Awdl ar yr Adgyfodiad (Ieuan Ionawr)/Awdl ar yr Adgyfodiad
← Rhagymadrodd | Awdl ar yr Adgyfodiad (Ieuan Ionawr) gan Evan Jones (Ieuan Ionawr) |
→ |
YR ADGYFODIAD,
A hwy a ddeuant allan: y rhai a wnaethant dda, i adgyfodiad bywyd; ond y rhai a wnaethant ddrwg, i adgyfodiad barn.—IOAN 5, 29.
Y CYNWYSIAD.
GAIR Duw yn sicrâu yr ADGYFODIAD.—Ymddangosiad y Barnwr.—Dirgeloedd y Duwdod yn anadnabyddus.—Marwolaeth yn effaith pechod. Adgyfodiad Crist yn sail yr un cyffredinol—cyfeiriad y proffwydi ato.—Dull bore y dydd diweddaf—newid yr olygfa—y dymestl, y fellten, &c.—Yr angel yn cyhoeddi terfyn amser.—Y Barnwr a'i angylion.—Archangel yn rhoddi bloedd aruthr—desgrifiad o wahanol lwythau yn dyfod allan—annuwiolion mewn cyffro gwyllt—credinwyr yn cael eu dwyn i'r awyr, &c.—Adgyfodiad y llu dieflig.—Y Farn yn eistedd—dedfryd ar y ddwy dorf.—Goddeithiad y ddaear yn ddychrynllyd a darluniadol.—Gogoniant y dorf waredigol wedi cyraedd adref.—Dymuniad i ymbarotoi.—Y Duwdod yn cael y mawl am gofio yr isel radd.
GAIR Ion a gywira ini—y daw
Dydd i'n hadgyfodi,
A'r Barnwr mawr heb wyrni
Ymddengys mewn brys a bri.
Ar sedd wèn Iesu ddaw—dan goron,
A'i holl angylion yn lleng i eiliaw.
Yr ewyllys wnaed er lles i ni,—saif
Yn sicr gan fynegi
I fyd am adgyfodi,
Dyna drefn un Duw yn dri.
Dirgeloedd nad eir i'w gwaelod—ydynt
Hynodion y Duwdod,
Heb fodd ar y ddaear ddod
Hyd i neb i'w hadnabod.
Da yw nodded Ion addwyn,
Gyrai ei deg air i'w dwyn
Yn gynyrchion, gan erchi
O'i wir nawdd eu rhoi i ni
Pan y dir ryfeddir fod
Tiriondeb mewn Tri Undod;
Yr oll yn awr a allwn
Ei ganfod o hanfod Hwn,
Yw llywyddiaeth creadigaeth
A thystiolaeth Iesu teilwng;
Er i'n gilio oddiwrtho,
Ef wnai'n cofio ni'n y cyfwng.
Marwolaeth a ddaeth i ddyn,
O bechod a bu achwyn;
Y diwyro Dad arab
Yn rhodd anfonodd ei Fab,
Yn gyfrwng i'n rhoddi'n rhydd,
Ai i'r adwy'n Waredydd.
Yn ein byd o'i gryd i'w groes,
Ca'dd gur a dolur duloes;
Ei fywyd eglurbryd glân—yn deillio
A fu o hono ef ei hunan.
Y boethlyd frwydr Aer Bethl'em—enillai
Mae'n allwedd i'r anthem;
Sigliad y loes galed lém,—ydoedd sobr
Ar nawn croeshoelio Brenin Caersalem.
Bu farw am ein bai oferedd—drosom
O! draserch mor rhyfedd!
Awdur byd yn nyfnder bedd
O'i fwyn gariad fu'n gorwedd.
Yn gorph pur o'n natur ni,
O geudawd bedd gwnai godi.
Marwolaeth a'i arfogaeth orchfygodd,
Satan a'i erwin fyddin a faeddodd;
Yn mhen tri diwrnod adgyfododd;
I lys ei ogoniant ail esgynodd :
Tid yn ewyllys y Tad enillodd,
A thrwy ei ffyniant ei waith orphenodd;
Ac fel yna 'i cyflawnodd;—mae'n darian
Ddyogel weithian, buddugoliaethodd !
Fry ar ddeheulaw'r mawredd,—o'i fwriad
Oestad bydd yn eistedd,
I eiriol dros anwiredd,
Er achles ar uchel sedd.
Gorisel Graig yr oesoedd,—ac hefyd.
Un cyfuwch a'r nefoedd;
Yr un ag yw yn awr oedd,
Ior didawl erioed ydoedd.
Pôr, Iachawdwr pur a Cheidwad,
Efe ydyw'r Adgyfodiad;
Yn y diwedd rhydd wrandawiad
I'w ŵyn anwyl o'i eneiniad.
Mal grawn noethion, cyrff y pydron
Ddirif ddynion dderfydd unwaith;
Er eu meirw, cânt eu galw
Ar ei ddelw yn hardd eilwaith.
Gwir ffurfiad ei gorff eurfyg,—arbenig
Dderbyniant, nid benthyg;
A chânt yn eu meddiant mŷg—i'r nef wèn
Eu dwyn, a'u dyben i'w gwneyd yn debyg.
