Atgofion am Dalysarn/Rhagair
← Atgofion am Dalysarn | Atgofion am Dalysarn gan Fanny Jones, Machynlleth golygwyd gan George Maitland Lloyd Davies |
Atgofion Ieuenctid → |
RHAGAIR
YSGRIFENNWYD yr atgofion a ganlyn gan Mrs. Fanny Jones, Machynlleth, mewn llythyrau ataf a hithau wedi pasio oed yr addewid. Yr hynaf ond un ydoedd o ferched John Jones Talysarn a Fanny ei wraig. Y mae Cofiannau ei thad a'i mam yn adnabyddus, a chyhoeddwyd hefyd Gofiannau i'w brodyr, David Lloyd Jones a Thomas Lloyd Jones, a oedd yn enwog yn eu dydd, y naill fel pregethwr a'r llall fel teithiwr dros wledydd Ewrop. Ond nid ar led byd na lled gwlad y teithiodd meddwl Fanny, ond yn hytrach ar hyd bywyd cartref a chymdogaeth. Dawn disgrifio a oedd ganddi, a hynny'n fwy byw o lawer ar aelwyd ac mewn ymgom nag ar bapur. Ymddiddorai hefyd yn yr anenwogion hynny a elwid gan Edmwnt Prys "Ei weiniaid a'i werinos." Darllenais neithiwr sylw'r Dr. Johnson yn ei ddydd: "Whatever withdraws us from the power of our senses, whatever makes the past, the distant, or the future predominate over the present, advances us in the dignity of thinking beings."
Perygl meddwl ein hoes yw ei fod ledled y ddaear yn fâs ac yn frysiog ei amgyffred, a phrin yw gwybodaeth plant dynion, ie, a phlant y wlad bellach, o'u cartref a'u cymdogaeth. Cyfrinach yr aelwyd yng Nghymru gynt oedd hanes cymeriadau a'u cyfeiriadau mewn bywyd; yr oedd prifio mewn profiad yn ogystal ac mewn corffolaeth. A rhag ein bod yn anystyriol o hanes o'r fath, awgrymog ddigon ydoedd cyffes gwŷr mor enwog â'r Iarll Baldwin, Arglwydd Grey a'r Archesgob Lang, a welodd fywyd ar led byd, iddynt droi at atgofion Wordsworth yn ei hanes hynod o " daith yr anialwch i gyd" a adroddir yn y "Prelude." Yn wir, amcan Wordsworth yn yr "Excursion" ydoedd darlunio, nid mawrion byd, ond cymeriadau a phrofiadau'r anenwogion hynny na welir eu hanes mewn llyfr hanes.
Rhyw deimlad o'r gwerthoedd hyn, wrth chwilio a chwalu hen bapurau, a barodd imi anfon hen ysgrifau fy modryb Fanny at Kate Roberts, rhag ofn bod ynddynt ddiddordeb i eraill hefyd. Gresyn yw eu bod mor fyr a bratiog, ac na buaswn ar y pryd, ddeugain mlynedd yn ôl, wedi ysgrifennu'n fanwl yr ystorïau a glywais ganddi noson ar ôl noson ar yr aelwyd am fywyd yn Nhalysarn ganrif yn ôl.
Nid oedd y cartref prysur a'r diwydiant llechi cynnar o grombil y Nant dawel mor ddi-ramant chwaith. Oni anwyd ei mam, Frances, ar lan môr Ffrainc pan aeth ei nain i weini ar ei gŵr, a fu'n ymladd yno tan Wellington? Oni phriodwyd hi yn ddeunaw oed â John Jones, a aeth, ganol dydd golau, at ei thad, Thomas Edwards Taldrwst, i ofyn amdani, ac wedi'r briodas yn hen Eglwys Llanllyfni, oni chariodd hi o'r Eglwys ar grwper ei geffyl yn ôl arfer yr oes?
