Adgofion am John Elias/Pennod VII

Pennod VI Adgofion am John Elias

gan Richard Parry (Gwalchmai)

Pennod VIII

PENNOD VII.

JOHN ELIAS YN BEDYDDIO.

Yr oedd rhyw brydferthwch neillduol yn holl gyflawniadau gweinidogaethol Mr. Elias, gan nad yn mha orchwyl yr ymaflai. Yr oedd yn deilwng o hono ei hun, ac o'i swydd, yn mhob rhan o'r gwaith. Yr oedd yn hynod yn ei sylwadau, ac yn ei ymddygiad, bob amser, wrth weinyddu yr ordinhadau, sef Bedydd a Swper yr Arglwydd. Yr oedd ei syniadau cryfion, ei deimladau difrifol, ei weddïau taer, yn nghyd â'i ddull gwylaidd yn cyflawnu y cyfan, yn sicr o ennill sylw a gosod argraff ddwys ar feddyliau pawb. Byddai ef yn wastadol yn sicr o gadw golwg ar y cynghor apostolaidd, "Gwneler pob peth yn weddus ac mewn trefn;" fel na roddid achos tramgwydd mewn dim, ac na feiid ar y weinidogaeth.

Yr oedd adfywiad neillduol ar grefydd trwy holl wlad Môn ar un adeg arbenig. Yr oedd dynion, ac yn enwedig y genedlaeth ieuanc, wrth y degau a'r ugeiniau yn cael eu dychwelyd, ac yn ymuno â'r eglwysi. Ar dymmor mor lewyrchus ar grefydd, yr oedd yn naturiol dysgwyl y byddai i sylw y cyhoedd gael ei dynu at y cynnydd dirfawr oedd yn nifer proffeswyr yn mhob parth o'r wlad. Pa fodd bynag, fel y mae rhai dynion llawn o uchelgais yn mysg pob enwad o grefyddwyr, cyffroes hyn deimladau rhai athrawon, mewn eiddigedd mawr dros yr hyn a alwent "crefydd y commisiwn," fel y troisant allan yn genadon, tebyg i'r rhai hyny gynt, a bregethent, "Oni enwaedir chwi yn ol defod Moses, ni ellwch chwi fod yn gadwedig." Felly yr oedd y bobl hyn wedi ei wneyd yn bwnc, pa le bynag y cyfarfyddent â'r dychweledigion ieuainc, i ddywedyd wrthynt, "Oni throcher chwi, yn ol defod y Bedyddwyr, ni ellwch fod yn gadwedig!" "Nid ydych wedi ufuddhau; a chan hyny, ni ellwch fod yn ddysgyblion i Grist," &c. Ac felly, yr oeddynt wedi maglu a dyrysu llawer, ac wedi llwyr darfu rhai. Meddodd un o honynt y gwroldeb o fyned at Mr. Elias, i dŷ capel y Gorslwyd, o flaen y bregeth, gan feddwl gwneyd gorchest, a dwyn y byd i drefn ar unwaith; a dywedodd wrtho, ei fod ef yn dyfod ato o gydwybod, dros ei Dduw, i'w annog i fod yn onest at y bobl, a'u bedyddio drwy eu trochi, yn ol gair yr Arglwydd; o blegid heb hyny, na allent fod ar dir ysgrythyrol cadwedigaeth, o blegid eu bod heb ufuddhau i orchymyn pendant Crist! Yntau, yn bur ddigyffro, a ofynodd ddau neu dri o gwestiynau i'r hen gyfaill; ond ni welai ef y ffordd yn glir i'w hateb; ac yna troes i gondemnio, a bygwth, a phrophwydo yn enbyd. Gwelai Elias nad oedd parhau yr ymddyddan yn ddim amgen na churo yr awyr; ac o herwydd hyny, tynai sylw at rywbeth arall, mewn dull hynod o ddoeth, i roddi pen ar y ddadl; ac felly y cafodd efe ymwared y tro hwn. Ond er mor ddigyffro yr ymddangosai ar y pryd, deallid fod yr ymddygiad hwn wedi ei dynu ef allan yn benderfynol ar y pwnc; o blegid gwelai y priodoldeb o gadarnhau eneidiau y dysgyblion ieuainc. a'u cynghori i aros yn y ffydd.

