Atgofion am Dalysarn/Ysgol Sul Talysarn

Atgofion am Ddolwyddelan Atgofion am Dalysarn

gan Fanny Jones, Machynlleth


golygwyd gan George Maitland Lloyd Davies
Ymweliad F'ewyrth William Jones



ATGOFION AM YSGOL SUL TALYSARN

August 26, 1903. Pwllheli. Y mae pob diwrnod yn meddu ei lond o hanes. Y mae'r wythnos yma yn cyflymu tua'r diwedd. Dydd Llun cerdded oddeutu glan y môr; yna i'r capel i wrando Mr. Hughes . . . campus o bregeth. Dydd Mawrth i Glynyweddw; y drive ar hyd glan y môr yn fwynhad i gorff ac yn ymborth i enaid i fyfyrio ar yr olygfa hardd ac amrywiol. Cerdded i Lanbedrog; dringo i fyny'r rhiwiau; cyrraedd, eistedd yn yr hen aneddau bychain tlawd. . . . yr hen ŵr yn gloff; rhoddi pres iddo i brynu tybaco, yr hyn a'i llawenhâi'n fawr iawn . . . hen weithiwr i Caldicot—cefnder fy nhad, yr hwn a ddywedasai, "Ceisiwch John Jones i bregethu i'r hen Eglwys ac ni fydd yn rhaid ichwi geisio warming apparatus iddi."

Cyfarfod ag un a fagwyd yn hen ardal Talysarn, ym Mhwllheli. "Yr wyf yn cofio'ch tad, Owen Jones; efe oedd yn dysgu'r plant yn y wers gyntaf bob amser." Dyn bychan ydoedd; clocsiau am ei draed. Wedi iddo ddysgu'r wyddor inni, a sillafu'r A, B, ab, anfonid ni at Ddafydd Elis, Coednachdy Ucha'; yno dysgem sillafu. Yno yr oedd Dafydd fy mrawd. Gofynnodd Dafydd Elis iddo, "A oes gennyt ti adnod, Dafydd bach, heddiw? Oes, newydd sbon," oedd yr ateb. "Dywed hi," ebe'r hen ŵr. Safodd yntau'n syth o'i flaen a dechreuodd drwy ddweud:

"Pan godi di y bore, meddwl am Dduw;
Dyro ddŵr ar dy wyneb, fe altrith dy liw;
Dywed dy bader cyn profi dy fwyd,
Rhag ofn i'r hen Satan dy ddal yn ei rwyd."

Pwy ddysgodd yr adnod yna iti, Dafydd bach? Richard, fy mrawd," oedd yr ateb. Gwyddai Dafydd Elis am ddireidi Richard, a dywedodd yn ddifrifol, "Gofyn i dy fam dy ddysgu di i ddweud gwers newydd; nid ydyw honna ddim yn wers o'r Beibl." Golygfa ddymunol oedd gweled Elis Jones ar y llawr yn dysgu'r A.B.C. i'r plant ar hen lyfr pren â phapur wedi ei bastio arno, a'r llythrennau'n fawr; a chwestiwn yr hen Elis Jones fyddai bob amser, "Tyrd yma, Dafydd neu Thomas bach; dywed wrthyf beth ydyw enw hon "; yna dangosai hi â'i fys ar yr hen lyfr bach. Wedi i'r bychan ei ddweud, dywedai, "Da iawn, 'machgen i; mi ddoi i fedru dweud yr wyddor bob gair yn fuan." Ni fyddai byth yn curo, ond denu. Rhoddai'r plant eu llaw am ei wddf. Dyn bychan ydoedd, tawel, digon o amynedd ganddo. Dysgodd do ar ôl to ar y llawr. Bu'n dysgu'r wyddor am flynyddoedd. Nid oedd yr un Moddion yn cael ei gynnal yn y Capel na byddai Elis Jones ynddo. Yr oedd ganddo lwybr caregog, blin i fyned i'r capel. Pan fyddai'n dywyll gwelid ef yn dyfod â'i lantern yn ei law a'r plant yn ei ddilyn, y cwbl yn eu clocsiau o'i wneuthuriad ei hun. O! 'r amynedd oedd yn ystôr yn ei galon!

Dilynwyd ef gan ŵr bychan o'r enw Richard Williams—"Richard Williams bach" y gelwid ef gennym. Yr oedd hwn yn ddiffygiol o'r peth mawr a oedd yn Elis Jones, sef amynedd. Os byddai iddo ddweud mwy na dwy waith am fod yn ddistaw wrth y plant a oedd o dan ei ofal, fe ddefnyddiai ddalennau rhyw hen lyfr a gosodai hwynt mewn modd effeithiol ar ochr wyneb neu ben y troseddwr fel y byddai sŵn drwy'r holl ysgol, ac y byddai gosteg am foment drwy'r lle; a deallai pawb yn fuan mai Richard Williams oedd yn ceryddu'r anufudd. Ie, gwelid tad neu fam y troseddwr yn edrych yn eithaf bodlon i'r gosb; ac ni feiddient rwgnach, oblegid yr oeddynt yn gwybod fod yr hen ŵr yn eithaf match iddynt mewn moment. Yr oedd ei gywirdeb mor ogoneddus ac amlwg i bawb; felly Elis Jones a Dafydd Elis.

Nodiadau golygu