Yng ngolau atgofion fy modryb nid Methodistiaeth yn unig a lanwodd fryd ei thad, fel y gallesid meddwl wrth ddarllen y Cofiant swyddogol gan y Dr. Owen Thomas. Cofiaf hi'n adrodd fel y dychwelai o'i deithiau hir ar gefn ei geffyl, ac fel y rhedai ei blant ato cyn ei fod wedi tynnu ei got farchogaeth, a'r genethod â'u breichiau am ei wddf
"Yn gu rosynnog res annwyl,
Yn gariad i gyd mewn gwrid gŵyl",
ac fel y cododd hwynt i gyd o'r llawr â'i freichiau cryfion. Hanes angerddol ydoedd colli ei eneth Elin yn bedair ar ddeg oed. Y mae disgrifiad manwl a hynod iawn ohoni, ac o arteithiau ei enaid yn ei golled, yn ei bregeth "Y Symudiad Mawr."
Cofiaf hefyd ei hanes am ei thad pan erlidiwyd ef gan yr Uchel-Galfiniaid oherwydd ei gyfeiliornad, yn ôl eu tyb, at Arminiaeth, a'i bwyslais ar ran a dyletswydd dyn yn ei iachawdwriaeth. Bygythid ei droi o'r weinidogaeth, a dychrynwyd ei wraig gymaint nes erfyn arno fod "fel pobl eraill, a pheidio â thynnu pawb am ei ben." O'r diwedd, wrth weled ei dagrau ar ei hwyneb, trodd ati: "Os yw fy nghydwybod yn lân a Gair Duw wrth fy nghefn, waeth gen' i amdanynt."
Yng ngwaelod y gist cefais lyfryn wedi ei rwymo mewn lledr ac arno "A present to Fanny Jones ", ond ar ei ddalennau y mae nodiadau o bregeth ar yr Antimoniaeth a ddyrysai gymaint o'i gyd-grefyddwyr wrth roddi'r pwyslais oll ar etholedigaeth Duw a dim ar ymdrech dyn. Y mae'r ysgrif mor fân fel mai prin y medr neb ei darllen ond â chŵydd-wydr. Dyma un o'i ymresymiadau a ddengys ei ddull cartrefol ac effeithiol o drafod y pwnc:
"Meddyliwch fod Admiral Lloegr yn anfon llythyr at gapten y fan-i-war, neu long ryfel, i Fôr y Canoldir, yn gorchymyn iddo ddyfod â'r llong adref i Loegr. Oni ddeallai'r capten mai meddwl yr Admiral ydyw iddo ef, nid cario'r llong ar ei gefn, ond yn unig arfer y moddion i'w dwyn adref, codi'r hwyliau ac iawndroi'r llyw, a gadael i'r môr ei chario a'r gwynt ei gyrru adref. Felly, long ymhell oddi cartref ydwyt tithau, a Duw yn galw am yr hen long yna adref yn ôl; ond nid yw'n disgwyl i ti ddod yn dy nerth dy hun. Y mae yn caniatáu i ti ei rhoddi ar fôr Rhad Ras i'w chario, ac o flaen gwynt nerthol yr Ysbryd o'r uchelder i'w gyrru adref, ond disgwyl i tithau godi ambell ysgrythur i fyny yn dy fyfyrdod, fel hwyl ar y mast i'r gwynt gael dal arni, ac anfon ambell weddi i fyny fel llyw i'w chyfeirio i'r iawn borthladd."
Sefais ddoe uwchben bedd ei fam, Elinor ach Rhisiart, a gladdwyd yn 1847 gerllaw hen Eglwys y Plwyf yn Nolwyddelan. Cofiaf fy modryb yn adrodd fel y cafodd ei thad yn Nhalysarn freuddwyd am ei marwolaeth. Yr oedd rhyw gyfriniaeth ryfedd (neu second sight, ys dywed gwŷr yr Ucheldiroedd) yn y ddau. Cofiaf hanes eu bod yn eistedd mewn parlwr yn y llofft pan gododd Fanny Jones yn sydyn gan ddweud, Mae gwraig y Pendist newydd ddarfod," a pheri tynnu llen ar y ffenestri. Eglurodd ei bod wedi clywed traed yn esgyn y grisiau ac yn croesi'r ystafell, a llais yn sibrwd y geiriau wrthi. Ymhen amser daeth gŵr ar gefn ceffyl gyda'r newyddion am farwolaeth ei pherthynas o'r Pendist.
