Atgofion am Dalysarn/Llythyr at ei Nai (G.M.Ll Davies)
← Siôn Gruffydd yr Atal | Atgofion am Dalysarn gan Fanny Jones, Machynlleth golygwyd gan George Maitland Lloyd Davies |
→ |
LLYTHYR AT EI NAI (G. M. LL. DAVIES)
ANNWYL GEORGE,
20 Awst, 1903.
Heb air o ragymadrodd wele fi yn anfon fy hanes i chwi: rhyw grynhodeb o'm hymweliad â Dolwyddelan.
Cyrhaeddais yno ddydd Iau, y trydydd ar ddeg o Awst. Wedi mwynhau cwpanaid o de yn y Las Ynys, euthum allan i gyfeiriad yr hen chwarel ac ar hyd ei llwybrau, lle y cefais olwg ardderchog o Foel Siabod ac o ben pinacl yr Wyddfa. Hefyd gwelais yr hen lwybr y cerddasai Nanws ar hyd-ddo i fyned a dyfod i'r hen gapel. Ymddolennai'r afon i lawr y dyffryn ac ymddolennai'r llwybr gyda'r glannau. Tybiwn weled fy ewythr, David Jones, yn dilyn ei chamau ar hyd-ddo, a Nanws yn gweddio'n daer ar ei Thad nefol, ac yntau'n gofyn iddi (yn gweiddi am fod sŵn уг afon yn boddi eu lleisiau): "Am ba beth yr ydych yn gweddïo mor daer, Modryb Nanws?'
O, Dafydd bach, gofyn yr oeddwn i i'r Arglwydd gymryd gofal o'm hen gorff i; chreodd Efe 'rioed yr un hyllach, ond hen gorff Nanws fydd o, Dafydd bach."
Yna fe aeth fy meddwl i'w dilyn i'w bwthyn bach tlawd yn y Cae Du. Yno digwyddodd pethau rhyfedd, fel y dywed ei hanes, ond fe ddywedwyd wrthyf mai yn y tŷ nesaf y bu hi farw, ac iddi, ychydig cyn ymadael, ofyn am ychydig ddwfr i'w yfed, a phan ddygwyd ef iddi, dywedodd: "O diolch byth nad yn uffern yr oeddwn yn gofyn amdano." Teimlwn, wrth feddwl amdani: "Y rhai nid oedd y byd yn deilwng ohonynt."
Euthum i edrych yr hen gapel y cariodd Nanws y trawstiau i'w adeiladu, ac O! y fath gysegredigrwydd ar y llecyn o'r ddaear y bu presenoldeb yr Arglwydd yn eu plith. Yr hen lawr wedi ei orchuddio â brwyn am fod y llawr pridd mor wlyb. Yr hen ffenestri bychain yn aros fel cynt. Yr hen gwpwrdd derw lle y cedwid y gwpan ddi-addurn i'w defnyddio i gofio angau ein Gwaredwr. O! y wledd i mi oedd cofio a myfyrio amdanynt. Nanws yn ei lludded â'i dwy glocsen yn cerdded oddeutu dwy filltir i'r hen gapel bach diaddurn. Ie, ond dyna a osodai ogoniant ar y gwasanaeth, fod Duw yno gyda'i bobl. Yn wir, George, teimlwn yn y lle fel pe buaswn yn y Santeiddiolaf, fod y presenoldeb Dwyfol yno. Dyna, mewn gwirionedd, sydd yn rhoddi bri ar addoldai, nid eu gwychder, nid maint cyfoeth y swyddogion, na sain beraidd eu musical instruments. Beth a gyfansodda addoliad ac addoldai cymeradwy gan Dduw? Trueiniaid tlodion yn gwir addoli, mewn symledd a pharchedig ofn.
Bob parch i Nanws yn ei chlocsiau a'i becwn stwff. Mi ddywedaf fel fy nhad, "O! am feddiannu'r un fath stamp o grefydd â mam a Nanws."
Daeth eich mam ddydd Gwener. Aethom heb ymdroi i fyny i Gwm Penamnen, ar hyd yr un llwybr ag y cerddodd ein hen gares Angharad James ar hyd-ddo flynyddoedd yn ôl. Daethom hyd at Glwt y Dawns ar y llaw chwith inni. Yr oedd talp anferth o graig, tua chwe llath o'r ffordd, â'i hwyneb yn wastad. Yno yr eisteddai'r feistres tra fyddai'r morynion yn godro yn y cae bychan gerllaw, lle y gwelir sydd wedi ei amgylchu â gwal isel. Yno deuent â'r cunogau ar eu pennau yn cynnwys y llaeth, a dodent hwy i lawr mewn lle cyfleus, ac yna dechreuai eu meistres ganu'r delyn a dechreuent hwythau ddawnsio bob dydd ar eu ffordd adref o'r fuches.
Aethom ymlaen nes dyfod at hen Blas Angharad James.[1] Yr wyf yn cofio darnau helaeth ohono, pan euthum yno flynyddoedd yn ôl, ond heddiw wedi diflannu, ag eithrio ôl yr hen simdde fawr. Yn y tŷ sydd agosaf ato y bu cyfnither imi'n byw. Cefais de ganddi. Y mae wedi myned i America ers blynyddoedd.
