Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Bonedd a Chynheddfau'r Awen
← Priodasgerdd Elin Morys | Barddoniaeth Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Cywydd y Maen Gwerthfawr → |
BONEDD A CHYNEDDFAU'R AWEN.
[Gweler LLYTHYRAU, tudai. 52, 65, 67, 84.]
Bu gan HOMER gerddber gynt
Awenyddau, naw oeddynt;
A gwiw res o dduwiesau,
Tebyg i'w tad, iawn had Iau;
Eu hachau, O Ganan gynt,
Breuddwydion y beirdd ydynt.
Un Awen a adwen i,
Da oedd, a phorth Duw iddi;
Nis deiryd,[1] baenes dirion
Naw merch cler Homer i hon.[2]
Mae'n amgenach ei hachau;
Hŷn ac uwch oedd nag âch Iau.
Nefol glêr[3] a'i harferynt,
Yn nef y cae gartref gynt;
A phoed fàd i wael adyn
O nef, ei hardd gartref gwyn!
Dod, Ion, im' ran ohoni,
Canaf ei chlod hoywglod hi:
Llwyddai yn well i eiddil
Borth tau na thafodau fil.
Dywaid, pa le caid Awen
Cyn gosod rhod daear hen,
A chael o'r môr ei ddorau,[4]
A thyle[5] dŵr o'th law dau,
A bod sail i'th adailad,[6]
Ein Creawdr, Ymerawdr mad?
I'r nef ar air Naf yr oedd,[7]
Credaf pand cywir ydoedd ?
Ser bore a ddwyr ynt
Yn llu i gyd ganu gynt;
Canu'n llon, hoywlon, eu hawdl,
Gawr floeddio gorfoleddawdl!
Ac ar ben gorphen y gwaith,
Yn wiwlan canu eilwaith;
Caid miloedd o nerthoedd nef
Acw'n eilio cân wiwlef;
Meibion nef yn cydlefain
A'u gilydd mewn cywydd cain:—
"Perffaith yw dy waith,[8] Duw Ion,
Dethol dy ffyrdd a doethion,
A mâd ac anchwiliadwy,
Dduw mawr! ac ni fu ddim mwy!"
Per lefair cywair eu cân,
Pob ergyr[9] fal pib organ,
Cân mil—ddwbl acen aml-ddull,
Llawn hoen, heb na phoen na ffull."[10]
Gwanai eu gwiwdeg hoenwawr,
Ewybr eu llef, wybr a llawr;
Fe'i clywai'r ser disperod,"[11]
Llemain[12] a wnae rhain i'w rhod.
Ffurfafen draphen a droe,
Ucheldrum nef a chwildroe;
Daeth llef eu cân o nefoedd,
Ar hyd y crai fyd, cryf oedd;
Adda Dad, ym Mharadwys,
Clywodd eu gawr, leisfawr lwys;
Hoffai lef eu cerdd nefawl,
Ac adlais mwynlais eu mawl;
Cynhygiai eu cân hoywgerdd,
Rhoe ymgais ar gais o'r gerdd.
Difyr yw. goflaid Efa
Glywed ei gân ddiddan dda;
Canai Efa, deca' dyn,
Canai Adda, cain wiwddyn;
Canent i'w Ner o bêr berth;
O'r untu, hyd awr anterth;
Ac o chwech ymhob echwydd,[13]
Pyncio hyd nad edwo dydd.
Cân Abel oedd drybelid,
Diddrwg, heb hyll wg na llid.
Anfad ei gân, bychan budd
Acen lerw-wag Cain lawrudd,―
Ni chydfydd Awenydd wâr
A dynion dybryd, anwar:
Ion ni rydd hyn o roddiad
Wiwles, ond i fynwes fad.
Cynar o beth yw canu,
Awen i Foesen[14] a fu;
Awen odiaeth iawn ydoedd,
Wrth adaw'r Aifft anghraifft oedd,
Cant, cant, a ffyniant i'w ffydd,
Cyn dyfod canu Dafydd;
Pyncio wnae fe fal pencerdd
Nefol a rhagorol gerdd;
Prydodd dalm o ber Salmau,
Fwyned im' ynt, f'enaid mau;
Canu dwsmel,[15] a thelyn,
Yn hardd a wnai'r gwiwfardd gwyn,
Gyda'i law ydd ae'r awen,
Wi Wi! i'r llaw wisgi wen.
Ewybr oedd y boreuddydd,
Ei lais ym min dichlais dydd.
"Deffro fy nabl, parabl per!
I ganu emyn Gwiwner;
I'm Ion y rhof ogoniant,
A chlod a thafod a thant."
Am ganu ni fu, ni fydd,
Hoyw ei fawl, ei hefelydd.
Awen bêr wiwber ei waith,
Oedd i Sélyf, ddisalw eilwaith,
Fe gant gân, gwiwlan yn gwau,
Cân odiaeth y Caniadau;
Pwy na char ei Ros Saron,
Lili, a draenllwyni llon?
Y mae'n ail y mwyn eiliad
I gywydd Dafydd ei dad.
Dygymydd Duw ag emyn,
O awen dda a wna ddyn.
Prawf yw hon o haelioni
Duw nef, a da yw i ni.
Llesia gân yn llys gwiwnef,
Mawr gerth yw ei nerth yn nef;
Pan fo'r côr yn clodfori,
Cydlef llu nef oll â ni,
Ag ateb cân yn gytun,
Daear a nef a dry'n un.
Dyledswydd a swydd hoyw sant,
Yw gwiw gân a gogoniant;
Dysgwn y fad ganiad gu,
Ar fyr awn i'w harferu;
Cawn awenlles cân unllef
Engyl â ni yngolau nef,
Lle na thaw ein per Awen,
Sant, Sant, Sant! moliant." Amen.
Nodiadau
golygu- ↑ Cydmar.
- ↑ Yr Awenau.
- ↑ Clêr-dosbarth o Dderwyddon awenyddol gynt, wed'yn, gelwid eu gwehilion Bon y Gler-yna Clerfeirdd, math o grwydriaid cardotlyd.
- ↑ 1JOB Xxxviii. 8, 10.
- ↑ Mae hwn yn enw cyffredin ar drigfan yn y Deheubarth.
- ↑ JOB xxxviii. 7.
- ↑ JOB xxxviii. 4, 6.
- ↑ Salm xix. 1.
- ↑ Tarawiad.
- ↑ Brys.
- ↑ Ser crwydrol.
- ↑ Neidio,
- ↑ Y bore.
- ↑ Moses
- ↑ Dulcimer