Ysbryd y Gwirionedd, tyred
← Mae dy Ysbryd Di yn fywyd | Ysbryd y Gwirionedd, tyred gan John Hughes (Glanystwyth) |
Beth yw'r cwmwl gwyn sy'n esgyn → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
262[1] Ysbryd y Gwirionedd.
87.87.47.
1 YSBRYD y Gwirionedd, tyred
Yn dy nerthol ddwyfol ddawn;
Mwyda'r ddaear sech a chaled,
A bywha yr egin grawn:
Rho i Seion
Eto wanwyn siriol iawn.
2 Agor gyndyn ddorau'r galon,
A chwâl nythle pechod cas;
Bwrw bob rhyw ysbryd aflan
Sy'n llochesu ynddi i maes:
Gwna hi'n gartref
I feddyliau prydferth gras.
3 Tywys Seion i'r gwirionedd,
At oludoedd meddwl Duw ;
Dyro'r manna, gad in yfed
O ffynhonnau'r dyfroedd byw :
Dawn yr Ysbryd―
Bywyd a thangnefedd yw.
John Hughes (Glanystwyth)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 262, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930