Atgofion am Dalysarn/Hen Seiadau Talysarn

Atgofion Ieuenctid Atgofion am Dalysarn

gan Fanny Jones, Machynlleth


golygwyd gan George Maitland Lloyd Davies
Atgofion am Ddolwyddelan



ATGOFION AM HEN SEIADAU TALYSARN

Yr oedd yn ddrycin gwynt a glaw, ond nid oedd y tywydd yn un rhwystr i'r hen chwiorydd a'r hen frodyr i ddyfod ynghyd i'r Cyfarfod Eglwysig. Yn yr Hen Gapel y cynhelid y Society hon. Wedi i un o'r brodyr ddarllen a gweddïo, fe aeth fy nhad allan o'r set fawr, lle'r eisteddai, i ofyn profiad. Aeth at yr hen ŵr William Roberts, Cae Engan. Dyma'r gŵr y daeth fy nhad i fod yn gyfrannog ag ef yn ei fargen pan ddaeth gyntaf i weithio i chwarel Talysarn. Cyflwynodd y swyddog fy nhad i William Roberts rhywbeth yn debyg i hyn, "Wel, dyma fi wedi dod â dyn dieithr i fod gyda chwi: gwnewch yn fawr ohono." Ysgydwodd y ddau law, a buont byth yn gyfeillion. Aeth fy nhad at yr hen ŵr gan ofyn iddo, "Wel, William Roberts, beth sydd gennych i'w ddweud wrthym heno?" "Dim, John Jones, dim, ond fy mod yn ofni 'y nghrefydd: 'rwyf wedi dod i'r penderfyniad mai rhagrith yw'r cwbl." Tybed, William Roberts? "Ie, ie." ebe yntau gan wylo'n hidl. "Faint sydd, William Roberts, er pan ddeuthum atoch i weithio i Allt y Fedw?" "Llawer iawn o flynyddoedd, John Jones." "Wel, William bach, yr oeddwn i yn tybied y pryd hwnnw eich bod yn ddyn duwiol, ac ni chefais le i un amheuaeth am eich crefydd o hynny hyd yn awr. Dyn yn ofni Duw oeddech bob amser er pan ddeuthum i'ch adnabod." "Ie, John Jones, ond ofn sydd arnaf mai rhagrith yw'r cwbl er hynny." "Wel, chwi sydd yn eich adnabod eich hun orau, William Roberts. Os fel yna yr ydych yn teimlo, beth a wnawn ni ichwi? A ddymunech chwi i'r brodyr yma groesi eich enw allan o Lyfr yr Eglwys, ac i chwithau gael dechrau o newydd-ni allwn ni eich gwrthod fel pechadur. Beth ydych chwi yn ei ddweud, William Roberts? "

Erbyn hyn yr oedd yn wylo trwy'r lle, a'r hen Hugh Roberts, y Ffridd, â'i ruddiau fel dwy ffos, a'r hen chwiorydd yn ochneidio, a distawrwydd yn teyrnasu drwy'r lle. "Beth wnawn ni, William Roberts? A gawn ni orchymyn croesi'ch enw allan o Lyfr yr Eglwys? "O na, peidiwch wir," ebe yntau dan deimladau dwfn a drylliog. "Pa reswm sydd gennych dros beidio?" Dim ond wylo a dwfn ochneidio a wnai. "A ga' i ofyn ichwi, William Roberts, am un rheswm dros eich goddef yn y Seiat a chwithau yn dweud mai rhagrithiwr ydych? A ydych chwi, tybed, yn caru Iesu Grist?" "O ydwyf, John bach. O ydwyf, yn ei anwylo yn fwy na'r byd i gyd. O, caru Iesu Grist, 'does dim dowt am hynny. Y Fo yw'r ffrind gorau a feddaf i—wrtho Fo y bydda' i yn dweud fy hanes. Trwyddo Fo yr wyf yn disgwyl myned i'r Nefoedd. Yn ei freichiau Ef yr wy'n codi 'mhen o flaen Duw. O, ei garu O! Ydwyf, ydwyf." A daliai i wylo ac ochneidio yr holl amser y dywedai ei brofiad. Safai fy nhad fel colofn, â'i lygaid yn pelydru'r Anweledig, tybiem. Trodd at William Roberts a dywedodd, "Gresyn, William Roberts, fod y diafol yn eich poenydio chwi! Glywch chwi, frodyr a chwiorydd annwyl, mor greulon, mor ddigywilydd y mae ymosodiadau'r diafol wrth hen Gristion annwyl didwyll: ond o ran hynny yr oedd yn ddigon beiddgar i ymosod ar ein Gwaredwr ni. Dyna fel mae e'n ein poeni ni. Yr ydym yn ymdrechu gyda'n crefydd ac yntau yn edliw inni, ac yn dweud nad yw'r cwbl ond rhagrith."