Ni rwystrir er dyrystro—allweddau
Gwyll iddynt ddihuno;
Dacw lef ddetyd eu clo—a folltiwyd,
Y môr a'u hysgwyd o'i lif amrosgo.
Esau a Daniel a ymestynent,
Y diwrnod olaf draw neud welent,
Yr addewidion goreu a ddodent
I ran Ꭹ duwiol rai a wrandawent;
Yr egwyl a fawrygent;—rhag ameu
Am y pell foreu a'i dymp llefarent.
Iôr ei hun wed, "Yr hwn a
"Fy ewyllys arfolla,
"Ar y dydd mawr diweddaf,
"Gyda nerth ei godi wnaf."
Dywedai Iob mewn gobaith,
"Er fy nghau am oesau maith
"Yn llwch yn nghuddfan y llawr,
"Nid imi bydd yn dymawr
"I adeiliaw dialedd,
"Mi wn daw im' newid wedd.
"A mi 'n wán wyf o'm nych—yn glafaidd
"O dan haiarnaidd gadwynau hirnych,
"Ymrwyfo môr o ofid
"Etwa'n llesg rhwng tonau llid:
"Er i'm croen a'm cnawd ddihoeni—'m hesgyrn
"Yn gymysgedd pydrni,
"Caf adeg i'm cyfodi
"Gyda Ion, ni'm gedy i.
"Eto 'n fy nghnawd caf wel'd fy Nghreawdwr,
"Mwy yw y rhinwedd mae'n fyw fy Mhrynwr,
"Ffyddlawn Geidwad a Thad a Thŵr—o'i ras
"Efe yn addas a saif yn Noddwr."
Dyfal y traethai Dafydd—grediniol,
Y brig hynodol ber ganiedydd ;—
"Gwelaf drwy ffydd ddydd a ddaw,
"Boreuddydd i'm dibriddaw;
"Ydd hwn pan ymddihunaf,
"Prid ail gorff ysprydol gaf."
Wedi'r milflwydd ac i'r gwaith mawr lwyddo,
Gollyngir Satan allan i dwyllo,
A'i blâ anwir er blino—llu'r Brenin,
I ynill byddin a'i lleibiaw iddo.
Llunio er darnio'r deyrnas—mewn brâd gwill
At iddo ynill y santaidd ddinas.
Dwg wyr ofer digrefydd,
Eraill ffol i ddryllio'u ffydd;
Daear eithaf dry i auaf
Y diry wiad,
Ni bydd anfon gweinidogion
Y diwygiad.
Ebe'r Tad, "ymbarotowch
"Cyn dydd du ei ru a'i rôch,
"Rhag eich llysg tân yn ffysg ffowch,
"A deiliaid i mi deloch."
Wele 'r ddwys egwyl ar ddod,
Dofydd i farn yn dyfod!
Enwybod daw Mab y Dyn,
Yna dolef yn dilyn;
Parod b'om y pryd y bydd—o feirw
Ynte i'n galw ni at ein gilydd.
Y bore heibio arwain gyda rhwysg
Godi 'r haul o'r dwyrain;
Dyrch yn ei wisg eurwisg gain
I'w nef oriel yn firain.
Y rhianod, a'u babanod,
Yn llwch isod eu llochesau;
Tlawd ac ynad, pawb yn wastad
Eu gorweddiad, yr un graddau.
Aflanaf lu 'n cyflawni—anwiredd,
Myn eraill briodi;
Budr gynwys pob drygioni—yn un chwant
Nes i'w trachwant yn gymwys eu trochi.
Tro'nt galed weithred yn waeth,
Dan herio Duw 'n eu haraeth;
Yn y glorian eglurir
Eu beiau hwynt cyn bo hir.
Ond eraill yn eu Duw eirian—Ha! dir
Hyderant drwy 'r cyfan;
Eu pwys arno roddant, pan
Ei mynwes ddadrwym anian.
Eto ar fynediad ceir trafnidiaeth,
Amryw sy'n dewis mael marsiandiaeth,
Amryw eraill yn nglyn a morwriaeth,
Mae rhai a garant mewn mwy rhagoriaeth
Feithriniad a thŵf atbroniaeth—digymysg
Mynu dwfn mewn difynyddiaeth;
Y lleill yn hoffi holi am helaeth
Ofer o bydew dirfawr wybodaeth,
Trafod rheol israddol seryddiaeth,
A mwynder addysg mewn daearyddiaeth;
Nid oes heddyw ddirywiaeth,—etyl gylch
Gwawriad ogylch ar y greadigaeth.
I'w harddu hi a erddir,
Dranoeth aent i drin ei thir,
A thybio'n wych fynych fod
Dihafal ffrwyth yn dyfod.
Gobeithiant am fyg bethau— a mwyniant
O ddymunol foddau,
Bwria gwg ei wobrwy gau
I'w daearol fwynderau.
Dyeithr yw da waith yr Ion
Edwina obaith dynion.
Yna dilyn cyfnewid olwg,—rhod
Yr haul yn anamlwg;
Dwyn golau'r byd dan gilwg;
Y Duw mawr O! dyma ŵg!
