Ar y Groesffordd/Act III—Study Tŷ'r Gweinidog
← Act II—Cegin Dic Betsi | Ar y Groesffordd gan Robert Griffith Berry |
Act IV—Gweithdy'r Saer → |
ACT III
Study Tŷ'r Gweinidog
[Ar ran o'r mur sy gyferbyn â'r edrychwyr saif silffoedd o lyfrau a bwrdd yn llawn o bapurau a llyfrau wrth eu hochr. Ychydig i'r chwith i gyfeiriad ffrynt y llwyfan mae bwrdd bychan a llestr o flodeu arno. Gosoder soffa wrth y mur ar y chwith, a thair neu bedair o gadeiriau esmwyth yma ac acw drwy'r ystafell. Mae drws ar y dde yn agor i'r passage sy'n arwain allan i'r heol, a drws arall ar y chwith yn arwain i'r gegin sydd y tucefn i'r study. Cyfyd y llen ar y Gweinidog yn eistedd wrth y bwrdd llyfrau â'i gefn at y gynulleidfa, yn brysur gyda'i bregeth, a'i chwaer Margaret wrth y bwrdd blodeu yn eu trefnu yn y llestr. Wrth ei hymyl ar lawr gwelir "Concordance."]
MR. HARRIS: Un waith eto, Mag bach, ac wedyn mi gei lonydd am wsnos. Chwilia am y gair llongddrylliad; yn un o epistolau Paul mae o rydw i'n credu.
MARGED (chwilia'r "Concordance ") Llong- ddrylliad am y ffydd "—a'i hwnna sy gen ti eisio?
MR. HARRIS: Dyna'r very peth: dyna bictiwr crand sydd yn y geiriau yntê? Wyt ti'n cofio nhad yn dod i'r tŷ un noson pan oeddym yn blant, yn byw ar lan môr Eifionydd, i ddweyd fod llong allan yn y môr ar y creigiau?
MARGED: Ydw o'r gore, a noson enbyd oedd hi,—y gwynt yn rhuo'n drwm, a'r môr a'r tonnau'n taflu bron i stryd y pentre.
MR. HARRIS: A phawb yn y pentre'n hen ac ifanc allan yn edrych ar oleuadau'r llong yn siglo'n y pellter. "Llongddrylliad am y ffydd "—rwyt yn gweld y pictiwr sydd yn y geiriau, yn dwyt ti, Mag? Dyn da fel llong fawr dri-mast yn mynd yn ddarnau ar greigiau temtasiynau'r byd.
MARGED: Wyt ti'n meddwl, Eifion, fod yn bosib i ddyn da fynd yn ddrylliau fel yna cyn marw? Dydw i ddim yn leicio meddwl y gall dyn da droi yn ddyn drwg a marw allan ar y creigiau.
MR. HARRIS: Mag bach, mae na lu mawr wedi gneud hynny cyn hyn, ac ambell i bregethwr mawr yn eu mysg.
MARGED: Pregethwyr mawr efallai, ond oedde nhw'n ddynion da?
MR. HARRIS: Pwy sydd i farnu? I bob golwg roedde nhw'n ddynion da, ac yn gneud gwaith da, a phawb yn credu ynddyn nhw.
MARGED (chwery ar blodeu): Dda gen i ddim meddwl fod yn bosib i bregethwr sy'n ddyn da fynd yn "wreck."
MR. HARRIS: Rhaid cyfadde mai hen syniad annymunol ydi o. (Mae'n ystwyrio fel dyn wedi blino.) Rwyn mynd yn stiff wrth y bwrdd ma; estyn y "dumb-bells " na i mi, Mag, i stwytho dipyn ar y nghymalau. (Estynnir hwy iddo, a defnyddia yntau hwy ar ganol y llawr.)
MARGED (ymhen ysbaid): Fydd ofn syrthio o'r pulpud arnat ti weithiau, Eifion?
MR. HARRIS (rhydd y "dumb-bells" ar y bwrdd blodeu ac eistedda'n ymyl ei chwaer): Mag, mae rhywbeth o'i le arnat ti heno; rwyn teimlo fel pa baet yn siarad am y pared â fi, a ninnau'n dau wedi bod y fath ffrindiau er yn blant adref. Beth yw'r mater, Mag bach?
MARGED: Dim, hyd y gwn i.
MR. HARRIS: Oes, mae rhywbeth, a chyn i'r pared fynd yn beth mwy, dywed yn blaen, be sydd wedi codi rhyngom ni'n dau?
MARGED (yn benisel): Os dymunet ti wybod y gwir, Nel Davis, merch y portsiar, sy rhyngom ni.
MR. HARRIS (yn codi gan fyned i'r dde): O, dyna fel mae'r awel yn chwythau, ai ê?
MARGED: Mae'r peth yn fwy nag awel, mae'n wynt cryf sy'n chwythu drwy'r ardal.
MR. HARRIS: Be ŵyr yr ardal am y peth?
