Ar y Groesffordd/Act II—Cegin Dic Betsi

Act I—Gweithdy'r Saer Ar y Groesffordd

gan Robert Griffith Berry

Act III—Study Tŷ'r Gweinidog

ACT II.
Cegin Dic Betsi'r Portsiar

[Mae'r gegin yn lân ond tlodaidd. Ar y mur gyferbyn â'r edrychwyr gwelir tri neu bedwar o luniau, almanaciau, elc. Ar y mur ar y chwith, uwchben y lle tân, gosoder drych bach, a photo o fam Nel Davies ar y mur ar y dde wrth ochr y drws a arwain i'r gegin. Saif y bwrdd heb fod nepell o'r lle tân gyda dwy neu dair o gadeiriau a dressar gyferbyn â'r edrychwyr. Cyfyd y llen ar Nel y tu ol i'r bwrdd yn golchi'r llestri ar ol pryd o fwyd, ac eistedd Dic Betsi, ei thad, wrth y drws yn cyweirio rhwyd bysgota yn llewys ei grys ac mewn trowsus corduroy, a chrafat o gylch ei wddf. Mae gwisg Nel yn debig i un Gipsy—yn drwsiadus a llawn lliwiau deniadol.]

NEL: Pryd byddwch chi'n ol heno?

DIC (yn sarrug): Does dim ods i ti pryd do i'n ol; mi ddo'n ol ar ol gorffen fy ngwaith. (Mae ennyd o ddistaiorwydd yn dilyn.)

NEL: Leiciech i mi gadw'r kettle ar yr hob erbyn i chi ddod?

DIC: Os bydd eisia rhywbeth arna i wedi dod yn ol, mi gei godi mechan i o dy wely i neud o; does gen ti ddim i neud yn y tŷ ma o fore tan nos ond troi dy fysedd a jantio drwy'r coed. Mi gei godi, my lady, i ddawnsio tendans arna i.

NEL: Fydd hynny ddim yn newydd i mi; rwyf wedi arfer codi bob awr o'r nos i'ch gillwng i'r tŷ.

DIC (yn fygythiol): Dim o glep dy dafod di ne mi gei glywed pwys y nwrn i ar dy wep.

NEL: Fydd hynny chwaith, fel mae gwaetha'r modd, ddim yn newydd i mi: fydd o ddim y tro cyntaf i'ch merch gael llygad du gyno chi.

DIC (cyfyd, o'i eistedd a cherdd yn araf ar draws y a chyfyd ei ddwrn): Mi roi'r ddau mewn mowrning iti'r tro yma, y gnawes styfnig.

NEL: Styfnig! Welwch chi, nhad, does waeth gen i heno am y dwrn yna. Rwyf wedi cadw tŷ i chi ers pan wyf yn cofio a hynny am ddim ond fy mwyd a rhyw dipyn o ddillad rhad. Chwynais i rioed am y driniaeth gefais gyno chi er fod y mywyd i'n galetach na bywyd y slaf isa. Fe'm troisoch dros y drws y noson o'r blaen. Ond marciwch hyn, os cyffyrddwch chi'ch llaw â fi heno, mi wnewch hynny am y tro ola'n eich bywyd.

DIC: Be nei di, sgwn i? Seuthi di fi neu roi di wenwyn yn y mwyd i? Hwyrach y dywedi di wrth y plisman?

NEL: Mae gen i un arf na ddefnyddiais i mohono eto, ond mi rhof o ar waith heno os bydd raid.

DIC (mewn peth ofn): Arf! Pa arf wyt ti'n gario?

NEL: Ewch yn ol i'ch cornel yn gynta ac hwyrach y cewch wybod wedyn.

DIC (ymeifl yn ei hysgwydd a chyfyd ei ddwrn i'w tharo): Y faeden sosi! Enwa'r arf sy gen ti'r funud ma ne mi gei weld miloedd o sers ar un trawiad. Mi ro un siawns iti a dim ond un. Ddeydi di?

NEL: Na wnaf. Does dim ofn y dwrn 'na arna i heno, a fu gen i rioed i ofn o.