Amlhau cymylau'n mhob man,
Dua'r awyr yn druan;
Rhyw dawch draw a duach drem
Yn mustl drwyth y dymestl drom;
Mellten droellog lamog lêm
Dry'n ei ffrwst o'r daran ffrom.
Eithr metha yr amaethon,
Yn y tir yr enyd hon.
Ar y chwimwth orchymyn—ryw angel
Gyfryngir i dderbyn
Trwydded i gyhoeddi hyn,
"Darfu amser mae'i derfyn."
Y Pryniawdwr pia yr eneidiau,
Yr Iesu a'i weision ei rasusau,
O'r nef arddunawl eirian fyrddiynau
A amlwg welir ar gwmwl golau;
Cerddorion gwynion yn gwau—i'r Cyfiawn,
A gwobrwy uniawn ferchyg wybrenau.
Ar ei fynediad gan mor ofnadwy,
Cryn y nefoedd fel crîn yw'n ei ofwy,
Nesâ ei fydoedd yn ansafadwy,
Ei feirch branciant, rhedant yn rhuadwy,
Seinia eu trydar yn sŵn toradwy,
Yn eu hynt rymus o'r nen yn tramwy;
Uwch certh dwrf rhyferthwy;—y rhai byw ânt
I achre, neidiant yn ddychrynadwy.
Archangel uchel ei achau—ddyry
Floedd aruthr o'i enau,
Uwch càn mil o daranau,—ryw süad
Egwan i'w alwad f'ai twrf magnelau.
"Codwch o oer lwch i'r làn—chwai deuwch
"Y diwedd sydd weithian;
"Chwi oll neidiwch allan—i eglurdeb
"Cynadledd cofeb cenedloedd cyfa'n."
Dydd angerdd ei ddigter ddaeth—yn rymus
Ag yspaid wgus ei gospedigaeth;
Cyd rhwng y cyfwng blin caeth—er dangos
Ysgariad agos y greadigaeth.
Achrwym natur gan ddychryn—Duw o'r nef
I'n daear ni ddisgyn;
Amneidia, y munudyn
Uthr, ei chroth rua a chryn.
A'i fywiog lef geilw ar—y didduw,
Udgorn ein Duw a gryna ein daear,
Ni chymarir rhoch mor-ryd
A gofref bànllef drwy'r byd;
E ddeil ei gorn, a'i ddolef
Yn uwch, uwch, fynycha ef.
Uwch byd gynulliad rhuthrwyllt raiadrau,
Tery i fewnol barth y trofanau,
Berwa lifeiriant yn boerawl furiau,
O gorddi yn agwrdd ei wanegau,
Hyllt yn agenog chwyddog lechweddau,
A'i anwar gynwrf yn yr eigionau;
Y cyrff olynol dd'ont o'u corff—lánau,
Byddinoedd mawrion o geimion gymau,
Ac o'r bronydd a'r rhosydd yn rhesau,
Y rhai glafychent mewn rhew gilfachau,
Yr holl ieithoedd a'r llwythau ;—ymddeol
Llu byw o ganol y pell begynau.
Yn llesg mal gwraig yn esgor
Rhuo draw mae rhydau'r môr.
Yn gyflym bwrw eu meirw wna 'r moroedd,
Hwy ymesgorant o'u hymysgaroedd,
I fynu eu dirwyn y dyfnderoedd,
Daw eres luon o'u dyrus leoedd ;
Wedi cyflawni y floedd cynhyrfu
Wna grym eu gallu ddyfnion gromgelloedd,
Ehed darnau cymalau, a miloedd
Dirif o esgyrn 'r ol blin derfysgoedd,
Y rhai a falwyd yn y rhyfeloedd;
Yn ol daw eraill o anial diroedd,
Teg anadlant genhedloedd—er cread,
Y sigl a'r lleisiad gasgl yr holl oesoedd.
Yna daw'r meirwon o dir Amerig,
Allan o waelod y gell anelwig,
Dan y cysgodion ac îs y goedwig,
Llymion neuaddau a lle mynyddig,
O ddiffrwyth ddeau Affrig—a'r llwythau
O oerion barthau, lleiniau pellenig
Ymdyna meudwy unig,—yn rhyddion
Y daw'r alltudion fu'n drallodedig.
A dwg wâr épil landeg Ewropa,
Yr holl ynysoedd, gorllewin, Asia,
O! erfawr gyniweirfa,—diodid
Adlawn ryddid i olynwyr Adda.
Ei ddigêl rybydd a glyw Arabiaid,
Y peryglus, fradwrus frodoriaid,
Cyffroa oror boeth y Caffrariaid,
A Phalestin, hen wlad y Philistiaid,
Dihuna ni Brydeiniaid—a dychwel
O lwyr hun dawel lu yr Hindŵaid.
Asia cyrff wrth lais y corn,
A bywyd o fewn pob darn,
I'r fintai a brofant orn,
Mawr ei bwys fydd tymor barn.
Gwibiant, edrychant yn drist,
Methu ffoi cyffroi ar ffrwst,
Cydwybod yn dod yn dyst,
A'i chriau dwfn chwerw dost!
