Arglwydd Iesu, arwain f'enaid
← Rhyfedd, rhyfedd gan angylion | Arglwydd Iesu, arwain f'enaid gan Samuel Jonathan Griffith (Morswyn) |
O! fy Iesu bendigedig → |
211[1] Craig yr Oesoedd.
87. 87. D.
1.ARGLWYDD Iesu, arwain f’enaid
At y Graig sydd uwch na mi,
Craig safadwy mewn tymhestloedd,
Craig a ddeil yng ngrym y lli;
Llechu wnaf yng Nghraig yr Oesoedd,
Deued dilyw, deued tân,
A phan chwalo'r grëadigaeth,
Craig yr Oesoedd fydd fy nghân.
2.Pan fo creigiau'r byd yn rhwygo
Yn rhyferthwy'r farn a ddaw,
Stormydd creulon arna'i'n curo-
Cedyrn fyrdd o'm cylch mewn braw,
Craig yr Oesoedd ddeil pryd hynny,
Yn y dyfroedd, yn y tân :
Draw ar gefnfor tragwyddoldeb
Craig yr Oesoedd fydd fy nghân.
Samuel Jonathan Griffith (Morswyn)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 211, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930