MARGED: Fe ŵyr pawb drwy'r lle fod yr eneth wyllt na, Nel Davis, wedi dy ffoli'n deg, ac mae pawb yn methu deall be sydd wedi dod dros dy ben a thithau'n y swydd bwysig o weinidog Seilo.
MR. HARRIS: Meindied yr ardal ei busnes ei hun; does a fynno hi a fy materion personol i.
MARGED: Dyna lle rwyt yn camgymeryd; does gen ti fel gweinidog Seilo ddim materion personol, mae nhw'n faterion i bawb am dy fod yn weinidog yr Efengyl.
MR. HARRIS: Hynny ydi, fe ddylwn gael barn ffafriol yr eglwys ar y ferch brioda i?
MARGED: Mi wyddost gystal a neb y dylai'r ferch briodi di fod yn weddol gymwys o leiaf i lenwi cylch gwraig gweinidog.
MR. HARRIS: Ac wrth gwrs mae Nel Davis yn anobeithiol ym marn yr ardal, ydi hi?
MARGED: Onibae fod yr eneth na wedi dy witsio—witsio ydi'r gair gore am y peth—fe welest tithau nad ydi hi ddim yn ffit i fod yn wraig gweinidog; dyna fel mae pawb yn siarad sy'n gwybod am dani. Wn i ddim am dani a does gen i byth eisiau gwybod am dani.
MR. HARRIS (yn brudd): O Mag, Mag! dyna'r gair garwa glywais i di rioed yn ei ddeyd.
MARGED: Wel, mae'n ddrwg gen i fod wedi dy frifo di, achos brawd da fuost i mi, ond (yn benisel) fum innau yn ddim chwaer wael i tithau chwaith, ac mae'n iawn i mi gael gwybod wyt ti o ddifri hefo'r eneth yna.
MR. HARRIS: Rwyn ei charu o ddifri calon, a chyn belled ag y gwelaf mae hithau'n fy ngharu innau.
MARGED: Eifion bach, wyddost ti beth fydd y canlyniadau o'i phriodi hi? Wyt ti wedi bwrw'r draul? Gad i mi neud y bil i ti. Yn gyntaf i gyd, fe fydda i'n pacio mhethau a d'adael. (Yn brudd.) Ond hwyrach nad ydi hynny yn cyfri fawr yn d'olwg di heddiw ar ol i'r eneth ma groesi dy lwybr.
MR. HARRIS (â'i law am ei gwddf): Mag, paid a siarad yn chwerw fel yna, achos mi wyddost nad oes dim brawd yn y byd yn fwy hoff o'i chwaer nag ydw i ohonot ti.
MARGED: O, Eifion, ddylswn i ddim fod wedi deyd y gair câs na, ond anghofia fi am funud, mae na bethau pwysicach na fi yn y bil os priodi di Nel Davis. Wyt ti wedi meddwl o gwbl dy fod y dyddiau yma ar groesffordd, a dau lwybr—a dim ond dau—yn agor o dy flaen?
MR. HARRIS: Dos ymlaen, rwy'n gwrando'n astud.
MARGED: Un llwybr ydi Nel Davis, merch y portsiar; y llwybr arall ydi'r eglwys, yr eglwys y cefaist ti a finnau'n magu ynddi er yn blant, yr eglwys y bu'n tad a'n mam a'n teulu o hil gerdd yn aelodau ffyddlon ohoni. Prun o'r ddau llwybr ddewisi di?
MR. HARRIS (cyfyd a rhodia'n benisel yn ol a blaen): Rwyn methu gweld mod i wedi dod i groesffordd mor lom a honna.
MARGED: Cred fi, dyna'r groesffordd rwyt ti arni heddiw—Nel, merch Dic Betsi, neu'r eglwys Gristnogol. Os Nel ddewisi di, mi fydd ar ben arnat am byth fel gweinidog yr efengyl, nid yn unig yma'n Seilo ond ymhobman arall (â'i phen i lawr). Ac mi wyddost fel roedd nhad a mam wedi rhoi eu bryd ar i ti fod yn weinidog yr efengyl: roedd yn well ganddyn nhw dy weld yn fachgen tlawd yn y pwlpud nag yn y swydd fwya enillgar yn y wlad, a dyma ti ar fin gneud llongddrylliad o dy ffydd.
MR. HARRIS (gan gyffroi): Llongddrylliad o'm ffydd! Pwy sy'n deyd hynny? Pe priodwn i Nel yfory, fyddai hynny ddim yn llongddrylliad o'm ffydd.
MARGED: Mi fydd llawn cynddrwg a hynny, achos pa eglwys ar wyneb daear all odde'r syniad o gael y fath eneth yn wraig i'w gweinidog; geneth na fu rioed yn twllu drws y capel nac eglwys, geneth sydd wedi tyfu'n wyllt fel petrisen y mynydd, heb wybod y gwahaniaeth sy rhwng da a drwg, geneth sy'n llawn o ofergoelion ac arferion teulu'r sipsiwn. O, Eifion bach, rwyt ti'n mynd ar dy ben i lawr y clogwyn—Nel Davis yn wraig gweinidog, a Dic Betsi'r portsiar yn dad-yng-nghyfraith i ti; wyt ti wedi bwrw'r draul?