Nid oes fawr o goel yn yr oes olau hon i ymwybyddiaeth o'r fath, ond gan rai fel Syr Oliver Lodge a'r gwyddonwyr eraill a ffurfiodd y "Psychical Research Society." Cofiaf yr Athro Fleure yn adrodd ei gred fod gwareiddiad arwynebol yr oes wedi ein hamddifadu o rai o ddoniau yr is-ymwybyddiaeth mewn oes dawelach a dyfnach.
Yr un modd gyda diwylliant cefn gwlad. Yr oedd barddoniaeth a'i chrefft yn fore iawn ar aelwyd Tan y Castell, fel y dengys emynau a phrydyddiaeth Dafydd Jones o Dreborth. Ac am ei frawd John yr oedd diwinyddiaeth, ac athroniaeth, cerddoriaeth a chrefftwaith ganddo i'r fath raddau nes ei gymhwyso, yn ôl beirniad o fri, i fod yn arholwr Prifysgol ar “Gyfatebiaeth rhwng Natur a Chrefydd " gan yr Esgob Butler. Ugain mlynedd yn ôl cyhoeddwyd Tonau Talysarn " gan Emlyn Evans, ac yn ôl fy modryb, nid âi'r teulu i orffwys heb ganu, fel côr, amryw o hoff emynau ei thad.
Gwelais yn yr hen gist amryw lythyrau o'r ganrif o'r blaen-un o Lundain i'w wraig yn 1838, yn diweddu: "Dymunaf arnoch ofalu am Thomas a Richard bach rhag iddynt gael cam, nac oeri eu traed a chael afiechyd. Dymunaf arnoch, er fy mod dros ddau gant o filltiroedd oddi wrthych cedwch ddyletswydd yn ofalus, ac aed rhywun i weddi yn y llofft newydd bob dydd; gofelwch am wneud hyn, ac na adewch y tŷ heb ddyletswydd. Yr Arglwydd fyddo yn dda wrthych, a'i amddiffyn fyddo trosoch. Gweddiwch drosof eich gorau.
Mewn llythyr at ei fab John yn America yn 1847, ysgrifenna: "Mae dy addewid na bydd i ti briodi heb ein cydsyniad wedi llonni llawer ar dy fam. Dymunaf arnat fod yn bwyllog ac yn ddifrifol gyda hynny. Gochel ar un cyfrif ddenu serch neb, heb fod o feddwl gonest a difrifol. Pechod a ddygodd felltith amlwg ar lawer ydyw gwneud twyll neu arfer anffyddlondeb. Gofala am ochel cellwair à neb mewn un modd oni bydd gennyt feddwl difrifol a phenderfynol. . .
Da iawn gennym gael hanes oddi wrthych yn fynych, fynych. Onid oes ar fy mrodyr hiraeth mawr mewn hen le anial fel yna-dim modd gwneud y crop yn arian? Wedi ei godi, ni ellir gwerthu'r gwenith. Pa beth yw gan hynny o werth? Ni thâl y tir a'r wlad i gadw gweinidogion. Pe bai yna swm yr Wyddfa o wenith ni thalai i'w gario i'r môr-mae mor bell. Gan hynny, pa beth a wnewch? Gweddïa ar Dduw am gyfarwyddyd, pa beth i'w wneud. Dyro yn dy lythyr ateb i'r gofyniadau hyn: (1) A fyddi yn dilyn y Seiat ac yn cadw addoliad teuluaidd? (2) Pa beth ydyw dy fwriad gyda'r ffarm? (3) Pa fodd y mae ar dy fodraboedd? (4) Hanes d'ewyrth William. (5) Pa faint yw'r prisiau yn awr? (6) Pa bryd y byddi yn codi yn y bore?
Y mae'n agos i dri o'r gloch y bore y munud hwn. Dy fam a minnau sydd ar ein traed."
Ac at ei frawd, William, yn America:
"Pa fodd y mae achos crefydd yn eich cymdogaeth? Bûm yn Llundain y llynedd. Ceisiant gennyf ddyfod yno i fyw, a chynigiant i mi yn dda, ond bwriadu'r wyf i'm llwch orwedd yn naear Cymru neu America. Disgwyliais lawer am lythyr oddi wrthych yn fy mhrofedigaeth chwerw ar ôl colli fy annwyl blentyn 14 oed. Mae fy hiraeth yn annioddefol."
