Dyro inni weld o'r newydd

Golwg, Arglwydd, ar dy wyneb Dyro inni weld o'r newydd

gan John Thomas, Rhaeadr

Arglwydd grasol, dyro d'Ysbryd
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

266[1] Deisyf Presenoldeb Duw.
87. 87. 67.

1 DYRO inni weld o'r newydd
Mai Ti, Arglwydd, yw ein rhan;
Aed dy bresenoldeb hyfryd
Gyda'th weision i bob man:
Tyrd i lawr, Arglwydd mawr,
Rho dy fendith yma'n awr.

2 Ymddisgleiria yn y canol,
Gwêl dy bobol yma 'nghyd,
Yn hiraethu, addfwyn Iesu,
Am gael gweld dy ŵyneb-pryd:

Golau cry' oddi fry
Chwalo bob rhyw gwmwl du.

3 Deued yr awelon hyfryd,
Effaith Ysbryd gras, i lawr;
Llifed atom afon bywyd,
Sydd yn tarddu o'r orsedd fawr:
Arglwydd da, trugarha,
Y sychedig rai dyfrha.

John Thomas, Rhaeadr



Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 266, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930