a phe buasent heb eu clywed erioed o'r blaen. Dangosai werth mwynhâd y wybodaeth brofiadol o gariad Crist, nes yr oedd yn ennill serch pob dyn yn llwyr:—"O wybodaeth ogoneddus! Ni welodd llygad, ni chlywodd clust, ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i'r rhai a'i carant ef: rhyfeddodau rhy ddyfnion i archangelion eu plymio byth, ac eto gwybodaeth gymhwys i alluoedd y gwanaf ei ddeall sydd yma heddyw! Gall dyn wybod y dirgelion oll, a phob gwybodaeth naturiaethol, ond eto bod heb wybod dim o'r hyn a'i gwna yn ddoeth i iachawdwriaeth. Pa les a wna pen fel lantern, os bydd y galon mor dywyll a'r fagddu? Dyma drefn sy'n dwyn y byraf ei gyrhaeddiadau yn ngolwg y byd hwn i wybod mwy na'i holl athrawon am bethau y byd a ddaw. Amgyffred gyda'r holl saint!' Y mae yr holl saint, pa mor fyred bynag y byddo eu dysgeidiaeth yn mhethau y byd hwn, yn cael eu dwyn i wybod yr hyn a'u cyflawna â chyflawnder Duw!" Rhyfedd oedd yr effeithiau ar y dorf erbyn hyn!

Cyn terfynu, troes y pregethwr ei appeliadau at y bobl yn weddïau drostynt. Yr oedd ei erfyniau dros y rhai oedd yn ymyl plygu i Grist, ac heb benderfynu, gyda thaerineb mawr yr oedd o'r bron yn ddigon i doddi teimladau y caletaf a'r mwyaf anystyriol yn y lle. Yr oedd ei wynebpryd megys yn dysgleirio. Yr oedd ei enaid fel yn ymgodi i fynydd y gweddnewidiad, i gydweddïo â Phedr ac Iago ac Ioan, yn nghymdeithas y Gwaredwr mawr ei hun. Yr oedd gras y weinidogaeth wedi ei dywallt ar ei wefusau. Terfynodd yn nghanol gorfoledd y dorf, ac wedi bod yn offerynol yn llaw ei feistr i droi lluaws o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw. Uno droion hynotaf ei oes ydoedd y waith hon!

Yr oedd llawer yn dychwelyd o'r maes fel pe buasent heb wybod pa le i fyned, nac ar ba law i droi. Yr oeddynt o'r braidd wedi colli llwybr eu traed. Y mae yn nodedig i'w goffa, fod teimladau yr holl wrandawyr wedi cael eu cymmeryd i fyny mor lwyr dan y bregeth ryfedd hon, fel na cheid dim mewn ymddyddan, ar y dydd, ond y bregeth—" y cariad," "yr achub," &c. Barnai amryw, ar y pryd, na fuasai waeth terfynu y cyfarfod ar hyny, a gollwng y bobl adref yn y fan. Nid oedd modd cael gafael effeithiol ar ddim wedi hyny. Sylwyd fod pregethau rhagorol yn cael eu traddodi am ddau a chwech o'r gloch, ond nad oedd modd cael gafael ar ddim rywfodd; o blegid "lled, a hyd, ac uchder, a dyfnder," oedd yn nghlustiau a chalonau y bobl o hyd! Sylwyd fod y bregeth am ddau yn daranllyd iawn, ond nid oedd yno ddin meilt; a bod y bregeth am chwech yn dyner iawn, fel y gwlith, ond nid oedd yn ireiddio dim ar neb; yr oedd yn sychu i fyny yn union. Nid oedd dim modd cael meddyliau y bobl at ddim ond at y bregeth yn y bore! Bernir fod y tro hwn wedi bod yn achubiaeth i luaws o eneidiau, ac yn adnewyddiad i lawer o eglwysi—nid yn unig yn y lle a'r gymmydogaeth, ond hefyd drwy yr holl wlad!

Wrth adgoffa y nerthoedd rhyfeddol hyn, pwy na waeddai gyda y prophwyd, "Deffro, deffro, gwisg nerth, O fraich yr Arglwydd! deffro fel yn y dyddiau gynt, yn yr oesoedd gynt. Onid ti yw yr hwn a doraist Rahab, ac a archollaist y ddraig Onid ti yw yr hwn a sychaist y môr, dyfroedd y dyfnder mawr yr hwn a wnaethost ddyfnderoedd y môr yn ffordd i'r gwaredigion i fyned drwodd?"

Nodiadau

golygu