Dyma un o'i lythyrau olaf at ei blant (22/11/1856): "Fy annwyl Dafydd a'm Plant oll,
"Mae eich llythyr wedi rhoddi i mi a'ch mam fodlonrwydd mawr. Gwyliwch a gweddiwch am fendith yr Arglwydd ar eich masnach ac am gyfarwyddyd dwyfol yn eich holl symudiadau. Cofiwch fod llywodraeth Duw dros bob peth, a'i fod yn trefnu trigfa preswylfa pob dyn fel y ceisiant yr Arglwydd. Caiff Dafydd bob peth y mae yn ofyn. Caiff Gwen aros yna eto yn gwmni iddo: caiff symud i ysgol arall. Dymunaf gael llythyr dioed i ddweud pa fodd y mae iechyd Gwen, Fanny, Thomas, Dafydd a Richard. Dymunaf i Gwen ysgrifennu llythyr ataf y tro nesaf; dymunaf ei gael yn ddioed. Caiff hithau'r pethau y mae yn eu ceisio. Mae arnom eisiau llythyrau yn amlach. Gobeithio, Dafydd annwyl, y gwnei ufuddhau i weddïo pan geisir gennyt; yn awr y mae dechrau. Dymunaf gael gwybod a ydych yn cadw dyletswydd deuluaidd yn rheolaidd a chyson bob yn ail eich pedwar. Mae hyn yn ddymuniad taer eich mam a minnau. Yr Arglwydd a'ch bendithio ac a'ch cyfarwyddo ac a'ch cadwo rhag pob drwg. Ymddygwch ym mhob peth fel y mae'n addas i'r saint; hwn yw dymuniad enaid eich tad."
Bu farw John Jones yn 1857, ac yna'n raddol gwasgarwyd y plant. Ychydig cyn ei farw aeth yn un swydd i weled ei fab hynaf, a ddaethai erbyn hynny yn berchennog llongau a chwareli, i erfyn arno gefnu ar y byd, a throi ei fywyd i wasanaeth yr Efengyl. Cloffodd ei fab rhwng dau feddwl am ysbaid, ond glynodd wrth y byd. Yr olwg olaf a gefais arno oedd yn ei blas hardd, yn hen ŵr musgrell ac anfoddog, heb fawr o'i ôl ar gartref nac ar gymdogaeth.
Bu gweddw John Jones, Fanny, fyw am flynyddoedd yn Nhalysarn wedi claddu ei gŵr, ac yr oedd ei direidi a'i duwioldeb yn parhau hyd y diwedd. Pan ddaeth Thomas John, Cilgerran, i Dalysarn yn nyddiau cyntaf ei gweddwdod, pregethodd yn ei ffordd hynod ar "Y Cyfamod Disigl." Ar ganol y bregeth, a hithau'n eistedd yn y Set Fawr gyda'r blaenoriaid, cododd Fanny Jones ei llaw, â'r fodrwy briodas arni, a thorrodd allan: "Y mae angau wedi torri hon, ond y mae gennyf gyfamod arall na all angau na'r bedd ei dorri." Yna aeth Thomas John a hithau i orfoledd. Bu farw yn Llandinam yng nghartref ei mab, David Lloyd Jones.
Dyma gefndir bore oes Fanny Jones, Machynlleth, a dyma hen gynefin ei dawn a'i hatgofion dwys a digrif. Cyfarfüm wythnos yn ôl â gwraig a fu'n aelod o'i dosbarth a ddywedai: "Cymeriad cryf ydoedd yn anghyffredin felly, a barn bendant a dim ofn ei dweud. Dull sydyn oedd ganddi wrth gerdded a siarad. Siaradai'n dda heb ronyn o swildod, eto heb hyfdra. Rhoddai bwys mawr ar letygarwch. Ei gwaith mawr oedd gyda'i Dosbarth Beiblaidd, a dawn ganddi i wneud gwaith y dosbarth yn boblogaidd, nes y daeth yn enwog ym Machynlleth."