DIC (gan ostwng ei ddwrn mewn math o edmygedd): Myn cebyst, mae mwy o frid ynot ti nag oeddwn yn feddwl.

NEL: Mae digon o frid yno i heno fel na chewch chi na neb arall ddim plygu f'ysbryd i.

DIC (gan droi a mynd i'w gornel at ei rwyd): Wyddwn i ddim tan heno mod i'n magu rhyw greadur mentrus fel ti.

NEL (gan fynd ymlaen ä'r llestri): Wel, mi wyddoch rwan; mae dysg o febyd hyd fedd. (Mae ennyd o ddistawrwydd yn dilyn.)

DIC: Wel, rwan, Nel, beth am yr arf na? Beth ydi o?

NEL (yn fwy siriol): Sgwn i ddylwn i ddeyd beth ydi o?

DIC: Mi ddaru't addo deyd os down i'r gornel ma.

NEL: Rwan, mae'r ffrwyn yn dyn ar y nhempar i, ac rwy'n berffaith bwyllog—rwy'n benderfynol o'ch gadael am byth os rhowch chi'ch llaw arni a eto. Mi fedraf ennill y nhamaid achos mi fedraf weithio wrth lwc, a gweithio'n galed.

DIC: Dyna'r arf ai ê?

NEL: le.

DIC: Dydi o ddim yn un perig iawn wedi'r cwbl.

NEL: Nag ydi ar un olwg—laddith o ddim cipar na hyd yn oed samon na phesant.

DIC: Laddith o ddim robin goch, mechan i, heb sôn am ddim math o gêm.

NEL: Dydw i'n cyfri dim yn eich golwg felly?

DIC: Dim o gwbl pan yr ei di'n groes i f'wyllys.

NEL: Ond dydi'ch wyllys chi ddim yn reit bob amser?

DIC: Mae'n reit y rhan amla a chofìa di hynny. Wel, estyn y gwn na i lawr oddiar y pared i mi, mae hi'n bryd i mi gychwyn.

NEL (estynna'r gwn a deil ef yn ei llaw gan edrych arno): Fyddwch chi'n cael arwyddion ambell dro, nhad?

DIC: Be wyt ti'n feddwl—cnwllau corff a phethau felly?

NEL: Na, nid petha felly'n hollol. Dyna fi rwan wrth dynnu'r gwn ma i lawr oddiar y pared, fe gredais mod i'n gweld rhyw oleu glas yn llithro ar hyd i faril.

DIC: Rwy'n dy ddeall i'r dim, mechan i; trio'm stopio i fynd allan at yr afon rwyt drwy godi ofn arna i.

NEL: Mi leiciwn fedru gneud hynny, ond cyn wired a mod i'n sefyll yn y fan yma mi welais fflach las yn llithro ar hyd y gwn yma o'r trigar at i ffroen o. Nhad bach! peidiwch mynd allan heno?

DIC (gan gydio yn itn pen i'r gwn a Nel yn dal gafael yn y pen arall): Rwyt ti yn un o dy strancia'n siwr ddigon heno. Cofia be ddeydais i am groesi f'wyllys. Gillwng d'afael!

NEL: Gwrandewch arnaf am unwaith, nhad. Peidiwch a mynd allan heno er fy mwyn i.

DIC (gan ei gwatwar): Peidiwch a mynd allan heno er fy mwyn i. Ydi bys Nel bach yn brifo? Gaiff dadi bach neis roi tws iddo? Dos o ngolwg i; rwyt bron wedi ngneud i'n sâl rhwng pobpeth. Be sy'n dy gorddi di heno, sgwn i? Rwyt fel ceiliog y gwynt—yn fy nyffeio rwan jest, y funud nesa yn gweld cannwyll corff yn rhedeg ar hyd baril y gwn yma, a dyma ti rwan yn mewian fel cath fanyw, (gan watwar) peidiwch mynd allan heno, nhad. Wyt ti'n clywed? Gillwng d'afael! (Tyn y gwn o'i llaw, ac wrth ei dynnu tery'n erbyn llun ei wraig y tu ol, a syrth hwnnw i lawr oddiar y pared.)