"Hyd yma'r ydym er wedi—ein llawn "
Allanol GYFODI;
"Gwae in' erioed ein geni;
"Heb Dduw 'n ol y byddwn ni."
Adda ac Efa gyfyd,
A lleng eu hil oll y'nghyd;
Eu meibion yn ymwibiaw
Fel ôd red ar y foel draw.
ADGYFODI 'n fyddin fawr
O dalaeth lòm y dulawr!
Fyw ryfedd dorf afrifed !
Ryw lu fu 'n wahan ar led,
Rhifedi mân—wlaw cawod,
Neu y mân raian a'r ôd:
Pe 'n ceisio 'u rhifo ar hynt,
Dywedwn—gormod ydynt;
O'u rhoi 'n eu trefn ar un tro,
Rhyfyg dechreu eu rhifo,
Ac afraid yw eu cyfrif,
Yr Ior ei hun ŵyr eu rhif.
Am le, hwy fel yr amlhânt
Ein daear bron a döant;
O Jesereel, maes yr oedd
Hagraf olwg rhyfeloedd,
Ei arswydol ddewr sawdwyr,
Rif y gwellt o'i arfog wyr.
Oedranus wael drueiniaid
Trwy allu Ior dd'ont o'r llaid,
Y cloffion, a'r gweinion gynt,
Yn heinif bawb o honynt.
Ebrwydded o bridd y daeth
Elwig deml y ddynoliaeth;
Y ddirym ran ddaearol
Llwydo wna, try 'n lludw 'n ol;
A dilwgr gyfyd eilwaith
Ar lef for yr olaf waith;
Noeth hedyn unwaith ydoedd,
Wrth greu 'n y dechreu nid oedd
Ond un corff, "da iawn" ei caid,
Yn anedd i un enaid;
Weithian efe aeth yn fawr,
At ei rym mae'n gnwd tramawr—
Gnwd torf yr egin tirfion
O ddir hâd y ddaear hon.
Ar d'rawiad llygad llu—yr addewid
O'r ddaear i fynu
Frysiant i ofwy'r Iesu,
Nawdd a gânt yn ei wedd gu.
Os cyfodir corff yr anwir,
Ni adewir un y duwiol;
Daw i fynu heb ei lygru,
Ar wedd Iesu yn urddasol:
Y beddau egyr i'w lu buddugol,
Y rhai a fyddant yn fyw a'i gwirfoddol
Gywir adwaenant yn rhan grediniol,
I awyr dygir hwy 'n waredigol,
I gwrdd ei iesin olwg urddasol,
Yno eu hunir yn anwahanol;
Heb un gwan, egwan yn ol—ac heb fai,
Iddynt e brynai eu haeddiant breiniol.
Y rhai yn Iesu a wir hunasant,
Gyd ag Ef wed'yn gwiw adgyfodant;
Hwynthwy o'i foddio, hoen etifeddant,
Eu traed a ymrydd mewn t'rawiad amrant,
Dianaf godi 'n gyntaf gânt—heb ludd
Foreu diorchudd i'w nwyfre dyrchant:
Yr annuwiolion druain a welwant,
A chyn eu dàl yn eu hochain delwant;
Rhai yn amlwg i'w golwg a welant
Y grasol Iesu a groeshoeliasant,
A chewri anwir ddychrynant—rho'nt floedd
Ar y mynyddoedd mewn cri am noddiant.
Wele drymion argoelion awr galed,
Yr annuwiolion yn crynu ei weled;
Erfai noddfa idd y rhai fo'n addfed
I fyw'n ei gôl mewn diangol dynged;
Daeargryn ni sigla 'u dirgred—yn fflwch
Ant oll i'w heddwch o haint a lludded.
Dyma y cyfnod i ADGYFODI
Eorth arwyr yr Oen a'r merthyri,
Acw a rwygwyd yn nghyda'u crogi,
Y llu a'u hesgyrn a roed i'w llosgi,
Eu llwch a fwriwyd i'r lli' ;—heb obaith
O sêl y ddylaith eu sylweddoli.
Na e fydd Barnydd y byd
O feirw i'w hadferyd,
A dwg hwynt i'w wiwdeg gaer,
Ar ei garbwncl glaer gerbyd.
Bu ei wasaidd fabwysiad
Yn ol deddf ei anwyl Dad,
O fryd gwaith ei fwriad gwêl
Fedel yr ADGYFODIAD.
Mintai'r Iesu mewn traserch,
Arno saif oroian serch.
O fod y' mysg pryfaid mân,—a'u henaid
Eu hunir o'r graian;
Wedi'r floedd cânt dyrfa lân
Fêl—giniaw'r nefol Ganaan.
Neb i'w herbyn, angau elyn
Heb ei golyn, heibio galaeth,
O un galon, bloeddiant weithion,
"Bedd a gâlon Buddugoliaeth!"
Er na fedd yr anufuddion—obaith
Ond wban torcalon;
A brigwyllt wyneb yr eigion—yntau
O'u hanwireddau hwy yn arwyddion.
Pond y ddolef gref a gryn
Dalaeth isaf y dulyn,
A'r diafol glyw'r dyfyn,—ffyrniga,
O'i dan ysgydwa ei wenias gadwyn!