Dydd Sadwrn disgynnai'r glaw fel pe buasai cwmwl wedi torri, a chan ein bod ar derfyn dwy afon, fe chwyddai'r dwfr ynddynt yn ofnadwy. Llanwai nid yn unig wely'r afon ond y caeau a'r dolydd fel môr. O! yr oedd rhyw fawredd ofnadwy yn yr olwg arnynt.
Y dydd Saboth gwyddoch ein hanes.
Y dydd Llun aethom i Berth Eos[2]—gyda'r trên i Roman Bridge, gyda'r afon, a ymdroellai ôl a blaen ar hyd ein ffordd. Daethom i'r Berth Eos. Tŷ newydd sydd yno'n awr; ni adawyd ond yr hen simdde o'r aneddle y magwyd y pum merch harddaf yn y plwyf. Y mae yno y lle mwyaf anghyfannedd a welais erioed, ac i ychwanegu at hynny y mae'r hen adfeilion adeiladau blith-draflith yno: hen ysguboriau, hen dai annedd, hen feudái, hen gytiau moch; ie, y fath aflerwch yn ymyl y tŷ hardd, lle y preswylia yn awr Ellis Williams a'i chwaer.
Daethom adref heibio i'r hen Dan y Castell, ac mor ddigalon oeddym wrth edrych ar yr olwg adfeiliedig, fel yr oeddym am fyned heibio ar hyd y ffordd heb fyned ato, ond fel y nesaem, gwelem ŵr dieithr a'i wraig yn sefyll yn agos i'r gof-golofn ac yn ysgrifennu'r argraff a oedd arni yn ei lyfr.
"Wel," meddwn wrtho, "yr ydych wedi dod yma, y mae'n debyg, i'r un neges â minnau, sef i weled hen gartref John Jones, Talysarn." Wedi peth ymddiddan fe ddywedodd ei fod yn adnabyddus â'm tad. Yr oedd am ysgrifennu'r hanes i'r Faner—y Faner Fawr ydyw. Fe ddymunwn ei chael, os gallwn, ddydd Sadwrn: y mae'n olygydd iddi. Yr oedd ei barch at fy nhad yn ddiderfyn.
Yna aethom i'r Las Ynys i gael te, ac aethom i weled hen wraig dlawd yn byw ar y llwybr sy'n myned i Gapel Curig, heibio i'r Singrig, tai bychain, llwydaidd ddigon. Cwynai rhyw wraig wrthym fod rhywbeth ar y tatws eleni. Poor thing! Dyna ei "stâd" hi—yr ardd. Yna dringasom i fyny. Daethom i gyfarfod â lluaws o visitors yn drachtio dwfr y ffynnon fach loyw, lân, ar ochr y ffordd gul, cwpan garu ganddynt.
Yna daethom i olwg rhes o dai bychain tlodion, a elwir y Barracks, yng nghesail y mynydd, o'r golwg ac o gyrraedd y ddrycin yng nghysgod y graig; aethom i ofyn am dŷ Mari Jones. Dyma hi'n dyfod. Tebyg iawn i Siân Jones, y Garnedd, ei gwisg yr un fath, ac yn ysgafndroed fel hithau. Yr oedd merch iddi'n byw gyda hi, geneth gloff iawn. Wel, pe gwelsech chwi i gyn lleied o le y gall amgylchiadau gyfyngu ar greadur dynol. Un ystafell fechan, y gwely yn y gongl, y bwrdd bach wrth y tân, y cwpwrdd ac ychydig lestri ar ryw silffydd, ffenestr bach ac ychydig o hen lyfrau hen, hen. Fe ddywedodd wrthym fod y Person wedi ei pherswadio i werthu hen Feiblau tri chant oed iddo fo. Yr oedd yn ddrwg gennym iddi wneud, oblegid hen Fethodist ydyw hi a'i theulu erioed.
Wel, fe gawsom sgwrs â hi. Cofiai bopeth, a chefais lawer iawn o eglurhad ar hen hanes mewn perthynas â Than y Castell, oblegid bu'n byw flynyddoedd yn ymyl y tŷ, mewn bwthyn sydd yn awr wedi myned yn adfeilion, yn y lle y mae fy mrawd wedi plannu coed.
Yr oedd fy nain yn byw yn y tŷ nesaf i'r afon, a'r ty croes yn un tŷ, a modryb Margiad yn y tŷ canol. Wedi hynny aeth fy nain i'r tŷ croes, a rhoes y tŷ nesaf i'r afon i Modryb Mary. Pan oedd fy nhaid yn fyw, yr oedd y teulu'n byw yn yr holl dŷ. Hen blasty ydoedd, ond pan briododd y merched a marw fy nhaid fe'i rhannwyd yn dri thŷ.
Fe anwyd tri o blant i'r hen wraig, a'm nain oedd y doctor, ac yn ddoctor i'r holl wlad y pryd hwnnw. Dywedai am fam Cadwaladr Owen, a oedd yn byw yn Nhalaldrach, ei bod yn myned i le bach yn agos
i'r afon-hen gwt bach-ac yn cymryd bara gyda hi ac ychydig ddwfr, ac yna yn cymryd yr ordinhad i gofio am farwolaeth y Gwaredwr. Ni allai fyned i'r capel gan henaint.
Gwelais y Garnedd, y Coetmor a'r Gorddiner wrth ddyfod o Ddolwyddelan yn y trên cyn entro'r twnel. Cwm tebyg i Ben Amnen ydyw, yn cau pob thoroughfare i fyny. O! mor berffaith dlws a rhamantus ydyw.