MR. HARRIS: Mae cymeriad moesol Nel gyda'r gore yn y wlad; does dim blotyn ar ei charitor. Mae'n wir ei bod yn wahanol i bawb arall mewn rhai pethau, ond mae hi cyn bured a grug y mynydd.
MARGED: Rwyn meddwl digon o honot i gredu i bod hi mor bur a finnau, ond—grug y mynydd! Ddaw grug y mynydd byth yn flodyn gardd tŷ gweinidog, a beth am Dic Betsi? Wyt ti am blannu'r sgallen hefyd yn d'ardd? Waeth i ti hynny na rhagor, rwyt ti ar y groesffordd rhwng Nel Davis a'r eglwys.
MR. HARRIS: Rwyn deyd unwaith eto, os ar y groesffordd yr ydw i, nid Nel a'r eglwys yw'r ddau lwybr sy'n agor o mlaen, ond Nel a rhagfarn yr eglwys yn erbyn Nel; Nel a phobl nad ynt erioed wedi cynnig deall Nel.
MARGED: Nel Davis fydd dy ddewis felly?
MR. HARRIS: Wel, os dyna'r groesffordd, os rhwng Nel a rhagfarn yr eglwys rwyn sefyll, mi ddewisaf Nel.
MARGED (cyfyd i gau'r "Concordance" a'r Beibl): Dyma fi'n cau'r Beibl a'r Concordance iti; fydd dim rhagor o eisiau rhain arnat; dyma ddiwedd ar dy got ddu a'th gadach gwyn a dy bregethu.
MR. HARRIS: Nage! Mi bregethaf heb got na chadach gwyn os bydd rhaid yn y prif-ffyrdd a'r caeau. (Clywir curo trwm ar ddrws y ffrynt ac â Mr. Harris allan i'r passage a daw a Nel Davis i mewn. Ymddengys Nel fel pe mewn ing mud.) Dwedwch rywbeth, Nel: mae'ch golwg chi'n nychryn i, Mi wyddoch mai fy chwaer yw hon, raid i chi ddim ofni siarad.
NEL (yn araf a syn): Mae na bedwar o ddynion yn cario nhad o goed y Plas.
MR. HARRIS: Oes rhywbeth wedi digwydd?
NEL: Wn i ddim! Wn i ddim! O! fedra i ddim crio. Dic Betsi! Mae arna'i ofn y bydd o farw ar y ffordd cyn cyrraedd adre.
DOCTOR HUWS (daw i mewn heb guro o'r dde): Rwyn dod i mewn yn ddiseremoni iawn, Mr. Harris, ond Dic Betsi—.
MR. HARRIS (gan gyfeirio'i sylw at Nel): Dyma Nel Davis, Doctor; y funud ma roedd hi'n dod i mewn i ddeyd am y digwyddiad.
DOCTOR: Rwyn gofyn cymwynas go fawr gennych, Mr. Harris—gawn ni ddod a Richard Davis i mewn i'r gegin neu rywle; mae pob munud yn werthfawr.
NEL (ar ei gliniau o flaen y Doctor): Oes rhyw lygedyn o obaith?
DOCTOR: Dowch chi, ngeneth i, mi wnawn ein gore rhyngom; peidiwch mollwng rwan. Gawn ni ddod a fo yma, Mr. Harris?
MR. HARRIS: Cewch wrth gwrs; fe awn allan ein dau i gyfarfod a nhw. Mag bach, gofala am Nel Davis, mi fyddwn yn ol rwan jest. (A Mr. Harris a'r Doctor allan i'r dde.)
MARGED (gan blygu i lawr at Nel sydd o hyd ar ei gliniau): Ga i ddod a diferyn o ddŵr neu rywbeth i chi? (Ysgwyd Nel ei phen yn drist.) Peidiwch mollwng rwan, hwyrach nad ydi'ch tad ddim wedi ei nafyd mor ddrwg wedi'r cwbl. Ga i'ch helpu i godi? Mi fyddwch yn smwythach ar y soffa.
NEL: Fydda i byth eto'n esmwyth os ydi nhad —. Ar eu gliniau y bydd pobol yn gweddio am bethau yntê?
MARGED: Mi fyddwch yn gweddio weithiau?
NEL: Gweddio? Na fydda i. Dysgodd mam i mi ddeyd y mhader, ond ar ol iddi farw ddeydais i mohono byth wedyn. Atebith o ddiben i mi ddeyd y mhader rwan? Rwyn meddwl mod i'n i gofio fo.
MARGED: Ie, deudwch o rwan, mi fydd yn siwr o fod yn help i chi.
NEL: " Ein Tad "—ydi O'n Dad i Dic Betsi? Mi wn i fod O'n Dad i mam, achos roedd hi'n arfer siarad a Fo bob nos a bore. Ond hwyrach nad ydi O ddim yn ffrindie hefo nhad am i fod o'n bortsiar. (Cyfyd ar ei thraed yn gyffrous.) Glywch chi sŵn traed?