Yn y dulyn diwaelod—gan euog
Ddygn—gnöawl gydwybod,
O wydd Nâf erfynia fod,
A cheisia lechu isod.
Rhaid ei ddod i wyddfod Ior
Yn gyndyn o'i agendor,
A'r cythreul—blaid yn haid hyll
O garchar y gwae erchyll;
Barn drylawn, gyfiawn a gânt,
Noethir y drwg a wnaethant;
Arab awdur y bydoedd
Gwêl ar ddwyn ei gŵyn yn g'oedd ;
Noda bob gweithred a bai
O'r galon a'i dirgeloedd ;
I ba le 'r eir i gwblhau 'r oll
A ddygir ger bron yn ddigoll?
Ai o fewn rhyw fán o'r awyr?
Yn fyw ni wn, fy Ion a wyr.
Pawb a'i gwêl, pryd hyn pob gwr
A gred yn ei Greawdwr.
Pa le mae'r Saduceaid?
Credu yr Iesu a raid.
Diwedd gwawd a ddaw i gur,
A thostur ddeil Atheistiaid,
Er erfyn, dychryn i'w dàl,
Canys ni bydd a'u cynal:
Tra gwarthus y try eu gwrthddadl,
Fel ewyn dwfr diflana 'u dadl,
Yn ddim 'n y glorian ydd â
Anffyddiaeth, cyd—ddiffodda.
Cenfydd y Barnydd o bell
Ei ddedwydd lân ddeadell,
Deadell Oen didwyll yw,
Deadell ei waed ydyw;
Nêr—ynad yn Arweinydd
I'w holl fobl yn ddiwall fydd ;
Cynull pob corff ac enaid
Yn eu trefn ato a raid;
Llu y wynfa 'n null enfys
Yn ddilén ânt idd ei lys;
Y meirw fân a mawrion
I gywir brawf ânt ger bron
Ac ar un gair o'i enau
Gwysia hwynt i agoshau.
Daw a'i gofrestr mewn dwy gyfrol—i le
Ei lys awdurdodol;
Heb a wnaed un bai yn ol
I fynag y farn fanol.
Try amlen ddu y trymlwyth
Dynai farn ar Eden fwyth;
E draidd ei olygon draw,
A'i ddeulyfr yn ei ddwylaw.
Adnabod wna 'r godinebwyr,—a phawb
Fu 'n ffordd y troseddwyr;
Cywilyddia celwyddwyr,
A thoa gwarth euog wyr.
Pyga wyneb Paganiaeth,—y gwrthun
Ddiles gynllun oedd eulun—addoliaeth.
Ei feibion heb brofion braw,
Hwy elwir i'r ddeheulaw;
Noda 'r Ynad aur enau
Eu gwobr hwynt a gâ barhau :
Y rhai anwir hyrddir hwy
I le isel ei aswy;
Nid erbyd hwy 'n eu dirboen,
I gasglu parddu mewn poen.
Sefyll wna i wersyll wrth ei orsedd—wén
Yn ngwyneb gwirionedd;
I'w feirw myn ei fawredd
Ro'i barn iawn, a'r byw 'r un wedd.
Pob un arno 'i hun heb wahaniaeth—gâ 'i
Gywir daledigaeth;
O'r un deg farnedigaeth,
Rhan yn ol yr hyn a wnaeth.
Ar y naill ochr neu y llall,
Gwyddorion a gwedd arall:
Cu fendith barn cyfiawnder
Ei hunan weinydda Nêr;
Dacw hwy Saduceaid
Enau bloesg hebddo ̧yn blaid;
Suddas a'i falais heddyw
Ddaw o flaen ei ddifai Lyw;
Y wys a'r brawdlys ger bron
Orddiwes yr Iuddewon.
Pilat a ddygir ato—wr a fu
Ar fainc i'w gondemnio;
Collfarn gyfiawn rydd arno,—a'i warthus
Gyhoeddus gyhuddo.
Isod ei rhoi'r yn wasarn,
Fe daw, â 'n fud yn y farn.
Dofydd a ddeil ei dafol,—pair Efe 'u
Profi 'n gyferbyniol,
Y fintai wèn dry'r fantol,
Eithr yr ûs yn sathr ar ol.
Daw o ystŵr lawn dystawrwydd—ger bron,
E dry y lluon i wrando 'r Llywydd:
Cyn darllen y ddalen ddu
Daw y wén i dywynu;
Mewn llais a golwg mwyn llon
Arddela ei urddolion,—
"Deuwch fendigedigion
"Fy Nhad idd y nef wén hon,
"Gwyddoch ymwelsoch a mi,
"A gwyneb rhwydd i'm gweini,
"Cewch urddas teyrnas y Tad,
"Ei chyfoeth, a'i derchafiad;
"Da weision cu dewisawl
"Llawenhewch chwi llyna'ch hawl.
"Pan y gelwais gwnaethoch ymgais
"Tra agorais ddrws trugaredd;
"Daeth yr egwyl i fy mbreswyl,
"Chwi rai anwyl dowch yr unwedd."