NEL (â'i dwylo i fyny): O nhad! dyna chi wedi taro mam i lawr, mae'i llun hi wedi disgyn. (Rhed at y llun a chyfyd ef gan graffu arno.) O mam! mi gês golled i'ch colli chi (cusanna'r llun.) Yn doedd gwyneb ffein ganddi, nhad?

DIC (edrych yn sarrug ar y llun): Oedd. (Yn symud i'r chwith.)

NEL: Rhyw bymtheg ar hugain oedd hi'n marw yntê, a finnau'n ddeg oed? Oedd hi'n debig i mi o ran pryd a gwedd?

DIC: Oedd am wn i, ond heriodd hi rioed mohono i fel ti, a doedd hi ddim yn gweld arwyddion fel ti; wn i ddim i bwy rwyt ti'n debig.

NEL (yn fyfyriol uwchben y llun): Sgwn i ymhle mae hi heno?

DIC: Mi wyddost yn gystal a finna i bod hi'n gorwedd ym mynwent y Llan.

NEL: Ydi hi i gyd yno, tybed?

DIC (yn ddyryslyd): Ydi hi i gyd yno! Be wyt ti'n feddwl?

NEL: Ydi hynny oedd o mam ym mhridd y fynwent ne ydi hi yma yn y gegin ambell dro?

DIC (mewn penpleth mawr): I hyspryd hi wyt ti'n feddwl? Welaist ti hyspryd hi rhywdro?

NEL: Na, nid hynny, ond mi wn o'r gore i bod hi yma ambell i noson ddistaw pan y bydda i yma ar ben fy hun.

DIC (braidd yn ofnus): Ia, ond welaist ti hi, Nel?

NEL: Na, welais i mohoni eto, ond rwy'n siwr mod i bron a'i gweld ambell waith; rwy'n i theimlo hi yn y gegin yma weithiau gyda'r hwyr pan y byddwch chi'n y coed.

DIC (yn bryderus): Oes i hofn hi arnat ti?

NEL: Ofn Mam! (cusanna'r llun.) 'Ch ofn chi, mam? Na, ryda ni'n ormod o ffrindia i fod ag ofn ein gilydd, yn tyda ni?

DIC (mewn ofn): Rwyt ti'n siarad yn union fel tae hi'n fyw rwan yn y gegin ma; yn tydi hi'n gorwedd yn ddigon llonydd yn mynwent y Llan.

NEL: Na, dydi mam ddim yno; mae na rywbeth yno, ond nid mam; mae mam yn fyw o hyd yn rhywle, wn i ddim ymhle, ond fe awn ar fy llw i bod hi weithiau yn y gegin ma. Nhad, peidiwch wir a mynd allan heno.

DIC (gan ffyrnigo): Rwyt ti fel sguthan yn sgrechian yr un peth o hyd. Wyt ti wedi troi'n dduwiol, dywed, fel pobl y capel—yn rhy dduwiol i niodde i ddal samons hefo rhwyd yn y nos?

NEL: Nac ydw i, nen tad, ac eto i gyd rwyn teimlo weithia mai nid chi bia'r samons.

DIC: Pwy pia nhw ynte? Pwy nath y samons sydd yn yr afon?

NEL (yn chwareus): Wel, nid Dic Betsi gnath nhw beth bynnag, er mae fo sy'n dal y rhan fwya o honyn nhw.

DIC: Ia, ond mae'r afon, a'r awyr, a'r coed yn rhydd i bob dyn byw bedyddiol, ne mi ddylent fod.

NEL: Dyda chi a Mr. Blackwell y Plas ddim o'r unfarn ar y mater yna; mae o'n talu cyflog i gipar ne ddau i'ch watsio chi a'ch tebyg.

DIC: Pa hawl sy ganddo fo i hawlio holl greaduriaid y coed a'r afon? Mi rydw i'n perthyn o bell i'r corgi sgwar er na fyn o ddim arddel y berthynas, a dydw inna rioed wedi arddel y berthynas, a wna i byth. Mi rydw i gymaint gŵr bonheddig ag yntau, y lordyn boldew.