MARGED (ar ol gwrando): Na, chi'n sy'n dychmygu.
NEL (ai dwylo ar ei hwyneb): O, na fedrwn i grio; mae na ryw ddistawrwydd yn y mhen i fel pe bae rhywbeth ar dorri o'i fewn.
MARGED: Steddwch ar y soffa ma, mi ddowch. yn well yn y munud.
NEL (gan eistedd): Mae sŵn cerdded araf y pedwar dyn na ar y nghlust i. (Cyfyd yn sydyn.) Rwyn mynd allan i'w cyfarfod.
MARGED (yn erfyniol): Na wir, peidiwch a mynd. Mi fydd Eifion yn ol rwan jest. Ymhle roedd eich tad pan ddigwyddodd hyn?
NEL: Fe aeth allan ar ol tê i bortsio.
MARGED: O! 'r tad annwyl, dyna beth difrifol!
NEL: Be sy'n ddifrifol?
MARGED: Wel, meddwl fod hyn wedi digwydd ac yntau'n—(petrusa).
NEL (ymeifl yn ei braich): Nid amser i ddeyd y drefn am bortsio ydi hi rwan; mae nhad wedi frifo, mae gwaed Dic Betsi'n diferu ar hyd y ffordd.
MARGED: Ydi, mi wn, ond—
NEL: Y nefoedd fawr! Welwch chi ddim mai nhad sy wedi frifo; nid y portsiar ydi o i mi rwan, ond nhad, ac os colla'i nhad, mi golla'r cwbl sy gen i. (Clywir swn traed cludwyr Dic-Betsi yn dod i mewn drwy'r passage ac yn mynd heibio drws y study i'r gegin y tu ol.) Dyna nhw'n cario'i gorff o i mewn. Mae rhywbeth yn deyd wrtho i fod popeth ar ben heno. o nhad bach! (Yn ffyrnig gan gau ei dwrn.) Os y cipar seuthodd o, gobeithio y daw barn ar ben y llofrudd!
MARGED (dan gilio'n ol oddiwrthi'n frawychus): Rhag cwilidd i chi'r eneth annuwiol, rydach chi'n waeth na phagan.
MR. HARRIS (daw i mewn o'r chwith a gesyd ei ddwylo'n bwyllog ar ysgwydd Nel): Rwan, Nel bach! wedi torri dros y tresi eto? Rwyn gweld rhen olwg wyllt na yn eich llygaid.
NEL (tyr i lawr i wylo ac eistedd â'i phen ar y bwrdd): Mam!
MR. HARRIS: Mag, dos i weini am dipyn ar y Doctor yn y gegin. (Exit MARGED i'r chwith. Eistedda'r Gweinidog â'i law am wddf Nel â'u cefn at y drws sydd ar y chwith.) Mi fyddwch yn well rwan. Mae'r Doctor yn gneud ei ore i'ch tad yn y stafell na.
NEL: Ydi hi ar ben arno?
MR. HARRIS: Mae gobaith tra bo anadl.
NEL: O! mae'n ddrwg gen i i mi ddychryn eich chwaer rwan.
MR. HARRIS: Mae'n biti nad allech chi goncro'ch tempar, Nel bach.
NEL (yn ddigalon): Rwy'n waeth na phagan, medde'ch chwaer ac mae hi'n iawn. (Daw y tri blaenor, Elis Ifan, a Hopcyn i mewn o'r gegin drwy'r drws ar y chwith, ond ceisiant gilio'n ôl drwy'r drws wrth weld Mr. Harris â'i law am wddf Nel.)
MR. HARRIS (cyfyd ar ei draed): Dowch i mewn. Rhoswch yma am funud. (wrth Nel.) Dowch i gael golwg rwan ar eich tad. (A Nel a'r Gweinidog allan drwy'r drws ar y chwith gan adael y tri blaenor yn edrych ar ei gilydd.)
IFAN: Bobol annwyl, dyna ni wedi'i ddal yn yr act o garu â'r eneth yna. Mae'r stori'n wir, fechgyn.
ELIS: Paid a bod yn rhy siwr; cwestiwn go gynnil ydi hwn. Y cwbl welsom ni oedd ei fraich am wddw'r eneth. Pe gwelsem o'n rhoi cusan iddi, mi fasa tir sâff dan ein traed.
HOPCYN: Gwelsom ddigon i wybod i sicrwydd i fod o'n caru â merch Dic Betsi.
ELIS: Howld! be wyddom ni nad cysuro'r eneth yn ei gofid roedd o—i chysuro hi'n rhinwedd ei swydd fel gweinidog?
IFAN: Rhinwedd ei swydd fel gweinidog wir! Paid a lolian. Os nad oedd o'n caru rwan, wadnais i rioed bâr o sgidia yn rhinwedd fy swydd fel crydd.
'ELIS (cenfydd y "dum-bells" ar y bwrdd blodeu): Beth ydi'r tacla yma, tybed? (Cymer hwy i'w law.) Diain i, mae pwysa ynddyn nhw hefyd. Clyw, Ifan.