Heddyw dygir ei wahoddedigion,
A'i fwyn groesawiad i fangre Sion;
Patrieirch unol ac apostoliou
Yn heirdd resau yn eu gynau gwynion;
Ewybr arwedda ei beroryddion
Uwch awyr loyw i chwareu alawon;
Cerubiaid ar danbaid dôn—yn eiliaw
Ac yn cydunaw eu cainc a dynion.
Yna cyhoedda yn hyf
"I ddu warth oddiwrthyf
"Ewch anwir rai cychwynwch—i annwfn, "
Ac yno aroswch:
"At wallus ddieifl tywyllwch—gorsedd "
Bro o ddialedd heb radd o elwch;
"Uthr ingau y pryf na threnga profwch,
"Y llyn o oddaith heb ddim Ilonyddwch,
"Ei waelod byth ni welwch—na thoriad
"Och, na diweddiad i'ch annedwyddwch.
"Fy ngweision hyn gyfyngasoch—canys
"Rhag eu cwynion troisoch
"Yn gilsyth pan eu gwelsoch,
"Felly byth gyda'r fall b'och,
"Ni roisoch mae yn resyn
"Y rhodd leiaf i'r rhai hyn;
"Galw bob egwyl y bum;—ewch ymaith
"I'ch du anobaith'n awr, ni'ch adnabum.
"Yn gymaint ag i chwi 'm gomedd—chwithau
Gewch weithian anhunedd,
"Mewn gwlad heb fwynhad, na hedd,
"Na gwawr o un drugaredd.
"I'ch tragwyddol ysol le,
"Treiglwch i lawr trwy wagle."
Agos a phell a gais ffoi,
A chyd ymdrech diamdroi;
Metha 'r oll ymaith yr ânt,
Duw a'i gyr gyda gwarant!
Hwy ânt o'i flaen hwnt fel ûs
O'i dafl myned fel manus.
Gwlawia i'w tud faglau tân—a bwria
Aberoedd o frwmstan;
Ant a phob diafl i'w haflan—grombil,
Ar eu hencil a'u daint yn rhincian.
Lle chwith, tywyllwch eithaf!
I'r dorf hon 'n awr darfu haf;
Udant o ing ofnadwy,
Yno tost grochlefant hwy—
"Aeth cynhauaf o'n gafael,
"Dim haf ond gauaf i'w gael;
"I ni y daeth rhan y dig,
"Nid ydym mwy gadwedig;
"Er goddef cosb dragwyddol,
"Ofer i ni farw 'n ol,
"Na llwybro o wyll abred;
"Y llid a'n coll ydyw 'n cêd;
"Newidiem ein cwyn wedi
"Llamu 'n ol pe gallem ni.
"Maeddasom y ddewisawl—gyfraith lân,
"Asgre a tharian gref ysgrythyrawl:
"Mewn pechod gwrthod gwawl—a nefolaidd
"Fyw'ngoleu hafaidd efengyl hyfawl.
"Troi ei diwâd les, a thrwyadl
"Lais athrawon
"I'w dirmygu, ac anngharu
"Eu cynghorion."
Ust! grydwst agoriadau——ar eu hoedl
Yn y rhydlyd gloiau;
Clyw doriad celyd eiriau,
"A gwarant cawsant eu cau.'
Yna torir holl gloion naturiaeth,
Egyr Duw eigion y greadigaeth;
Allweddau ei llywyddiaeth—deif o'i sail
I ddurfing adail yr ail farwolaeth.
Dyg li' i foddi'r hen fyd—daw eilwaith
A dylif tân flamllyd;
Daear a'i gwaith dry i gyd
Yn dawddfa annedwyddfyd.
Toredig saetha'r trydan—nes eglur
Ymsigla pedryfan;
Pair i'w fellt yn mhob rhyw fan
O bell ymwibio allan.
Hyrddiawl rym angherddol wres
Y tanchwy trwy ymgyrch traws;
Elfen gref o lif yn groes
A'u gwna fel rhyfel parhaus.
Mellt raiadrau 'n delltio creigiau,
Y mynyddau 'n fflamio 'n oddaith,
Nef yn orddu, 'r bel wrth grynu
Yn taranu hwnt ar unwaith.
Cromnen y ffurfafen faith
Orchwydda 'n ddrych o oddaith.
Gwelwa union weinyddydd goleuni,
O'i wybren ganaid fu'r boreu 'n gweini;
Lledaeniad hyddestl lleuad yn toddi,
Ag arwydd trawster gorudda trosti;
Pyga 'i llewyrch hygyrch hi—pob seren
A'i gwyneb addien mewn aig yn boddi.
Uwch na swn goruchion Sinai—i'w nen
Pan Ior a ddysgynai,
Y daw chwyrn gyflymiad chwai
Anwar olwyn yr ulai.
O ethryb y chwyrn ruthriad—y belen
Gybola ei threfniad;
Pob talfryn a glyn a gwlad
Dan astrus ddwrn dynystriad.
Ar hyn atalia ei rhod,
Tân o'i deutu 'n ei datod;
Creig mawredd Gwynedd mal gwellt,
Cryna 'r Alpau mal crinwellt;
Gan dânchwa ymgronfa gwres
O'r India naid yr Andes.