Yr oedd un amgylchiad pur gyhoeddus i gymmeryd lle mewn tref gyfagos ar y Sabbath canlynol; sef bedyddio un oedd mewn oedran, a thri o blant bychain. Yr oedd yr hanes yn dra hysbys yn y gymmydogaeth, ac wedi creu cryn ddysgwyliad, a chynnulleidfa luosocach nag arferol wedi dyfod yn nghyd. Wedi i gyfaill ddechreu yr oedfa, dechreuodd Mr. Elias ar wasanaeth y bedydd. Ymddangosai yn hollol bwyllus a dedwydd pan y dechreuai ar y gwaith. Dywedai:—" Yr ydym yn bresennol yn myned i gyflwyno rhai trwy fedydd i'r Arglwydd. Y mae yr amgylchiad presennol yn un lled anghyffredin, sef cyflwyniad un mewn oed, gydag ereill, trwy fedydd i Grist. Y mae hyn yn ein gosod mewn sefyllfa debyg iawn i'r amgylchiadau yr oedd yr apostolion ynddynt yn more Cristionogaeth, pan yr oeddynt yn bedyddio teuluoedd cyfain, lle yr oedd y deiliaid o bob oedran. Yr ydym yn debyg iawn hefyd i'r sefyllfa y bydd ein cenadon yn fynych, y rhai sydd yn y gwledydd paganaidd, pan y byddant yn bedyddio y dychweledigion ac yn cyflwyno rhieni a phlant, rhai o bob oed, hen ac ieuanc, drwy yr or dinhâd o fedydd i'r Arglwydd."

Aeth rhagddo yn ei sylwadau, a dywedodd ei fod ef o'r farn y dylid gweinyddu yr ordinhâd hon gyda theimladau mor gyssegredig ag y gweinyddir yr ordinhâd arall, sef Swper yr Arglwydd; ac os na ellir ei gweinyddu mewn ysbryd addoliad, ac nid mewn ysbryd dadleugar, yn codi oddi ar sel bleidgar, mewn tymmer chwerw, bigog, gynhyrfus, a chollfarnol ar rai a fyddont yn gwahaniaethu oddi wrthym mewn barn ar y pwnc, nad ydoedd i'w gweinyddu mewn modd yn y byd. Os na ellir dyrchafu dwylaw sanctaidd, heb na digter na dadl, uwch ben yr ordinhâd, ni all y gweinyddiad o honi fod o un anrhydedd i Dduw nac adeiladaeth i ninnau. A oes rhyw angenrheidrwydd anorfod am fod mewn rhyw dymmer mwy cyffrous gyda yr ordinhâd hon na'r swper sanctaidd? Trefn iachawdwriaeth a osodir allan yn y ddwy!—un yn gosod allan ddyoddefiadau Crist, a'r llall yn darlunio gweithrediadau sancteiddiol yr Ysbryd Glân. Ni buasai yn deilwng o ddoethineb y Duw anfeidrol osod dwy ordinhâd i ddangos gwaith un o'r Personau Dwyfol, ac heb un i ddangos y llall. Y mae pob un mor angenrheidiol a'u gilydd yn ein hiachawdwriaeth. Ni ddeuai y fendith sydd ar gyfer pechadur yn iawn y groes, ac yn ngwaed yṛ Oen a laddwyd, byth i afael â'i gyflwr heb weithrediadau yr Ysbryd sydd yn cymmeryd o eiddo y Cyfryngwr ac yn ei fynegu i feddwl y cyfryw. "Eithr, yr wyf yn atolwg i chwi frodyr," meddai yr apostol, "er mwyn ein Harglwydd Iesu Grist, ac er mwyn cariad yr Ysbryd!" Yr oedd yn cyssylltu y cariad anfeidrol yn y ddau Berson yn un, y naill yn gyfartal a'r llall. Yr oedd ei sylwadau nerthol erbyn hyn yn dechreu gafael yn nheimladau y bobl i'r byw.