IFAN (gan ddal yn ol): Na thwtsia i mohonyn nhw. Be wyddom ni nad tacla'r eneth na i witsio a deyd ffortun ydyn nhw?
ELIS: Gafr i! Mi wn be ydyn nhw; efo'r rhain y bydd Dic yn taro talcen y samons fydd o'n ddal. O boced hen angeu'r pysgod y daetho nhw'n siwr i chi.
IFAN: Mwy tebyg o lawer mai arfa i daro mennydd y cipar ydyn nhw.
HOPCYN: Rho nhw'n ol ar y bwrdd, Dafydd, mae sŵn troed rhywun yn dod. Rwan am fod yn ddoeth; peidiwn a rhuthro fel teirw gwyllt.
MR. HARRIS (gan ddod i mewn o'r chwith): Rwyn ofni na fydd o ddim byw i weld y bore, druan, a dyna farn y Doctor hefyd.
HOPCYN: Beth yw'r rheswm i fod o yma hefo chi?
MR. HARRIS: Y Doctor ofynnodd gymrwn i o i mewn; roedd arno ofn iddo farw ar y ffordd. Mi gwelsoch chitha'ch tri o rwan jest?
IFAN: Do siwr. O'r gegin oedde ni'n dod pan y gwelsom chi yn rhoi gair o gysur i'w ferch o yn rhinwedd eich swydd fel gweinidog.
MR. HARRIS: Mi fydd yn ergyd trwm iddi hi i golli o.
IFAN: Ergyd efallai ydi'r gair goreu. Llawer ergyd gafodd hi ganddo o dro i dro, a fedr o ddim marw heb roi un arall iddi, yr hen haffgi brwnt.
ELIS: Chware teg, Ifan, cofia fod Dic ar lan yr Iorddonen y munudau yma.
IFAN: Wel, os ar lan yr Iorddonen mae o, mi dyffeia fo y gwnaiff o'i oreu glas i botsio samon neu ddau ohoni cyn i heglu hi dros y dŵr. (Metha'r tri arall beidio gwenu ond ceisiant ymatal wrth gofio ymhle y maent.)
HOPCYN: Yn wir, Mr. Harris, rhaid i chi roi pardwn i ni am fod mor ysgafn a'r dyn yna'n marw am y pared a ni, ond does neb yn yr ardal yn malio run botwm corn am dano; chyll neb run deigryn ar ei ol.
MR. HARRIS: Mi wn i am un fydd mewn gofid go fawr ar ei ol.
HOPCYN: Cyfeirio'r ydach chi wrth gwrs at ei ferch o.
MR. HARRIS: Ie, mae o'n dad iddi.
IFAN: Welwch chi, Mr. Harris, heb guro rhagor o gwmpas y twmpathau, oes rhywbeth yn y siarad ma sy'n heplas drwy'r lle cich bod am briodi'r ferch yna?
MR. HARRIS: Ai gofyn fel blaenor Seilo rydach chi neu fel crydd?
JARED (yn dod i mewn o'r chwith): Mi glywais dy gwestiwn di, Ifan Wyn, ac rwyn synnu at dy hyfdra, ond rhaid i chi gofio, Mr. Harris, fod Ifan yn grydd yn y sêt fawr weithiau ac yn flaenor ar ei sêt grydd dro arall, a does dim ond joch o gwyrcrydd yn dal joint y crydd a joint y blaenor wrth ei gilydd ym marchog y myniawyd ma.
IFAN (yn ddig): Marchog y myniawyd, ai ê? Mae'n well gen i hynny na bod yn rhyw dderyn corff fel ti yn prowla am siawns i naddu arch i Dic Betsi. Rwan, Mr. Harris, mae'n bryd i ni gael e gwybod, ydach chi'n meddwl priodi merch Dic neu beidio, achos ryda ni bawb ers misoedd bellach mewn pryder ynghylch y peth.
JARED: Mae ngwaed i'n twymo wrth glywed dy hyfdra, Ifan Wyn. Wyt ti'n meddwl mai ti yw angel yr eglwys yn Seilo, dywed? Os wyt ti, mae'n hen bryd rhoi patsh neu ddau ar d'adenydd di a choblo dipyn ar esgyll dy bedion.
MR. HARRIS: Hanner munud, chaiff dau hen ffrind fel chi ddim ffraeo â'ch gilydd o'm hachos i.
IFAN: Pam ynte mae o'n pwyo'i wimblad i mi?
JARED: Pam rwyt tithau'n pwnio dy fyniawyd i mewn i fusnes y gweinidog? Mae'n ofnadwy o beth na chaiff Mr. Harris ddim priodi'r neb a fynno.
HOPCYN: Jared, nid gelyniaeth yn erbyn Mr. Harris sy gan neb ohonom, ond mae ar bawb ohonom ofn i chi briodi'r eneth yma, ac fe ddaeth pethau i boint heno pan y gwelsom chi â'ch braich am ei gwddw.