Yr holl uchelwydd a orhyll chwalant,
A thrywel esgyn aruthr olosgant;
Moelydd cribog orchwyfiog dderchafant,
Ar ffrwst i'r eigion llymion y llamant,
Ys i'w ganol disgynant—i beri
Goruchel ferwi ei groch lifeiriant.
Argodir muriau 'r Gader ym Meirion,
Y Foel Fama lama a Phlumlumon,
Gwyddfa â ar ogwydd i ferw eigion
Gwerydd, pan orfydd i'r Eifl yn Arfon
Drwy'r eirias droi'r awrhon gwefr beirianau
'N dyrnu eu seiliau cedyrn iselion.
Pob bryn i annoddyn naid—yn llamol
O flaen y dwyfol Ior fel ŵyn defaid;
Siglant pan godant yn gerth
O'u gwadnau gan mor gydnerth.
O'i wadn y dychleim Edna—Fesiwfiws
A'i ufel frydlifa
Yn afon i eigion, a
Chwai o olwg dymchwela.
Pair gwenwyn yn poeri o'i ganol—ffrwd
Ei ffreudardd hylifol;
A chan faint ei grychwyn fòl
Ysa 'n wynias enynol.
Er eiry oesol gororau Asia,
Copâu tàlgryfion minion Armenia,
Gyrdd—der rhew iasoer Gwyrdd—dir a Rwsia,
I'r eirias eu bwrir, a Siberia;
Yr holl ddaear alara―oblegyd
Goddeithio hefyd gudd waith Iehofa;
A! Mon deg ei mŵn dur—a'i phlwm wythen
Yn ulw domen o ludw ammhur.
Yr iâ fydd yn berwi fel—croch lynoedd,
Llwydrew y nefoedd oll dry yn ufel:
Rholian mewn awyr hylosg
Grugiau llym o geryg llosg;
O Eryri i waered,
I fol yr aig ufel red;
Ac i rwygaw y creigydd
Ebyr o fellt y wybr fydd;
A thros y boeth eirias bêl
Y llifa erchyll ufel;
O flaen hyrddwynt gorwynt gwrdd,
Banffaglau gyda godwrdd;
Tir cynyrch y llenyrch llon
Is goreillt yn ysgyrion;
Ymwylltia 'r mellt trwy y mŵg,
Ar gil rhyw fan ceir golwg;
Dacw enwog wlad Canaan,
Eres dir, yn eirias dân,
Sylwi ar Ierusalem
Sydd yn ddybryd drymllyd drem.
Bu 'n ddinas, bàn oedd unwaith—a drylliwyd
Yr oll o'i haddurnwaith;
Wele hon ar yr ail waith
Yn fflamio 'n ffloyw ymaith!
O! dudwedd fy nghyndadau—hen Walia
Yn aelwyd gwefr—danau,
Creigydd hon fel briwsion brau,
Yn llwch ei mŵn a'i llechau.
Wele Frydain fuddugol frodir,
Hi nis dianga, hon ostyngir,
E dania 'i Llundain a ei llawndir,
O'i dewis geinion ei disgynir.
Chwyth fel mân—blu'r bàn eglur binaglau,
Ei holl lysoedd gwychion a'i phalasau,
Lluchio ei harial gestyll a'i chaerau,
A'r muriawg lyfnion farmor golofnau,
'N drwyadl âg anadl genau—Ior o'i lys,
Ar hyd yr Ynys rhua 'i daranau.
Ei holl dir yn lludw â,
Y "Fel Ynys" ddiflana.
Elfenau olaf anian
Esyd Ior yn cirias dân,
A'u ffrau yn orgyffrowyllt
Gan y gwefr a'i egni gwyllt,
Dyry enfawr daranfyllt,
Y bel hon a'r cwbl a hyllt,
Ac o'i flaen i ffwrdd cyflawn ffy—fel llèn
Y ruddwawr wybren a'r ddaear obry.
Chwythir i'r entrych weithioedd
Seiri fel gwegi ar g 'oedd;
A thawdd pob gemwaith addien
A dulliau 'r byd oll ar ben;
Ynysoedd yn fflam esyd,
Nes toddi, berwi y byd,
Heb un ymwared yn bod,
Dyrysa daear isod;
Ei chrystyn osych rostia,
Tro'f yn ol gan y twrf wna;
Fath ryfedd gymysgedd mawr
Döa îrlen daearlawr!
O! ddaear fe 'th amharwyd,
Yn awr ai yr unrhyw wyd?
Fel yn y dull cyflawn daeth—eto'n lân
Duw Ior a'i pura 'n ol 'r un darpariaeth.
Y wir Eglwys ar greigle,
Dan wiw nawdd aden y ne',
Ei chanllaw sicr a'i chynllun,
Dolen aur i'w dàl yn un.
Yn dorf lân o'r tân a'r tonau—gwawriant
O gyraedd y rhuthrau,
A chefnant uwch eu hofnau
I fro eu Hion i'w fawrhau.
Yn ddyogel o dwrf rhyfel,
Ar y tawel le bar'towyd;
O bob llwythau, iaith, a pharthau,
Lliw eu gynau oll a gànwyd.