NEL: Ydach wrth gwrs, os ydi byw ar gêm yn farc o ŵr bynheddig. Ond unwaith eto, rwyf am i chi aros yma heno os gnewch chi.

DIC: Dos i Jerico, rhen frân ffôl, a phaid a chrawcian ddim yn rhagor. (Gwisg ei gap i gychwyn allan.)

NEL (neidia at y drws gyda llun ei mam yn ei llaw i geisio ei atal): Er mwyn mam peidiwch mynd heno; fe syrthiodd ei llun oddiar y pared nawr jest, a choeliwch fi, arwydd fod rhywbeth drwg ar ddigwydd ydi hynny, a digwydd heno hwyrach.

DIC (gan ei hyrddio oddiwrth y drws): Dos i dy grogi, rhen ddyllhuan y felltith! (Cleciar drws ar ei ol, ac eisteddedd NEL yn benisel gan edrych ar y llun; gesyd ef yn y man yn ei le ar y pared. Ar hynny daw curo ar y drws, sych hithau ei dagrau â'i ffedog, ac egyr y drws.)

MR. HARRIS (ar y trothwy): Esgusodwch fi, ai yma mae Mr. Richard Davis yn byw?

NEL (mewn ffug-betruster): Mr. Richard Davis, Mr. Richard Davis. 'Ruwd annwyl dad, ai holi am Dic Betsi yr ydach chi. Mr. Richard Davis! Beth nesa tybed? Mi fydd Dic Betsi wedi mynd yn scweiar mewn chwinciad. Ia, yma mae Richard Davis, escweiar, yn byw, a fi (gan bwyntio ati ei hun) yw ei ferch, Lady Nel, sy'n golchi'r llawr ac yn berwi'r uwd iddo fo. Dowch i mewn i'r sittin room.

MR. HARRIS (gan ddod i mewn): Ydi'ch tad i mewn rwan sgwelwch chi'n dda?

NEL: Nad ydi, mae o newydd fynd am dro ar ol swper rownd i stad; mi fydd yn mynd ddwywaith neu dair yr wsnos rhag ofn fod rhyw gnafon drwg o'r capel na yn seuthu'r gêm sy yn i barc o tu cefn i'r plas ma. Ond rydw i, Lady Nel, yr etifeddes, yn digwydd bod i mewn. Rhowch eich het i mi. (Try'r het yn ei llaw.) O'r annwyl, dyma het ddigri, mae hi'n feddal fel pwdin. (Gw'isg hi ar ei phen a dring i ben y gadair i gael golwg arni ei hun yn y drych uwchben y tân.) Lady Nel mewn het ciwrat! Chi ydi ciwrat capel Seilo?

MR. HARRIS: Wel, na, nid ciwrat ydi'r enw cywir: ciwrat eglwys ddywedwn ni yntê? Fi ydi gweinidog newydd capel Seilo, Miss Davis.

NEL (ar y gadair): Lady Nel Davis sgwelwch chi'n dda; dropiwch y gair 'Miss' yna, achos mae o'n nhagu i bob tro y clywaf o.

MR. HARRIS: Dod yma gan ddisgwyl gweld eich tad yr oeddwn i heno—.

NEL: Dear mi! Dyna fel bydd gweinidog yn siarad, ai ê? (Gan watwar.) Disgwyl gweld eich tad yr oeddwn i heno, achos dyda chi, ei ferch, ddim yn werth i'w gweld.

MR. HARRIS (yn swil): Ddwedais i mo hynny; roeddwn am eich gweld chi yn gystal a'ch tad.

NEL: Dyna well dipyn y tro yna, Mr. —, be ydi'ch enw chi, deudwch?

MR. HARRIS: Eifion Harris.

NEL: Gan na fum i rioed o'r blaen yn siarad â chiwrat na gweinidog, wn i ddim yn iawn sut i'ch cyfarch chi; sut mae'ch cyfarch—Mr. Harris, Mr. Eifion Harris, neu'r Parch. Eifion Harris?

MR. HARRIS: Fe wnaiff un ohonynt y tro—Mr. Harris os mynnwch chi.

