Arhosaf yng Nghysgod fy Nuw

Dilynaf fy Mugail drwy f'oes Arhosaf yng Nghysgod fy Nuw

gan Henry Lloyd (ap Hefin)

Oleuni mwyn, trwy'r gwyll sy'n cau bob tu
Fy Nghraig a'm cadernid yw'r Iôr

634[1] Diogelwch y Credadun.
88. 88. D.

ARHOSAF yng nghysgod fy Nuw—
I mewn yn nirgelwch y nef;
Dan adain ei gariad 'r wy'n byw :
Fe'm gwrendy cyn clywed fy llef.
Pe curai trallodion yn hy
I'm herbyn fel tonnau y môr,
Mi ganaf wrth deimlo mor gry',
Fy Nghraig a'm cadernid yw'r Iôr.

2 Nid ofnaf rhag dychryn y nos,
Na'r saeth a ehedo y dydd:
Diogel bob munud o'm hoes
A fyddaf yng nghastell fy ffydd ;
Eiddilaf ryfelwr wyf fi,
I ymladd â nerthoedd y ddraig;
Ond caf fuddugoliaeth a bri,
A Duw Hollalluog yn graig.

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 634, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930