Gan fyrddiynau o fyrddiynau
Cofir angau y Cyfryngwr;
Yn y moliant llon gordeddant
Pêr awenant glod eu Prynwr.
Cânt bellach gyfrinach fry
Ar y bòr a wir bery;
Seiniant o haeddiant a hedd
Gref alaw mewn gorfoledd;
Ymuno 'n hoff mewn iawn hwyl
'N y ddinas newydd anwyl:
Eistedd maent o'r cystudd mawr—yn hardd lu,
Wedi eu cànu yn ngwaed eu Cynawr.
I neithior yr Oen aethant,
Moli 'n un yn ei deml wnant.
Y ddinas aur addien sydd
Agored ei thêr gaerydd;
Rhoed maen iaspis a grisial
I'w muriau teg, mawr eu tâl;
Ei dewisol dô asur,
A thŵr y portho aur pur:
Huliad ei glan heolydd
O law ei Saer yn loyw sydd;
O ethawl waith ei law Ef
Gwell addurn nis gall oddef.
O ddidrais gyraedd adref—moliana'r
Miliynau mewn tangnef;
Ugeinmil yn ei ganmawl "Ef"—yn un sydd
A'u haml awenydd yn nheml y wiwnef.
Ar y ddigoll erddygan,
Uno 'n gôr yn nèn y gân,
Yn ddiangol heb ôl bedd
Ar nenawr yr un anedd;
Iesu madws eu modur
Drefna un iaith berffaith bur;
Esgynant risiau gwiwnef
I gadw gwyl gydag Ef;
O fewn ei bau Ef ni bydd
Y geri'n sangu 'i gaerydd;
Ni chwynir o nych henaint,
O fewn hon ni finia haint:
Pla na chŵyn i'w blino chwaith,
Y dwymyn geidw ymaith,
A cheidw draw'r lucheden
O oror aneisor nèn.
Ni all ychwaneg un bai 'u llychwino,
Idd y bau lonydd ni ddaw i'w blino;
Yn eu tiriogaeth mae'r Oen yn trigo,
Haul a'i dywyniad na fachlud yno;
O'i flaen yn nefawl uno—yn eurgant
O'i gaffael byddant gyffelyb iddo.
Ar eu telynau aur tawel unant,
Yn Sabath yr Iesu byth arosant,
I gadw gwyl gydag Ef;
OfewneibauEfnibydd
Y geri'n sangu ' i gaerydd ;
Ni chwynir o nych henaint,
O fewn hon ni finia haint :
Pla na chŵyn i'w blino chwaith,
Y dwymyn geidw ymaith,
A cheidw draw'r lucheden
O oror aneisor nèn.
Ni all ychwaneg un bai 'u llychwino,
Idd y bau lonydd ni ddaw i'w blino ;
Yn eu tiriogaeth mae'r Oen yn trigo,
Haul a'i dywyniad na fachlud yno ;
O'i flaen yn nefawl uno-yn eurgant
O'i gaffael byddant gyffelyb iddo.
Ar eu telynau aur tawel unant,
Yn Sabath yr Iesu byth arosant,
I ddal y palm ar balmant—coneddus,
A thôn folianus byth, byth ni flinant.
Tua y breswyl ynte brysiwn—ni,
Am dani ymdynwn;
Ethryb tarth yw'r bywyd hwn,
Ail cufudd yw'n hoedl cofiwn.
Neu ail i fér wenol fain
A bywiog longau buain;
Ryw droedio er doe 'r ydym,
Dan y gro y daw ein grym;
Ar y llwybr yr âi y llu
Yn farwol awn yforu;
I y dulawr cyn delom,
Yn barod, barod y bo'm
Erbyn awr y bo y nos,
O herwydd mae 'n ein haros;
Wedi y fan alwad fydd
Eon gwrddwn a gwawrddydd;
A phan ddêl y fedel fawr
Bywiol unom a'n Blaenawr,
Ag unol fodd i ganu
O hyder llawn gyda'r llu;
Hoenus" Amen Iesu mâd,
"Addfedodd dy ddyfodiad.
"Wyt oesawl Ben-tywysog—wyt hefyd
"Etifedd coronog;
"Daeth i ni o'th gri a'th grôg—yr hawl hwn,
"Ynot glynwn yn fintai galonog.
"Tŵr a gorwiw borth trugarog,
"Ein deheulaw Oen dihalog;
"Teg Lyw ydwyd a goludog
"Ein Gwaredwr gwyn a gwridog."
Er i'w Eglwys gael Paradwys
Y dwg fadwys ADGYFODIAD;
Drwy'r gwaith grymus, o mor felus
Ogoneddus y gweinyddiad.
I'n hochri mae ein Huwchradd,
Sylwa ar wyr isel radd;
Bu newynog Ben unwaith,
Yn dryloyw 'i wedd daw 'r ail waith:
O gofio pridd a gwyfyn,
Marwol dŵf mor wael a dyn,
Iddo'r mawl a roddir mwy,
Y Duwdod fydd glodadwy.
—CREDADYN.
BALA; ARGRAFFWYD DROS YR AWDUR, GAN G. JONES.