Adgofion am John Elias/Pennod VI
← Pennod V | Adgofion am John Elias gan Richard Parry (Gwalchmai) |
Pennod VII → |
PENNOD VI.
JOHN ELIAS YN DECHREU OEDFA, AR AGORIAD ADDOLDY.
Er mwyn cael adnabyddiaeth gyflawn o gymmeriad a galluoedd unrhyw ddyn, y mae yn ofynol cael golygiad arno dan amrywiol amgylchiadau, ac yn mhob agweddiad, ac o bob ochr. Y mae y darlunydd, yn gyffredin, pan y byddo yn tynu ei fraslun at bortread, yn tremio ar ei wrthddrych o bob sefyllfa—o'r ochr, ac o'r lled-ochr, yn gystal a chyferbyn a'r wyneb; myn adnabod y profile, y three-quarter, a'r enfront, cyn yr ystyria ei hun yn barod at ei waith. Nid ellir cyflwyno ardeb cywir o Elias, heb syllu arno o wahanol fanau, a than amrywiol amgylchiadau. Yr ydym wedi tremio arno o rai manau neillduol yn barod. Ni a'i gwelsom yn pregethu ac yn areithio yn gyhoeddus; yr ydym wedi ei ddilyn hyd yr allor deuluaidd, a manau ereill; ond er mwyn cael portread teg o hono, dichon y byddai yn briodol i ni eto gael ei weled a'i glywed yn myned trwy ranau arweiniol addoliad cyhoeddus; ac efallai y byddai yn burion i ni gael golwg arno yn gweinyddu yr ordinhadau, os nid ei weled hefyd yn llywyddu yn mysg ei frodyr, ac yn ei fyfyrgell yn parotoi at ei lafur cyhoeddus. Wrth gymmeryd golygiad cyffredinol felly arno, hyderwn y cawn fantais i ganfod y llinellau arbenig hyny ynddo oedd yn ei wahaniaethu oddi wrth bawb ereill.
Y mae addoldy eang, ardderchog, newydd gael ei adeiladu, ac y mae yn un o'r capelydd gwychaf yn Ngogledd Cymru. Y mae cyfarfod pur gyhoeddus i fod ar ei agoriad. Y mae yr amgylchiad yn creu cryn sylw yn y wlad, a chyffro mawr yn y gymmydogaeth: dyna brif destyn siarad yr ardaloedd o amgylch. Y mae cynnulleidfa fawr wedi ymgasglu ar yr achlysur. Y mae trefn y cyfarfod wedi ei hysbysu; ac fel amgylchiad pur hynod, y mae yna un rhagdrefniad go anghyffredin. Beth, atolwg, yw hyny? "Y mae JOHN i ddechreu yr oedfa heno!" Y mae yr awr i ddechreu y cyfarfod ar gael ei tharo—y mae y bobl yn prysuro i'r capel, ac y mae y lle yn llawn eisoes. Dacw Mr. Elias wrth odre y grisiau y mae yn dringo—y camrau yn araf, pwyllog, ac yn weddus. Y mae yn sefyll ar hanner y grisiau am hanner mynyd, ac â gwedd ddifrifol iawn, yn edrych dros yr adeilad newydd, fel pe byddai heb ei weled erioed o'r blaen. Y mae yn myned rhagddo; ac wedi plygu ei ben ar ei law, a'i gefn at y bobl, y mae yn eistedd am un mynyd yn yr areithfa, ac yna yn codi at y ddesc. Y mae yn rhoddi pennill allan i'w ganu―
"Gosod babell yn ngwlad Goson
Tyred, Arglwydd, yno dy hun
Gostwng o'r uchelder goleu,
Gwna dy drigfan gyda dyn:
Trig yn Sion, aros yno,
Lle mae'r llwythau 'n dod yn nghyd;
Byth na 'mâd oddi wrth dy bobl,
Nes yn ulw 'r elo 'r byd."
