Awdl ar yr Adgyfodiad (Ieuan Ionawr)/Rhagymadrodd

Awdl ar yr Adgyfodiad (Ieuan Ionawr) Awdl ar yr Adgyfodiad (Ieuan Ionawr)

gan Evan Jones (Ieuan Ionawr)

Awdl ar yr Adgyfodiad] →


RHAGYMADRODD.

GYDWLADWYR,

WEDI canfod cyhoeddiad y testyn hwn, sef yr ADGYFODIAD, pa un a fwriedid yn destyn y Gadair yn Eisteddfod Freiniol Rhuddlan, ymgymerais a'r gorchwyl o gyfansoddi Awdl arno, a hyny o hoffder ato, a hyfrydwch calon, yn benaf, nid rhaib anniwall am arian. Nid wyf am amlygu fy ngwrthwynebiad y waith hon, o fod Pryddest yn fuddugol ar destyn Cadair unrhyw Eisteddfod, ond yn unig cyfeirio at y penderfyniad a wnaed gan bwyllgor o Feirdd yn Rhuddlan. Nid wyf ychwaith yn ymhoni yn fuddugwr, o herwydd wrth ystyried fy anfanteision a'm hoedran, a bod Prif-feirdd profedig Cymru yn gydymgeiswyr a mi, teg i mi yw rhoddi y maes iddynt. Ac er i un o'r beirniaid ddyweyd fod fy Awdl " yn sefyll yn uchel yn y feirniadaeth," &c., nid wyf yn pwyso ond ychydig ar hyny. Dymunaf ar i bwy bynag y dygwyddo i'r cyfansoddiad hwn ddod i'w ddwylaw, ac heb fod yn hoffi caethiaith o'r blaen, am iddo ymbwyllo, ac ymdrechu deall y cynghaneddion, a pheidio cymeryd pob syniad yn ei ystyr lythyrenol; cymerais yr amser presenol yn fenthyciol am y dyfodof mewn rhai manau, felly ystyrier rhediad y gwaith. Nid wyf yn tybio fod y gwaith yn berffaith, ond un peth a ellir grybwyll mai y mwyaf tueddol yn fynych i "ddyfeisio" mân wallau yw y crach awdwr distadlaf ei hun. Derbynied pob un o'm hewyllyswyr da fy nyolchgarwch didwyll. Cyflwynaf hyn o ffrwyth fy awen i'r byd, gan hyderu y bydd yn foddion i ddeffro rhyw gysgadur i ymbarotoi erbyn y daw y Barnwr ar gymylau y nef i farn y dydd mawr. Mae rhyw duedd mewn dynolryw at gael eu dyrchafu, ond ysgatfydd, y peth goreu ar ein lles yw bod dipyn o'r golwg, a phwy a ŵyr nad yw yn llesoli

Hydref 15, 1850.CREDADYN.

Nodiadau

golygu