Dros fynyddoedd y perlysiau
← Beth yw'r cwmwl gwyn sy'n esgyn | Dros fynyddoedd y perlysiau gan Thomas John Pritchard (Glan Dyfi) |
Golwg, Arglwydd, ar dy wyneb → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
264[1] O! Anadl, tyred.
87. 87. 47.
1 DROS fynyddoedd y perlysiau
Deued awel nefol haf;
Ar ei hadain coder f'ysbryd
Fry i bresenoldeb Naf:
O! anadla,
Nefol awel, arnaf fi.
2 Arglwydd, dyro nerth i ddisgwyl:
Edrych i'r mynyddoedd pell
Y bo llygaid tawel gobaith
Am arwyddion amser gwell ;
Ysbryd Sanctaidd,
O! anadla dros y byd.
Thomas John Pritchard (Glan Dyfi)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 264, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930