Dywedai: "Ar yr un pryd, efallai y dysgwylir, ar amgylchiad cyhoeddus fel hyn, i mi ddywedyd ychydig mewn ffordd o eglurhâd ac amddiffyniad i'n golygiadau ar yr ordinhâd gyssegredig hon. Yr ydym yn cael ein herlid gan rai am na ddywedem fwy am ein syniadau ar y pwnc; ond pan y traethwn ein barn yn lled gyflawn arno, dichon mai yr un rhai fydd yn ein beio am hyny drachefn yr un modd. Beiant ni, o blegid ein dystawrwydd, fel rhai heb allu amddiffyn ein golygiadau; a beiant ni, ar y llaw arall, pan y llefarom allan yn lled groew ar y pwnc, o fod yn erlid golygiadau gwahanol. Pa fodd bynag, er mwyn yr ymofyngar, a'r ammhëus sydd yn petruso, ac yn enwedig yr ieuenctyd anmhrofiadol, byddwn yn defnyddio ambell gyfle fel hyn i nodi allan yr ysgrythyrau sydd yn gosod y pwnc yn ei oleuni a'i ddyben priodol ei hun. Y mae rhai yn gwneyd gormod o'r ordinhâd, ac ereill yn gwneyd rhy fach o honi. Y mae rhai yn ceisio ei gwneyd yn bob peth, a'r lleill yn ceisio ei gwneyd yn ddim. Y mae Eglwys Rhufain, a rhai pleidiau ereill hefyd yn ei dilyn, yn ei gwneyd yn foddion cadwedigaeth yr enaid, ac felly yn ceisio gwneyd edifeirweh tuag at Dduw, a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist yn ofer; ac y mae y Crynwyr o'r ochr arall drachefn yn rhedeg i'r eithafion cyferbyniol, ac yn ei diddymu yn hollol, gan ei goblygu i fyny gydag amryw fedyddiadau, seremonïau, a defodau cnawdol yr hen oruchwyliaeth. Yr ydym ninnau yn ymdrechu sefyll ar y canol, gan ei gosod yn y man y gosodwyd hi gan Grist ei hun."

