Ar y Groesffordd/Act IV—Gweithdy'r Saer
← Act III—Study Tŷ'r Gweinidog | Ar y Groesffordd gan Robert Griffith Berry |
→ |
ACT IV
Gweithdy'r Saer
[Gweler Act I. Cyfyd y llen ar Harri yn curo hoelion i ddarn o bren, a'r Doctor yn dod i mewn o'r chwith.]
DOCTOR: Gweithio'n galed, Harri?
HARRI: Go lew, syr. Mae Mr. Harris y gweinidog a finnau am weithio'n hwyr heno er mwyn gorffen rhyw ddrysau a ffenestri sydd i fod yn barod erbyn diwedd yr wsnos.
DOCTOR: Wedi mynd i'w dê mae o rwan?
HARRI: Ie, syr.
DOCTOR: Beth ydi dy farn di am dano fel jeinar? Dyma ti wedi cael tri diwrnod o brawf arno erbyn hyn.
HARRI: Mae o wedi colli i law ar y grefft, ond mae'n hwbio mlaen dipyn gwell heddiw.
DOCTOR: Mae'n rhaid fod cwrs byd ers pan bu'n gneud gwaith jeinar?
HARRI: Oes, mae chwech ne saith mlynedd, medde fo. Mae'n weinidog yma ers dros ddwy, a rhyw dair neu bedair blynedd yn y coleg at hynny.
DOCTOR: Patrwm o ddyn ydi o, wel di, ne fasa fo ddim yn gweithio'n rhad ac am ddim fel hyn yn lle Jared yr wsnos yma. Dyna beth ydi " practical Christianity " wyddost.
HARRI: Sut mae Jared Jones y pnawn ma, Syr.
DOCTOR: Gwael iawn, druan; mae'n methu symud er dydd Llun.(Daw Ifan Wyn a Hopcyn i mewn o'r dde.)
HOPCYN: Sut mae Jared rwan, Doctor?
DOCTOR: Digon gwael ydi o.
IFAN: Dydi o ddim yn anobeithiol ydi o?
DOCTOR: Mae'n anodd deyd hyd yn hyn. Y perig ydi i'r dolur yma gyrraedd ei galon, ac wedyn mi fydd ar ben ar yr hen greadur.
IFAN (gan eistedd yn bendrist ar focs): Mi rydw i'n methu byta na chysgu, na gweithio wrth feddwl am dano. Wn i ar y ddaear be ddaw ohonoi os bydd yr hen gono annwyl farw.
HOPCYN: Mi rydw inna'n cael y drafferth fwya'n y byd i beidio crio fel babi. Mi fydd hanner y pentre ma wedi mynd os aiff Jared.
DOCTOR: Peidiwch a chymeryd golwg rhy ddifrifol ar y cês: fe all ddod drwyddi os medra i gadw'r drwg o'i galon o.
HOPCYN: Mae golwg go lew ar i wyneb o hefyd, Doctor; wrth gwrs doedd fawr o scwrs igael â fo.
DOCTOR: Un twyllodrus iawn ydi'r gwyneb. Wel, i newid y stori, go lew y gweinidog yn cymryd i le fo fel jeinar yntê?
HOPCYN: Mwy na go lew—ardderchog!
IFAN: Ie, iechyd i'w galon o.
DOCTOR: Ydi o'n wir i fod o wedi cael galwad o eglwys fawr yn Lerpwl na?
IFAN: Ydi nen tad! Mae dwy ne dair o eglwysi mawr am i ddwyn o oddiamom yn Seilo, rhen gnafon sâl.
DOCTOR: Aiff o?
HOPCYN: Nac aiff, gobeithio'r annwyl.
DOCTOR: Wel, taswn i yn i le o, mi symudwn, a mi gadawswn chi fynd i'ch crogi yn Seilo ar ôl y tro gwael naethoch chi â fo flwyddyn yn ol.
HOPCYN: Cyfeirio rydach chi at y ngwaith i a blaenoriaid eraill yn sefyll yn erbyn iddo briodi Nel Davis?
DOCTOR: Ie, wrth gwrs.
HOPCYN: Chware teg i ninnau, Doctor; doedd bron neb yn Seilo, ond Jared, druan, yn fodlon iddo briodi Nel Davis yr adeg honno.
IFAN: Heblaw hynny, mi fasa Mr. Harris wedi ei phriodi yn ein dannedd oni bae iddi wrthod yn bendant.
