Arglwydd grasol, dyro d'Ysbryd
← Dyro inni weld o'r newydd | Arglwydd grasol, dyro d'Ysbryd gan Isaac Jenkins |
Tyred, Ysbryd Glân tragwyddol → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
267[1] Gweddi am y Dystiolaeth.
87. 87. D.
1 ARGLWYDD grasol, dyro d'Ysbryd,
Dysg im lefain, "Abba, Dad,"
Rho dystiolaeth o'm mabwysiad,
Gad im brofi o'th gariad rhad;
Dyro wir fodlonrwydd imi
Fod fy enaid yn dy hedd,
Llanw f'ysbryd â thangnefedd
Cyn im fynd i lawr i'r bedd.
2 Rho dy hoff gymdeithas imi
Tra fwyf yn yr anial fyd,
Tywys f'enaid tua'r bywyd,
A bydd imi'n noddfa glyd;
Gad im wledda gyda'th deulu,
Gwledda ar dy gariad rhad;
Yn y diwedd dwg fi'n dawel
Draw i ddedwydd dŷ fy Nhad.
Isaac Jenkins
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 267, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930