Yn y fan hon, dechreuodd draethu yn rymus, goleu, ac argyhoeddiadol iawn ar y testyn drwyddo; dangosodd ef yn ei holl gyssylltiadau, yn drwyadl, heb ysgoi un anhawsder, gan gyfarfod pob gwrthddadl yn ei gwyneb. Ymdrechai i ochel rhag llusgo unrhyw ymadrodd allan o'i berthynas â'r cyd—destynau; a dywedai ei fod yn ymdrechu i olrhain yr Ysgrythyrau er mwyn cael gwybod meddwl yr Ysbryd, sydd yn chwilio, ïe, dyfnion bethau Duw; ac nid dirdynu y gwirionedd allan o'i ystyr naturiol ei hun, er mwyn cynnal i fyny osodiadau un dyn. Eglurai ddyben bedydd mewn byr eiriau:— "Y mae yr elfen a ddefnyddir yn arwydd gweledig o fendith ysbrydol. Dwfr glân, neu ddwfr pur, yn cael ei gymhwyso at y bedyddiedig, yn enw y Drindod, gan berson wedi ei alw gan Dduw, a'i neillduo gan ei eglwys, i'r swydd weinidogaethol, ydyw bedydd. Y mae yn arwyddo puredigaeth, golchiad, neu faddeuant pechodau. Y mae cymhwysiad o'r dwfr at yr un y gweinyddir arno yn arwyddo cymhwysiad o'r iachawdwriaeth sydd yn Nghrist at bechadur." Dechreuodd ei sylwadau beirniadol gyda y deiliaid. Eglurai amcan y gorchymyn i fedyddio, fel y mae wedi ei gofnodi gan yr efengylwyr— "Ewch i'r holl fyd." Yr oedd wedi anfon ei ddysgyblion trwy wlad Iudea o'r blaen, cyn ei farwolaeth; ond wedi ei adgyfodiad o'r bedd, ac iddo dderbyn pob awdurdod yn y nef ac ar y ddaiar, anfonodd hwy i'r "holl fyd, i bregethu yr efengyl i bob creadur, gan eu bedyddio hwy yn enw y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân." Cymmerodd fantais oddi wrth yr amgylchiad o fod un mewn oed yn cael ei fedyddio i ddwyn ger bron yr holl fedyddiadau teuluol a gofnodir yn y Testament Newydd, yn fanwl iawn. Traethodd yn eglur ar gyferbyniad bedydd yr oruchwyliaeth efengylaidd âg enwaediad yr Hen Destament; gan ddal y tebygoliaeth sydd rhwng y ddau ger bron, yn eu holl berthynasau —eu harwyddion a'u harwyddocâd, eu dybenion a'u heffeithioldeb gyda boddhâd anarferol i'r gwrandawyr. Dangosai fod yr Arglwydd wedi dewis amrywio ei ordinhadau dan wahanol amgylchiadau yn ei eglwys. "Yr oedd yr ordinhadau cyn dyfodiad y Gwaredwr, gan mwyaf, yn waedlyd; megys yr enwaediad, yr oen pasc, &c.: ond dan oruchwyliaeth yr efengyl, y mae yr arwyddion yn fwy dysyml ac esmwyth, ac felly yn gweddu yn fwy o ran priodoldeb i'r amcan mawr sydd mewn golwg ynddynt. Dyma fel y mae bedydd, yr hwn sydd i barhau yn yr eglwys hyd ddiwedd amser. Y mae yn syml, yn esmwyth, yn eglur, ac yn hawdd." Dywedai, "Ni roddodd yr Arglwydd unrhyw addewid i'w bobl, mewn unrhyw oes, heb gadarnhau y cyfryw gyda rhyw sel benodol. Rhoddodd addewid i Noah, a sefydlodd y bwa fel sel i'w chadarnhau. Rhoddodd addewid i Abraham, ac i'w hâd ar ei ol; a rhoddodd yr enwaediad fel sel o'i ffyddlondeb i'w chadarnhau: 'Ac efe a gymmerth arwydd yr enwaediad yn insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad: fel y byddai efe yn dad pawb a gredent yn y dienwaediad; fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd ac yn dad yr enwaediad; nid i'r rhai o'r enwaediad yn unig, ond i'r sawl hefyd a gerddant lwybrau ffydd Abraham ein tad ni, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad." Felly, yn ngosodiad i fyny yr oruchwyliaeth newydd dan yr efengyl, trefnwyd bedydd yn arwydd yn insel o'i ffyddlondeb i gyflawnu ei addewid i'w bobl ac i'w plant. Gan fod y plant yn rhan o Israel Duw y pryd hwnw, pa fodd nad ydynt felly yn rhan o eglwys Dduw yn awr? Wedi cymmeryd y deyrnas oddi ar yr Iuddewon, am na ddygent ei ffrwythau—pan y torwyd y cangenau ymaith, ni symmudwyd y boncyff; a phan ddychweler hwy yn ol, eu himpio yn yr hen wreiddyn—yn eu holewydden eu hun—a wneir. Yr un yw yr eglwys, o ran ei dyben, yn awr a'r pryd hwnw. Gan fod y plant ynddi gynt, rhaid eu bod felly yn awr, oni ddarfu i Dduw ei hun eu tori ymaith. Atolwg, pwy a allai eu tori ymaith? Yn mha le y mae y bennod, pa le y mae yr adnod, lle y crybwyllir am eu diarddeliad? Pa le, mewn gorchymyn neu esampl, y mae yr awgrymiad lleiaf am y fath beth? Ni allwn ei ganfod. A hyd na ddangoser hyny i ni, ni allwn ryfygu eu hysbeilio o'u hawlfraint briodol yn yr eglwys yn awr, yn ol gosodiad Duw ei hun. Na, yn y gwrthwyneb yn hollol y mae; o blegid y mae yr apostolion, yn eu llythyrau, yn cyfeirio yn benodol at y plant oedd yn yr eglwys y pryd hwnw, pan oedd yn ei mabandod, megys morwyn bur i Grist." Cyfeiriodd yn rymus iawn hefyd at yr ymadroddion sydd yn dangos fod plant yn cael eu galw yn ddysgyblion gan Grist ei hun. Ystyriai ddadleu fod credinwyr yn ddeiliaid priodol o fedydd yn afreidiol, gan nad oedd neb yn ammheu nac yn gwadu hyny: ond y pwnc mewn dadl ydyw, A ydyw y plant i gael eu cau allan? Os ydynt, ar ba awdurdod? Soniai fel y mae yr apostol yn egluro fel y mae y wraig ddigred yn cael ei sancteiddio trwy y gŵr a fyddai yn credu, ac o ganlyniad, fod eu plant yn sanctaidd; ac felly, mewn hawl i'r breintiau mawr sydd yn yr efengyl.