DOCTOR: Lol i gyd! I wrthod o ddaru hi am y gwyddai hi mor groes oeddach chi i'r briodas, yr hen set wael. Ond wedi chi ddeall fod peth o waed Scweiar y Plas yng ngwythiennau Dic Betsi, a bod y Scweiar wedi anfon Nel Davis i Lunden ar i gost i hun i gael dipyn o addysg, dyma chithau'n dechreu newid eich barn am dani'n araf. Ar y ngair i, rwyf bron a choelio y basach chi'n fodlon iddi fod yn wraig y gweinidog erbyn heddiw.
HOPCYN: Hawdd i chi siarad, ond mi wranta fod Nel Davis wedi codi yn eich barn chitha wedi i'r secrat ddod allan i bod hi'n rhyw berthyn pell i Mr. Blackwell.
IFAN: Dydw i'n malio run frwynen am i pherthynas hi â gŵr y Plas, ond mi gymra fy llw y bydd ychydig o ysgol yn Llunden yn siwr o ddofi dipyn arni, ac roedd eisia dofi gryn lawer arni.
HOPCYN: Oedd, nenor tad. Ymhle yn Llunden mae hi, Doctor? Ryda ni bawb wedi gofyn i chi droion.
DOCTOR: Run ateb sy gen i: wn i ddim.
IFAN: Gwyddoch o'r goreu, ond mi gaiff Doctor balu celwydd yn ddi-gosb; mi wyddoch chi a'r scweiar drwy'r misoedd ymhle mae hi, ond na ddeydwch chi ddim.
DOCTOR: Wel, mi wn ymhle mae hi'r funud ma.
Y DDAU: Ymhle?
DOCTOR: I mewn yn tŷ yn tendio ar Jared.
IFAN: Gwarchod pawb, ydi hi yn y tŷ rwan?
HOPCYN: Cellwar â ni rydach chi fel arfar?
DOCTOR: Nage'n wir. Dysgu bod yn nyrs roedd hi yn Llunden, ac fe yrrais am dani i ddod i nyrsio Jared, ac mi wyddwn mai'r unig beth fasa'n dod a hi yma fasa clywed fod yr hen Jared mor wael. Mae hi'n leicio Jared erioed.
IFAN: Wel diain i, mi fydd gen i ofn mynd i weld Jared os ydi hi'n tendio arno.
HOPCYN: Wel, a deyd y gwir, mi fydda inna'ns wil hefyd i gyfarfod â hi. Ond diolch i'r trugaredd mi gaiff Jared well siawns i wella os gwellith o.
DOCTOR: Dyda chi ddim yn dal dig at Nel Davis, gobeithio?
HOPCYN: Na, ryda ni i gyd yn fwy cymedrol erbyn hyn yn ein syniad am dani, ond y pwnc ydi, beth ydi'i syniad hi am Ifan a finna, achos mi ŵyr mae ni'n dau oedd y ring-ledars yn i herbyn hi dros flwyddyn yn ol.
DOCTOR: Peidiwch a chyboli'n wirion, mi fydd yr eneth yn "all-right " â chi ar ol rhyw funud, a gobeithio y rhoith hi grafiad ne ddau i chi'ch dau. Ond rwan, does neb ond fi a'r sgweiar yn gwybod i bod hi wedi dod i nyrsio Jared, a pheidiwch ar un cyfri a deyd wrth Mr. Harris nes y daw o i wybod i hun. Harri, meindia di ar dy fywyd na ddeydi di ddim wrtho pan ddaw'n ol o'i dê.
HARRI: Dim perig i mi ddeyd, syr.
DOCTOR: Rwan mi awn i'r tŷ ein tri.
IFAN: Diaist, mae gen i dipyn o ofn i gwynebu hi. Dos di'n gynta Hopcyn.
HOPCYN: Na, ti ydi'r hyna, Ifan.
IFAN: Mae'n rhaid i ti gychwyn achos ti ydi'r pen blaenor. (A'r tri allan ar y chwith, a dechreua Harri guro'r hoelion. Yn y funud daw Mr. Harris i mewn o'r dde, a thyn ei got a'i het yn barod i waith.)
MR. HARRIS: Rwan, Harri! y troed gore mlaen. Orffennwn ni'r job yma erbyn diwedd yr wsnos?
HARRI: Fe ddylem a ninnau'n gweithio'n hwyr fel hyn.