Tra y mae y canu yn myned yn mlaen, y mae fel pe byddai ei wedd yn dadguddio fod ei fynwes yn orlawn o feddyliau. Y mae y mawl drosodd. Y mae yn darllen rhan o 1 Bren. viii; a rhan o'r ail Salm wedi y ganfed. Y mae y darlleniad yn hynod o naturiol a tharawiadol. Y mae yn plygu i weddïo. Y mae rhyw ddwysder parchus yn ei gyfarchiad i'r orsedd—"Dduw anfeidrol!" &c. Y mae megys yn diosg ei esgidiau oddi am ei draed; canys y mae yn ymwybodol fod y lle y saif arno yn ddaiar sanctaidd. "Nid oes yma onid tŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd." Y mae ei erfyniau am gael ei arwain mewn gweddi gan yr Ysbryd, yn daer a gafaelgar iawn. Er fod ei lygaid yn nghauad, y mae yn codi ei ben, fel pe byddai yn edrych ar i fyny weithiau. Y mae yn gofyn yn ostyngedig am ganiatâd i ymddyddan wyneb yn wyneb â'r "Hwn sydd yn trigo yn y goleuni, nad ellir dyfod ato." Y mae yn tywallt ei holl galon mewn erfyniau, ymbiliau, deisyfiadau, a thalu diolch dros bob dyn, ger bron yr orsedd. Y mae ei ddyhewyd yn cryfhau. Y mae fel pe byddai yn cael benthyg llygaid angel, ac yn canfod yr orsedd wen fawr o draw yn mhell yn entrych y nen, a'r Hwn sydd yn eistedd arni, mewn urddas, a mawredd, a gogoniant, nes y mae rhyw wylder dymunol i'w weled yn cuddio ei wyneb, ac yn llanw ei galon. Y mae yn ymddyrchafu yn ei dduwiolfrydedd eto, ac y mae rhyw arucheledd anrhydeddus yn ei ymadroddion grasol. Y mae fel pe byddai yn cael benthyg aden cerub eto, ac yn ymgodi yn raddol oddi ar y ddaiar, ac yn myned yn uwch, uwch, hyd at ymyl teyrngadair y nef, i wyddfod y Duwdod mawr! Y mae yn arswydo! Y mae yn ymwroli eilwaith. Y mae wedi cael golwg ar y Cyfryngwr ar ddeheulaw y Tad. Y mae nid yn unig yn esgyn ei hunan, ond y mae yn dechreu ein codi ninnau hefyd gydag ef. Y mae wedi ennill yr holl dorf i'w deimladau ei hun. Y mae dystawrwydd y bedd dros yr holl addoldy eang. Y mae yr holl gynnulleidfa, yn hen ac yn ieuanc, yn broffeswyr a dibroffes, â'u mynwesau yn orlawn o bryder dwys, megys yn mhresennoldeb y Brenin. Y maent fel pe byddai arnynt ofn gollwng eu hanadl. Clywid trwst pin, pe buasai le iddi ddisgyn ar y llawr. Y mae golwg y dorf fel pe byddai yn myned yn fwy treiddgar o hyd fel y mae ef yn myned yn mlaen yn ei weddi afaelgar. Y mae y lleni yn cael eu symmud, ac y mae y nef, o'r diwedd, fel pe byddai yn ymagor o flaen meddwl y bobl y mae y ddaiar wedi colli dan eu gwadnau—y mae y byd a'i bethau wedi eu llwyr anghofio—y mae fel pe byddai cwmwl gogoniant yn cuddio marwoldeb allan o'r golwg, ac y mae y bobl fel pe byddent yn nheimlad yr ysbrydion dignawd. Y mae pob meddwl wedi ei gaethiwo i syniadau y weddi. Nid oes yma ond un galon drwy y lle i gyd! Y mae pawb yn edrych yn ddyfal tuag i fyny, fel pe byddent yn tybied eu bod yn cael eu codi, yn yr Ysbryd, i fynydd mawr ac uchel, ac yn cael golwg ar y ddinas nefol—y Ierusalem sanctaidd—yn disgyn oddi wrth Dduw—a'i goleuni hi ydyw yr Oen, a'r Arglwydd Dduw Hollalluog yn deml iddi! Y maent o'r braidd