JARED: Wel, tawn i byth yn symud o'r fan ma! Hen lanc ydw i, a diolch i'r drefn am hynny, ond pe basa eglwys Seilo yn fy nal i'n gyfrifol i briodi pob geneth y bu'm llaw i am ei gwddw, mi fasa gen i gymaint o wragedd a'r Shah o Persia— os doeth hefyd i briodi cymaint.
HOPCYN: Rwan, Mr. Harris, waeth heb areithio dim rhagor ac mae hi'n bryd i'n rhoi ni allan o'n pryder; sut mae hi'n sefyll rhyngoch chi a Nel Davis?
Mr. HARRIS: Fe ro ateb plaen i gwestiwn plaen— os yw Nel Davis yn fodlon fy mhriodi, mi priodaf hi.
HOPCYN: Beth bynnag fydd y canlyniadau?
MR. HARRIS: Ie, beth bynnag fydd y canlyniadau.
HOPCYN: Mi priodwch hi hyd yn oed pe dywedem ni wrthych y collwch chi eglwys Seilo am neud hynny?
MR. HARRIS: Gwnaf.
HOPCYN: Hynny ydi—mae Nel Davis yn fwy yn eich golwg na bod yn weinidog yr Efengyl?
MR. HARRIS: Mae gwahaniaeth go fawr rhwng bod yn weinidog yr Efengyl a bod yn weinidog ar Seilo.
HOPCYN: Felly'n wir, dyna newydd i mi. Byddwch gystal ag esbonio'r gwahaniaeth i ni.
MR. HARRIS: Gweinidog yr Efengyl ar bobl Seilo ydw i ac nid gweinidog Seilo ar y Efengyl— mae'r Efengyl yn fwy na Seilo, yn anfeidrol fwy, ond mae perig i ddyn feddwl weithiau fod eglwys Seilo yn fwy ac yn gallach na'r Efengyl.
HOPCYN: Eglurwch eich hun i bawb ohonom gael deall eich safle.
MR. HARRIS: Eglwys Seilo, sef y bobl sy'n dod ynghyd i'r capel—y nhw sy'n dweyd, os ydynt yn dweyd, nad ydi Nel Davis ddim yn ffit i fod yn wraig i weinidog Seilo, dydi'r Efengyl ddim yn dweyd hynny—yr Efengyl fel rwyf fi'n ei deall. Rhagfarn pobl Seilo yn erbyn Nel Davis sydd o dan y gwrthwynebiad yma i mi ei phriodi.
HOPCYN: Rhagfarn?
MR. HARRIS: Ie, rhagfarn noeth. Beth sy gan neb i'w ddweyd yn erbyn Nel Davis? Oes rhyw flotyn ar ei chymeriad?
HOPCYN: Nac oes, dim un blotyn i mi wybod, ond nid cwestiwn o gymeriad yr eneth sydd mewn dadl. Rŷm yn credu digon ynoch i wybod na fuasech byth yn priodi merch ddi-gymeriad. Y pwnc ydi hwn, nid a ydi Nel Davis yn bur ei chymeriad, ond ydi hi'n ddigon cymwys i fod yn wraig i weinidog Seilo. Wyr hi ddim am gapel nac eglwys, mae'i phen hi'n llawn o ryw syniadau gwyllt ac ofergoelus, a hon yw'r eneth sydd i fod yn wraig i'n gweinidog.
MR. HARRIS: Ffaeleddau bach iawn yw rheina, a buan y tyf hi allan ohonynt ond iddi gael chware teg.
HOPCYN: Nid mor fuan, achos mae aelwyd Dic Betsi wedi nwydo a lefeinio gormod arni.
MR. HARRIS: Ai ie, dyna chi rwan wedi dod at wreiddyn y gwrthwynebiad sydd iddi, y pechod mawr mae hi'n euog ohono yw, mai Dic Betsi ydi thad hi, dyna wraidd yr holl ragfarn yn ei herbyn. Druan ohoni, merch Dic Betsi ydi hi; pe bae'n ferch i Mr. Blaclcwell y Plas, mi gawsai bob croeso er i'r un ffaeleddau'n union fod yn perthyn iddi, ac eto ni sy'n sôn am ysbryd gwerinol Cymru, a'r un pryd mor falch yr yda ni i gael bowio i wyr mawr a chrach-foneddigion.
HOPCYN: Wel, ofer yw i ni siarad dim yn rhagor. Dyma ni fel swyddogion Seilo wedi gneud ein dyletswydd, ac fe wyddom rwan ymhle mae'r naill a'r llall ohonom yn sefyll pan ddaw'r pwnc i fyny, os byth y daw, ger bron yr eglwys. Dyma ni'n mynd, Mr. Harris. Nos dawch.
MR. HARRIS: Nos dawch. (A'r pedwar allan 'ar y dde ac ar ol iddynt fynd, daw Jared yn ol.) Anghofio'ch het ddaru chi Jared Jones?