MR. HARRIS (gan estyn ei freichiau'n ol a blaen): Pe cawn i'r breichiau ma i stwytho dipyn,mi drown ragor o waith drwy nwylo.
HARRI: Peth da ydi rhwbio dipyn o embro-cation arnyn nhw cyn mynd i'r gwely, syr.
DOCTOR (daw i mewn o'r chwith): Mi ddeuthoch yn ol o'ch tê, mi welaf.
MR. HARRIS: Do. Rwan, Harri ewch chitha i'ch tê. (Gwisg Harri ei got a'i gap ac â allan drwy'r dde.) Sut mae Jared rwan, Doctor?
DOCTOR: Canolig iawn. Rwyf newydd ddod a nyrs i dendio ar yr hen lanc er mwyn rhoi pob chware teg iddo wella os oes gwella i fod.
MR. HARRIS: Newydd ddod mae'r nyrs?
DOCTOR: Ie. Pan gymrwyd Jared yn wael echdoe mi welais fod y cês yn un seriws, ac mi rois y peth o flaen y scweiar, ac mi ddeydodd wrtho i yn y fan y basa fo'n talu am nyrs o'i boced i hun. Miyrrais am dani ar unwaith ac mi ddoes a hi i'r tŷ rwan jest.
MR. HARRIS: Chware teg i'r hen scweiar, er na faddeuais i byth iddo am fynd a Nel Davis i ffwrdd. Roedd eich bysedd chitha yn y bwti hwnnw,a ddwedwch chi na'r scweiar ddim wrtho i ymhle mae hi yn Llunden.
DOCTOR: Does neb ond y scweiar ŵyr a phob tro y gofynnaf iddo am " address " Nel Davis, " Fi wedi rhoi word of honour fi i Nel Davis i beidio deyd." medda fo.
MR. HARRIS: Dyna'i gân o i minnau hefyd, ond chreda i byth na wyddoch chitha hefyd.
DOCTOR: Peth difrifol ydi bod yn anghredadun Mr. Harris. Gyda llaw, mae'r nyrs eisia coed tân ,ac mi ddaw yma'n y funud i gael rhai. Cloben o Saesnes hyll ofnadwy ydi hi, doedd dim Cymraes i'w chael, mae'n debig. Wel, pnawn da.
MR. HARRIS: Ac i chitha. (A'r Doctor allani'r dde a chwilia Mr. Harris am goed tân o dan y bwrdd, a tra'n chwilio dan y bwrdd, daw Nel i mewn o'r chwith.)
NEL: Harri, Harri, ymhle rwyt ti?
MR. HARRIS (gan neidio ar ei draed): Nel!
NEL (gan gilio'n ol at y drws): O'r tad! Chi sydd yma? Mi ddeydodd y Doctor ffals yna mai Harri bach oedd yma.
MR. HARRIS: Mi ddeydodd wrtho inna mai cloben o Saesnes hyll oeddach chitha.
NEL: Be ydach chi'n neud yn y gweithdy ma? Ydach chi wedi gadael y weinidogaeth a throi'n jeinar?
MR. HARRIS: Na, cymryd lle Jared rydw i er mwyn ennill dipyn o brês i'r hen greadur tlawd.
NEL: Go lew chi. Chês i ond prin olwg ar Jared eto. Mae'n edrach yn rhyfedd o dda o ran lliw hefyd, ond mae'r Doctor yn ofni am i galon. O! mi rown lawer am i weld o allan o berig. Dyna'r unig beth nath i mi ddod yn ol i'r lle ma; rwyn ffond o nghalon o Jared.
MR. HARRIS: O Nel, beth am dana i? Rydach chi wedi bod o flaen fy llygaid bob dydd ar hyd y misoedd, ac er holi a chwilio, chawn i ddim gwybod ymhle roeddach chi, a dyma chi cystal a deyd na fasach chi byth yn dod yn ol yma er mwyn neb ond Jared.
NEL: Waeth i ni heb siarad am yr hen bethau mae popeth drosodd erbyn hyn.
MR. HARRIS: Drosodd? Nag ydyn! (Cym-er afael yn ei dwylo.) Nel bach, dydi popeth ddim drosodd? Mi ddaruch gadw o ngolwg am flwyddyn, na wyddwn i ar y ddaear sut i ddod atoch, ond dyma chi'n ol o'r diwedd, ac nid ar chware bach y gollyngai nghafael y tro yma. Mi priodwch fi rwan, yn newch chi Nel?