NEL: Fel y mynnoch chi, Mr. Harris, achos does gen i mo'r gwrthwynebiad lleia i'ch galw'n Eifion, neu—o'r annwyl dad! mae gen i enw dan gamp arnoch, Ivy! Mae o fel enw merch byddigiwns.

MR. HARRIS (yn ddig): Fe drois yma heno fel cymydog newydd, a doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy ngwawdio gynno chi, Miss Davis.

NEL (gan ysgwyd ei bys arno): Dyna'r hen air meddal na eto; galwch fi'n Nel Davis, a pheidiwch a meddwl mod i'n gwawdio. Rhaid i chi gofio mai dyma'r tro cyntaf rioed i mi fod yn siarad â gweinidog, a rhaid cropian cyn cerdded, wyddoch. Dydach chi ddim yn ddig iawn, ydach chi?

MR. HARRIS: Na, na, dim o gwbl, ond mi leiciwn wybod ymhle mae'ch tad

NEL (saif o hyd ar y gadair ac etyb mewn ffug ddistawrwydd, a'i llaw ar ei genau): Portsio samons mae o, ond peidiwch a deyd wrth y cipar.

MR. HARRIS (yn ddifrifol): Wel, yn wir, mae'n ddrwg gen i glywed. Ydach chi ddim yn teimlo ei fod yn gneud drwg, Nel Davis?

NEL (yn ddiniwed): Gneud drwg! Drwg i bwy? I'r samons?

MR. HARRIS: Mi wyddoch chi'n well na hynny; mi wyddoch nad ydi portsio ddim yn iawn, yn tydi o cynddrwg a—(gan betruso).

NEL: Cynddrwg a pheth? Ewch ymlaen.

MR. HARRIS: Wel i fod yn blaen a gonest, cynddrwg a lladrad.

NEL (neidia i lawr o'r gadair a wyneba ef yn ddigllon; gan dynnu'r het oddiar ei phen): Ydach chi'n meiddio galw nhad yn lleidr? Ddaethoch chi yma heno i'n galw ni'n lladron?

MR. HARRIS: Na, na! rhoswch funud; peidiwch digio na chamesbonio pethau. Mi wyddoch gystal a finnau nad ydi portsio ddim yn cael ei styried yn beth parchus. Deydwch yn onest, ydach chi'n leicio gweld eich tad yn mynd allan hefo'i wn neu'i rwyd bob awr o'r nos?

NEL (gan betruso): Wel, a deyd y gwir, nac ydw.

MR. HARRIS (yn siriol): Dyna fo'n union, mi wyddwn hynny, ac wrth gwrs y rheswm am hynny ydi—

NEL: Mae gen i ofn bob tro y seuthith y cipar o; ofn i weld o'n dod yn gorff i'r tŷ.

MR. HARRIS: Chreda i mohonoch; nid dyna ydi'ch ofn; yng ngwaelod eich calon fe wyddoch nad ydi o ddim yn gneud yn iawn. Ond mi rydw i'n anghofio'm neges. Dod yma wnes i i'ch gwâdd chi a'ch tad i'r capel rai o'r Suliau nesa. Fyddwch chi ddim yn mynd i unrhyw le o addoliad, fyddwch chi?

NEL: Mi fyddaf yn mynd i ganol y coed neu i lan yr afon ambell i bnawn Sul i glywed yr adar yn canu ac i wrando ar sŵn yr afon ar ben fy hun.

MR. HARRIS: Ia, ond fyddwch chi ddim yn addoli yno?

NEL (yn fyfyriol): Addoli! Beth ydi addoli? Rhy wbeth tebig i hiraeth ydi o, yntê? Mi glywsoch y delyn yn canu wrth gwrs; bob tro y clywa i hi, mae arna i eisio crio ac eisio dawnsio run pryd. Wn i ddim ffordd i ddeyd sut bydda i'n teimlo wrth glywed y delyn, ond mi wn fod sŵn y coed a sŵn yr afon yn gneud yr un peth i mi'n union; mi fedrwn grio a dawnsio run anadl. Rhywbeth fel yna ydi addoli, yntê? Dyn yn teimlo'n rhy sad i fod yn hollol lawen ac yn rhy llawen i fod yn hollol sad— rhywbeth fel yna ydi addoli, yntê?

