Beth yw'r cwmwl gwyn sy'n esgyn

Ysbryd y Gwirionedd, tyred Beth yw'r cwmwl gwyn sy'n esgyn

gan John Thomas Job

Dros fynyddoedd y perlysiau
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

263[1] Y Sulgwyn.
87. 87. 47.

1 BETH yw'r cwmwl gwyn sy'n esgyn
O'r Olewydd tua'r nef?
Cerbyd Brenin y Gogoniant,
Sydd yn ymdaith tua thref;
Ymddyrchefwch,
Sanctaidd byrth y Ddinas Wen.

2 Beth yw'r disgwyl sy 'Nghaersalem?
Beth yw'r nerthol sŵn o'r nef?
Atsain croeso'r saith ugeinmil
I'w Ddyrchafael rhyfedd Ef
Diolch iddo,
Y mae'r Pentecost gerllaw.

3 At y lliaws yng Nghaersalem,
Daeth addewid fawr y Tad,
Syrth y miloedd yno i foli
Duw am iechydwriaeth rad;
Sanctaidd Ysbryd,
Aros mwyach gyda ni.

John Thomas Job



Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 263, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930