JARED: Dod yn ol ddaru mi er mwyn cael ysgwyd llaw â chi, syr, ar ol y sgarmes (gan gymeryd ei law). Mr. Harris, mae na rêl gêm ynoch chi, os ca i usio'r gair. Os byth y daw hi i'r pen arnoch yn Seilo, gobeithio na ddaw hi byth i hynny, ond os digwydd i'r llanw droi yn eich erbyn, mae'r gweithdy acw'n agored i chi pan fynnoch. Hên jeinar ydach chi yntê? Wel, er mae dyn tlawd ydw i, mi ranna'r pres nillwn ni gyda'n crefft. Mi fydd hynny'n deg yn fydd o? Bendith ar ych pen! Mae na rêl gêm ynoch chi, fel sydd yn y dynion na yn y Beibl. Nos dawch!
MR. HARRIS: Nos dawch, a diolch i chi Jared Jones. (A Jared allan ac eistedda'r Gweindiog yn benisel. Daw Marged i mewn o'r chwith ac ymeifl yn gariadus yn ei law)
MARGED: Eifion, mae golwg digalon iawn arnat ti.
MR. HARRIS: Tipyn o gur sy yn y mhen i.
MARGED: Mae mwy o gur yn dy galon di, Eifion bach. Dywed beth yw'r mater.
MR. HARRIS: Rwyf wedi gadael y groesffordd.
MARGED (yn llon): Ac wedi dewis llwybr yr eglwys?
MR. HARRIS: Naddo, rwyf newydd hysbysu'r blaenoriaid y prioda i Nel Davis, boed y canlyniadau y peth y bônt. (Egyr y drws o'r chwith a daw Nel i mewn.)
MARGED: Nel Davis! Rydach chi wedi mynd a mrawd oddiarnaf, ac wedi dwyn y gweinidog oddiar eglwys Seilo.
NEL: Dwyn? Beth ydach chi'n feddwl? Tybed nad oes digon o faich arna i heno heb i chi roi chwaneg arnaf?
MARGED: Mae Eifion newydd ddeyd wrth flaenoriaid Seilo ei fod am eich priodi, er y gŵyr o o'r goreu beth fydd y canlyniad; y funud y priodith o chi, mi fydd yn rhaid iddo godi ei bac oddiyma.Mi ddylech fod yn falch o'ch diwrnod gwaith.
MR. HARRIS: Marged, rwyt wedi anghofio'th barch i'th hunan ac i minnau. Ai dyma'r amser iti fwrw dy lid ar Nel Davis yn i phryder a'i gofid?
NEL: Does dim eisiau sôn am y mhryder i jest rwan, ond mae gen i hawl i wybod beth sy wedi digwydd yma. Ydach chi'n deyd mod i wedi dwyn eich brawd oddiarnoch chi ac eglwys Seilo.
MARGED: Gofynnwch iddo fo. Mae newydd rybuddio'r blaenoriaid o'i fwriad i'ch priodi er y gŵyr o y digia fo bawb drwy'r lle wrth neud hynny.
MR. HARRIS: Marged! Fu arna i rioed o'r blaen gwilydd ohonot.
MARGED: Rwyn teimlo dros fy nhad a mam weithiodd nos a dydd i dy godi di i'r pwlpud i bregethu'r efengyl, a dyma'u tâl.
NEL: Eifion Harris, be sydd wedi digwydd? Mae gen i hawl i wybod.
MR. HARRIS: Fe ddaeth y blaenoriaid yma fel y gwelsoch ac fe ddaeth pethau i boint. Gofynasant i mi oedd y stori'n wir fy mod yn eich caru, ac fe ddywedais ei bod. Fe ddwedais y gwir, rydw i yn eich caru er mai adeg ryfedd i ddweyd hynny yw heno.
NEL: Wel, ewch ymlaen.
MR. HARRIS: Gofynnodd y blaenoriaid i mi oeddwn i'n barod i'ch priodi pe byddai rhaid i mi adael Seilo am wneud hynny, ac fe ddwedais y priodwn chi beth bynnag fasa'r canlyniadau.
NEL: Ah! mae Nel Dic Betsi'n sgymun i bawb yn yr ardal, ac mi fydd byth. Does dim maddeuant byth i mi am fod yn ferch y portsiar.
MR. HARRIS: Does waeth gen i am farn neb yn y wlad, gan mai chi ydi cannwyll fy llygad i.
NEL: Mi fydd yn rhaid diffodd y gannwyll heno.
MR. HARRIS: Beth?
NEL: Phrioda i chi byth!
MR. HARRIS: Mi fynna'ch priodi.
NEL: Mi gewch weld yn amgenach. Ddoi byth yn dragywydd rhyngoch chi ag eglwys Seilo na dim eglwys arall.
MR. HARRIS: Fe rois fy ngair y fan yna heno ddiweddaf y priodwn chi pe troid fi dros y drws fory nesaf.
NEL: Pwy ddywedodd wrthych y priodwn ichi?
MR. HARRIS: Chi.
NEL: Naddo rioed!
MR. HARRIS: Fe roisoch le i mi gasglu drwy'r misoedd yma eich bod yn y ngharu i.