yn dychymygu clywed yr Hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc yn dywedyd, "Dring i fyny yma. Wele, yr ydwyf fi yn gwneuthur pob peth yn newydd." Y mae pawb wedi eu taro â syndod, ac â difrifoldeb, na theimlasant mo hono erioed o'r blaen. Y maent fel pe baent yn anadlu mewn awyr burach nag a brofasant erioed. Y mae yn rhaid fod rhyw farworyn oddi ar yr allor wedi cyffwrdd â phob calon, ac y maent fel pe byddent yn gweled ac yn teimlo eu dymuniadau yn ymuno yn weddïau, ac yn dyrchafu i fyny gyda mwg yr arogldarth lawer! Y mae yn anhawdd iawn rhoddi cyfrif am deimladau fel hyn! Cof yw genym fod yn y Colosseum yn Llundain unwaith, gyda nifer o gyfeillion, mewn ystafell yno; ac yn fuan wedi eistedd, wele yr ystafell i gyd yn dechreu ymgodi, o'r bron yn ddiarwybod i ni; a'r byrddau, y cadeiriau, y dodrefn, a'r cyfan, yn cydesgyn yn esmwyth, megys ar adenydd yr awel dyner, nes yr oeddym yn gwbl ddifeddwl i ni ein hunain yn uchder y nen; a'r ddinas fawr i'w gweled isod, draw, yn ddofn, bell, o danom! Yr oedd rhywbeth tra thebyg i hyny y tro hwn. Yr oedd y gynnulleidfa oll wedi ei chodi yn ei dychymyg, yn ddiarwybod iddi ei hun, yn awyren y weddi, nes yr ydoedd wrth borth ardderchog dinas y Duw byw y Gaersalem nefol; ac wedi dyfod i blith myrddiwn o angelion, y rhai oedd yn gweini yn ol ac yn mlaen, fel ar hyd ysgol Iacob; ac i ganol "cymmanfa a chynnulleidfa y rhai cyntafanedig, ac ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd; ac o'r braidd yn meddwl eu bod yn cael uno eu caniadau â llu y nef, ac yn gwaeddi allan, Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw Hollalluog," &c. Clywsom lawer gwaith son am nefoedd ar y ddaiar:—os nad hyn ydyw, ni wyddom beth a all fod.
Wedi bod yn ymddyrchafu felly, megys ar adenydd ysbrydoliaeth, am gryn amser, a'r gynnulleidfa yn cydymsymmud â'i wefus a'i deimlad, disgynodd yn fuan yn ei gyfeiriad yn fwy uniongyrchol at yr addoldy newydd ac achlysur y cyfarfod. Yr oedd ei erfyniau yn rymus iawn ar iddo fod yn gwbl gyssegredig at ogoniant Duw, dyrchafiad y Gwaredwr, ac achubiaeth eneidiau dynion::—na byddai i'r areithfa hwnw byth gael ei llychwino â dysgeidiaeth doethineb y byd hwn; na byddai i athrawiaeth balchder calon dyn, na gwenwyn philosophi a gwag dwyll, syniad y cnawd, gael byth ddringo i'r lle cyssegredig hwnw; na byddai i athrawon dysgeidiaeth llywodraeth wladol, nad arswydant gablu urddas, byth ddringo y grisiau adamant hyny. "Gwell fyddai genym i'r lle hwn gael ei droi fel hen allor Athen, ac ysgrifenu ar ei furiau, I'r Duw nid adwaenir, nag i'r lle hwn gael ei halogi âg athrawiaeth rhesymoliaeth dyn, sydd yn dywedyd yn haerllug yn erbyn y gwirionedd, ac yn twyllo dynion am gadwedigaeth eu heneidiau." Erbyn hyn, yr oedd yr arddwysedd cyntaf wedi colli i raddau, a'r teimladau cynhes, dystaw, cyssegredig, a deimlid o'r blaen, wedi dechreu oeri; ac yr oedd dorf o ran ei serchiadau yn teimlo ei hun megys wedi disgyn cryn raddau i lawr tuag at y ddaiar yn ol!