NEL: Rwyf wedi priodi!
MR. HARRIS (gan ollwng ei dwylo): Beth? Wedi priodi? O, wel, dyna hi ar ben arna i am byth. (Gwisg ei got yn brudd a chychwyna tua'rdrws i'r dde.)
NEL: O, Mr. Harris! rydach chi'n mynd heb ddeyd " Lwc dda," ac heb gymaint a gofyn pwy briodais i.
MR. HARRIS (saif wrth y drws yn benisel, â'i gefn tuag ati): Pwy ddaru chi brodi?
NEL: Rwyf wedi priodi nghrefft!
MR. HARRIS (gan droi ac edrych arni amfunud): Nel! (Rhed ati a chofleidia hi.)
NEL: Rhoswch funud, da chi. Beth yda ni well o fynd ymlaen fel hyn? Nel Dic Betsi ydw i o hyd i'r bobl yma.
MR. HARRIS: Dyn a'ch helpo mae pethau wedi newid yn ddirfawr er pan welais chi ddiwedda.
NEL: Newid y mha ffordd?
MR. HARRIS: Wel, i gychwyn, mae fy lle i yn Seilo'n sicrach nag erioed. Hyd yn oed pe safai Seilo yn erbyn i ni briodi, mae gen i eglwys ne ddwy'n barod i nerbyn i fory nesa, ac mi ŵyr pobol Seilo hynny. Does dim gwell i'w ddal wrth ben eglwys go gyndyn na phistol galwad o eglwys arall. Ond y gwir ydi, mae Seilo wedi newid ei barn amdanoch.
NEL: Pam? Run Nel ydw i heddw yn nillad nyrs ag oeddwn i flwyddyn yn ol ym mwthyn Pantglas.
MR. HARRIS: Nage, Nel bach; yr un yn union ydach chi i mi wrth gwrs, ond i'r bobol sydd yma, merch ifanc ydach chi erbyn hyn, wedi bod dan addysg yn Llunden—Nyrs Nel Davis mewn dillad glas, sy'n gweddu iddi'n ofnatsan las—Nel Davis sy'n perthyn o bell i Mr. Blackwell y Plas. O mae pethau wedi newid yn rhyfedd y misoedd diwedda ma.
NEL: Mi fum yn siarad rwan ag Ifan y crydd a Hopcyn y siop—y ddau oedd fwya'n fy erbyn. Mae'r ddau yn tŷ rwan.
MR. HARRIS: Fuoch chi wir? Sut roedda nhw'n behafio?
NEL: Swil iawn oedd y ddau am dipyn, a mi rois snap ne ddwy iddyn nhw er mwyn rhen amser gynt. Ond eisia cymodi oedd arnyn nhw'n amlwg, a mi doddais dipyn bach atyn nhw yn y diwedd.
MR. HARRIS: Dyna fo eto; mi wyddwn fod Ifan a Hopcyn wedi newid cryn lawer ar i barn. Y gwir yw, fe allwn briodi fory cyn belled ag y gwn i.
NEL: Priodi fory! Be sy haru'r dyn?
MR. HARRIS: Mi wyddoch o'r goreu be ydi meddwl i; does dim ar y ffordd rwan i ni briodi pan fynnwn. Ond cyn mynd ymhellach mae arnoch chi ddyled o flwyddyn o gusanau i mi. Beth pe baech yn clirio rhyw gant y funud ma, a chyn diwedd y dydd mi gynhaliwn Jiwbili i glirio'r holl ddyled.
NEL: O'r annwyl! Na, chi ddeydodd rhyw dro mae gwell oedd gadael i ran o'r ddyled sefyll ar gapel er mwyn rhoi gwaith i'r blynyddoedd i ddod; os cadwch chi Jwbili heddyw, fydd gynno chi ddim i neud y misoedd nesa. Ond beth am Marged?
MR. HARRIS: Mae Marged yn fwy awyddus na neb am gymodi â chi.(Daw Ifan a Hopcyn i mewn o'r chwith.)
HOPCYN: Wel, Mr. Harris, rwyn meddwl fod y Nyrs wedi hanner maddeu i Ifan a fi am yr hyn a fu—ond go oer oedd hi am dipyn, yntê Ifan?