NEL: Ah, dyna rywbeth gwahanol. Marged Harris, dydi'ch cariad chi at eich brawd yn ddim ond fel cannwyll frwyn wrth yr haul yn ymyl ynghariad i ato; mi awn drwy ffaglau tân er ei fwyn. Cariad! Marged Harris, wyddoch chi mo ystyr y gair eto? Pwy sy'n ameu fy nghariad i at eich brawd?
MR. HARRIS: Nel bach, mi wyddwn fod popeth yn "all right."
NEL: Rhoswch funud; dydi popeth ddim yn "all right." Waeth un gair na mil phrioda i byth mohonoch.
MR. HARRIS: Ond fe ddwedsoch rwan eich bod yn y ngharu i.
NEL: Ydw, mi ddwedwn hynny ar goedd y byd, ond rwyn eich caru'n rhy fawr i'ch priodi.
MR. HARRIS: Nag ydach, ne mi priodech fi.
NEL: Eifion! Er mai merch y portsiar ydw i, ddwedais i rioed gelwydd yn y mywyd—fum i rioed o'r blaen yn caru â neb, a charai byth neb ond chi, ond mae'n well gen i fod heb weld ych gwyneb chi byth na dod rhyngoch chi a'ch gwaith fel gweinidog, ac mi wn nad ydi merch Dic Betsi ddim yn ffit i fod yn wraig gweinidog a fydd hi byth. (Eistedda i lawr yn brudd.)
MR. HARRIS (wrth ei hymyl): Nel, fi ydi'r unig un yn y lle ŵyr eich gwerth, ac r wyn benderfynol o'ch priodi deued a ddêl.
NEL: Mae mhoen i'n ddigon heb roi un arall ato, ond waeth i chi geisio symud y Wyddfa na'ms ymud i o mhenderfyniad. Unwaith eto, ac am y tro ola, phrioda i byth mohonoch. Fe af yn ddigon pell o'r ardal ma i ennill y nhamaid rhywsut ond am eich priodi—byth bythoedd! (Daw Doctor a Mr. Blackwell i mewn o'r dde.)
DOCTOR: Dyma Mr. Blackwell y Plâs. Mae wedi dod yma i weld sut mae Richard Davis.
MR. BLACRWELL: Ryw'n gofyn i chi scusio fi'n dod i tŷ chi, Mr. Harris, ond oedd yn ddrwg mawr gen i clywed fod Dic—bod Richard wedi brifo mor dost, ac wrth y cownt ma Doctor yn rhoi, ma fo'n case serious iawn. (A i fyny at Nel.) Merch Richard, yntê? Ca i deyd gair bach yn private â hi, Mr. Harris? Bydda i dim ond chydig munuda.
MR. HARRIS: Wrth gwrs, Mr. Blackwell.(A Marged a Mr. Harris ar Doctor allan i'r chwith.)
MR. BLACKWELL: Nel Davis, ma'n drwg gin i dros ti a tad ti. Oedd o dim yn friends â fi ers blynyddoedd, achos ti'n gwbod bod o'n portsio ar tir fi.
NEL: Peidiwch a deyd gair yn erbyn nhad i heno.
MR. BLACKWELL: O dim gair. Ond dylat ti cofio ma fi daru cadw fo o'r jêl drw'r blynyddoedd. Basa fo yn jêl cant o weithia ond bod fi yn safio fo.
NEL: Wyddwn i mo hynny.
MR. BLACKWELL: Ma fo'n right gwir. Daru o deyd rhw dro bod fi a fo yn perthynas bychain i'n gilydd? Wel mi oedd o yn perthyn pell i fi, a fi yn rhoi job da iddo fo yn y Plas pan oedd o llanc ifanc, ond fe ath o i meddwi'n shocking, a dyna rheswm iddo mynd off o'r Plas. Pity, pity! Ma Doctor am i fi deyd i ti fod case ma yn serious iawn.
NEL (ar ei thraed): Ydi o'n mynd i farw heno?
MR. BLACKWELL (cydia yn ei llaw): Paid ti torri calon di, Nel Davis, fi gofalu am ti ar ol i tad di mynd.
NEL (â'i phen ar y bwrdd): O nhad!
MR. BLACKWELL: Paid ti upseto dy hun—fi gofalu am ti. Fi'n gyrru di off i Liverpool ne London at pobl caredig i dysgu ti bod yn nyrs ne rhwbath. Cei di dim bod isia dim a fi talu popeth. Ti dod i'r Plas heno, house-keeper fi'n gwbod sut i bod yn garedig. Mi gnei di dod, Nel Davis, yn gnei di? Ma trap fi wrth y drws i mynd a ti i'r Plas at house-keeper fi. Ti yn gneud dy hun yn parod i dod yn trap at house-keeper yn y munud a fi yn cael chat bychan â Doctor. (A allan drwy'r dde.)
MR. HARRIS (daw i mewn o'r chwith): Nel bach, fi sy'n gorfod torri'r newydd i chi. Peidiwcha chyffroi: mae'ch tad wedi mynd.
NEL (fel pe mewn breuddwyd): Wedi marw! (Cyfyd yn benisel ac arweinir hi allan ar y chwith, a syrth y llen ar y ddau yn cyrchu'n araf at y drws.)