Oleuni mwyn, trwy'r gwyll sy'n cau bob tu
← Arhosaf yng Nghysgod fy Nuw | Oleuni mwyn, trwy'r gwyll sy'n cau bob tu gan John Henry Newman wedi'i gyfieithu gan John Morris-Jones |
→ |
635[1] Arwain Fi.
10. 4. 10. 4. 10. 10.
1 OLEUNI mwyn, trwy'r gwyll sy'n cau bob tu,
O! arwain fi;
Pell oddi cartref wyf, a'r nos yn ddu,
O! arwain fi;
Cadw fy nhraed; ni cheisiaf weled dim
O'r tir sy draw; un cam sy ddigon im.
2 Nid oeddwn gynt yn ymbil am i'th wawr
Fy arwain i;
Dethol fy ffordd a fynnwn; ond yn awr,
O arwain Di.
Carwn y llachar ddydd; er ofnau'r hynt
Bu falch fy mryd; na chofia'r amser gynt.
3 Diau dy allu, a'm bendithiodd cyd,
A'm harwain i
Dros waun a rhos, dros graig a chenlli, hyd
Pan wawrio hi,
A'r engyl gyda'r wawr yn gwenu fo,
A gerais er ys talm, a gollais dro.
—John Henry Newman cyf John Morris-Jones
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 635, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930