Yr oedd pawb yn wylo erbyn hyn, ac yng nghanol y twrf a'r ochneidio fe roes yr hen bennill allan i'w ganu, "Fe genir yno am y Gwaed," etc., a'r hen Edward Williams â'i lais yn ddrylliau gan ei deimladau yn dechrau canu. Ac O! 'r fath ganu! Dim dechrau na diweddu gyda'n gilydd, ond slyrio ar ryw air, "Cenir, fe genir, ie, fe genir." "Ie," ebe un arall, "bydd canu wedi cyrraedd yno." "Ie," ebe un arall, "'does dim yn werth canu amdano yn y Nefoedd ond y Gwaed yn golchi beiau—dyna'n unig a fydd yn werth canu amdano byth." O'r diwedd dyma ychydig o dawelwch. Aeth fy nhad ar ei liniau ar ffrynt yr hen sêt fawr, ac fe ddechreuodd weddïo: "Fe fydd yn ddrwg gennym, ein Tad Nefol, weled hen bererinion yn cael eu cythruddo ac edliw eu beiau iddynt. Teimlo rhyw eiddigedd at Dy bobl Di, ein Hiesu annwyl, y mae'r cythruddwr -gweld eu cariad a'u sêl a'u hymlyniad wrthyt. O, mae'n werth dod i'th Dŷ ar noswaith ddrycinllyd fel hyn o bellter ffordd gan y pererinion. Beth sydd yn eu tynnu? Cariad at y Gwaredwr yr Hwn a'n carodd ni. Yr wyt Ti wedi tynnu'n serch arnat Dy hun, wyt yn wir. Fedr dim ei ddiffodd byth, byth." Erbyn hyn ni allem glywed un gair-yr oedd orfoledd drwy'r lle i gyd. Yr oedd yr hen Fargiad Owen, Llidiart y Mynydd, yn f'ymyl. "O, fy Iesu annwyl, annwyl, annwyl, mi ddoist i farw drosto' ni, ac mi eist i'r nef hefyd. Er gwaeled ydym ni, mi ddown yn iach ryw ddiwrnod." Ann Morris, Tan'rallt, a waeddai, "Fe ddown ninnau i'r lan ryw ddiwrnod drwy rinwedd y Gwaed sy'n effeithiol i'n dwyn yn rhydd." A fy mam, "Fe rodd Ei fywyd drosom. Iesu Grist yn marw. Fe gaf finnau ymguddio byth yng nghysgod Ei lawn a'i Aberth Ef." A Chatrin Michel, Tyn Lôn, yn neidio ac yn gweiddi, "Gogoniant am Drefn achub pechadur. Fe gostiodd yn ddrud; do, fe gostiodd ddirmyg a gwawd i'n Gwaredwr ni. Gogoniant byth am iddo'n cofio ni.'

Aeth fy nhad i'r tŷ, â'r moliannu'n parhau yn y Capel. Aeth i'w lyfrgell. Wedi inni roddi negeseuau yn y siop a'i chau, daeth fy nhad i lawr a dywedodd, Oni ddaeth eich mam i mewn eto? Ewch i'w hymofyn." Wedi perswadio llawer arni, daeth ac eisteddodd yn dawel. "Dowch, blant, at eich swper," ebe fy nhad. Wedi gorffen, meddai, "Gadewch inni ganu gyda'n gilydd." Yr oedd gan bob un ohonom leisiau da:

"Ar Galfari yng ngwres y dydd,
Y daeth y gwystl mawr yn rhydd"


phan ddaethpwyd at y geiriau,

"Ac yno'n talu anfeidrol lawn,
Nes clirio llyfrau'r Nef yn llawn,"

fe dorrodd fy mam allan i orfoleddu, "Ie, ie, beth oedd gen' i? Efe a wnaeth y cwbl drosta i. O, fy Ngwaredwr annwyl yn talu anfeidrol Iawn-digon byth i ofynion deddf Duw," ac ymlaen.

Cyfododd fy nhad, ac meddai wrthym, "Gadewch iddi nofio ei llestr: y mae ei henaid yn mwynhau'r pethau yma. Y mae ei hysbryd gyda'r hen siop yna . . . gadewch iddi nofio, blant." Yna aeth i'w lyfrgell, a mam yn gorfoleddu ac yn canmol ei Gwaredwr. Yr oeddem ninnau weithiau'n wylo i'w chanlyn er na wyddem ni am beth y pryd hwnnw, ond yr ydym wedi teimlo, fel hithau, gariad at ein Gwaredwr llonni ein heneidiau.

Nodiadau golygu