Golwg, Arglwydd, ar dy wyneb

Dros fynyddoedd y perlysiau Golwg, Arglwydd, ar dy wyneb

gan William Williams, Pantycelyn

Dyro inni weld o'r newydd
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

265[1] Gair o Enau Duw.
87. 87. 67.

1 GOLWG, Arglwydd, ar dy ŵyneb
Sydd yn codi'r marw o'r bedd;
Mae agoriad nef ac uffern
Yna i'w deimlo ar dy wedd;
Gair dy ras, pur ei flas,
'N awr a ddetgly 'nghalon gas.

2 Arglwydd, danfon dy leferydd,
Heddiw, yn ei rwysg a'i rym;
Dangos fod dy lais yn gryfach
Nag all dyn wrthsefyll ddim ;
Cerdd ymlaen, nefol dân,
Cymer yma feddiant glân.

William Williams, Pantycelyn



Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 265, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930