MR. HARRIS (tyn ei law yn ystyriol dros ei wyneb): Wn inna ddim yn iawn chwaith, ond mi goelia i fod rhyn ddwedsoch chi rwan yn rhyw fath o addoli hefyd.

NEL: Glywsoch chi afon yn siarad a chi? Glywsoch chi'r coed yn deyd rhywbeth rhyw dro?

MR. HARRIS (ynsyn): Naddo'n sicr; glywsoch chi?

NEL: Do, lawer gwaith.

MR. HARRIS: Beth fydd yr afon a'r coed yn ei ddeyd wrthych chi?

NEL: Deyd y bydda nhw weithia mod i'n siwr o farw, ac na fydd dim colled ar f'ol. Dro arall mae nhw'n deyd fod mam yn fyw yn rhywle, er fod i bedd hi yn y Llan.

MR. HARRIS: Fyddanhw'n deyd rhywbeth arall?

NEL: Ar ol i chi fynd adre, hwyrach yr af allan am dro drwy'r ardd, ac mi fydd y nos a'r coed a'r afon yn dwrdio'n enbyd am i mi golli nhempar efo nhad jest cyn i chi ddod i mewn.

MR. HARRIS: Gollsoch chi'ch tempar?

NEL: Do, mi collais o heno'n ddrwg, ac mi gês y drafferth fwya gês i rioed i gadw rhag cydio mewn rhywbeth pan oedd nhad yn mynd i nharo i.

MR. HARRIS: Gwarchod ni! fydd o ddim yn eich taro, fydd o?

NEL: Bydd, mi roi'th lygad du i mi weithia.

MR. HARRIS (yn ddigllon): Yr hen lwfrgi sâl!

NEL (yn brochi): Helo, pwy roddodd hawl i chi i alw nhad yn enwau drwg? Nhad i ydi o, ac mae ganddo hawl i roi clustan i mi os leicith o heb ofyn caniatâd neb.

MR. HARRIS (yn danllyd): Nac oes, a phe gwelwn i o'n gneud hynny mi—ond waeth tewi. Unwaith eto, ddowch chi i'r capel efo'ch tad ne wrthych eich hunan rai o'r Suliau nesa ma?

NEL (gan chwerthin): Dic Betsi a'i ferch Nel yn mynd i'r capel! Mi edrychai pobl Seilo arnom fel pe bai cyrn ar ein pennau. (Gwel galch ar got Mr. Harris.) Rhoswch funud mae na smotyn gwyn o galch ar y got ma. (Cais ei frwsio â'i llaw ond metha.) Tynnwch y got ma oddiam danoch am funud ac mi brwsiaf hi mewn chwinciad ar y bwrdd ma.

MR. HARRIS (tyn ei got): Raid i chi ddim trafferthu chwaith.

NEL (gan ei brwsio ar y bwrdd): Coblyn o beth ydi du, yntê, am ddal pob math o lwch? Wn i ddim pam mae neb yn gwisgo du, ac yn enwedig bregethwrs, achos lliw mowrning ydi o. Ddaru chi sylwi y lliw mowrning yn y coed ydi cochddu a melyn, byth ddu; mynd i'w cochddu a'u melyn y mae'r coed wrth farw, ond rhowch liwiau coch a glas a gwyrdd a gwyn i mi, mi fydda'n teimlo mod i'n fyw yn rheiny; mi faswn yn mynd dros fy mhen i'r felancoli pe gwisgwn ddu. (Deil y got yn ei llaw.) Diain i, mi leiciwn drio cot laes fel hon am dana. (Rhydd hi am dani a'r het feddal ar ei phen, ac â ymlaen ar draws y llawr dan 'swagro' i ben y gadair i weld ei hun yn y drych ar y pared.) Sut rydw i'n edrach? Tybed na wnawn i bregethwr ne giwrat ar binsh?

MR. HARRIS (yn anesmwyth iawn): Ryda chi'n edrach yn grand—fel mellten oleu mewn ffram ddu. Ond r'annwyl fawr, gadewch i mi gwisgo nhw, mae gen i ofn bob munud clywed rhywun yn dod at y drws.