IFAN: Ie'n siwr, mi roddodd bum munud go boenus i ni'n dau, ond yn ol ein haeddiant hwyrach. Nyrs annwyl, gwellwch yr hen Jared os oes modd.
HOPCYN: Ie'n wir—mae'r Doctor na wedi torri'n calon ni yn y pentre wrth ddeyd fod Jared mor beryglus o wael.
NEL: Mi rydw i'n fwy digalon na neb ohonoch. Mi ellwch fod yn siwr y gna i ngoreu er mwyn Jared, yr hen greadur annwyl.
MR. HARRIS: Tybed fod y Doctor yn deall i afiechyd o; mi wariwn y ddimeu ola i gael specialist pe gŵyddwn i y bae hynny o ryw lês.
MARGED (daw i mewn o'r dde): Eifion! Mi alwodd y Doctor acw rwan i ddeyd fod arnat eisiau gweld i.
MR. HARRIS: Wel, dyna rôg ydi'r Doctor na. Rwyt yn drydydd iddo chware ei gastiau arno.Ond rwyt wedi dod i'r tic er hynny. Wel di'r Nyrs sy wedi dod i dendio ar Jared.
MARGED (gan syllu arni): Nel Davis! (A ymlaen ati yn swil gan estyn ei llaw iddi.) Newch chi ysgwyd llaw â fi ac anghofio?
NEL (cusana hi unwaith neu ddwy): Soniwn ni byth eto am dano, dyna fi wedi cau'r drws am byth ar yr hyn a fu.
HOPCYN: O, Nyrs Davis, newch chi ddim cau'r drws yn yr un dull dymunol efo Ifan a finna? (Daw Dafydd Elis i mewn o'r dde.) A dyma un arall y gwn i'n sicr fasa'n leicio yn i galon i chi gau'r drws ar y gorffennol run ffordd ag y gwnaethoch chi a Miss Marged Harris rwan. Dyma Nyrs Davis sydd wedi dod o Lundain i dendio ar yr hen Jared. Mi sgydwch law â fo, yn newch chi?
NEL: Ar ol maddeu i'r ddau droseddwr mwya, hawdd maddeu i un oedd dipyn yn fwy pleidiol i mi nag Ifan Wyn a Hopcyn. (Estynna 'i llaw i Dafydd.) Wel, dyna fi'n ffrindia â'r sêt fawr i gyd rwan.
ELIS: Mae'n dda gen i gael cyfle i gymodi. Mi gaiff Jared chware teg perffaith efo chi—Sut mae o?
NEL: Roedd y Doctor yma chydig yn ol, a gwael iawn oedd o yn i gael o. Dydw i wedi cael fawr amser â fo eto, does fawr ers pan ddois i yma.
HOPCYN: Un peth sy'n torri ar lawenydd y cymodi ma, a hwnnw ydi na fasa Jared yma.
IFAN: Paid, Hopcyn bach, paid a gneud dyn yn fwy digalon nag ydi o. O'r tad, gobeithio daw o uwchben i draed unwaith eto.(Daw Jared Jones i mewn o'r chwith yn nillad saer nes brawychu pawb.)
JARED: Rydw i wedi blino bod yn sâl a'r Nyrs ddim yn tendio ama i.(Daw Nel ac Eifion a Hopcyn o'i gylch yn bryderus gan dybio ei fod wedi. colli arno'i hun.)
NEL: O, Jared Jones, dowch yn ol efo ni i'r tŷ; wn i ddim beth ddwedith y Doctor am hyn; mae'n enbyd i chi fod yn y fan yma.
JARED: Nel Davis, mi rydw i cyn iached a'r gneuen; fum i rioed mor iach.
HOPCYN: Tyrd i'r tŷ i dy wely, Jared bach, mi awn a thi rwan. (Ymaflant ynddo er mwyn ei gael yn ol i'r tŷ.)
JARED: Howld on! Be sy haru chi? Diaini, mi gwela hi! Rydach chi'n meddwl mod i o ngho. Does dim y mater arna i. Doctor Huws! dowch yma, da chi i sponio petha i'r Philistiaid ma.
DOCTOR (daw i mewn o'r chwith gan chwerthin):Gadewch lonydd i'r dyn—does dim y mater ar Jared, mae o cyn iachad ag afal Awst.
MR. HARRIS (yn ddigllon): Doctor Huws! rwyn credu y dylech chi ddeyd be ydi ystyr y cellwair yma; mae'n amlwg mai chi ac nid Jared sydd i'w feio.