Gwnaeth ei nodiadau yn dra manwl ar daenelliad, tywalltiad, &c., fel y dull priodol o weinyddu yr ordinhâd; a hyny gyda llawer o ddeheurwydd o ran ymresymiad a phrofion ysgrythyrol, gydag egluriadau ar ystyr y gair, a'i gyfatebiad i amryw fedyddiadau yr hen oruchwyliaeth, y rhai a weinyddid trwy daenelliad, fel moddion priodol glanhâd. "Taenellaf arnoch ddwfr glân, fel y byddoch lân," &c. Dangosodd ei fod yn berffaith gyfateb fel ffugri fedydd yr Ysbryd Glân, yn ol y darluniadau Ysgrythyrol: "Dychwelwch wrth fy ngherydd: wele mi a dywalltaf fy Ysbryd i chwi;" "Hyd oni thywallter yr Ysbryd o'r uchelder;" "Tywalltaf o'm Hysbryd ar bob cnawd;""Tywalltaf fy Ysbryd ar dy hâd, a'm bendish ar dy hiliogaeth," &c. Felly y mae yn cyfateb i'r hanes Ysgrythyrol yn amser yr apostolion; megys yr ymadroddion, "Efe a dywalltodd y peth yma a welwch ac a glywch chwi;" "Yr Ysbryd Glân, yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth," &c.; "Syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bob un oedd yn clywed y gair;" "Taenellu ar y llyfr a'r bobl oll," &c.; ac yn gyfatebiad priodol fel arwydd o lanhâd a phuredigaeth. Y mae yr arwydd a'r arwyddocâd yn sefyll yn eglur ar gyfer eu gilydd—"Geni o ddwfr ac o'r Ysbryd;" "Sancteiddio a glanhau â'r olchfa ddwfr drwy y gair;" "golchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân;" "glanhau ein calonau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein cyrff â dwfr glân," &c. "Y mae y dwfr, y dwfr glân, &c., yn golygu yr arwydd; a'r adenedigaeth, yr adnewyddiad, &c., yn golygu yr hyn a arwyddoceir. Y mae y naill yn golygu y cysgod, a'r llall yn dangos y sylwedd." Dangosai ei addasrwydd yn ei gydweddiad â dull esmwyth gweinidogaeth yr efengyl yn ei holl osodiadau; yr hawsder naturiaethol diberygl mewn gweinyddiad yn mhob gwlad, yn mhob hinsawdd, ar bob tymmor, ac yn mhob adeg. Dangosai fod ychydig o ddwfr mor briodol fel arwydd yn y bedydd ag ydyw ychydig o fara ac ychydig o win yn y swper sanctaidd; a bod y wyneb yn arwyddo y dyn, fel y dywedai yr apostol, "Mi a'i gwrthwynebais ef yn ei wyneb;" yr hyn a arwyddocäai ei wyddfod neu ei bresennoldeb. Rhedodd dros y cofnodion Ysgrythyrol am yr holl deuluoedd a'r personau a fedyddiwyd, o fedydd Ioan drwy holl fedyddiadau yr apostolion. Gwnaeth nodiadau beirniadol tra manwl ar y testynau ag y gwrthddadleuir yn eu cylch; megys, "Claddwyd ni gan hyny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth;" "Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig;" "y myned i waered i'r dwfr;" "y dyfod i fyny o'r dwfr," &c., gydag eglurhâd tra boddhaol i bawb oedd yn gwrandaw; a therfynodd ei sylwadau ar natur yr ordinhâd gydag appeliad dwys a difrifol iawn at y dorf ar ei thuedd ymarferol, fel cymhelliad i fywyd duwiol.