DIC (egyr y drws a saif mewn syndod ar y trothwy): Be felltith ydi rhyw gamocs fel hyn? Be ydi'r antarliwd sy'n mynd ymlaen yma? Nel, wyt ti wedi mynd yn hollol o dy sense? Pwy gebyst ydi'r dyn ma sy'n llewys ei grys?

NEL (yn chwareus): Dyma Mr. Eifìon Harris, gweinidog newydd Seilo; dyma nhad, Mr. Richard Davis, yr oeddech yn holi am dano.

DIC: Dim o dy lol a dy giapars di yn y tŷ ma hefo dy Fistar Richard Davis ne mi dorra d'esgryn di. (Rhuthra ati.) Tyn y tacla na oddiam danat mewn dau funud. (Tyn Nel hwy gan eu rhoi i'w thad; yntau'n eu hyrddio'n ddirmygus at y gweinidog.) Rhowch rhein am danoch mewn amrantiad a dacw'r drws, ac os nad ewch trwyddo cyn i mi gyfri tri, mi'ch dyrnaf chi drwyddo.

MR. HARRIS (gan roi ei got am dano'n bwyllog): Peidiwch a dechreu cyfri tri, ne mi welwch mai dyna'r tri mwya costus ddaru chi rioed gyfri. (Gwel Dic yn nesu'n fygythiol, a saif y Gweinidog heb symud.) Gwell i chi sefyll draw; mae gen i nerth tri chipar yn y mreichiau. Rhowch eich llaw yn agos ataf, Richard Davis, ne beth bynnag ydi'ch enw, ac mi fydd un portsiar yn llai yn yr ardal ma am fisoedd mi gymraf fy llw ar hynny.

NEL (gan ddod rhyngddynt): Nhad, arna i roedd y bai i gyd, ac yn wir mae'n ddrwg gen i, Mr. Harris. Dod yma ddaru o, nhad, i'ch gwâdd chi a finna i'r capel. Nath dim person na gweinidog gymaint a hynny i ni o'r blaen; a fi nath iddo dynnu ei got i mi gael brwsio'r calch oddiarni, ac mewn smaldod mi rhois hi am danaf.

DIC: Yr hen ffŵl ddi-ben yn chware dy gastia o hyd. Be ddeydodd hi oedd eich enw chi?

MR. HARRIS: Eifion Harris.

DIC: Ga i deimlo bôn eich braich?

MR. HARRIS (dan wenu): Cewch neno'r dyn os leiciech chi neud hynny.

DIC (dyry ei ddwylo ar ewynnau'i fraich): Tawn i byth yn symud, ma nhw mor dyn a chroen drwm a chyn gleted a chwipcord. (Yn gollwng ei fraich.) Mae dyn hefo braich fel yna'n rhy dda i bwlpud. Nos dawch, syr.

MR. HARRIS: Mi ddeyda'm neges cyn mynd: dod yma wnes i ofyn i chi ddod i'r capel, Richard Davis, rai o'r Suliau ma.

DIC: Na prin: ond pe delswn o gwbl, mi ddelswn i wrando ar ddyn a braich fel chi, ond ddo i ddim.

MR. HARRIS: Gadewch i'ch merch ddod ynte. (Wrth droi i fynd allan gwel lun y fam ar y pared.) Llun pwy yw hon? Mae ma rhyw debygrwydd rhyngddi â'ch merch.

DIC: Dyna lun ei mam. Nos dawch.

MR. HARRIS: Nos dawch i chi'ch dau. (Exit.) (Ennyd o ddistawrwydd.)

NEL: Pam ddaethoch chi'n ol mor fuan heno?

DIC: Wn i ddim; ond mi fuost yn cyboli cymaint â'r llun yna nes y ngneud i'n anesmwyth braidd. Tawn i'n llwgu'r funud ma, wn i ddim o ble y doist ti hefo dy sbrydion a dy freuddwydion a dy godl.

ANEL (teifl gusan at litn ci mam): Mam! dyna'r goncwest gynta; mi ddaw'r ail hwyrach ymhen tipyn.

LLEN