JARED: Ruwd annwyl, rydach chi'n edrach yn ddig ofnadwy ar y Doctor—mae pawb ohonoch chi yn edrach yn ddig. Myn gafr! Choelia i ddim na fasach chi'n leicio ngweld i'n sâl bron a marw er gwaetha'ch holl siarad y tri diwrnod diwedda ma. Mae'r esboniad mor eglur a thrwyn Ifan y crydd, ac mi ddylech chi, Mr. Harris, o bawb neidio i ben y gweithdy pan glywch chi o. Dyma fo! tric o eiddo'r Doctor a'r Scweiar a finna i gael Nel Davis yn ol i'r pentre ma.
NEL (â'i dwylo am ei wddf): Rhag cywilydd ichi Jared Jones! Faddeua i byth i chi!
JARED (gan ddal ei breichiau): Mi gadwa'r ddwy fraich yma lle ma nhw. Rwan, frodyr a chwiorydd, a blaenoriaid, doedd dim yn bosib cael yr eneth ma yn ol i'r pentre mewn un ffordd, eri'r Scweiar a'r Doctor neud pob cynnig, gwrthodroedd hi, a gwaeth na'r cwbl fe rybuddiodd y ddau i beidio deyd wrth Mr. Harris y gweinidog ymhle roedd hi yn Llunden. Wel, i fynd ymlaen, be nath y Doctor ma, ac un melltigedig o gastiog ydi o; be nath o ond gofyn i mi ddydd Sadwrn fuaswn ni'n mynd yn sâl iawn dydd Llun, dydd Llun diweddaf wrth gwrs, ac mi ês yn sâl iawn fel y gwyddoch, drwy ordors Doctor.
IFAN: Yr hen gena drwg gen ti.
JARED: Paid a porthi mhregeth i, Ifan bach, achos ma dy lais di yn y ngyrru oddiar y rêls. Rŵan mi wyddai'r Doctor a'r Scweiar fod Nel yn fy leicioi yn enbyd iawn (peidiwch a phinsio, Nel) a'r funud y clywodd hi mod i'n sâl, dyma hi'n ysgwyd llwch Llunden oddiar ei sgidia ac yn carlamu yma yn y trên i dendio arna i. Wel, dyma hi! yr eneth glysa yn y wlad—roedd yn werth i mi gymryd arna fod yn wael er mwyn i chael hi yma i'r pentre. Rwan am y gusan na, Nel Davies. (Cusanna hi.)Mi nillais hi'n deg.
HOPCYN: Y corgi digywilydd! a fi ac Ifan a pawb bron a thorri'n calon rhag ofn iti farw. Wyddech chi am y tric Mr. Harris?
MR. HARRIS: Dim. Ydach chi'n meddwl y baswn i'n troi yn jeinar yn lle Jared Jones pe baswni'n gwybod?
DOCTOR: Na doedd neb yn gwybod ond y Scweiar a Jared a finnau. Rwyn meddwl y dylai Mr. Harris fod yn fodlon i mi gael un gusan gan Nyrs Davis, achos fi ddaru gynllunio iddynt ddod ati gilydd.
JARED: Howld, Doctor, os rhoith hi gusan ichi, mi ddaw holl brigêd y blaenoriaid yma i fyny am gusan yn cael eu harwain gan General Ifan Wyn. Rwan, Mr. Harris, dowch yma a safwch ar y llaw chwith yma; safwch chitha ar y dde Nel Davis, ochr yn ochr a fo. Yn gymaint a bod y ddau hyn eisio priodi â'i gilydd, a chan eu bod yn caru eu gilydd y tu hwnt i bob rheswm, rwyf fi, Jared Jones, Jeinar a Carpentar, ar ran pawb sydd ma yn rhoi caniatâd iddynt i fynd ymlaen at eu diwrnod priodas. Dyna fi wedi cynnig ac eilio, pawb sydd yr un farn,i fyny â'ch dwylo. (Cyfyd pawb eu dwylo.) Welwch chi, Mr. Harris, fe gewch yrru'r gostegion priodas i mewn pan fynnoch chi.
MR. HARRIS (wrth Nel): Dyma nhw wedi'n gollwng ni'n dau rwan o'r groesffordd, ond chi bia'r clod o'u perswadio nhw.
NEL: O, nage, nid fi, ond (annela ei bys at ei wyneb) y pistol galwad hwnnw.
Diwedd