Wedi gwneyd cyfeiriad effeithiol iawn at y darluniad yn yr ordinhâd o aflendid cyffredinol dynoliaeth, ac`at yr arwydd eglur sydd ynddi o'r ffynnon ogoneddus a agorwyd ar Galfaria i bechod ac aflendid, sylwodd ar rwymedigaeth y bedyddiedig i rodio mewn newydd—deb buchedd, ac i ymgyflwyno i Grist. Cyfeiriai at rieni oedd wedi cyflwyno eu plant trwy fedydd i'r Arglwydd, am fod yn ffyddlawn i'w rhwymedigaeth bwysig a difrifol, i'w maethu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, gan ddysgu iddynt gadw pob peth ar a orchymynodd Crist iddynt, a'u dwyn i fyny fel dysgyblion cywir iddo ef. Rhoddodd y gwersi mwyaf gafaelgar i'r dorf yn gyffredinol; ac annogai bawb i ystyried y ddyledswydd oedd arnynt i rodio a boddloni Duw, trwy gydsynio â threfn yr iachawdwriaeth, a thrwy wneyd arddeliad o'u cred yn athrawiaeth a gwaith y Drindod, i enw yr hwn yr oeddynt wedi eu bedyddio, mewn proffes ffyddlawn i glod ei ras. Dywedai mai pan y deuai eglwys Dduw i fagu eu plant yn deilwng o'r rhwymedigaeth sydd arni, y darfyddai y dadleu a'r ymdaeru yn nghylch y plisgyn, a hyny yn fynych ar draul colli y cnewyllyn; a hyderai y byddai pawb oedd yno wedi eu cadarnhau yn y gwirionedd presennol, ac na byddent byth yn blantos, yn bwhwman, ac yn cael eu harwain o amgylch gan bob awel dysgeidiaeth, ac y byddent yn barod bob amser i ateb i'r neb a ofyno iddynt reswm am y gobaith oedd ganddynt! Aeth trwy holl drafodaeth y cwestiwn, yn ei amrywiol gangenau, mewn modd ag oedd yn cyflwyno perffaith foddlonrwydd i bob mynwes oedd yn y lle. Yr oedd ei holl ymadroddion fel hoelion yn cael eu sicrhau yn meddyliau y bobl oll.

Yna, cyflawnwyd gorchwylion y bedyddiad. Dywedodd wrth yr un mewn oedran, "Cyfod, bedyddier di," ac felly y cwblhawyd y gwaith arno. Yna, dygwyd y plant yn mlaen. Pan y cymmerai y cyntaf i'w freichiau, ymddangosai megys wrth ei fodd, â gwen siriol a syml ar ei wynebpryd, fel pe buasai yn nghanol mwynhâd o hyfrydwch a budd yn y gorchwyl difrifol. Derbyniai hwy gydag anwyldeb serchus iawn; tynai ei law dros eu dillad, i'w dangos yn brydferth a thrwsiadus, a hyny yn llawn mor fedrus a thyner a mammaeth. Adroddai eiriau y Gwaredwr, "Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch iddynt; canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nefoedd." "Os eiddynt yw y deyrnas—os rhyngodd bodd i'w Tad nefol roddi iddynt y deyrnas—pwy ydym ni i'w cau allan, neu i attal iddynt un o freintiau y deyrnas?—y deyrnas nad yw o'r byd hwn! Wedi eu bedyddio, gweddïodd drostynt yn afaelgar ac effeithiol iawn yna, rhoddodd bennill allan i'w ganu, o waith yr enwog Jones o Ddinbych; ac unodd yr holl dorf yn y mawl gyda'r teimladau mwyaf cynhes:

"Nol d'orchymyn, Arglwydd Iesu,
Gynt bedyddiwyd llawer teulu,
Am dy fod, o'th rinwedd didranc,
Yn glanhau yr hen a'r ieuanc."

Yn y swydd o fedyddio, yr oedd cryn wahaniaeth, ar ryw gyfrif, rhwng Elias a Paul. Nid oedd apostol mawr y Cenedloedd wedi bedyddio rhyw luaws mawr, o leiaf yn Corinth; ond yr oedd apostol mawr y Cymry wedi bedyddio miloedd, ïe, yn Môn yn unig, heb son am ranau ereill o'r Dywysogaeth, a llawer o drefydd Lloegr. Odid y gellir myned i gwm yn yr ynys heddyw na cheir clywed rhywun yn dywedyd, "John Elias a'm bedyddiodd i!"

Bu effeithiau dymunol iawn mewn canlyniad i'r anerchiad uchod; cafodd y dysgyblion ieuainc lonydd, i raddau, oddi wrth yr ymosod gan yr athrawon ereill. Cawsant eu hyfforddi yn yr Ysgrythyrau, a'u cadarnhau yn y gwirionedd, gan rodio yn addas i'r alwedigaeth eu galwyd iddi; "a chan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dechreu rhai yn Nghrist, aethant rhagddynt at berffeithrwydd; heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddi wrth weithredoedd meirwon, ac i ffydd tuag at Dduw, i athrawiaeth bedyddiadau, ac arddodiad dwylaw, ac adgyfodiad y meirw, a'r farn dragwyddol." A hyn a wnaethant, fel y caniataodd Duw.

Nodiadau

golygu