Yr oedd ei erfyniau ar fod yr areithfa hwnw yn dyst ffyddlawn dros burdeb yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb yn effeithiol dros ben. Arwyddai, os collid golwg ar athrawiaeth cadwedigaeth pechadur trwy ffydd yn nghyfiawnder Crist yn unig, heb ddim o weithredoedd y ddeddf, y byddai y gogoniant wedi ymadael; na byddai harddwch yr adeilad ond cofgolofn i'r oes a ddel o ddirywiad crefydd, ac ymadawiad oddi wrth symledd yr efengyl; a throad oddi wrth egwyddorion y Diwygiad at gyfeiliornad yr oesoedd tywyll yn ol, ac y byddai yn well cerfio Ichabod ar y maen clo! "Os efengyla neb amgen na'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb yn yr areithfa hwn, bydded anathema maranatha. Pe byddai i ni, neu angel o'r nef, efengylu yn y lle hwn amgen na'r gwirionedd megys y mae yn yr Iesu, bydded esgymunedig byth!" Yr oedd rhyw fath o arswyd a dychryn i'w weled yn wyneb y dorf ar hyn o bryd!
Wedi hyn, newidiodd yn hollol yn ei deimlad, ac ymollyngodd i dynerwch effeithiol a thoddedig iawn, nes yr oedd mynwesau pawb yn adgynhesu drachefn; ac yr oedd y teimladau erbyn hyn, yn dechreu tori allan mewn dagrau, ac ocheneidiau dwysion iawn. Yr oedd ei erfyniau ar fod i Ysbryd Duw gael ei dywallt ar y lle yn wir effeithiol. Erfyniai ar fod yr Ysbryd yn fywyd pob rhan o bob addoliad a fyddai yno byth! "Na fydded i un geneu ddywedyd yr Arglwydd Iesu, yn yr areithfa hwn, eithr trwy yr Ysbryd Glân. Na fydded yma byth bregethu, er mwyn difyru y glust, a boddhau cywreinrwydd calon lygredig dyn, ond pregethu felly, fel y credo lluaws mawr. Na fydded i neb agor ei wefus yma i weddïo, ond yn nghymhorth yr Ysbryd Glân: a dyrchafu dwylaw sanctaidd, heb na digter na dadl. Symmuder oddi yma drwst y caniadau, ac na wrandawer yma ar beroriaeth nablau, oni byddo y canu â'r Ysbryd. Na chyflawner yma un gwasanaeth ond a fyddo wedi ei roddi gan yr Ysbryd, a'i eneinio gan yr Ysbryd, ac a fyddo yn cael ei arddel gan Ysbryd y Duw byw!" Yma, tröai mewn tymmer pur ddrylliog i ddiolch am fod pob arwyddion nad oedd y gogoniant wedi ymadael, ond fod "Duw yn wir ynom." Erfyniai ar i'r deyrnas oll gymmeryd addysg rhag i'r Ysbryd ymadael o honi. Terfynai mewn cyfeiriad at amryw o'r cewri yn y weinidogaeth oedd wedi eu symmud oddi ar y maes yn ddiweddar, ac adroddai eiriau Iosuah drosodd eilwaith a thrachefn, gyda llais toddedig iawn, "O haul! aros," &c., a hyny gydag effeithioldeb a difrifoldeb mawr iawn! Yr oedd y gynnulleidfa yn y fan hon eilwaith fel pe buasai wedi ei tharo â syndod cyffröus, a bu raid dechreu y canu, cyn y gallai ymgodi yn gwbl er dyfod allan o'r perlewyg ag yr oedd ynddo ar derfyn y weddi ryfedd hon!
Ni allwn ollwng yr adgofion hyn heibio heb gynnyg nodiad neu ddau arnynt. Yr oedd y weddi hon, o ran ei chynnwysiad, ei chyfansoddiad, a'i chyssondeb, mor drefnus a rheolaidd, a phe buasai yn ffurf o weddi ysgrifenedig; a buasai yn ymddangos yn bur debyg i gynllun bwriadol felly, ar gyfer y gwasanaeth arbenig hwn, ond fel yr oedd hysbysrwydd am yr amgylchiadau yn profi peth arall. Yr oedd y pregethau, drwy y cyfarfod, at eu gilydd yn rymus iawn. Yr oedd ei bregeth ef ei hun, am ddeg o'r gloch, y bore dranoeth, oddi wrth y geiriau, "Ysbryd yw Duw; a rhaid i'r rhai a'i haddolant ef addoli mewn ysbryd a gwirionedd," yn nerthol dros ben; ond er hyn oll, nid oedd dim yn ystod y cyfarfod drwyddo wedi cario y fath ddylanwad, na gosod y fath argraff ar feddyliau y bobl, a'r weddi y noswaith gyntaf. Yr oedd yn gofyn cryn wroldeb yn y gweinidogion oedd i bregethu y noswaith hono, i ymaflyd yn eu gorchwyl, wedi y symmudiad hedegog uchel hwn, a da iawn mai cewri oeddynt—a daethant drwy eu gwasanaeth yn llawn cystal ag y gallesid dysgwyl. Pregethodd y cyntaf oddi wrth Salm xcv. 10, 11; a'r ail oddi wrth Salm cii. 16. Yr oedd yn eglur fod pregeth Elias wedi ei llunio ar gyfer yr amgylchiad, ond yr oedd wedi tywallt holl hanfod egwyddorion ei bregeth yn ei weddi y noswaith cynt, ac o blegid hyny yn ddiau wedi ei gwanhau i raddau mawr. Y mae hyny yn dangos yn ddigon eglur fod amcan ei bregeth yn gwreichioni yn fyw yu ei fynwes mor effeithiol ar y pryd fel yr oedd megys tân yn ennyn ac yn tori allan cyn yr amser. Ymddangosai hyn i lawer oedd yno ar y pryd fel y rheswm am orlawnder y meddyliau dwysion oedd yn y weddi. Peth arall sydd yn profi yn amlwg mai nid ffurf ydoedd, yn y meddwl, mwy aag mewn ysgrifen, oedd yr effeithioldeb digyffelyb oedd wedi ei gario ar feddyliau y bobl. Yr oedd yno ryw ysbrydiaeth a fuasai yn tori allan o gylch pob rheol fwriadol; yr oedd yno ryw gynhyrfiad a fuasai yn rhwygo rhwymyn pob ffurf yn dipiau. Ni allasai defod farw gynneu y fath farwor byw. Teimlad cyffröus ei feddwl ef ei hun ydoedd, wedi dyfod i gyffwrdd â theimladau meddyliau y dorf. Nid oedd dim llai na'r dylanwad hwnw a fuasai yn cymmeryd i fyny holl syniad cynnulleidfa mor luosog ar unwaith, mor llwyr iddo ei hun. Yr oedd yr arddwysedd anarferol oedd ynddo ef wedi ei gyflwyno i'r gwrandawyr, nes eu hysbrydoli yr un modd. Fel y daethai ei deimladau ef, tua'r canol, yn fwy claiar, yr oedd teimladau y bobl yn cyd-ddisgyn, a hyny mor gysson a thymmeredd yr hinfesurydd.
Dengys yr hanes hwn yn amlwg iawn fod gwrthddrych ein HADGOFION, nid yn unig yn bregethwr ac areithiwr uchel, ond hefyd yn Gristion gostyngedig a phrofiadol. Yr oedd y weddi yn debyg i'r hyn a ddywedir am yr offeiriaid a'r Lefiaid hyny a gyfodasant i fendithio y bobl gynt— Gwrandawyd ar eu llef hwynt, a'u gweddi hwynt a aeth i fyny i breswylfod sanctaidd Duw, i'r nefoedd!"